Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: D Anderson-Thomas – personol – Cofnod Rhif 57 –
Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Y Cynghorydd C A Holley - personol - Cofnod Rhif 58 - Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Burlais |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 1 Awst 2019 a chofnodion
cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Medi 2019 fel cofnodion
cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, adroddiad ar y penawdau allweddol
ar gyfer y portffolio Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau. Roedd y Cyfarwyddwr
Addysg a Phennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn hefyd yn bresennol ar gyfer
y sesiwn holi ac ateb. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol:
- ·
Llygredd
aer/allyriadau cerbydau sy'n teithio ac yn parcio y tu allan i ysgolion -
monitro ysgolion am lygredd aer
·
Parcio
mewn mannau peryglus y tu allan i ysgolion a phroblemau gydag achosion o
gam-drin wrth reoli'r parcio yn y mannau hynny ·
Addysg
ar yr amgylchedd, hinsawdd a bioamrywiaeth a rôl llywodraethwyr ysgolion ·
Monitro
Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAA) ·
Hygyrchedd
cyrsiau Dysgu Gydol Oes - darpariaeth a chymorth i'r rheini ag anableddau ·
Arolygon
cyflwr ysgolion - difrod dŵr diweddar yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac
adnewyddu'r to ·
Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cyllid Band B ·
Addysg
Trwy Weithio Rhanbarthol (ERW) - problemau a gwelliannau sydd heb eu gwneud eto
ar sut y mae'r consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol yn gweithio ·
Heb
fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) - cynnydd a diweddariad ·
Presenoldeb
Ysgol - cofnodi presenoldeb mewn ysgolion a chysondeb ·
Cynnydd
ar y Prosiect Sgiliau a Thalent ar gyfer y Fargen Ddinesig - partneriaeth
sgiliau rhanbarthol Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, adroddiad am y diweddaraf gan y 'Panel
Craffu Perfformiad Addysg'. Tynnodd sylw’n benodol at y pwyntiau canlynol yng
ngwaith y Panel:- ·
Ymgysylltu
uniongyrchol y Panel â’r ysgolion ·
Staff
addysgu o safon uchel ar draws Abertawe ·
Cynnydd
yn Ysgol Gynradd Burlais - bu'r ysgol yn gweithio'n
galed iawn ar eu taith wella, gyda llawer o lwyddiant ·
Arfer
da o ran lles disgyblion yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas ·
Cyfarfod
ar y cyd â Phanel Craffu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gefnogaeth a
chanlyniadau addysgol a heriau Plant sy’n Derbyn Gofal ·
Peth
pryder am berfformiad y rhai sy'n derbyn prydau ysgol am ddim - bydd y Panel yn
parhau i fonitro ·
Perthynas
gadarnhaol ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, sy'n ymatebol
i lythyrau'r Panel, ac uwch-reolwyr yr Adran Addysg Bu rhywfaint o
drafodaeth ynghylch y potensial am ddryswch i ysgolion rhwng gwahanol
safbwyntiau ERW (y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol) a safbwyntiau
(arolygiaeth) Estyn ar wella. Roedd trafodaeth hefyd ynghylch effeithiolrwydd y
consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol a'r cynnydd a wnaed gyda'i ddiwygio dros
y blynyddoedd diwethaf, a chynllun busnes newydd. Gwnaed rhai arsylwadau
ynghylch a oedd y cwmpas rhanbarthol ar gyfer ERW yn gywir. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg fod ymgynghoriad yn agored ar hyn o bryd ar ddyfodol
arolygiadau Estyn o fis medi 2021 ymlaen pe bai rhywun am gyfrannu at yr
ymgynghoriad. Dywedodd na fyddai
arolygiadau Estyn yn cael eu cynnal am gyfnod yn 2020-21 er mwyn caniatáu i
ysgolion ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynullydd a'r Panel Craffu Perfformiad am eu gwaith. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf |
|
Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Diogelu Corfforaethol. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, a Swyddog Strategaeth a Gwella
Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer Adroddiad
Blynyddol 2018/19 am Ddiogelu Corfforaethol. Amlinellwyd y
materion canlynol: - ·
Bod diogelu'n flaenoriaeth gorfforaethol a bod oedolion a
phlant diamddiffyn o "bwys i bawb" ·
Bod
ffocws wedi'i roi ar fod yn fwy ymwybodol o broblemau - os ydych yn sylwi ar
broblem, rhowch wybod ·
Bod
gan y cyngor Grŵp Diogelu Corfforaethol sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn
(a sefydlwyd yn 2014), dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, ac mae ganddo gynrychiolwyr arweiniol o holl feysydd gwasanaeth y
cyngor ·
Bod
angen ymateb i'r newidiadau i faterion diogelu sy'n dod i'r amlwg e.e.
