Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol â chofnod 33 - Cyfarwyddwr Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe (SCEES).

30.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar y dyddiadau canlynol fel cofnodion cywir:

 

·         19 Mehefin 2018;

·         9 Gorffennaf 2018;

·         20 Gorffennaf 2018.

32.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

33.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni. (Y Cynghorydd Andrea Lewis) pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr Lleoedd a Rheolwr y Gwasanaethau Landlordiaid am benawdau allweddol y Portffolio Cartrefi ac Ynni. Rhoddodd anerchiad llafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd a oedd yn amlygu gweithgareddau ynghylch y canlynol: -

 

·                Cyflwyno Rhagor o Gartrefi - Parc yr Helyg a Colliers Way;

·                Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (y Fargen Ddinesig);

·                Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC);

·                Strategaeth Digartrefedd;

·                Polisi Datblygu Cerbydlu Gwyrdd;

·                Ynni;

·                Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                     Tai - a yw cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi effeithio ar y rhai sy'n rhentu trwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC) neu'r sector rhentu preifat;

·                     Strategaeth Digartrefedd - bydd cyfle i Bwyllgor y Rhaglen Craffu drafod y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Digartrefedd cyn i’r Cabinet gytuno arni ar 15 Tachwedd. Nodwyd y bydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Tlodi yn ei thrafod cyn penderfynu arni a bydd hefyd yn cael ei chyflwyno i'r cyngor ar 20 Rhagfyr am wybodaeth a'r bwriad yw ei rhoi ar waith ar 21 Rhagfyr 2018;

·                     Tai Fforddiadwy - diffiniad o'r term 'Tai Fforddiadwy' - trafodaeth am y mathau niferus o dai fforddiadwy, e.e. tai cyngor, prynu trwy berchnogaeth a rennir, costau rhent is neu bris prynu dan werth y farchnad, dichonoldeb, etc.;

·                     Diogelwch tân – cwblhawyd y gwaith o ôl-osod system daenellu ym Mhenlan ac mae ar ddigwydd yn Clyne Court. Hyfforddwyd staff mewnol gan alluogi'r awdurdod i gynnig y gwasanaeth hwn i ddatblygwyr preifat/allanol; profwyd diogelwch y cladin allanol yn llawn ynghyd â diogelwch y drysau tân allanol - cymeradwywyd popeth;

·                     Eiddo Gwag - nodwyd bod 49 o eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto oherwydd cynllun cenedlaethol, sydd wedi creu 85 o unedau llety ychwanegol. Mae nifer o eiddo gwag wedi cael eu gwella er mwyn cyrraedd safon SATC;

·                     Tudno Place a Heol Emrys - cynhelir ymgynghoriad llawn mewn perthynas â'r Prisiad Tir a'r Astudiaeth Ddichonoldeb (fel rhan o Strategaeth Rhagor o Gartrefi Abertawe); ystyrir pob opsiwn ar gyfer eu gwella, gan gynnwys adeiladau newydd. Fodd bynnag, mae'n gynnar iawn yn y broses; mae'r ymgynghorwyr annibynnol wedi dechrau curo ar ddrysau rhai o'r tenantiaid a'r aelodau ward a fydd yn rhan o'r ymgynghoriad;

·                     Trafnidiaeth/Cerbydau Gwyrdd - roedd gwaith gyda Phrifysgol Abertawe'n parhau er mwyn ystyried y posibilrwydd o ôl-osod celloedd hydrogen yn rhai cerbydau o'n cerbydlu, megis ein cerbydau gwastraff, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer;

·                     Adolygiad Comisiynu Tai - rhennir yr amserlen ar gyfer yr Adolygiad Comisiynu o'r holl wasanaethau tai a dogfen gwmpasu'r adolygiad â'r pwyllgor.  Y dyddiad cwblhau arfaethedig fyddai 2019/20, a byddai cwmpas yr adolygiad yn cynnwys Swyddfeydd Tai Rhanbarthol;

·                     Strategaeth Rhagor o Gartrefi – yr angen am ragor o dai fforddiadwy mewn ardaloedd eraill yn Abertawe megis gogledd a gorllewin Abertawe, gan gynnwys Gŵyr, nid yr ochr ddwyreiniol yn unig - ystyrir pob safle a phob opsiwn, e.e. gweithio gyda phartneriaid;

·                     Cwmni Gwasanaethau Ynni (ESCO) - aneglur a fyddai'n defnyddio ynni sy'n hollol adnewyddadwy.  Efallai y bydd angen dechrau gyda thanwydd ffosil â'r bwriad o symud ymlaen at ynni adnewyddadwy, e.e. solar, neu gymysgedd o danwydd ffosil ac ynni adnewyddadwy, a bydd angen ei seilio ar achos busnes cadarn; roedd mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn dal i fod yn un o amcanion allweddol yr awdurdod;

·                     Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (prosiect y Fargen Ddinesig) - trafodaeth am ddod o hyd i ynni; trafodaethau partneriaeth yn parhau â Phrifysgol Abertawe mewn perthynas â systemau ffotofoltäig a systemau eraill, e.e. gwres o'r ddaear; byddai tai preifat yn gymwys i elwa ohono; disgwylir y bydd y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer hefyd yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau lleol trwy ddechrau rhaglen adeiladu gwerth £515,050,000 ar ôl buddsoddiad y Fargen Ddinesig gwerth £15 miliwn (3% o werth y rhaglen gyfan); ystyrir pob grant a phob cyfle i ariannu cynlluniau yn y dyfodol.

