Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

70.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

 

 

 

71.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod Arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017 a chofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

72.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt within a 10 minute period

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

73.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach (y Cynghorydd Will Evans) pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Will Evans, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                     Y berthynas â'r trydydd sector (sector gwirfoddol) a'i gyfraniad at gefnogi blaenoriaethau portffolio

·                     Cyflwyniadau gan Gyngor ar Bopeth ar Gredyd Cynhwysol

·                     Ymateb a chyhoeddusrwydd ynghylch y digwyddiad 'Gyda'n Gilydd dros y Nadolig' a gynhelir yn Neuadd Brangwyn

·                     Diwedd Cymunedau'n Gyntaf a phontio

·                     Cronfa Waddol Cymunedau'n Gyntaf – pa ddangosyddion perfformiad fyddai ar waith i fesur yr amcanion/y canlyniadau

·                     Cyllid, cynaladwyedd a pharhad y gwaith a gyflwynir gan y sefydliad Ffydd mewn Teuluoedd

·                     Cyflwyno Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy

·                     Rhaglenni megis Gweithffyrdd+ a CAM NESA sy'n gweithio tuag at gynyddu cyflogadwyedd

·                     Nodi agweddau cadarnhaol ar Gymunedau'n Gyntaf er mwyn parhau â hwy dan y rhaglen newydd

·                     Cyflwyniad ar ymagwedd Abertawe’n Gweithio

·                     Rhandiroedd a phrosiectau mynediad i fwyd a thyfu

·                     Creu Menter Bwyd (cwmni budd cymunedol)

·                     Cyngor i gynghorwyr lleol ar gefnogaeth ar gyfer problemau cyffuriau/alcohol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor, gan gynnwys cais am ymateb i'r canlynol: -

1)    Sut mesurir canlyniadau/effeithiolrwydd y gwaith a wneir oherwydd y Gronfa Waddol;

2)    Faint o'r Gronfa Waddol a fyddai'n cael ei dyrannu i Ffydd mewn Teuluoedd ac ym mha ardaloedd y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio;

3)    A fydd adroddiadau gorffen/gwerthuso ar Gymunedau'n Gyntaf ar gael i'r cyhoedd; Ac

4)    A fydd cyfleusterau/cefnogaeth ar gael ar gyfer problemau o ran cyffuriau/alcohol.

 

74.

Rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Adolygiadau Comisiynu: Meysydd Gwasanaeth - y Diweddaraf ar ôl eu Rhoi ar Waith. pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy'n bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried yr adroddiad am 'Rhaglen Abertawe Gynaliadwy – Adolygiadau Comisiynu: Meysydd Gwasanaeth – Adolygiadau ar ôl eu Rhoi ar Waith'.

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy anerchiad llafar yn ogystal â’r adroddiad a ddarparwyd, a dynnodd sylw at ddiben adolygiadau comisiynu yn y rhaglen gyffredinol, y trefniadau llywodraethu sydd ar waith i fonitro gweithredu a'r effaith a gafwyd, y cyflawniadau, y gwersi a ddysgwyd a phwysigrwydd darparu sicrwydd i'r tîm craffu am gynnydd a chyflwyno gweithgareddau trawsnewid.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Dirprwy Arweinydd a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol:  -

 

·                     Sicrhau bod yr adolygiadau comisiynu'n darparu/arddangos gwerth am arian

·                     Yr angen am adolygiadau comisiynu i ddangos yr ystyrir barn/canfyddiadau'r cyhoedd am gyflwyno gwasanaethau a newidiadau posib yn ystod y broses adolygu

·                     Craffu posib ar benderfyniadau yn y dyfodol o ran gwasanaethau diwylliant a hamdden

·                     Llwyddiant yr Adolygiad Comisiynu Rheoli Gwastraff

·                     Adolygiad Comisiynu Parciau a Glanhau – y graddau roedd hyn yn ymwneud ag ystyried 'ffrindiau' grwpiau cymunedol

·                     Gwaith sy'n cael ei wneud wrth archwilio gweithio mewn partneriaeth ynghylch y Gerddi Botaneg

