Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Awst 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad ar y prif benawdau yn ei phortffolio
a amlygodd y canlynol: - ·
Eiddo
Gwag - rhagorwyd 3.3% ar y targed hwn gyda 100 eiddo yn cael eu defnyddio eto
yn 2018/19 ·
Atal
Digartrefedd - ataliwyd 75.4% o deuluoedd rhag digartrefedd yn 2018/19, a
rhagorwyd ar y targed 67% ac wedi cynyddu o 68.8% yn 2017/18 ·
Unedau
Gwag - Lleihawyd nifer yr unedau gwag gyda 196 yn 2018/19 o'u cymharu â 241 yn
2013/14 Roedd cwestiynau
a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - Cerbydau
Trydan/Gwyrdd ·
Anawsterau
darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer staff (cwestiwn gan aelod o'r
cyhoedd) ·
Derbyniodd
y cyngor gyllid gwerth £89,000 gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Trafnidiaeth
Leol ar gyfer darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn nifer o
gyfnewidfeydd parcio ar draws Abertawe sy'n hawdd i'r cyhoedd eu cyrraedd ac
sy'n berchen i'r cyngor ·
Fe
fyddai gan feysydd parcio newydd bwyntiau gwefru trydan ·
Mae
gweithio ystwyth wedi lleihau'r angen i deithio ac mae’n lleihau’r ôl-troed
carbon ·
Defnydd
o Hysbysiadau Gwybodaeth Flaenorol i benderfynu ar y lleoliadau strategol gorau
i osod pileri gwefru ·
Ffïoedd
parcio posib yn ogystal â'r trydan a ddefnyddiwyd ·
Posibilrwydd
o bwyntiau gwefru ar y stryd ·
Datblygiad
cerbydau hydrogen a phwyntiau tanwydd hydrogen a’r defnydd ohonynt ·
Darparwyd
pwyntiau gwefru am ddim mewn ardaloedd eraill, e.e. Milton Keynes, fodd bynnag
derbyniwyd cyllid sylweddol at y diben hwnnw ac nid oeddent wedi'u hariannu o
gyllidebau ·
Cynnydd
yn y trydan a ddefnyddir mewn cerbydau trydan yn ystod y gaeaf, wrth
ddefnyddio'r system aerdymheru/wresogi a gyrru ar y draffordd ·
Ffrydiau
refeniw posib gan bwyntiau gwefru Ynni Gwyrdd ·
Cynnydd,
lleoliad ac ariannu Fferm Solar - mae'n brosiect sy'n gwarantu adenillion, ond
newydd gychwyn y mae ·
Cynnydd/datblygiad
y rhaglen i ailosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ·
Cynnydd
ar gartrefi fel gorsafoedd pŵer sef prosiect y Fargen Ddinesig Digartrefedd/Prosiect
Tai yn Gyntaf ·
System
cyfeirio i Brosiect Tai yn Gyntaf - bwriad i gefnogi pobl sydd wedi bod yn
cysgu ar y stryd yn y ddinas ers tro ·
Dyddiad
dechrau ar gyfer y prosiect Tai yn Gyntaf - yn ei gamau cynnar ·
Cyfraniadau,
ymrwymiad a chyfranogaeth gan drydydd partïon e.e. Byrddau Iechyd, Crisis Skylight
De Cymru ·
Gwerthusiad
o'r Prosiect Tai yn Gyntaf dros y tair blynedd gyda dadansoddiad terfynol ar
ddiwedd y cyfnod hwnnw er mwyn penderfynu sut i'w ddatblygu Eiddo Gwag ·
Nodi
eiddo gwag ac annog diddordeb mewn Benthyciadau Landlordiaid a ariennir gan Lywodraeth
Cymru fel y gellir eu defnyddio unwaith eto Eiddo
Rhent/Tenantiaethau ·
Deddf
Rhentu Cartrefi - safoni contractau a goblygiadau adnoddau cyhoeddi contractau
newydd i bob tenant ·
Gorfodi
tenantiaeth - ôl-ddyledion rhent, ymddygiad gwrthgymdeithasol ·
Datblygu
ap monitro sŵn Addasu ac Adnewyddu Tai ·
Grantiau
Cyfleusterau i'r Anabl - yn cael eu cynnig o fewn amserlenni statudol Penderfynwyd y bydd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Craffu Cyn Penderfynu: Diweddaru System Cynllunio Adnoddau Menter. PDF 234 KB a) Rôl y pwyllgor b) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau c)
Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad, y Prif Swyddog Digidol a
Thrawsnewid, a'r Rheolwr Gwasanaethau Digidol yn bresennol wrth i'r pwyllgor
ystyried Uwchraddio’r System Cynllunio Adnoddau Menter. Amlygodd Aelod y
Cabinet y canlynol: - ·
Strategaeth
Ddigidol ·
Risgiau fersiwn R.12.1 Oracle ·
Opsiynau
neu uwchraddio, symud i Oracle Cloud neu symud i systemau eraill ·
Roedd
gwerthusiad Infosys a'r gwaith diwydrwydd dyladwy wedi dyfarnu mai Oracle Cloud
