Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

95.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

96.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

97.

Cofnodion. pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

98.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

99.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd. (Y Cynghorydd Mark Thomas) pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd anerchiad ar lafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet sylw at ehangder helaeth ei bortffolio. Nododd fod meysydd o'r fath yn bwysig iawn i'r cyhoedd ac yn aml dyma'r meysydd y gofynnir amdanynt fwyaf. Roedd yn dod yn fwyfwy heriol i fodloni disgwyliadau, yn enwedig o ystyried toriadau cyllidebol.   

 

Amlygodd Aelod y Cabinet y canlynol yn benodol: -

 

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

·         Amcangyfrifwyd bod gwerth £130 miliwn o waith cynnal a chadw priffyrdd yn aros i'w wneud.

·         Mae safle'r awdurdod o ran cyflwr ei brif ffyrdd wedi cwympo o'r ail safle y llynedd i'r pedwerydd safle eleni o'r 22 o gynghorau. Y prif reswm dros hyn oedd mwy o fuddsoddiad mewn llwybrau beicio a cherdded, a arweiniodd at lai o gyllid ar gyfer ffyrdd.

·         Er gwaethaf y pwysau, derbyniodd y gwasanaeth lawer o wobrau ac roedd hyn yn glod i’r staff.

·         Gobeithiwyd y byddem wedi sicrhau cyllid ychwanegol eleni. 

Gwastraff, Parciau a Glanhau

·         Cyfunwyd Gwastraff, Parciau a Glanhau yn un maes yn ddiweddar a ganiatawyd mwy o gyfleoedd i symud staff i feysydd hanfodol lle bo angen.

·         Cafwyd toriadau cyllidebol sylweddol ym maes Rheoli Gwastraff, ond roedd yn cyflawni targedau o hyd.

·         Cafwyd lleihad mewn perfformiad o ran y gyfradd ailgylchu a chompostio. Roedd hyn oherwydd newid yn y cyfyngiadau ar ailgylchu pren gan Cyfoeth Naturiol Cymru a fyddai'n effeithio ar bob awdurdod.

·         Roedd cyfran o'r cerbydlu yn y broses o gael ei disodli gan ddarparu cerbydlu mwy dibynadwy.

·         Cafodd y gwasanaeth rai cyflawniadau allweddol, yn enwedig o ran tipio anghyfreithlon.

Diogelu'r Cyhoedd

·         Rheolwyd yr adran Rheoli Adeiladau mewn cystadleuaeth â'r sector preifat. Cyflwynwyd lefelau uchel o wasanaethau a chyflawnodd y gwasanaeth ei holl dargedau allweddol.

·         Cyflawnodd Safonau Masnach ei holl dargedau allweddol a bu'n cynyddu ymwybyddiaeth o weithredoedd twyllodrus.

·         Darparodd Bwyd a Diogelwch wasanaeth da mewn cyfnod o doriadau cyllidebol a chyda llai o staff.

·         Roedd gan y Swyddfa Gofrestru a Phrofedigaeth staff hyfforddedig o safon o ran profedigaeth.

Llygredd a Rheoli Plâu ac Anifeiliaid

·         Roedd angen mwy o ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau a gynigir o ran rheoli plâu.

·         Roedd amser ymateb i gwynion yn dda iawn.

·         Yr angen i ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy wrth fynd ymlaen a fyddai hefyd yn diwallu anghenion y cyhoedd.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Tipio anghyfreithlon - anawsterau gyda thir preifat yn ogystal â materion diogelwch mewn rhai lleoliadau.

·         Rheolau mewn Safleoedd Amwynderau Dinesig e.e. mynediad i gerbydau ac a oes effaith ar dipio anghyfreithlon.

·         Y posibilrwydd o osod camerâu mewn safleoedd tipio anghyfreithlon hysbys.

·         Addasrwydd defnyddio Glycophosphate ar gyfer rheoli chwyn – trafododd Aelod y Cabinet gydbwyso adroddiadau ar rinweddau carsinogenig gydag Arweiniad yr UE yn ogystal â diffyg opsiynau eraill.

