Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

134.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

135.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

136.

Cofnodion. pdf eicon PDF 130 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2018 fel cofnod cywir.

 

137.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

138.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd. (Y Cynghorydd David Hopkins) pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd adroddiad am benawdau allweddol y portffolio Cyfleoedd Masnachol ac Arloesedd. Rhoddodd anerchiad llafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd a oedd yn amlygu gweithgareddau ynghylch y canlynol: -

 

·                Hyrwyddo busnes

·                Gwasanaethau masnachol

·                Adolygiadau Comisiynu

·                Gefeillio economaidd

·                Creu buddsoddiad/cyfleoedd masnachol newydd

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Posibilrwydd, buddion a chostau defnydd masnachol o'r Plasty;

·                Effaith debygol a graddfa'r golled i gyllid Ewropeaidd ar ôl Brexit;

·                Lleoliad posib Ffatrïoedd y Dyfodol ac a fyddai unrhyw un yn cael ei lleoli yn Abertawe;

·                Prosiect Ffatrïoedd y Dyfodol y Fargen Ddinesig a sut y bydd yn denu gwerth £10 miliwn o gyllid fel rhan o'r Fargen Ddinesig ar y cyfan;

·                Cynnydd y Strategaeth Buddsoddiad Lleol a Rhanbarthol;

·                Cynnwys busnesau lleol, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach a Chlwb Busnes Bae Abertawe;

·                Strategaethau cyllid a'r buddsoddiad cyfalaf a ragwelir er mwyn cefnogi'r Fargen Ddinesig; 

·                Yr adolygiad trawsbynciol sy'n edrych ar 'Wasanaethau'r Gymuned' a'r gwaith ar Hwb Peilot;

·                Cynigion ar gyfer adnoddau dynodedig i gefnogi gefeillio economaidd a threfniadau partneriaeth;

·                Y posibilrwydd o gyflawni'r 35,000 o swyddi rhanbarthol newydd a ragamcanwyd o ganlyniad i'r Fargen Ddinesig yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Virgin Media a diraddiad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe; a

·                goblygiad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar brosesau a gwneud penderfyniadau cynllunio.

 

Penderfynwyd

1)        Y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

2)        Cyflwynodd ymateb ysgrifenedig ar y canlynol: -

·         Effaith debygol a graddfa'r golled i gyllid Ewropeaidd ar ôl Brexit;

·         Prosiect Ffatri'r Dyfodol a lleoliad posib y safle;

·         Cynnydd y Strategaeth Buddsoddiad Lleol a Rhanbarthol; a

·         Ffigurau posib o ran y buddsoddiad cyfalaf a ragwelir i gefnogi'r Fargen Ddinesig.

139.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. pdf eicon PDF 121 KB

Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Y Cynghorydd Mary Jones,

Cynullydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel cynullydd y panel, cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am gynnydd Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyfeiriodd at y cyfarfodydd panel amrywiol a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i berfformiad o ran blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, heneiddio'n dda a cham-drin domestig.

 

Amlygodd y bydd cyfarfod cyntaf y flwyddyn ddinesig nesaf yn canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a byddai gwahoddiad i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i roi adborth.

 

Tynnodd y Cadeirydd hefyd sylw at yr ohebiaeth â Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n atodedig i'r adroddiad.
 

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

140.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu adroddiad am aelodaeth paneli craffu a gweithgorau. Yn ychwanegol, nododd y pwyllgor benodiad y cynrychiolwyr craffu addysgol statudol canlynol, ac fe'u croesawyd fel aelodau cyfetholedig o'r pwyllgor: -

 

Cynrychiolydd Ysgol Gynradd - Alexander Roberts (Ysgol Llandeilo Ferwallt)

Cynrychiolydd Ysgol Uwchradd - Dave Anderson-Thomas (Ysgol Gyfun Gŵyr)

Cynrychiolydd Yr Eglwys yng Nghymru - John Meredith (Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).

