Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

107.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

108.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

 

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

109.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

110.

Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Cynnydd ar Berfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. pdf eicon PDF 119 KB

Cwestiynau i Gyd-gadeiryddion:

·         Prif Uwch-arolygydd Martin Jones (Heddlu De Cymru)

·         Chris Sivers (Cyfarwyddwr – Pobl)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Uwch-arolygydd Martin Jones (Heddlu De Cymru) a Chris Sivers (Cyfarwyddwr Pobl) yn bresennol i roi adroddiad cynnydd am Berfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ac ateb cwestiynau. 

 

Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd a ddarparodd wybodaeth am y canlynol:

 

·                     Partneriaeth statudol:

o    Gweledigaeth y bartneriaeth

o    Pwrpas y bartneriaeth

·                     Penawdau

·                     Heriau presennol ac arfaethedig

·                     Blaenoriaethau strategol

·                     Gweithgareddau a llwyddiannau allweddol o ran:

o    Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)

o    Camddefnyddio sylweddau

o    Cymunedau diogel, cydlynus a chadarn

o    Economi gyda'r hwyr a chyda'r nos

o    Monitro troseddau casineb a thyndra cymunedol

·                     Effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth

·                     Ystadegau perfformiad a throseddau

·                     Heriau

 

Datblygwyd Strategaeth Abertawe Mwy Diogel a dywedon nhw fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth newydd wedi agor ym mis Chwefror 2018.

 

Blaenoriaethau'r strategaeth oedd:

 

·                    VAWDASV

·                    Camddefnyddio Sylweddau

·                    Cymunedau diogel, cydlynus a chadarn

·                    Economi gyda'r hwyr a chyda'r nos

·                    Monitro troseddau casineb a thyndra cymunedol

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Pobl sylw at y ffaith y gwnaed mwy o hyfforddiant ar y cyd mewn perthynas â VAWDASV a'i fod wedi bod yn effeithiol iawn.

 

Adroddodd y Prif Uwch-arolygydd fod marwolaethau a oedd yn ymwneud â chyffuriau yn destun pryder mawr gan fod Abertawe wedi'i chynnwys yn y 10 ardal â'r gyfradd uchaf o farwolaethau a oedd yn ymwneud â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr. Roedd gwaith wedi dechrau i ddeall y problemau yn lleol a datblygu cynllun gweithredu. Gallai hyn gynnwys mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau mewn modd gwahanol a cheisio cysylltu â sefydliadau'r trydydd sector ac ysgolion i nodi'r cymunedau hynny sydd mewn mwy o berygl. Roedd y Ganolfan Asesu Unigol yn gweithio'n dda, ond gellid gwella'r amser aros i dderbyn triniaeth yn dilyn yr asesiad.

 

Gwnaed gwaith gwych mewn perthynas â Chymunedau Diogel, Cydlynus a Chadarn, yn enwedig mewn perthynas â Noson Tân Gwyllt, Calan Gaeaf a'r Faner Borffor sy'n enghraifft o arfer da.

 

Sefydlwyd Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC) ym mis Chwefror 2018 ar gyfer pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd. Roedd yr ymagwedd hon yn llwyddiannus ar gyfer cam-drin domestig, ond mae'n ymagwedd newydd o ran pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd.

 

Datblygwyd Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb yn ogystal â chalendr o ddigwyddiadau i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (14 - 22 Hydref). Cafwyd ymateb gwych i'r digwyddiad diweddar yn y Cwadrant a'r ffordd yr oedd staff wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa. Datblygodd Heddlu De Cymru, ar y cyd â'i bartneriaid, ffurflen newydd i adrodd am dyndra a'i fonitro.

 

Roedd nifer y troseddau cyffredinol a gofnodwyd wedi cynyddu 7.9% yn 2017 ym mhob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ledled de Cymru o'i gymharu â 2016.

 

Cafwyd oddeutu 40% o gynnydd mewn achosion o drais yn ogystal â chynnydd mewn troseddau rhywiol. Roedd hyn o ganlyniad i ymwybyddiaeth well.

 

Penodwyd dau swyddog i reoli'r economi gyda'r nos yn Uplands.

 

Roedd gwaith sylweddol i'w wneud o hyd mewn perthynas â seibrdroseddau a cheisio trosglwyddo'r negeseuon allweddol mewn ffordd ddigyfaddawd.

 

Gofynnodd aelodau amrywiaeth o gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

 

·         Sut ymdrinnir â sylweddau seicoweithredol/gwefrau cyfreithlon

·         Posibilrwydd o wasanaethau i bobl ddiamddiffyn i sicrhau i gael ymagwedd amlasiantaeth/gyfunol at ymdrin ag iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau

·         Effeithiolrwydd cyfarfodydd PACT a ffyrdd eraill o gynnwys y gymuned

·         Argaeledd heddweision ac effeithiolrwydd plismona gyda llai o swyddogion ar y strydoedd

·         Ffyrdd o dorri'r cylch galw a mynd i'r afael â phroblemau craidd megis pobl sy'n ddiamddiffyn, er mwyn lleihau aildroseddu.

·         Blaenoriaethau mewn perthynas â menywod a phuteindra yn ogystal â phroblemau ynghylch y Stryd Fawr

·         Parhad heddweision lleol ac ymrwymiad tuag at feithrin perthnasoedd deuffordd ag aelodau ward

·         Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, e.e. beiciau oddi ar y ffordd

·         Effaith y boblogaeth gynyddol o fyfyrwyr a chysylltiadau Abertawe Mwy Diogel â'r prifysgolion

·         Cynyddu ymwybyddiaeth o achosion o dwyll a hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r we

·         Ffyrdd o gyrraedd pobl ddiamddiffyn mewn perygl o gael eu paratoi i bwrpas perthynas amhriodol

·         Plismona cymunedol yn ardal Uplands

·         Gorchmynion amddiffyn rhag priodas dan orfod

·         Anffurfio organau rhywiol merched - trefnwyd hyfforddiant mewn ysgolion, ond roedd yn rhaid ei ddarparu mewn ffordd sensitif

·         Digartrefedd - ystyried gwella'r cymorth a ddarperir yn ystod y dydd a'r hyn y gellid ei wneud yn wahanol

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Uwch-arolygydd Martin Jones a Chris Sivers am y cyflwyniad addysgiadol ac roedd yn edrych ymlaen at gwrdd eto i drafod perfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.