Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

27.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

29.

Cynnydd yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau. pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni mai diben yr Adolygiad Comisiynu Tai oedd canolbwyntio ar wella a moderneiddio'r Gwasanaeth Tai. Nodwyd, yn dilyn y bleidlais hanesyddol i denantiaid, fod penderfyniad wedi'i wneud i gadw'r  Gwasanaeth Tai yn fewnol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd gyflwyniad a oedd yn cynnwys:

 

·         Diben y diweddariad.

·         Prif nodau’r adolygiad.

·         Diben y gwasanaeth.

·         Nodweddion y gwasanaeth.

·         Blaenoriaethau'r gwasanaeth.

·         Cwmpas yr adolygiad.

·         Fframwaith Adolygu a Chynnwys Rhanddeiliaid.

·         Casgliadau'r Prif Adolygiad

·         Casgliadau sy'n benodol i wasanaethau.

·         Cynaladwyedd ein swyddfeydd.

·         Casgliad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd swyddogion y canlynol:

 

·         Mae gan staff yr adran tai berthynas dda ar hyn o bryd â'r Undeb Hawliau Lles ac ymgymerwyd/ymgymerir â hyfforddiant helaeth ar broblemau Credyd Cynhwysol Roedd effaith Credyd Cynhwysol wedi rhoi mwy o bwysau ar staff yr adran tai gan fod angen tawelu meddyliau tenantiaid gyda manylion ynghylch sut roedd y budd-dal newydd yn gweithio.

·         Roedd strwythur y gwasanaeth wedi ystyried effaith Credyd Cynhwysol, ond roedd yn parhau'n her sylweddol. 

·         Roedd ymgysylltu ag aelodau wardiau'n ymwneud â'r holl aelodau a chanddynt dai cyngor yn eu wardiau. Cysylltwyd hefyd â'r rheini heb stoc tai yn eu wardiau.

·         Darparwyd gliniaduron i staff ac roedd gwaith yn parhau ar WiFi. Roedd cynnydd yn cael ei wneud o ran technoleg symudol. Archwilir a phrynir meddalwedd maes o law.

·         Ni ddisgwylid y byddai unrhyw swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i'r Adolygiad Comisiynu Tai. Mae'n debygol y bydd adnoddau'n cael eu hadleoli i dasgau newydd i wella'r gwasanaethau.

·         Mae'r gwasanaeth Trin a Thrwsio ar gael i breswylwyr hŷn.

·         Cynhaliwyd yr arolwg i denantiaid yn 2017-2018, a derbyniwyd 2,800 o ymatebion gan boblogaeth o 13,500 o denantiaid. Er na phennwyd unrhyw dargedau ar gyfer y gyfradd ddychwelyd, y nod oedd cyrraedd 100%. Gallai ymgysylltu fod yn anodd, ond roedd adborth cadarnhaol yn cael ei dderbyn fel landlord cymdeithasol.

·         Cylchredwyd llythyrau i bob tenant ac aelwyd ynghylch y newidiadau arfaethedig. Cyflwynir adroddiad i'r Cabinet lle ceisir awdurdod i gynnal ymgynghoriad ffurfiol. Cynhelir ymgynghoriadau â rhanddeiliaid hefyd fel rhan o'r broses hon.

·         Mae adolygu rhestrau aros a nodi'r rheini â'r angen mwyaf yn waith enfawr ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Roedd prinder yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yn Abertawe ac yn genedlaethol. Mae bodloni gofynion y rheini ar ein cofrestr anghenion yn her sylweddol.

·         Roedd potensial i ddatblygu'r gwasanaeth Trin a Thrwsio ac ymchwilir i ymarferoldeb creu menter gymdeithasol gymunedol o gwmpas y gwasanaeth hwn.  

·         Mae trwyddedau teledu ar gyfer tai lloches yn gymhleth ac yn ddadleuol gan fod y weithdrefn yn wahanol i'r hyn a geir mewn cartref preswyl.

·         Mae'r broblem sy'n codi pan nad yw tenantiaid ar gael i dderbyn cludiad celfi yn un gostus a llafurddwys. Er yr atgoffir tenantiaid drwy lythyr a neges destun, bwriedir codi £20 os collir slot dosbarthu celfi a drefnwyd ymlaen llaw.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni ac i Swyddogion am gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n mynd ati i graffu cyn-penderfynu pan ddaw'r adroddiad yn ôl i'r Cabinet ym mis Tachwedd 2019.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Comisiynu tai adolygu pdf eicon PDF 259 KB