Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Derbyn Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

D Anderson-Thomas – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

 

Y Cynghorydd P M Black – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol  Pentrehafod.

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Pentrehafod.

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd y Crwys ac yn Ysgol Gynradd Cilâ. 

 

Y Cynghorydd J W Jones  - personol - Cofnodion Rhif 60 a 65 – Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun yr Olchfa ac aelod o deulu yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Hendrefoilan.

 

Y Cynghorydd M H Jones – personol – Cofnodion Rhif 60 a 65 – Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gyfun yr Olchfa a Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Hendrefoilan.

 

Y Cynghorydd P K Jones – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol yr Esgob Gore.

 

A Roberts – personol – Cofnod Rhif 60 – Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt.

57.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

58.

Cofnodion. pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Medi 2018 fel cofnod cywir.

59.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r

cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud

Cofnodion:

Cynigiodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol gyngor i'r pwyllgor ynghylch ymatebion i'r materion sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

 

Clywodd y pwyllgor gan sawl aelod o'r cyhoedd a holodd gwestiynau am Eitem 6 (Cofnod 60) a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Mynegwyd pryder am y cynnydd yn y llygryddion aer ger ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd. Os bydd yr ysgol honno yn cau bydd rhaid i blant deithio ymhellach i gyrraedd yr ysgol, gan arwain at gynnydd mewn traffig yn yr ardal.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau fod y cynnig i gau'r ysgolion yn destun ymgynghoriad, ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i bryderon fel rhan o'r broses ymgynghori. Mynegodd y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad am yr ymateb i'r ymgynghoriad cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau, ac anogodd aelodau o'r cyhoedd i gyflwyno ymatebion i'r Adran Addysg wrth i’r ymgynghoriad barhau i fynd rhagddo.

 

·                Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â'r gwaith craffu ar y broses o gau'r ysgolion a'r ymgynghoriad ac a fyddai’n bosib gweld yr adroddiad am benderfyniad y Cabinet cyn cyfarfod y Cabinet.

 

          Mynegodd Aelod y Cabinet y byddai adroddiad y Cabinet yn cael ei gyhoeddi o leiaf bum niwrnod gwaith cyn cyfarfod y Cabinet. Nodwyd hefyd y byddai'r holl ymatebion a sylwadau a roddwyd fel rhan o'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi. Mynegodd y byddai adroddiad y Cabinet ar gael ar gyfer craffu cyn penderfynu.

 

          Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai unrhyw graffu cyn penderfynu nes bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi. Mynegodd y byddai trefniadau ar gyfer craffu cyn penderfynu’n cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

·                Holwyd a fyddai'r Cabinet yn cynnal ymweliadau safle llawn o’r ysgolion y cynigir eu cau er mwyn asesu effaith hyn yn llawn ac i sicrhau penderfyniad gwybodus a chadarn.

 

          Er na allai gadarnhau bod ymweliadau safle wedi’u trefnu ar gyfer yr ysgolion y cynigir eu cau, cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod ymweliadau safle yn aml yn rhan o'r broses benderfynu.

 

Penderfynwyd y byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n trosglwyddo'r

sylwadau / pryderon a fynegwyd i Aelod y Cabinet / yr Adran Addysg

er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori.  

60.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet:- Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau (y Cynghorydd Jennifer Raynor). pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, adroddiad ar y penawdau allweddol ar gyfer y portffolio Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Llygredd aer/Allyriadau o gerbydau'n teithio ac yn parcio y tu allan i ysgolion - mae contractwyr (bysus/tacsis) wedi eu hysbysu ond mae angen gwneud mwy o waith i hysbysu rhieni/gofalwyr e.e. trwy gyrff llywodraethu

·                Llwybrau Mwy Diogel i'r Ysgol - bu'r diffyg diddordeb yn siomedig

·                Dalgylchoedd - gallai plant sy'n mynychu ysgolion y tu allan i dalgylch achosi mwy o draffig ar y ffyrdd. Nodwyd hefyd fod rhai stadau tai lle nad oedd hi'n bosib cerdded i ysgol y dalgylch

·                Gwaith y Cynllun Datblygu Lleol ac Ymgynghoriadau Statudol ar ysgolion cynaliadwy (o’r maint cywir yn y lleoliad cywir)

·                Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif/Ariannu - argaeledd, posibiliadau a chyfrifoldeb arolygon cyflwr, penderfynu sut i ddyrannu cyllid – trafodwyd gwelededd arolygon i ysgolion/gyrff llywodraethu

·                Y sail resymegol am gau ysgolion posib a’r broses ymgynghori bresennol

·                Ariannu ysgolion/cyllidebau dirprwyedig - pwysau presennol

·                Gweithdrefnau ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a'r sefyllfa o ran Llywodraethwyr Ysgol

·                Rhaniad cyfrifoldebau cynnal a chadw rhwng ysgolion a'r cyngor

·                Grant Datblygu Disgyblion - dyraniad a monitro

·                Derbyniadau Ysgol / polisi a lleoliadau y tu allan i'r sir

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. 

61.

Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 119 KB

Ysgolion (Y Cynghorydd Mo Sykes, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Mo Sykes, nodwyd y diweddaraf am y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion.

 

Trafodwyd cynllun gwaith y panel ar gyfer y dyfodol ac yn sgîl y drafodaeth flaenorol ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, argymhellwyd y dylai'r Panel Perfformiad Ysgolion graffu ar adroddiadau’r Cabinet sydd ar y gweill sy'n sôn am y posibilrwydd o gau ysgolion cynradd Craig-cefn-parc a Felindre cyn gwneud penderfyniad. 

