Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

122.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

123.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

124.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

125.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

126.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol (Y Cynghorwyr June Burtonshaw a Mary Sherwood) pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad am y penawdau allweddol ar gyfer portffolio Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Er eglurhad, aelodau amgen o'r Cabinet oedd yn gyfrifol am rai o'r cyfrifoldebau a restrwyd dan bortffolio Cenedlaethau'r Dyfodol.  Byddai adroddiad Newidiadau Cyfansoddiadol i'r cyngor yn egluro hyn maes o law.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelodau'r Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

Risg a Chydnerthu

·                 Mae wedi cael ei symud i bortffolio trawsnewid gwasanaethau a gweithrediadau busnes, fodd bynnag, roedd Aelodau'r Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol yn gyfrifol am asesu risgiau fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Roedd y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ac asesiadau risg yn cael eu hadolygu er mwyn canolbwyntio ar atal. Nid oedd llawer o risgiau corfforaethol  ond roeddent yn rhai lefel uchel ac yn trawstorri mwy nag un gyfarwyddiaeth, felly byddai pob adran yn rhan o hyn.

·                 Mynegwyd pryder gan Aelodau'r Cabinet ynghylch risg amgylcheddol, gan gynnwys:

o     Pwysigrwydd gwella bioamrywiaeth;

o     Plannu coed newydd yn lle rhai a dorrwyd lle bynnag y bo modd;

o     Roedd gwaith yn parhau i symud tuag at ymagwedd fwy cynaliadwy at ymdrin â chwyn megis grwpiau gwirfoddol i gynorthwyo wrth symud chwyn â llaw yn hytrach na defnyddio plaleiddiaid/chwynladdwyr;

Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

·                 Fel rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC), roedd y cyngor yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus megis Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru etc. i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gyflawni'r nodau llesiant.  Roedd y Cynllun Lles wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar gan y BGC ac roedd yn y broses o gael ei gymeradwyo gan yr aelodau statudol unigol.  Byddai cymeradwyaeth yn cael ei cheisio yng nghyfarfod y cyngor ar 26 Ebrill 2018;

Cynnwys

·                 Ar hyn o bryd, mae yn y broses o gomisiynu adroddiadau o bob adran yn yr awdurdod er mwyn gwella dulliau cynnwys y gymuned yn gyffredinol.  Croesawodd Aelodau'r Cabinet gymorth y tîm craffu yn hyn o beth drwy ofyn iddo'i ystyried fel testun i graffu arno yn y dyfodol.

·                 Mae Diwygio Lles/Credyd Cynhwysol (sydd bellach yn rhan o'r portffolio Gwrthdlodi) yn broblem o hyd, ond mae gwaith yn parhau i gynorthwyo'r rhai y mae'n effeithio arnynt;

Canolfannau Maestrefol a Mentrau Adfywio Cymunedol

·                 Cymerir ymagwedd gyd-gynhyrchiol at ddatblygu canolfannau cymunedol mewn rhai ardaloedd.  Gyda hyn, cyd-leolir gwasanaethau cyhoeddus, preifat a rhai a arweinir gan y gymuned. Edrych ar ardaloedd peilot ym Mlaen-y-maes, Clydach a Townhill;

Cynllun Cyllidebau Cymunedol Aelodau

·       Mae'r broses yn cael ei hadolygu, ond atgoffwyd cynghorwyr fod yn rhaid i geisiadau fynd yn syth at y swyddog enwebedig, sef Jayne Hunt, ac nid drwy adrannau unigol.

Cynghorwyr Hyrwyddwyr

·                 Eglurwyd bod Cynghorwyr Hyrwyddwyr yn darparu llais ar gyfer grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol, neu faterion y dylid parhau i roi blaenoriaeth iddynt ym musnes y cyngor.

Blaenoriaethau Aelodau'r Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol yn y dyfodol:

·                 Creu ymagwedd gwirioneddol gydweithredol â'n partneriaid i gyflawni'r nodau lles fel rhan o'r Cynllun Lles mewn ffordd gydlynol drwy ddarparu gwasanaethau yn ôl yr hyn y mae ei angen ar bobl Abertawe, neu'r hyn maent am ei gael. 

·                 Rhoi blaenoriaeth i'r amgylchedd naturiol oherwydd teimlwyd ei fod wedi'i esgeuluso.  Roedd tystiolaeth y gallai'r amgylchedd a mannau gwyrdd agored helpu i leihau cyfradd curiad y galon a phryder, gan olygu y byddai pobl yn llai tebygol o fod ag angen ymyriad meddygol. Roedd cyfraddau marwolaeth uwch na'r gyfradd sy'n gysylltiedig â smygu lle'r oedd llai o wyrddni a mwy o lygredd. 

