Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Nid oedd gan y cyhoedd
unrhyw gwestiynau. |
|
Pwyllgor Craffu ar y cyd Bae Abertawe. PDF 112 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro, Tracey Meredith, adroddiad a amlinellodd y manylion cefndir
i'r cynigion ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Craffu â Sir Gâr, Castell-nedd Port
Talbot a Sir Benfro fel rhan o gytundeb y Fargen Ddinesig. Amlinellwyd prif
ddiben a swyddogaeth y pwyllgor, cylch gorchwyl y pwyllgor a'r trefniadau
gweinyddol a manylwyd arnynt. Penderfynwyd nodi sefydliad Cyd-bwyllgor Craffu Bargen
Ddinesig Bae Abertawe. |