Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cynnydd yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau. PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi ac Ynni mai diben yr Adolygiad Comisiynu Tai oedd
canolbwyntio ar wella a moderneiddio'r Gwasanaeth Tai. Nodwyd, yn dilyn y
bleidlais hanesyddol i denantiaid, fod penderfyniad wedi'i wneud i gadw'r Gwasanaeth Tai yn fewnol. Rhoddodd y
Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd gyflwyniad a oedd yn cynnwys: ·
Diben
y diweddariad. ·
Prif
nodau’r adolygiad. ·
Diben
y gwasanaeth. ·
Nodweddion
y gwasanaeth. ·
Blaenoriaethau'r
gwasanaeth. ·
Cwmpas
yr adolygiad. ·
Fframwaith
Adolygu a Chynnwys Rhanddeiliaid. ·
Casgliadau'r
Prif Adolygiad ·
Casgliadau
sy'n benodol i wasanaethau. ·
Cynaladwyedd
ein swyddfeydd. ·
Casgliad.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd swyddogion y canlynol: ·
Mae
gan staff yr adran tai berthynas dda ar hyn o bryd â'r Undeb Hawliau Lles ac
ymgymerwyd/ymgymerir â hyfforddiant helaeth ar broblemau Credyd Cynhwysol Roedd
effaith Credyd Cynhwysol wedi rhoi mwy o bwysau ar staff yr adran tai gan fod
angen tawelu meddyliau tenantiaid gyda manylion ynghylch sut roedd y budd-dal
newydd yn gweithio. ·
Roedd
strwythur y gwasanaeth wedi ystyried effaith Credyd Cynhwysol, ond roedd yn
parhau'n her sylweddol. ·
Roedd
ymgysylltu ag aelodau wardiau'n ymwneud â'r holl aelodau a chanddynt dai cyngor
yn eu wardiau. Cysylltwyd hefyd â'r rheini heb stoc tai yn eu wardiau. ·
Darparwyd
gliniaduron i staff ac roedd gwaith yn parhau ar WiFi.
Roedd cynnydd yn cael ei wneud o ran technoleg symudol. Archwilir a phrynir
meddalwedd maes o law. ·
Ni
ddisgwylid y byddai unrhyw swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i'r Adolygiad
Comisiynu Tai. Mae'n debygol y bydd adnoddau'n cael eu hadleoli i dasgau newydd
i wella'r gwasanaethau. ·
Mae'r
gwasanaeth Trin a Thrwsio ar gael i breswylwyr hŷn. ·
Cynhaliwyd
yr arolwg i denantiaid yn 2017-2018, a derbyniwyd 2,800 o ymatebion gan
boblogaeth o 13,500 o denantiaid. Er na phennwyd unrhyw dargedau ar gyfer y
gyfradd ddychwelyd, y nod oedd cyrraedd 100%. Gallai ymgysylltu fod yn anodd,
ond roedd adborth cadarnhaol yn cael ei dderbyn fel landlord cymdeithasol. ·
Cylchredwyd
llythyrau i bob tenant ac aelwyd ynghylch y newidiadau arfaethedig. Cyflwynir
adroddiad i'r Cabinet lle ceisir awdurdod i gynnal ymgynghoriad ffurfiol.
Cynhelir ymgynghoriadau â rhanddeiliaid hefyd fel
rhan o'r broses hon. ·
Mae
adolygu rhestrau aros a nodi'r rheini â'r angen mwyaf yn waith enfawr ac mae'n
bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Roedd prinder yn y cyflenwad o dai
fforddiadwy yn Abertawe ac yn genedlaethol. Mae bodloni gofynion y rheini ar
ein cofrestr anghenion yn her sylweddol. ·
Roedd
potensial i ddatblygu'r gwasanaeth Trin a Thrwsio ac ymchwilir i ymarferoldeb
creu menter gymdeithasol gymunedol o gwmpas y gwasanaeth hwn. ·
Mae
trwyddedau teledu ar gyfer tai lloches yn gymhleth ac yn ddadleuol gan fod y
weithdrefn yn wahanol i'r hyn a geir mewn cartref preswyl. ·
Mae'r
broblem sy'n codi pan nad yw tenantiaid ar gael i dderbyn cludiad celfi yn un
gostus a llafurddwys. Er yr atgoffir tenantiaid drwy lythyr a neges destun,
bwriedir codi £20 os collir slot dosbarthu celfi a drefnwyd ymlaen llaw. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni ac i Swyddogion am gyflwyniad
llawn gwybodaeth. Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n mynd ati i graffu cyn-penderfynu pan ddaw'r adroddiad yn ôl i'r Cabinet ym mis Tachwedd 2019. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Comisiynu tai adolygu PDF 259 KB |