 

Amlygwyd bod angen mwy o bobl ar gyfer y Gweithgor Cynhwysiad Digidol cyn y gellid ei gynnal a cheisir mynegiannau o ddiddordeb pellach. Mynegodd y Cynghorydd Peter Black ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau canlynol i'r aelodaeth: -

 

1)            Ychwanegu'r Cynghorydd Louise Gibbard a'r Cynghorydd Peter Black at y             Gweithgor Cynhwysiad Digidol;

2)           Tynnu enw'r Cynghorydd Lesley Walton o'r Panel Ymchwilio i'r Amgylchedd Naturiol; ac

3)            Ychwanegu'r Cynghorydd Peter Jones a'r Cynghorydd Paxton Hood-Williams       i'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

141.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu.  Roedd yr ohebiaeth yn berthnasol i Sesiynau Holi ac Ateb Aelod y Cabinet a'r Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd blynyddol, a Phanel Ymchwilio pa mor barod yw plant i fynd i'r ysgol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd y Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd, anerchiad llafar ar farn y Gweithgor am Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd yr awdurdod.

 

Amlygodd y Cynghorydd Peter Jones y camau gweithredu a nodwyd o ganlyniad i'r pryderon/materion a godwyd gydag Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Amgylcheddol.  Pwysleisiodd rôl yr amgylchedd naturiol wrth reoli perygl llifogydd a'r defnydd o'r Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS).

 

Gofynnwyd bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei gynnal (o gwmpas mis Hydref 2018) er mwyn monitro'r argymhellion a'r ymateb gan Aelod y Cabinet.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf a'r sylwadau.

142.

Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith 2017/18. pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu Adolygiad Blynyddol o Raglen Waith 2017/18.

 

Amlygodd Arweinydd y Tîm Craffu fod yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan yr adran graffu dros y flwyddyn ddinesig ac anogodd y pwyllgor i:- 

 

·                Edrych yn ôl dros y gwaith a gwblhawyd;

·                Myfyrio ar y profiad craffu; ac

·                Ystyried y Rhaglen Waith ar gyfer 2018/19.

 

Nododd fod Gweithdy Gwella a Datblygu wedi'i gynnal yn ddiweddar gydag aelodau'r pwyllgor ar 3 Mai er mwyn ystyried canlyniadau'r Arolwg Craffu Blynyddol i Gynghorwyr ac i edrych ar y ffyrdd o wella craffu. Ymysg y materion, teimlwyd bod angen rhoi sylw i: Gynnwys cynghorwyr; adroddiadau craffu, cynnwys y Cabinet/ymateb i graffu, gwelededd effaith a chynnwys y cyhoedd. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor y byddai'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu Flynyddol yn cael ei chynnal ar 11 Mehefin 2018.

 

Mewn perthynas â'r rhaglen waith newydd, nododd Paragraff 7.2 yr adroddiad yr eitemau i'w trosglwyddo, nododd paragraff 7.3 y gweithgareddau sy'n codi'n flynyddol. Yn amodol ar unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud gan y pwyllgor i Baneli Perfformiad, rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r pwyllgor y byddai gofyn i'r Paneli Perfformiad gadarnhau eu cynullydd drwy etholiad yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn ddinesig newydd. Yn dilyn ei hawgrym i barhau ar gyfer y flwyddyn gyntaf ym mis Mai 2017, nododd mai cyfrifoldeb pob panel yw ail-gadarnhau'r cynullydd presennol er mwyn nodi unrhyw newidiadau. 

 

Amlinellodd Paragraff 7.5 gais am graffu gan Gynghorydd. Penderfynwyd nodi cais am graffu'r Cynghorydd ar gyfer y system cyflwyno tocynnau parcio electronig i breswylwyr a gohiriwyd gwneud penderfyniad o ran canlyniad y gynhadledd cynllunio gwaith ac unrhyw alwadau cystadleuol am graffu. 

 

Wrth drafod profiad aelodau'r pwyllgor o graffu, teimlwyd yn gyffredinol fod craffu'n gweithredu'n dda iawn a dylid llongyfarch y Cadeirydd, y Cynghorwyr a'r Swyddogion am hynny. Ymysg materion eraill, teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau wrth olrhain ymatebion aelodau'r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn rhan o graffu am fod yn bresennol ac am eu cyfraniad.

 

Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor ar amcanion gwella craffu drafft a'r camau gweithredu posib i gytuno arnynt.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'r sylwadau.

143.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

144.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd paragraff 14 o 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

145.

Llythyrau Craffu.

Llythyr pwyllgor i/oddi wrth y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch (Dymchwel Adeilad Oceana).

Cofnodion:

Ystyriodd y pwyllgor y llythyrau i'r/gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â dymchwel adeilad Oceana, ac unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol ychwanegol.

 

Penderfynwyd darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gasgliad unrhyw faterion cyfreithiol o ran y prosiect dymchwel maes o law. 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 198 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 380 KB