Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Paula O’Connor – Yr Agenda gyfan - Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

16.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 95 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 ac 13 Mai 2019 fel cofnod cywir.

18.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

19.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu’.

 

Croesawodd y Cadeirydd aelodau newydd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu a chroesawodd Paula O’Connor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, hefyd i'r cyfarfod hwn.

20.

Adroddiad Ymchwiliad Craffu Terfynol: Cydraddoldebau (Y Cynghorydd Louise Gibbard, Cynullydd). pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Louise Gibbard, Cynullydd, adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i Gydraddoldebau.

 

Diolchodd i aelodau'r Panel Ymchwilio am eu hamser, eu hymroddiad a'u cefnogaeth ar gyfer y pwnc hwn ac am gymorth a mewnbwn Michelle Roberts, Swyddog Craffu wrth gefnogi'r ymchwiliad. Dywedodd fod arwain yr ymchwiliad hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn iddi fel cynghorwr etholedig, ac roedd yn falch bod yr ymchwiliad wedi gallu derbyn tystiolaeth amrywiol a chysylltu â llawer o bobl a grwpiau gwahanol.

 

Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n bennaf ar a oedd y cyngor yn cyflawni'i ymrwymiad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r adroddiad yn amlinellu argymhellion, wedi'u rhannu'n llwyddiannau cyflym, camau gweithredu tymor canolig a nodau tymor hwy. Ystyriwyd goblygiadau'r argymhellion a wnaed o ran adnoddau.

 

Roedd trafodaethau a chwestiynau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Gwella cyswllt a chynnwys ar draws y cyngor cyfan. 

·            Gwella hygyrchedd gwasanaethau'r cyngor i bawb

·            Mewnbwn gan grwpiau y mae problemau hiliaeth ac anoddefgarwch crefyddol yn effeithio arnynt

 

Nodwyd y byddai fersiynau gwahanol o'r adroddiad yn cael eu llunio i sicrhau ei fod yn hygyrch, er enghraifft, fersiwn ffeithlun i bobl ifanc a fersiynau hawdd eu darllen. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi i ganiatáu amser ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.

 

Cymeradwyodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad cynhwysfawr gan ganmol y Panel Ymchwilio am ei waith.

 

Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cabinet.

21.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2019/20 i'w ystyried, gan nodi'r papurau o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2019 a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. 

 

Trafododd y pwyllgor y Rhaglen Waith ddrafft a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

Paneli Ymchwilio

 

Caffael - byddai hwn yn ymchwiliad newydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig hon.

 

Byddai angen mynd ar drywydd y paneli ymchwiliad Gweithio Rhanbarthol a Chydraddoldebau yn ystod y flwyddyn ddinesig hon.

 

Paneli Perfformiad

 

Yr Amgylchedd Naturiol - byddai panel perfformiad newydd yn cael ei sefydlu ar yr Amgylchedd Naturiol, ac amlinellwyd y cylch gorchwyl yn Atodiad 6 yr adroddiad.

 

Gweithgorau

 

Bu dadl ar y rhestr o bynciau awgrymedig a threfn blaenoriaeth. Cytunwyd mai Brexit fyddai'r pwnc cyntaf. Byddai gweithgorau hefyd yn cael eu trefnu i edrych ar: Iechyd a Lles Gweithwyr; Diogelwch ar y Ffyrdd a Chynhwysiad Digidol

 

Nodwyd y byddai'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio'n edrych ar yr Economi Wledig.

 

Cafwyd trafodaeth ar waith pellach yn ymwneud â Deddf Cydraddoldeb 2010 nad oedd yr ymchwiliad wedi'i gynnwys, sef anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a thlodi a goblygiadau a phwysau ar draws holl feysydd y cyngor. Pwysleisiwyd yr angen i'r cyngor fod yn ystyriol o adroddiad Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol ‘A yw Cymru'n Decach 2018', ac ymateb iddo, ac y dylai gyfrannu i Gynllun Cydraddoldeb y cyngor. Awgrymwyd y gellid trafod y pwnc hwn fel thema allweddol, gydag aelodau perthnasol o'r Cabinet pan fyddant yn dod i sesiynau holi ac ateb.

 

Nododd y pwyllgor fod cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu wedi'i drefnu ar gyfer 1 Awst i ystyried yr Adolygiad Comisiynu Tai.

 

Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad fydd yn y sesiwn holi ac ateb nesaf ar 12 Awst 2019.

 

Cytunwyd y dylid:

 

1)      Cytuno ar y rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2019/20

2)      Sefydlu panel perfformiad newydd ar yr Amgylchedd Naturiol gyda'r cylch gorchwyl fel y'u nodir yn Atodiad 6 yr adroddiad.

3)      Gwahodd mynegiannau o ddiddordeb oddi wrth gynghorwyr anweithredol i gymryd rhan mewn ymchwiliad/gweithgorau newydd.

22.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'aelodaeth paneli a gweithgorau craffu’.

 

Gofynnwyd i'r paneli perfformiad benodi eu cynullyddion ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20 a nododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·            Penodi'r Cynghorydd Lyndon Jones yn Gynullydd Panel Perfformiad Addysg

·            Ailbenodi'r Cynghorydd Peter Black yn Gynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion

·            Ailbenodi'r Cynghorydd Chris Holley yn Gynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid

·            Ailbenodwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn Gynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Penderfynwyd cytuno ar y canlynol: -

 

1)          Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - ychwanegu'r cynghorwyr Erika Kirchner a Wendy Lewis.

2)          Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - ychwanegu'r Cynghorydd Will Thomas

3)          Panel Perfformiad Addysg - Tynnu enw'r Cynghorydd Fiona Gordon

4)          Nodi Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol - yr aelodaeth, fel y'i hamlinellir ym Mharagraff 4 yr adroddiad. Byddai'r Cynullydd yn cael ei benodi yng nghyfarfod cyntaf y panel newydd.

 

23.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r llythyr at Aelodau Cabinet dros Gymunedau Gwell, dyddiedig 3 Mehefin 2019. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar Raglen Chwistrellu Chwyn, y cyngor yn ariannu sefydliadau i gefnogi prosiectau fel ‘Faith in Families’ a buddiolwyr Cronfa Etifeddol Llywodraeth Cymru sy'n cael ei dileu'n raddol.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol y byddai'n edrych ar y ffrydiau cyllido ar gyfer ‘Faith in Families’ ac yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

24.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 40 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd gweithio'n agos ac ymwybyddiaeth y pwyllgor er mwyn osgoi dyblygu/bylchau mewn gweithgarwch.

 

25.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

 

Roedd cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu, y bwriedid ei gynnal ar 29 Gorffennaf, wedi'i aildrefnu ar gyfer 1 Awst 2019.