Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

11.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

12.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd gan y cyhoedd unrhyw gwestiynau.

13.

Craffu Cyn Penderfynu: Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg. pdf eicon PDF 110 KB

a)         Rôl y pwyllgor

b)         Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)         Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol yn bresennol er mwyn i'r pwyllgor ystyried Adroddiad y Cabinet am yr 'Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg'.

 

Amlygodd Aelod y Cabinet y canlynol:-

·                Roedd y cynllun peilot a'r safle adeiladu cyntaf yn Colliers Way wedi bod yn llwyddiannus iawn;

·                Gwersi a ddysgwyd drwy'r cynllun peilot, yn benodol mewn perthynas â chaffael yn lleol;

·                Y gobaith oedd y byddai oddeutu 74% o'r caffael yn cael ei wneud o fewn radiws o 10 milltir, 84% o fewn radiws o 20 o filltiroedd a 92% o fewn radiws o 50 o filltiroedd, os yw Safon Abertawe'n cael ei defnyddio;  ac 

·                Roedd yna gyfle i gael Grant y Rhaglen Tai Arloesol gyda Safon Abertawe.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet, a ymatebodd yn briodol gyda chymorth y Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol.  Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·                Adborth cadarnhaol am safle Colliers Way, yn enwedig gan breswylwyr;

·                Roedd Passivhaus yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol;

·                Nid oedd y costau fesul uned, fel a nodir yn yr adroddiad, yn cynnwys costau gwaith allanol. Roedd y costau hyn yn rhan o'r dadansoddiad llawn o gostau yn Atodiadau A a B;

·                Y farn oedd bod y costau fesul metr sgwâr yn debyg i'r sector preifat;

·                Nid oedd tai'n cael eu hadeiladu er elw, byddai'n rhaid profi'r farchnad er mwyn asesu a fyddant yn gystadleuol ar y farchnad breifat;

·                Dichonoldeb safle Parc yr Helyg mewn perthynas â chynnydd mewn costau allanol o ganlyniad i'r angen i ddargyfeirio ceblau uwchben, cynnal gwaith gwanhau helaeth er mwyn draenio dŵr wyneb yn ogystal â'r angen am waliau cynnal;

·                Posibilrwydd o dderbyn Grant y Rhaglen Tai Arloesol a'i gwmpas;

·                Anhawster hyfforddiant, caffael a chostau deunyddiau ar gyfer safon Passivhaus;

·                Yr angen am reiddiaduron yn nhai Passivhaus a'r defnydd ohonynt; a'r

·                Broses gaffael a'r gwaith parhaus ynghylch mynd i'r afael â rhwystrau i gyflenwyr lleol.

 

Ystyriodd y pwyllgor yr argymhellion arfaethedig yn yr adroddiad a chododd unrhyw faterion a phryderon y dylid dwyn sylw'r Cabinet atynt cyn ei benderfyniad ar 21 Mehefin 2018.

 

Er bod y pwyllgor yn cytuno'n gryf mai Safon Abertawe oedd y fanyleb a ffefrir ar gyfer datblygiad Parc yr Helyg, amlygodd y pwyllgor nifer o faterion y dylai'r Cabinet eu hystyried; -

 

·           Cost sylweddol gwaith allanol ym Mharc yr Helyg; a

·           Dichonoldeb safle Parc yr Helyg ac a fyddai safleoedd eraill megis Cam 2 ar Colliers Way yn fwy cost-effeithiol

 

Penderfynwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu barn y Pwyllgor, er mwyn i'r Cabinet ei hystyried.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 116 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 95 KB