Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

84.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd M C Child – personol - Cofnod Rhif 88 - Mae ei fam yn derbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol - rhoddwyd goddefeb i'r Cynghorydd Mark C Child gan y Pwyllgor Safonau i arfer pwerau gweithredol, aros, siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 88 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

85.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

86.

Cofnodion. pdf eicon PDF 126 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

87.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

88.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda (y Cynghorydd Mark Child) pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Darparwyd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd. Amlygodd y blaenoriaethau allweddol yn y portffolio: atal ac ymyrryd yn gynnar, moderneiddio a gweithio'n integredig yn ogystal â'r pwysau sy'n deillio o galedi a'r cynnydd yn y galw am y gwasanaeth. 

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac a yw'n ychwanegu gwerth at agweddau ar y portffolio

·                Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol - a oes cydbwysedd teg/a yw'r cyllid wedi'i rannu'n deg

·                Parhau i hyrwyddo byw'n annibynnol a'r adnoddau sydd ar gael

·                Cydlynu Ardaloedd Lleol - uchelgais i ehangu Cydlynu Ardaloedd Lleol i bawb yn Abertawe, sicrhawyd cyllid ar gyfer dwy swydd newydd yn ardaloedd Llansamlet a Blaen-y-maes a defnyddiwyd proses recriwtio newydd er mwyn eu penodi. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y tynnwyd cyllid yn ôl ar gyfer y Cydlynydd Ardaloedd Lleol a oedd yn gwasanaethu Tre-gŵyr, Llwchwr a Phenllergaer.

·                Darparu tystiolaeth i ddangos effaith/canlyniadau Cydlynu Ardaloedd Lleol yn benodol i Abertawe, a'r effaith o ran lleihau'r galw/costau ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd cwestiynau gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol ranbarthol Bae'r Gorllewin. Canolbwyntiodd y cwestiynau ar argaeledd cofnodion ac agendâu ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin ynghyd â gwybodaeth, hygyrchedd a thryloywder y gwaith a wneir a hwyluso mwy o gysylltiad â'r cyhoedd. Darparodd Aelod y Cabinet ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau a dderbyniwyd.

 

Penderfynwyd: 

 

1)        Y bydd Aelod y Cabinet yn darparu ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau gan y cyhoedd a dderbyniwyd;

2)        Y bydd Aelod y Cabinet yn darparu tystiolaeth/cysylltiadau ag astudiaethau o ran effeithiolrwydd Cydlynu Ardaloedd Lleol; ac

3)        Y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

89.

Rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Adolygiadau Comisiynu: Meysydd Gwasanaeth - Diweddariad Cynnydd Blynyddol. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy'n bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried yr adroddiad am Raglen Abertawe Gynaliadwy - Adolygiadau Comisiynu: Meysydd Gwasanaeth - Diweddariad Cynnydd Blynyddol'.

 

Rhoddwyd anerchiad llafar gan y Dirprwy Arweinydd mewn perthynas â'r adroddiad a ddarparwyd, a oedd yn esbonio diben yr Adolygiadau Comisiynu ac yn amlygu'r cynnydd a'r canlyniadau dros y 12 mis diwethaf.

 

Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy gyflwyniad ar 'Adroddiadau Comisiynu Abertawe Gynaliadwy - Diweddariad Blynyddol' a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·                    Diben allweddol

·                    Effaith ar genedlaethau'r dyfodol

·                    Egwyddorion craidd - canlyniadau enghreifftiol

·                    Heriau

·                    Camau nesaf

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'r adolygiadau a wnaed yn parhau i gael eu monitro nes y caiff pob newid angenrheidiol ei roi ar waith. Roedd rhaglen gytunedig yr Adolygiadau Comisiynu a nodwyd yn 2014 bron wedi cael ei chwblhau a byddai rhaglen newydd yn cael ei datblygu. Byddai cynllun y rhaglen newydd yn cynnwys ffocws mwy ar gydgynhyrchu a byddai'n cynnwys mewnbwn Craffu.

