Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

109.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

110.

Cofnodion. pdf eicon PDF 121 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

111.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r

cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

112.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd (y Cynghorydd Mark Thomas). pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

Baw Cŵn

·                 Bu problemau staffio dros gyfnod y Nadolig a effeithiodd ar gasgliadau biniau baw cŵn oherwydd bod casgliadau gwastraff cartref wedi’u blaenoriaethu dros y cyfnod hwn. Roedd gwersi wedi'u dysgu a rhagwelwyd na fyddai'r sefyllfa yn codi eto’r Nadolig nesaf;

·                 Y broses gasglu ar gyfer biniau baw cŵn;

Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

·                 Y gost o glirio "mannau cyffredin" tipio anghyfreithlon rheolaidd ac a allai cynllun tebyg i amnest wneud gwahaniaeth; 

Iechyd yr Amgylchedd

·                 Roedd y cynnydd yn nifer y llygod mawr a adroddwyd y llynedd yn gysylltiedig â'r tywydd cynnes anarferol yn hytrach nag unrhyw broblemau sylfaenol.  Ailadroddwyd mai Cyngor Abertawe oedd un o'r ychydig awdurdodau a oedd heb godi tâl am y gwasanaeth hwn eto;

·                 Ni fyddai unrhyw newidiadau i wiriadau a gweithdrefnau diogelwch bwyd mewn ysgolion yn dilyn Brexit;

·                 A ystyriwyd holl faterion preifatrwydd mewn perthynas â chasglu data mewn perthynas â'r astudiaeth gydweithredol bosibl â Phrifysgol Abertawe a Vortex Internet of Things a fyddai'n edrych ar gasglu data ansawdd aer, traffig a pharcio cyfredol, lleol yng nghanol y ddinas;

Priffyrdd ac Isadeiledd

·                 Polisi/proses ar gyfer cyrbau wedi'u gostwng - oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio, tynnwyd sylw at y ffaith bod angen gostwng mwy o gyrbau i'r henoed, yn enwedig yn ward y Castell. Yn ychwanegol, dylid ystyried hyn yn ystod y cam cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeiladau newydd;

Lleihau Tlodi

·                 Roedd hon yn ystyriaeth drawsbynciol i holl Bortffolios y Cabinet ei hystyried;

Claddedigaethau ac Amlosgiadau

·                 Trafodwyd yr opsiynau niferus sydd ar gael i'r grwpiau lleiafrifoedd ethnig gwahanol;

Mynediad i gefn gwlad

·                 A ellid archwilio unrhyw grantiau/arian ychwanegol er mwyn cynorthwyo'r tîm bach iawn;

Cynnal a chadw'r Marina, y Blaendraethau a Thraethau

·                 Holwyd am y rheswm dros y problemau gyda cholli tywod yn Knab Rock;

Gwaredu Gwastraff Niwclear

·                 Byddai'r awdurdod yn ystyried ei ymateb llawn i'r ymgynghoriad maes o law.

 

Cafwyd cwestiwn hefyd gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â graddfa ehangu'r brifysgol a'i effaith ar gymunedau a theuluoedd lleol drwy dai amlfeddiannaeth. Nododd Aelod y Cabinet y pryderon a nododd fod ei gyfrifoldebau portffolio mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth wedi'u cyfyngu i orfodi o ran materion amgylcheddol megis gwastraff, sŵn a diogelwch a diffyg cydymffurfiad ag amodau trwyddedu gan landlordiaid/denantiaid, ond byddai aelodau eraill y Cabinet mewn sefyllfa well i roi sylwadau ar y materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan fyfyrio ar y drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

113.

Adroddiad Ymchwiliad Craffu Terfynol: Yr Amgylchedd Naturiol (Y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Jones, y Cynullydd, adroddiad terfynol yr ymchwiliad craffu i'r Amgylchedd Naturiol.

 

Diolchodd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, am ei gefnogaeth ar y pwnc hwn ac am gymorth a chyfraniad amhrisiadwy y Swyddog Craffu, Bethan Hopkins, wrth gefnogi'r ymchwiliad.

 

Cafwyd peth trafodaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng adfywio economaidd a'r amgylchedd a'r gwrthdaro a all fodoli rhwng datblygu a diogelu'r amgylchedd.

 

Cafwyd peth trafodaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng adfywio economaidd a'r amgylchedd a gwrthdaro a all fodoli rhwng datblygu a diogelu'r amgylchedd.

 

Cymeradwyodd y Cadeirydd yr adroddiad cynhwysfawr a bu'n canmol y Panel Ymchwilio am ei waith.

 

Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cabinet.

114.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 119 KB

Gwasanaethau I Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynullydd Peter Black adroddiad am y diweddaraf ar Banel Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion.

 

Cyfeiriodd yn benodol at bryderon ynghylch Gofal Cartref Tymor Hir, Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, ac Oedi wrth Drosglwyddo Gofal. Dywedodd y byddai cyfarfod â Bwrdd Iechyd PABM ar 26 Mawrth, a aildrefnwyd o fis Ionawr, i drafod newidiadau i gwmpas rhanbarthol y bwrdd iechyd a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

115.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu.

 

 

Penderfynwyd:

 

1)              Panel Ymchwilio Cydraddoldeb - tynnu enw'r Cynghorydd L V Walton;

2)              Gweithgor Twristiaeth - ychwanegu enwau'r Cynghorwyr C Anderson ac R D Lewis;

3)              Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - ychwanegu enw'r Cynghorydd C Anderson, tynnu enw'r Cynghorydd E W Fitzgerald;

4)              Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

116.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor.

117.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 139 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19.

 

Byddai Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu gydag Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor roi ystyriaeth i gwestiynau.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r pwyllgor hefyd y byddai'r sesiwn Craffu ar Droseddu ac Anhrefn flynyddol yn debygol o gael ei ychwanegu at y cyfarfod pwyllgor a drefnwyd eisoes ar gyfer 8 Ebrill. Ychwanegodd fod gwaith Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn berthnasol i sesiwn holi Aelod y Cabinet a gynlluniwyd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

118.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 18 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am log y llythyrau craffu. Roedd yr ohebiaeth yn ymwneud â phresenoldeb Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant yng nghyfarfod mis Tachwedd 2018.

 

Nodwyd y log a'r llythyrau.

119.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Darparwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

120.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 184 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 482 KB