Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Nid oedd gan y cyhoedd unrhyw gwestiynau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr adroddiad am
benawdau allweddol ar gyfer y portffolio Diwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau
Mawr. Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - Dylan Thomas · Y buddion diwylliannol, twristiaeth ac economaidd i Abertawe · Posibilrwydd o ehangu Arddangosfa Dylan Thomas · Prydlesu'r ganolfan i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a llwyddiant y brydles honno · Creu llwybr Dylan Thomas · Hyrwyddo Dylan Thomas yn well, yn ogystal â phobl amlwg eraill o Abertawe megis John Dillwyn-Llewellyn ac aelodau eraill Grŵp y Kardomah. · Effaith cyni a thoriadau cyllidebol ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer y fath hyrwyddo Car Cebl Nenlinell a Phenderyn · Y camau nesaf - cytuno ar Benawdau'r Telerau · Goblygiadau Ariannol Dinas Diwylliant · Cost y cais/proffil uwch er gwaethaf methiant cais Dinas Diwylliant y DU 2021 · Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno'r rhaglen etifeddiaeth a ddatblygwyd fel rhan o'r cais · Gwersi a ddysgwyd o geisiadau aflwyddiannus blaenorol ac a ddylid cyflwyno mwy o geisiadau · Gŵyl Gerddoriaeth Y Penwythnos Mwyaf gan Radio 1 sydd ar ddod Opera Cenedlaethol Cymru · Diffyg ymddangosiadau yn Theatr y Grand neu leoliadau eraill yn Abertawe er gwaethaf 40% o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru Tîm Rheoliaeth Canol y Ddinas · Pryder ynghylch glendid canol y ddinas, yn enwedig o gwmpas Sgwâr y Castell a'r argraff/effaith ar fuddsoddwyr ac ymwelwyr ag Abertawe Prifysgolion · Cynigion am bentref chwaraeon rhyngwladol · Cysylltiadau cludiant rhwng dau gampws y Brifysgol Dinasoedd Gwyrddach · Enghraifft o weithgareddau sy'n cefnogi'r cyfrifoldeb portffolio hwn Caeau chwarae 3G · Mae'r cam cyntaf wedi'i gwblhau ym Mhenyrheol a Threforys · Byddai'r ail gam yn canolbwyntio ar dri safle sef Ysgol Gyfun/Canolfan Hamdden Gymunedol Cefn Hengoed, Ysgol Gyfun/Canolfan Chwaraeon Gymunedol Pentrehafod ac YGG Bryn Tawe/Canolfan Hamdden Gymunedol Penlan · Byddai mwy o gaeau chwarae 3G yn ddibynnol ar gytundeb â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. PDF 120 KB Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd (y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel Cynullydd y
panel, cyflwynodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams adroddiad am gynnydd Panel
Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Myfyriodd ar yr hanes ers
i'r gwasanaeth fod yn destun mesurau arbennig yn 2009, a'r daith wella.
Dywedodd fod y ffaith fod y Panel Perfformiad bellach yn cwrdd yn llai aml (bob
deufis) sy’n adlewyrchu’r gwelliant a gafwyd. Fodd bynnag, ychwanegodd bod mwy
o welliant i'w wneud ac y byddai'r panel yn parhau i fonitro cynnydd. Roedd yn falch
bod nifer o gynghorwyr newydd wedi ymuno â'r panel a'u bod wedi gwneud
cyfraniadau gwerthfawr. Tynnodd y Cynghorydd
Hood-Williams sylw'n arbennig at y ffaith fod y galw am fabwysiadwyr
yn llawer uwch na'r cyflenwad, a bod angen ymgyrch i gynyddu mabwysiadwyr yn genedlaethol. Gofynnwyd cwestiynau hefyd am
drefniadau craffu Bae'r Gorllewin. Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli craffu a gweithgorau. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau canlynol fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad: 1)
Tynnu
enwau'r Cynghorwyr Cyril Anderson a Will Thomas o'r Panel Perfformiad Datblygu
ac Adfywio. 2)
Tynnu
enw'r Cynghorydd Wendy Fitzgerald o'r Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2017/18. PDF 136 KB Trafodaeth ar y canlynol: a)
Cynllun gwaith y pwyllgor b)
Cyfleoedd am graffu cyn
penderfynu c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd y diweddaraf i'r pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/18. Amlygwyd y
byddai Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol yn bresennol yn sesiwn holi
ac ateb nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Anogwyd y pwyllgor i feddwl am
gwestiynau posib. Ynglŷn â'r drafodaeth am gynllun peilot adeiladu tai cyngor Mwy o
Gartrefi ym mis Tachwedd 2017, gofynnodd y Cadeirydd i'r pwyllgor gadarnhau ei
awydd am gyfarfod craffu cyn-penderfynu mewn perthynas â'r ail gynllun datblygu
ym Mharc yr Helyg, y disgwylir i adroddiad amdano fynd gerbron y Cabinet ar 19
Ebrill 2018. Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
diweddariad 2)
Trefnu
cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu i graffu cyn-penderfynu ar yr
adroddiad Cabinet sydd ar ddod, o'r enw 'Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi
Safle Parc yr Helyg' - o bosib ar 16 Ebrill 2018 am 3.00pm. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu. Roedd hyn yn cynnwys ymateb gan Aelod y
Cabinet dros Gymunedau Cryfach yn dilyn y sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd ar
11 Rhagfyr 2017. Nodwyd nad aed i'r afael yn ddigonol â chwestiwn mewn
perthynas â Chronfa Etifeddiaeth Cymunedau'n Gyntaf yn yr ymateb hwn. Cytunodd
y pwyllgor i ysgrifennu at Aelod y Cabinet i geisio mwy o ymateb ynghylch pa
fesurau perfformiad a threfniadau monitro oedd ar waith i fesur canlyniadau a
sicrhau y cafwyd gwerth am arian. Penderfynwyd y byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 124 KB Cofnodion: Nodwyd cynllun
gwaith y Pwyllgor Archwilio. Adroddodd y cadeirydd fod aelod newydd wedi'i
benodi ar y Pwyllgor Archwilio ac y byddai'r Pwyllgor Archwilio'n ethol
cadeirydd yn y cyfarfod nesaf. Dywedodd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor
Archwilio'n cael ei wahodd i fynd i gyfarfod yn y dyfodol i helpu i ddatblygu'r
berthynas rhwng y Pwyllgor Archwilio a'r panel craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. PDF 45 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|