·                 Er mwyn gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ym mhob adran a'i hystyried yn ystyrlon ym mhob adroddiad i'r Cabinet/cyngor.

·                 Bod y tîm craffu'n hefyd yn ystyried 'Atal' fel testun craffu yn y dyfodol o ystyried bod Strategaeth Atal newydd wedi'i chymeradwyo'n ddiweddar.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod(au) y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

127.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 119 KB

Datblygu ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Cynullydd y panel, cyflwynodd y Cynghorydd Jeff Jones adroddiad am gynnydd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

 

Roedd y panel wedi cwrdd ar dri achlysur ac fel panel newydd, mae wedi bod yn ceisio cael trosolwg o'r darlun datblygu ac adfywio yn Abertawe ac yn casglu gwybodaeth am brosiectau penodol.

 

Roedd y panel yn gobeithio cynnwys yr eitemau canlynol yn rhaglen waith y flwyddyn nesaf, gan ganolbwyntio ar:

 

·                 Barthau Menter a Pharciau Busnes Abertawe;

·                 Cynllunio a Llety i Fyfyrwyr;

·                 Bargen Ddinesig;

·                 Datblygiadau tai yn Abertawe;

·                 SA1.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

128.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

ddeddfwriaeth, y bydd cynrychiolydd o'r Eglwys yng Nghymru, sef Mr John Meredith, yn cael ei benodi i gymryd rhan yn y broses craffu ar addysg ac y byddai'n ymuno â'r pwyllgor ym mis Mai.  Byddai gwybodaeth ychwanegol ynghylch penodi Rhieni-lywodraethwyr yn cael ei darparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau canlynol:

 

1)              Ychwanegu'r Cynghorwyr Sam Pritchard a Will Thomas at y Panel Ymchwilio i'r Amgylchedd Naturiol;

2)              Ychwanegu'r Cynghorydd Hazel Morris at y Panel Perfformiad Ysgolion.

129.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad chwarterol drafft gan y pwyllgor am effaith craffu a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r cyngor.

 

Diben yr adroddiad oedd dangos cyflawniadau a chanlyniadau craffu a'r effaith a'r gwahaniaeth a wnaed.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr Adroddiadau Craffu drafft a'u cyflwyno i'r cyngor ar 26 Ebrill 2018.

130.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 136 KB

Trafodaeth ar:

a) Cynllun Gwaith Pwyllgor.

b) Cyfleoedd ar gyfer Craffu Cyn Penderfyniad.

c) Cynnydd gyda Phaneli Craffu a Gweithgorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad er mwyn adolygu cynnydd y rhaglen waith craffu gytunedig ar gyfer 2017/18.  Amlygwyd y byddai Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd yn bresennol yn sesiwn holi ac ateb nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu.  Anogwyd y pwyllgor i feddwl am gwestiynau posib ynghylch portffolio newydd y Cabinet.

 

Hysbysodd aelodau'r pwyllgor hefyd y byddai Gweithdy Gwella a Datblygu'n cael ei gynnal ar 3 Mai am 4.30pm i ystyried canfyddiadau o'r arolwg craffu blynyddol i gynghorwyr a chamau gweithredu posib mewn perthynas â phroses ac arfer yn y dyfodol.

 

Atgoffwyd aelodau hefyd na fyddai cyfarfod pwyllgor ychwanegol ar 16 Ebrill ar gyfer craffu cyn penderfynu gan na fyddai'r adroddiad buddiannau am yr ail gynllun Mwy o Gartrefi ym Mharc-yr-Helyg yn cael ei ystyried bellach yng nghyfarfod y Cabinet ar 19 Ebrill.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

131.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Sam Pritchard, Cynullydd, y diweddaraf i'r pwyllgor am y gwaith a wnaed gan y Gweithgor Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd.  Amlygodd y materion a godwyd yn y llythyr at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylchedd yn dilyn cyfarfod y Gweithgor ar 31 Ionawr 2018, a'r ymateb dilynol gan Aelod y Cabinet, dyddiedig 14 Mawrth 2018, i'r argymhellion a wnaed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard ei fod yn fodlon ar ymateb Aelod y Cabinet a'r camau gweithredu cytunedig.  Pwysleisiodd y Cynullydd farn y Gweithgor y gallai'r pwnc hwn, sydd o fudd i'r cyhoedd, fod yn destun mwy o waith manwl yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r llythyrau.

132.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. 

133.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 198 KB