 

Canolbwyntiodd trafodaethau â'r Dirprwy Arweinydd a'r swyddogion ar y canlynol:-

 

·                     Sicrhau bod Adolygiadau Comisiynu'n darparu/dangos gwerth am arian

·                     Manteision ac arbedion o ganlyniad i'r holl raglen

·                     Yr angen i Adolygiadau Comisiynu i ystyried barn/canfyddiadau'r cyhoedd ac i gael gwybodaeth eglur am yr hyn y mae'r cyhoedd am ei gael ar ddechrau'r adolygiad

·                     Adolygiad Parciau a Glanhau - Peth newid yn y cynllun ond mae gwaith i archwilio partneriaeth ynghylch y Gerddi Botaneg yn parhau (aeth y Cyfarwyddwr Lleoedd ati i egluro a oes cynlluniau o hyd i greu maes parcio lle codir tâl)

·                     Adnabod nifer o feysydd ar gyfer adolygiadau cyllidebu ar sail sero fel rhan o waith y dyfodol

·                     Gwerth cysylltu'n gynnar â Chraffu

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad a barn y pwyllgor.

 

90.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad pdf eicon PDF 119 KB

Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio, ddiweddariad ar waith y panel hyd yn hyn. Cyfeiriodd at gynllun gwaith y panel sy'n cynnwys adroddiad mewn arddull 'dangosfwrdd' ym mhob cyfarfod er mwyn cefnogi monitro parhaus ac 'archwiliadau iechyd' cyson o brosiectau datblygu ac adfywio. Amlygodd y gwaith craffu cyn penderfynu diweddar ar y Diweddariad ar Gam 1 Abertawe Ganolog ac FPR7 gan nodi'r pryderon ynghylch cost y prosiect. 

91.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu nad oedd unrhyw newidiadau i aelodaeth o'r paneli a'r gweithgorau craffu presennol. 

92.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 143 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19.

 

Trefnwyd y bydd Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu gyda'r Arweinydd. Gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor gyflwyno cwestiynau neu bynciau ar gyfer cwestiynau cyn y cyfarfod.

 

Nodwyd hefyd y cafodd Dr. Gideon Calder ei gyfethol i'r Panel Ymchwilio Cydraddoldeb.

93.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Amlygodd y llythyr ymateb a dderbyniwyd oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, dyddiedig 26 Tachwedd 2018. Ar fater camau gweithredu posib i fynd i'r afael â phryderon ynghylch allyriadau mygdarth cerbydau ger ysgolion, a chyngor gan Aelod y Cabinet, nodwyd y byddai'n fwy addas i ofyn i gyrff llywodraethu ystyried a yw eu polisïau lles yn ymdrîn â risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag allyriadau mygdarth ac i ofyn iddynt gytuno ar strategaeth ar gyfer cyfleu neges i rieni. Roedd teimlad hefyd y gellid annog ysgolion sy'n rhan o Raglen Eco-ysgolion i ystyried y mater hwn.

 

Mewn perthynas â'r llythyr oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, nodwyd hefyd fod yr awdurdod lleol wedi argymell i gyrff llywodraethu y dylai pob llywodraethwr ysgol gael gwiriad GDG. Fodd bynnag, gan nad yw hyn yn orfodol, mae'n fater i gyrff llywodraethu gytuno arno.

 

Hefyd, amlygodd gais a dderbyniwyd gan y Gweithgor Craffu Llygredd Aer a Sŵn i gwrdd yn flynyddol. Dylid ystyried hyn fel rhan o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y pwyllgor y cynhelir craffu cyn penderfynu gan y Panel Perfformiad Ysgolion ar 17 Rhagfyr 2018 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Craig-cefn-parc (adroddiad ar yr Arolygiad o Ysgolion Bach) ac YGG Felindre (adroddiad ar Drefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg), a oedd yn destun penderfyniad gan y Cabinet ar 20 Rhagfyr.

94.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Nododd y Cadeirydd y gwneir trefniadau er mwyn i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ddod i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

95.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth. 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 178 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 416 KB