Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

81.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

82.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

83.

Cofnodion. pdf eicon PDF 121 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

 

84.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

85.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (y Cynghorydd Rob Stewart) pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth anerchiad llafar i ddilyn yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw penodol at y canlynol: -

·                Adfywio'r ddinas

o  Canol Abertawe

o  Ffordd y Brenin

o  Sgwâr y Castell

o  Stryd Mariner

o  Nenlinell

·                Y Fargen Ddinesig

·                Cyllideb

·                Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Roedd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro'n bresennol hefyd i gynorthwyo'r sesiwn holi ac ateb.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau â'r Arweinydd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Argaeledd cynllun busnes ar gyfer yr arena a'r cytundeb â'r Ambassador Theatre Group

·                Natur gystadleuol yr arena a'r perfformwyr y bydd yr arena'n debygol o'u denu

·                Digonedd o westai i ddarparu ar gyfer ymwelwyr ychwanegol ag Abertawe

·                Y Fargen Ddinesig – Datblygu Cytundeb Gweithio ar y Cyd, a chyflwyno cynlluniau busnes er mwyn defnyddio cyllid

·                Ariannu/llywodraethu prosiectau trawsbynciol megis y Fenter Sgiliau a Doniau

·                Cyfranogaeth colegau/prifysgol a diwydiant yn y Fenter Sgiliau a Doniau

·                Y berthynas rhwng egwyddorion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a Chynllun Corfforaethol y cyngor – awgrym i gynnwys yr amgylchedd naturiol/bioamrywiaeth yn y Cynllun Corfforaethol er mwyn adlewyrchu cynllun 'Gweithio gyda Natur' y BGC

·                Gwaith Copr yr Hafod-Morfa – effaith ar y warws a Safle Parcio a Theithio Glandŵr

·                Morlyn Llanw – yn dal i aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU

·                Parc Busnes Felindre – effaith cyfleoedd datblygu ar sefyllfa barcio bresennol y safle

·                Panel Ariannu Allanol – cefnogaeth ar gyfer cyllid i Warchodfa Anifeiliaid Hillside

·                Cyfarfodydd craffu ar y gyllideb sydd i ddod

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

86.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 119 KB

Gwasanaethau i Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Cynullydd y Panel, cyflwynodd y Cynghorydd Peter Black adroddiad am gynnydd Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion. Aeth ati i fyfyrio ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd ers mis Awst a thynnu sylw at rai o'r prif broblemau/bryderon yn y Gwasanaethau i Oedolion, er enghraifft o ran gofal cartref, blocio gwelyau, dyrannu pecynnau gofal a gorwario'r gyllideb.

 

Crybwyllodd aelodau'r pwyllgor faterion penodol o ran Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a'r broses o werthuso'r rhain, Taliadau Uniongyrchol ac amlder taliadau/dulliau talu yn ogystal ag ailasesu anghenion gofal ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Black at gynllun gwaith y Panel a chytunodd i grybwyll y materion y tynnodd aelodau'r pwyllgor sylw atynt wrth swyddogion perthnasol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

87.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth o baneli a gweithgorau craffu. Ar ôl gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan gynghorwyr craffu i gyfranogi yn yr ymchwiliad i amgylchedd naturiol Abertawe, adroddwyd am yr aelodaeth arfaethedig i'r pwyllgor gytuno arni.

 

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth Panel Ymchwilio'r Amgylchedd Naturiol fel a ganlyn:

 

Cynghorwyr Llafur:

Louise Gibbard

Peter Jones (CYNULLYDD)

Yvonne Jardine

Hazel Morris

 

Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol/Annibynnol:

Wendy Fitzgerald

Jeff Jones

 

Cynghorydd y Ceidwadwyr:

Paxton Hood-Williams

 

 

Cynghorydd Uplands:

Irene Mann

 

 

88.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Effaith Chwarterol drafft Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 2017/18.

 

Bwriad yr adroddiad oedd dangos cyflawniadau a chanlyniadau craffu, a'r effaith a'r gwahaniaeth a wnaed.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor ar 25 Ionawr 2018.

 

89.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 138 KB

Trafodaeth ar:

a) Gynllun gwaith y pwyllgor.

b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

c) Cynnydd â phaneli craffu cyfredol a gweithgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y diweddaraf i'r pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/18. Tynnwyd sylw at y canlynol: -

 

·         Byddai'r Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, yn mynd i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer y sesiwn holi ac ateb. Gofynnwyd i'r pwyllgor ofyn cwestiynau posib.

·         Trefnwyd cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 5 Mawrth 2018 at ddibenion Craffu ar Droseddu ac Anrhefn. Byddai cyd-gadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel yn dod i drafod perfformiad y bartneriaeth.

·         Cyflwynwyd cais i ychwanegu'r Gwasanaeth Archifau at restr gweithgorau'r dyfodol yn y rhaglen waith.

 

Gan gyfeirio at Flaengynllun y Cabinet, cynigiodd y Cadeirydd hefyd gynnal craffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet am 'reoli rhandiroedd' sydd wedi'i drefnu ar gyfer cyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror.

 

Penderfynwyd:  -

1)            Ychwanegu adroddiad y Cabinet am 'reoli rhandiroedd' at agenda cyfarfod y pwyllgor ar gyfer 12 Chwefror;

2)            Ychwanegu'r Gwasanaeth Archifau at Raglen Waith Craffu fel gweithgor yn y dyfodol. 

 

90.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu. Cynhwyswyd gohebiaeth sy'n ymwneud â chraffu cyn penderfynu'r pwyllgor ar drefniadau prydles Stadiwm Liberty.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

91.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

 

92.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau

93.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 14 Adran 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

94.

Llythyrau craffu.

Llythyr oddi wrth y pwyllgor at/gan Aelod y Cabinet (trafodaeth ar ddymchwel hen adeilad Oceana – 11 Medi).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y llythyrau craffu ynghylch dymchwel adeilad Oceana.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ei gyfranogaeth yn y broses o ddymchwel yr adeilad a'r cyngor a ddarperir i'r cyngor. 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 63 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 124 KB