·         Pa fesurau a gymerir i ymdrin ag ardaloedd â lefelau uchel o lygredd aer yn awr y gellir eu nodi?

·         Angen edrych ar y modd y caiff tyllau yn y ffordd eu trwsio gan fod nifer sylweddol o dyllau yn y ffordd yn cael eu trwsio ac yna'n ailymddangos yn fuan wedyn.

·         Pa mor aml y caiff biniau baw cŵn eu gwagio – nododd Aelod y Cabinet yr ymgymerwyd ag adolygiad i nodi ardaloedd lle mae llawer o ddefnydd ac ardaloedd lle nad oes cymaint.

·         Diogelwch bwyd a safonau hylendid bwyd.

·         Problemau gyda pheiriannau maes parcio yn Langland a Caswell gyda chyfnodau hir pan nad yw'r peiriannau'n gweithio, a'r angen i roi pwysau ar y contractwyr sy'n darparu'r peiriannau i ddatrys y problemau a nodwyd. 

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.  

 

100.

Craffu Cyn Penderfynu: Trosglwyddo Gwaith Rheoli Rhandiroedd i Gymdeithasau Rheoli. pdf eicon PDF 108 KB

a)             Rôl y pwyllgor

b)            Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)             Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Eiddo yn bresennol er mwyn i'r pwyllgor ystyried Adroddiad y Cabinet - 'Trosglwyddo Gwaith Rheoli Rhandiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli'.

 

Amlygodd Aelod y Cabinet rai elfennau allweddol o'r adroddiad. Roedd gan Gyngor Abertawe 16 rhandir a oedd yn darparu 307 o leiniau. Nodwyd ym mharagraff 3 Adroddiad y Cabinet yr opsiynau arfaethedig ac Opsiwn 2 (ym mharagraff 3.2) oedd yr opsiwn a ffefrir.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Eiddo a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                     Rheolaeth breifat

·                     Cyfrifoldeb am yswiriant

·                     Cae'r Vetch – bwriad ar gyfer defnydd ar ôl y brydles bresennol

·                     Sefyllfa petai Cymdeithasau Rhandiroedd yn dod i ben

·                     Cyfansoddiad Cymdeithasau Rhandiroedd

·                     Taliadau am y lleiniau dan reolaeth y Cymdeithasau Rhandiroedd

·                     Hyd y rhestr aros bresennol am randiroedd

·                     Arolygon safle a graddfa'r gwaith gofynnol cyn trosglwyddo'r safleoedd i'r Cymdeithasau Rhandiroedd

·                     Y gofyniad i oruchwylio lleiniau clustnodi'n deg

·                     Amcangyfrif o'r costau a arbedir drwy ddilyn Opsiwn 2.

 

Penderfynwyd  -

1)            Y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu barn y pwyllgor, er mwyn i'r Cabinet ei hystyried;

2)            Y dylai Aelod y Cabinet ddarparu ffigurau cyfredol ar gyfer y rhestr aros am randiroedd yn ogystal ag amcangyfrif o'r costau a arbedir drwy ddilyn Opsiwn 2;

3)            Dylid cylchredeg Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor i'r holl gynghorwyr.

101.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. pdf eicon PDF 119 KB

Ysgolion (y Cynghorydd Mo Sykes, Cynullydd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd absenoldeb Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Mo Sykes, nodwyd y diweddaraf gan y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion.

 

102.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu.

 

Rhoddodd Arweinydd y Tîm Craffu y diweddaraf yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd, gan gynnwys y ffaith bod y Cynghorydd Sam Pritchard wedi gwirfoddoli i weithredu fel Cynullydd ar gyfer y Gweithgor Ynni Adnewyddadwy.