yn unig a allai fodloni'r holl ofynion ·
Ymarfer
Diwydrwydd Dyladwy ·
Yr
adnoddau angenrheidiol ·
Cyfleoedd
Trawsnewid Gwasanaethau ·
Cyfleoedd
i Greu Arbedion ac Effeithiolrwydd ·
Llywodraethu ·
Goblygiadau
Ariannol Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet ynghyd â'r Prif Swyddog Digidol a
Thrawsnewid a'r Rheolwr Gwasanaethau Digidol a ymatebodd yn briodol. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Sut
fyddai'r prosiect yn cael ei ariannu ·
Cywirdeb
y Goblygiadau Ariannol a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad ·
Hyder
yn y system newydd a’r manteision ·
Monitro’r
arbedion posib yn effeithiol ·
Model
codi tâl ·
Sicrwydd
ar gyllid gan Swyddog Adran 151 ·
Byddai
storio'r Cloud wedi'i leoli yn y DU ·
Effaith
ar adfer wedi trychineb - cadernid gwell ·
Arbedion
a wneir o'r cyfnod prosesu, prosesu di-bapur a'r posibilrwydd o
leihau/ddosbarthu staff ·
Cyflwyno
technoleg Cloud a gwelliannau ar gyfer prosesau di-bapur, nad oeddent wedi'u
cyflawni/darparu o'r blaen ·
Hyblygrwydd
system ac integreiddio â thechnolegau newydd megis Deallusrwydd Artiffisial ·
Ymgysylltu/Ymgynghori
ar y model codi tâl ar draws holl wasanaethau'r cyngor Penderfynwyd: - 1) Y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu’n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y pwyllgor a fydd yn
cael ei gyflwyno i'r Cabinet cyn iddo benderfynu ar y mater hwn; 2) Y bydd y pwyllgor yn derbyn diweddariad
o'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a 3) Y bydd y pwyllgor yn gweld y sicrwydd gan
y Swyddog Adran 151 y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Peter Black, Cynullydd, adroddiad am y diweddaraf gan y Panel Craffu
Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion. Tynnodd sylw’n benodol at faterion yn
ymwneud â chontract y cyngor gyda’r RNIB yn ogystal â’r cyfarfod a gynhaliwyd
ar 24 Medi 2019 ar Fyw â Chymorth ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
sydd wedi cael cefnogaeth y panel wrth iddo ymgysylltu’n uniongyrchol â
gofalwyr/defnyddwyr gwasanaethau yn ddiweddar trwy grwpiau ffocws a drefnwyd
gan y Tîm Craffu, sydd wedi rhoi safbwynt arall i aelodau'r panel ar ansawdd
gwasanaethau a pherfformiad. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 229 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu’. Nododd, yn
ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, y byddai'r Cynghorydd
Lesley Walton yn cael ei thynnu o Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. Penderfynwyd y bydd y Cynghorydd Lesley Walton yn cael ei thynnu o Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 259 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20. Dywedodd hefyd
mai Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau fyddai yn y Sesiwn Holi
Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Croesawir
trafodaeth ar bynciau ffocws allweddol ar gyfer y sesiwn honno. Nododd y
Pwyllgor nifer o feysydd yr oeddent am eu harchwilio gydag Aelod y Cabinet: - ·
Presenoldeb
- cofnodi presenoldeb ledled y ddinas ·
Ymdrechion
i fynd i'r afael â phroblem cerbydau/llygredd aer y tu allan i ysgolion ·
Llywodraethwyr
Ysgol - syniad o ddyrannu cyfrifoldeb amgylcheddol penodol gyda chyrff
llywodraethu ac annog disgyblion ynghylch cyfleoedd a chyfrifoldebau
amgylcheddol. ·
Heb
fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) ·
Prosiect
Sgiliau a Thalent ar gyfer y Fargen Ddinesig Penderfynwyd nodi'r Rhaglen Waith Craffu |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.
Roedd y Cadeirydd i fod i ddod i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 8 Hydref
2019, fodd bynnag, nododd y byddai angen aildrefnu hyn. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 180 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|