Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

6.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 136 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2019 fel cofnod cywir.

8.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

9.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: pdf eicon PDF 140 KB

a) Aelod y Cabinet dros Gyflwyno (y Cynghorydd David Hopkins).

b) Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth (y Cynghorydd Robert Francis-Davies).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A)        Aelod y Cabinet dros Gyflwyno – (Y Cynghorydd David Hopkins)

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Nodwyd bod ei bortffolio bellach yn cynnwys cyfrifoldeb am amrywiaeth.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

·                Effaith myfyrwyr a Thai Amlfeddiannaeth ar Abertawe

·                Trwyddedu a rheolau cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth

·                Ansawdd tai ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches

·                Ansawdd llety rhentu preifat – anawsterau wrth ymdrin â materion yn y sector preifat

·                Integreiddio amcan newydd y cyngor sef 'cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe' i bolisi cynllunio ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer swyddogion gorfodi

·                Cynnydd ar ddefnyddio'r Plasty ar gyfer gweithgareddau masnachol

·                Cyllid y Fargen Ddinesig

·                Pryder ynghylch y posibilrwydd o dorri coed yng nghanol y ddinas at ddiben gosod isadeiledd 5G

 

B)        Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth (y cynghorydd Robert Francis-Davies)

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:-

·                Perthynas gyda phrifysgolion, canolbwyntio ar Abertawe a'i hyrwyddo fel dinas i fyfyrwyr ac effaith datblygiadau llety newydd i fyfyrwyr

·                Y diweddaraf am Goridor yr Afon - ffordd gerdded yr afon a strategaeth yr afon

·                Gwaith ar y bont wrthbwys – amserlenni a chostau rhagweledig

·                Marina – lefelau angori a chostau presennol, cynlluniau ar gyfer y dyfodol a'r berthynas gyda Chlwb Iotiau a Thanddwr Abertawe mewn perthynas ag ysgraffau ac angorau ar lannau'r afon.

·                Y diweddaraf am brosiect Skyline ar Fynydd Cilfái

·                Cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau lleol a rhanbarthol

·                Cyfleoedd posib ar gyfer buddsoddi a Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

·                Cynlluniau tymor hir ar gyfer y Ganolfan Ddinesig ac opsiynau ynghylch adleoli'r gwasanaeth archifau

·                Prisiad y Ganolfan Ddinesig

·                Y nod o adeiladu Pentref Chwaraeon Rhyngwladol neu gaeau chwarae Brenin Siôr V – mae mwyafrif y cyfleusterau yn eu lle, y mater allweddol o farchnata brandiau

·                Llunio cytundeb trwydded drafft i gynnwys grwpiau cyfeillion parciau'n ffurfiol er mwyn gwella'r llywodraethu a'r trefniadau rhwng y cyngor a grwpiau amrywiol a chynyddu cyfleoedd i sicrhau grantiau

·                Llwyddiant a datblygiad cynllun beiciau Santander a'r posibilrwydd o'i ehangu

·                Hanner canmlwyddiant y ddinas

·                Hysbysiadau o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â datblygiadau ar lannau Bae Abertawe – potensial i graffu ar unrhyw ddewisiadau posib a ddeillir o'r ymatebion cyn gynted â phosib, cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud

 

Diolchodd y Cadeirydd i ddau aelod y Cabinet

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor.   

10.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y pwyllgor i ystyried a ddylid gofyn i Baneli Craffu Perfformiad presennol benodi cynullydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20. Cefnogodd y pwyllgor yr arfer hwn gyda'r disgwyl y gwneir hyn bob blwyddyn (heblaw am flwyddyn etholiad y cyngor), ac esboniwyd ymhellach pe bai mwy nag un cynghorydd yn mynegi diddordeb ac, os bydd nifer y pleidleisiau'n gyfartal, byddai'r bleidlais fwrw gan y Cynullydd sy'n llywyddu.

 

Nodwyd y byddai angen dileu enwau Aelodau'r Cabinet sydd newydd eu penodi, sef y Cynghorwyr Sam Pritchard, Alyson Pugh ac Andrew Stevens, o unrhyw baneli neu weithgorau craffu gweithredol.

 

Penderfynwyd:   

1)        Dileu enw'r Cynghorydd Mo Sykes o'r Panel Perfformiad Ysgolion;

2)        Penodi Cynullydd newydd i'r Panel Perfformiad Ysgolion;

3)        Dylai'r Paneli Perfformiad benodi cynullydd; a

4)        Dylai Cynullwyr yr holl Baneli Craffu ar Berfformiad barhau i fod yn aelodau heb bleidlais ar Bwyllgor y Rhaglen Graffu.

11.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

 

Darparodd y Cynghorydd Terry Hennegan, Cynullydd y Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, drosolwg byr o'i lythyr i Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell.

12.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiadau Craffu – Nodwyd yr Adroddiad Effaith Chwarterol. Rhoddir yr adroddiad i'r cyngor i'w drafod.

13.

Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2018/19. pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Adolygiad Blynyddol y Rhaglen Waith ar gyfer 2018/19.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at weithdy a oedd wedi'i drefnu i aelodau'r pwyllgor ac a gynhaliwyd ar 2 Mai 2019. Ymysg y materion a godwyd yn ystod y gweithdy, amlygodd y Cadeirydd awydd aelodau i sefydlu panel perfformiad a fyddai'n canolbwyntio ar yr amgylchedd naturiol, sy'n un o flaenoriaethau'r cyngor.

 

Cytunwyd y caiff Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol ei sefydlu. Caiff hyn ei ystyried yn llawn yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith ar y cyd ag ystyriaethau eraill o'r rhaglen. Anogir cynghorwyr i fynegi diddordeb.

14.

Dyddiad ac Amserau Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 244 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 257 KB