 

Penderfynwyd  -

1)            Ychwanegu'r Cynghorwyr Steve Gallagher, Peter Jones, Irene Mann, Sam Pritchard a Brigitte Rowlands i'r Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol;

2)            Penodi'r Cynghorydd Peter Jones yn Gynullydd y Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn lle'r Cynghorydd Susan Jones;

3)            Tynnu'r Cynghorwyr Oliver James ac Andrew Stevens o'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio;

4)            Tynnu'r Cynghorydd Oliver James o'r Panel Ymchwilio i Weithio Rhanbarthol;

5)            Ychwanegu'r Cynghorydd Lesley Walton i'r Panel Ymchwilio i'r Amgylchedd Naturiol; a

6)            Chymeradwyo aelodaeth y gweithgorau newydd fel a ganlyn: -

 

 

 

  Gweithgor Ynni Adnewyddadwy (11)

 

Cynghorwyr Llafur: 4

Louise Gibbard

Sam Pritchard (Cynullydd)

Peter Jones

Lesley Walton

 

Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol/Annibynnol: 4

Mike Day          

Kevin Griffiths

Wendy Fitzgerald

Mary Jones

 

Cynghorwyr Ceidwadol: 2

David Helliwell

Brigitte Rowlands

 

Cynghorwyr Uplands: 1

Irene Mann

 

 

 

Gweithgor Digartrefedd (16)

 

Cynghorwyr Llafur: 13

Mandy Evans

Erika Kirchner

Louise Gibbard

Alyson Pugh

Joe Hale

Sam Pritchard

Terry Hennegan

Mo Skyes

Oliver James

Gloria Tanner

Yvonne Jardine

Mike White

Elliot King

 

Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol/Annibynnol: 1

Peter Black (Cynullydd)

 

 

Cynghorydd y Ceidwadwyr: 2

Lyndon Jones

Linda Tyler-Lloyd

 

103.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 136 KB

Trafodaeth ar:

a) Gynllun gwaith y pwyllgor.

b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

c) Cynnydd â phaneli craffu a gweithgorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y diweddaraf i'r pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/18. Amlygwyd bod y cyfarfod nesaf yn Bwyllgor y Rhaglen Graffu arbennig ar 5 Mawrth 2018 ar gyfer Craffu ar Droseddu ac Anhrefn er mwyn canolbwyntio ar waith Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

 

Penderfynwyd nodi Rhaglen Waith Craffu 2017/18.

 

104.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu. Cafodd gohebiaeth gan Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles sy’n ymwneud â sesiwn holi ac ateb y pwyllgor ym mis Tachwedd a gohebiaeth gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd sy’n ymwneud â'r Gweithgor Taliadau Meysydd Parcio eu cynnwys.

 

Tynnwyd sylw at rai pwyntiau allweddol yn adran 3.3 yr adroddiad. Yn dilyn y sesiwn holi ac ateb gyda'r Cynghorydd Mark Child, nodwyd bod angen i'r pwyllgor ystyried sut caiff gwybodaeth am Gydlynu Ardaloedd Lleol ei rhaeadru, yn benodol, beth fyddai'n ddigonol i fodloni dyhead y pwyllgor am adborth rheolaidd am Gydlynu Ardaloedd Lleol? Awgrymwyd bod hyn yn cyd-fynd â gwaith Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion ac y dylai fwydo i mewn iddo. Gallai'r panel hwn gynnwys eitem gylchol yn ei gynllun gwaith i ystyried yr ymagwedd a'i heffeithiolrwydd.

 

O ran cynghorwyr unigol, cawsant eu hannog i feithrin perthynas waith dda â'u Cydlynydd Ardal Leol a sefydlu, os oes angen, ryw fath o gyswllt anffurfiol rheolaidd. 

 

Penderfynwyd  -

1)            nodi cynnwys yr adroddiad; ac

2)            y dylai Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion gymryd cyfrifoldeb am fater Cydlynu Ardaloedd Lleol.

105.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. Adroddodd y Cadeirydd hefyd y byddai Cadeirydd newydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod y cyngor ar 1 Mawrth 2018 a byddai'n cael ei wahodd i gyfarfod o Bwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol i helpu i ddatblygu'r berthynas rhwng archwilio a chraffu.

 

106.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Trosglwyddo Rheolaeth Rhandiroedd Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli pdf eicon PDF 50 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Trosglwyddo Rheolaeth Rhandiroedd Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli pdf eicon PDF 404 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 197 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 404 KB