62.

Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Diogelu Corfforaethol. pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2017/2018 am Ddiogelu Corfforaethol.

 

Darparodd Aelod y Cabinet gefndir i'r Adroddiad Blynyddol. Rhai o'r meysydd gwaith a amlygwyd oedd: -

 

·                Bod diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn flaenoriaeth corfforaethol ac yn "fusnes i bawb"

·                Bod Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Abertawe wedi ei ddiweddaru er mwyn cwmpasu amrywiaeth ehangach o bryderon posib

·                Bod disgwyl i swyddogaethau a chyfrifoldebau diogelu/ymrwymiad i ddiogelu gael eu hadlewyrchu ym mhob disgrifiad swydd

·                Bod gwaith i'w wneud eto ond mae mwy o bobl wedi cwblhau hyfforddiant diogelu

·                Cynnig llais diogel i bobl ym mhob agwedd ar waith diogelu

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Nifer y Llywodraethwyr Ysgol sy’n ymgymryd â Hyfforddiant Amddiffyn a Diogelu Plant

·                Ymdrechion i wella ar ganlyniadau arolygon staff - yn 2017 dywedodd 86.4% eu bod wedi cwblhau Hyfforddiant Diogelu'r cyngor naill ar-lein neu wyneb yn wyneb

·                Anawsterau wrth gadw cofnodion ar hyfforddiant yn parhau (yn sgîl systemau TG gwahanol), yn arbennig hyfforddiant wyneb yn wyneb

·                Yr angen i sicrhau hyfforddiant i staff dros dro - dylai'r Grŵp Llywio Diogelu Corfforaethol ystyried sut mae'r awdurdod yn delio â meysydd gwasanaeth sydd o bosib â gweithlu dros dro, yn ogystal ag annog ymwybyddiaeth o ddiogelu contractwyr a darparwyr

·                Nifer yr ymholiadau a'r pryderon am ddiogelu a dderbynnir a'r trothwy ar gyfer atgyfeiriadau/ymdrin â phryderon - nodwyd nad oedd ffigurau’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer y flwyddyn flaenorol i'w gweld yn yr adroddiad ac y byddai'n rhaid eu cadarnhau

·                Aseswyd yr holl bryderon yn briodol gan Weithwyr Cymdeithasol a oedd yn gallu ystyried a oedd angen ymyrryd. Rhoddwyd cyngor hefyd er mwyn cefnogi gwaith atal. Roedd y bobl a fynegodd bryderon yn ymwybodol o'r canlyniad bob amser

·                Effeithiolrwydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol

·                Trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu corfforaethol

·                Cynnwys partneriaid/trydydd partïon mewn cyfrifoldebau diogelu – rôl Bwrdd Gweithredol Diogelu'r Cyhoedd mewn gweithio strategol amlasiantaeth

·                Bwlio mewn ysgolion – gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn ysgolion, hyfforddiant a mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol (seiberfwlio), cynyddu ymwybyddiaeth rhieni, gosod cyfrifoldeb ar ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol i amddiffyn pobl, materion sy’n ymwneud â phlant diamddiffyn yn teimlo unigedd ac yn cyfathrebu â phobl ar-lein neu’n ymddiried ynddynt, cefnogaeth i blant gan gyfoedion

·                Canran yr asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a gwblhawyd o fewn 21 diwrnod neu lai - roedd gostyngiad bach mewn perfformiad (59.6% yn y flwyddyn ddiwethaf) ac ymdrechion i wella. Nodwyd bod tîm penodedig newydd wedi'i sefydlu i ddelio â threfniadau diogelu rhag colli rhyddid, a ddylai wneud gwahaniaeth

·                Monitro absenoldebau disgyblion gan ysgolion

·                Y broses ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - yn gallu bod yn rhy gymhleth/araf. Angen edrych ar amserau prosesu ac ar yr hyn y gellir ei wneud i wella’r broses pe bai angen. Y teimlad oedd y dylai pob llywodraethwr ysgol dderbyn gwiriad GDG.

 

Penderfynwyd y byddai barn y Pwyllgor ar yr adroddiad yn cael ei hystyried gan Aelod y Cabinet a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

63.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i gyflwyno i'r cyngor.

64.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu.

 

Penderfynwyd cytuno ar y canlynol: -

1)        Gweithgor Parcio i Breswylwyr - Ychwanegu y Cynghorydd Irene Mann

2)        Y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - Ychwanegu y Cynghorydd Susan Jones

65.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 142 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19.

 

Nododd Arweinydd y Tîm Craffu: -

 

·                Y byddai'r sesiwn holi Aelod y Cabinet nesaf ar y Gwasanaethau Plant. Byddai'r cynghorwyr Will Evans ac Elliott King yn bresennol er mwyn ateb cwestiynau.

·                Y byddai'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol am y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 12 Tachwedd 2018.

·                Y byddai cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor Craffu’r Fargen Ddinesig ar 20 Tachwedd 2018.

 

Penderfynwyd nodi Rhaglen Waith Craffu 2018/19.

66.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Nodwyd nad oedd Aelod perthnasol y Cabinet wedi ymateb i'r llythyr a anfonwyd ar 2 Gorffennaf 2018 ynglŷn â Chydlyniant Cymunedol.

 

Penderfynwyd -

1)        Nodi log y llythyrau craffu ac

2)        Y dylid ceisio cael ymateb i'r llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl ar 2 Gorffennaf 2018 ynglŷn â Chydlyniant Cymunedol.

67.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

68.

Dyddiadau ac Amserau Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 181 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 308 KB