ecsbloetio ariannol, Llinellau Sirol, caethwasiaeth fodern ·
Bod
Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn canolbwyntio ar drefniadau diogelu a
bod gweithgaredd yn rhagweithiol ac ataliol, gan weithredu ffyrdd arloesol o
weithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd trwy'r fframwaith arfer Signs of Safety ·
Mae
Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad ar Ddiogelu Corfforaethol a
byddant yn cyhoeddi adroddiad yn fuan Roedd cwestiynau a
thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Sicrhau
nad yw'r angen am gyfrinachedd yn dod yn rhwystr i ddiogelu ·
Rôl
cynghorwyr fel rhieni corfforaethol wrth ddiogelu - ac i ba raddau y gallant gymryd rhan mewn achosion unigol. Pwysleisiwyd i'r
Pwyllgor na fyddai cymryd rhan mewn cynadleddau achos amlasiantaeth
yn briodol nac yn angenrheidiol i gynghorwyr, ond roedd yn bwysig bod
cynghorwyr yn deall y polisi ac yn adrodd am unrhyw bryderon i weithwyr
proffesiynol perthnasol ·
Canran
yr aelodau etholedig sydd wedi cwblhau hyfforddiant diogelu - nodwyd bod
ffigurau perfformiad ar gyfer 2018/19 yn dangos bod 81.9% wedi gwneud hynny,
fodd bynnag, ychwanegodd Aelod y Cabinet ei fod yn falch bod y ffigur bellach
yn 100% ·
Mynd
i’r afael ag anawsterau a adroddwyd amdanynt yn flaenorol gyda chywirdeb cadw
cofnodion ar hyfforddiant diogelu - clywodd y Pwyllgor nad oedd un system
unigol i ddangos data yn hawdd ac adrodd am gydymffurfiaeth, ond roedd gwaith i
wella casglu ac adrodd ar berfformiad yn parhau, a gellid cynorthwyo hyn drwy
uwchraddio system Oracle y cyngor sydd ar ddod. Fodd bynnag, roedd disgwyl i
bob tîm rheoli yn y cyngor gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod aelodau staff yn
gyfredol â gofynion hyfforddi, ac yn adrodd am yr wybodaeth hon yn ganolog trwy
arweinwyr diogelu. Derbyniwyd bod cyfyngiadau ar y cofnodi data cyfredol ond
roedd y cyngor yn gallu rhoi sicrwydd i Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch
mynediad at hyfforddiant a nifer y staff oedd â diddordeb mewn derbyn
hyfforddiant ganddynt, a ddarperir ar lefel briodol e.e. ar-lein ac wyneb yn
wyneb. Teimlai'r Pwyllgor ei fod yn ofynnol i'r cyngor wella ei system o adrodd
yn ôl a chofnodi gwybodaeth ·
Gan
sicrhau bod gan staff dros dro, gwasanaethau sydd â gweithlu dros dro, a
chontractwyr allanol, fynediad at hyfforddiant ac ymwybyddiaeth diogelwch -
nodwyd bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi wedi'u hadolygu a'u diweddaru a bod y
cynnig hyfforddiant ar gyfer yr holl staff wedi'i gynnwys mewn prosesau
sefydlu, ac ar gyfer partneriaid allanol a gyflogir gan y cyngor. Er bod cyfnod
sefydlu ar gyfer gweithwyr newydd yn cael ei gyflwyno drwy e-ddysgu ar hyn o
bryd, mae sesiwn wyneb yn wyneb yn cael ei ystyried pan fo aelod newydd o staff
yn ymuno â'r cyngor. ·
Monitro
hyfforddiant diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion - nododd y Pwyllgor na
chasglwyd data penodol ynghylch hyn, er mae'n bosib bod gan yr Adran Addysg yr
wybodaeth hon. Eglurwyd bod gan bob ysgol gyfrifoldebau clir ynghylch Amddiffyn
Plant, Plant sy'n Derbyn Gofal a Diogelu a bod angen i bob llywodraethwr
ymgymryd â hyfforddiant fel rhan o'u cyfnod sefydlu. ·
Gwaith
Byrddau Diogelu Rhanbarthol Penderfynwyd y dylai'r Aelod Cabinet nodi barn y pwyllgor. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2018/19. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr Adroddiad Craffu Blynyddol 2018/19, oedd yn amlinellu'r gwaith a
wnaed gan yr adran graffu yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i gyflwyno i'r cyngor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 235 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu’. Nododd y
Pwyllgor:- ·
Bod y
Cynghorydd Peter Jones wedi'i benodi yn Gynullydd Panel Perfformiad yr Amgylchedd
Naturiol. ·
Bod y
Cynghorydd Cyril Anderson wedi'i ethol fel cynrychiolydd ar gyfer Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru, a bydd yn ymuno â Phanel Craffu Perfformiad Bwrdd
y Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Ymddiswyddodd
Mr John Meredith, Aelod Cyfetholedig Pwyllgor y Rhaglen Graffu, a bydd yr
Eglwys yng Nghymru yn cynghori am gynrychiolydd newydd maes o law. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 268 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.
Amlinellodd fod Bethan Hopkins, Swyddog Craffu, wedi gadael yr awdurdod yn
ddiweddar ac yn y cyfamser fe fyddai'n ofynnol i ohirio rhai gweithgareddau
craffu - yr Ymchwiliad Caffael a'r set nesaf o Weithgorau. Eglurodd y cynhelir cyfarfod cyntaf y Panel Gweithgorau ar 24 Hydref, fel a
drefnwyd, fel bod modd trafod ffocws posib yr ymchwiliad. Amlinellodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cynnwys yr Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn ogystal â Sesiwn Holi ac Ateb
gydag Aelodau'r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant. Hefyd, roedd cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu wedi'i drefnu am
1pm ar 18 Tachwedd 2019 ar gyfer craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad
Comisiynu Tai. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd Cynllun
Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd nesaf Paneli/Gweithgorau. PDF 186 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|