·                     Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe (SCEES) - pwrpas y cynllun a phrynu cyfrannau gan y cyngor.

 

Penderfynwyd

 

1)        y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor;

 

2)        cyflwyno ymateb ysgrifenedig ar y canlynol: -

 

·                effaith Credyd Cynhwysol ar dai mewn perthynas â'r sector rhentu preifat;

·                amserlen ar gyfer ôl-osod y system daenellu;

·                nifer gwirioneddol yr eiddo gwag yn y sector preifat ar draws Abertawe;

·                gwybodaeth bellach am amserlen yr Adolygiad Comisiynu o'r holl wasanaethau tai;

·                eglurhad ynghylch y ffigurau a ddyfynnwyd mewn perthynas ag effaith prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer y Fargen Ddinesig

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r Cynghorydd Lewis a'r swyddogion am eu presenoldeb.

34.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. pdf eicon PDF 118 KB

Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, ddiweddariad am waith y panel hyd yn hyn.

 

Amlygodd y canlynol yn benodol:

 

·                     Y cyfarfod cyllid ychwanegol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2018 a mynegodd bryder ynghylch yr amserlen gyfyngedig iawn ar gyfer craffu;

·                     Taliadau - darn mawr o waith sy'n cynnwys dros 260 o daliadau a 350 o ffïoedd;

·                     Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant - darn mawr arall o waith roedd yn teimlo y gellir ei rannu'n ddau adolygiad ar wahân;

·                     Adolygiad Comisiynu Opsiynau Cynigwyr Terfynol Gwasanaethau Diwylliannol - roedd yn cynnwys gwybodaeth sensitif iawn - bu pryderon am ddigonolrwydd cyfathrebu â'r staff a'r cynghorwyr.

 

Ychwanegodd fod y panel yn awyddus i gael cip arall ar yr Adolygiadau Comisiynu a ystyriwyd gan y panel er mwyn trafod y llwyddiannau, yr effaith a'r gwahaniaeth a wnaed.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

35.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Nodwyd y cyfetholwyd y Cyng. Peter Jones i Banel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gydol Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol y mae'n ei gynnull.

 

Wedi iddo ofyn am fynegiannau o ddiddordeb gan yr holl gynghorwyr anweithredol, cyflwynodd y Cadeirydd restr aelodaeth arfaethedig ar gyfer y pynciau newydd ar gyfer ymchwiliadau a gweithgorau.

 

Penderfynwyd:

 

1)            cytuno ar yr aelodaeth paneli a gweithgorau fel a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a

2)            phenodi'r Cynghorydd Louise Gibbard fel cynullydd y Gweithgor Diwygio Lles.

36.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 143 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu'r Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19.

 

Amlygodd y canlynol:

 

·                     Bydd y cyfarfod nesaf ar 10 Medi 2018 yn cynnwys Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad (Dirprwy Arweinydd) - y Cynghorydd Clive Lloyd;

·                     Y weithdrefn galw i mewn - rhoddodd y cyngor y trefniadau galw i mewn newydd ar waith ar 26 Gorffennaf, sy'n rhoi craffu wrth wraidd y broses;

·                     Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Craffu o ganlyniad i Gytundeb Gweithio ar y cyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Cadarnhawyd mai cynrychiolwyr Abertawe fydd y Cynghorwyr Jan Curtice, Phil Downing a Mary Jones. Disgwylir i gyfarfod cyntaf y Cyd-bwyllgor Craffu, a gefnogir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gael ei gynnal tua mis Hydref;

·                     Darparwyd cynlluniau gwaith y Pwyllgor Datblygu Polisi er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth;

·                     Derbyniwyd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn ddeillio o'i hadolygiad o graffu - 'Trosolwg a Chraffu - Addas i'r Dyfodol?' - gan y cynghorwyr trwy e-bost, ac fe'i cylchredwyd yn yr un modd.  Ystyrir yr adroddiad yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 10 Medi 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)            nodi'r Rhaglen Waith ar gyfer 2018/19;

2)            gwneud trefniadau i'r pwyllgor drafod y Strategaeth Digartrefedd ddrafft ar gam cynnar cyn penderfynu arni, e.e. yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

37.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd am y llythyr i/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni mewn perthynas â gwaith y Gweithgor Craffu Digartrefedd.

 

Siaradodd cynullydd y gweithgor, y Cynghorydd Peter Black, am y gweithgaredd craffu hwn ac amlygodd ei gyfraniad at ddatblygu'r Strategaeth Digartrefedd.

 

Nodwyd y llythyrau craffu ac ymatebion Aelodau'r Cabinet.

38.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2018/2019.

39.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 43 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 183 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 450 KB