·                     Penderfyniadau a wnaed ynghylch y Gwasanaeth Archifau fel rhan o'r adolygiad o ddiwylliant a hamdden ac opsiynau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol

·                     Adolygiad Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru

·                     Gwersi a ddysgwyd drwy'r broses

·                     Arbedion a gafwyd hyd yn hyn ac arbedion rhagamcanol ar gyfer 2018/19 - nodwyd y gellir darparu mwy o fanylion ar yr arbedion ariannol yn adroddiadau'r dyfodol

·                     Camau nesaf – adolygiadau sydd ar ôl

 

Penderfynwyd nodi'r adborth gan y pwyllgor a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor yn rheolaidd (bob chwe mis) am roi camau gweithredu ar waith a chyflawniadau o ran adolygiadau comisiynu.

 

75.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 107 KB

a)         Service Improvement & Finance (Councillor Chris Holley,

           Convener).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cynghorydd Chris Holley am gynnydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid. Tynnodd sylw at y gwaith a wnaed gan y panel ynghyd â chyflawniadau/effaith y panel. Tynnodd sylw at gyllid a gweithgareddau monitro perfformiad y panel yn ogystal â'i waith wrth graffu cyn penderfynu ar adolygiadau comisiynu. Pwysleisiodd fod Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd yn enghraifft ardderchog o adolygiad comisiynu effeithiol.

 

Hefyd nodwyd Rhaglen Waith y Dyfodol, a fydd yn cynnwys ystyried Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant a chodi taliadau o ran priffyrdd a gwastraff.

 

Yna bu trafodaeth am Safonau'r Gymraeg, a ystyriwyd gan y panel ym mis Hydref, o ran canfyddiadau'r cyhoedd am y perfformiad yn ogystal â'r gallu i fodloni'r Safonau, a'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny, e.e. defnyddio technoleg i gefnogi a datblygu cyfieithu.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

76.

Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. pdf eicon PDF 102 KB

a)  Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cadeirydd am aelodaeth y Panel/Gweithgor Craffu.

 

Cafwyd anerchiad gan y Cynghorydd Peter Jones ar yr ymchwiliad arfaethedig a fydd yn canolbwyntio ar amgylchedd naturiol Abertawe. Tynnodd sylw'n benodol at yr angen i archwilio pa mor dda y mae'r cyngor wedi rheoli ei amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth o dan ddeddfwriaeth flaenorol, ynghyd â'r hyn y bydd ei angen i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol newydd.

 

Penderfynwyd: -

 

1)            Ychwanegu'r cynghorwyr Mike Durke, Oliver James, Peter Jones, Sam Pritchard a Brigitte Rowlands at y Gweithgor Ceffylau ar Dennyn sy'n cael ei ailgynnull; ac

2)            Y bydd y Cynghorydd Peter Jones yn cynnull yr ymchwiliad newydd ar amgylchedd naturiol Abertawe ac adroddir am yr aelodaeth arfaethedig yng nghyfarfod nesaf y Rhaglen Graffu.

 

77.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 135 KB

      Trafodaeth ar:

      a) Gynllun gwaith y pwyllgor

      b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

      c) Cynnydd o ran paneli craffu a gweithgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y diweddaraf i'r pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/18. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r Arweinydd yn dod i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer y sesiwn holi ac ateb, a gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor feddwl am gwestiynau.

 

Cynigiwyd creu gweithgor ar gyfer y Gwasanaethau Archifau a datganodd y Cadeirydd yr ystyrir hyn yn y cyfarfod nesaf ar gyfer ei gynnwys yn y rhaglen waith.

 

Roedd dyddiad ansicr wedi'i bennu ar gyfer cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar 26 Mawrth 2018 ar gyfer Craffu ar Droseddu ac Anhrefn.

 

Rhoddodd Arweinydd y Tîm Craffu wybod i'r pwyllgor y byddai Swyddfa Archwilio Cymru'n ystyried y trefniadau craffu yn Abertawe. Byddai Swyddfa Archwilio Cymru'n arsylwi ar o leiaf un cyfarfod pwyllgor yn ogystal â nifer o gyfarfodydd paneli. Mae'n debyg yr ymgymerir â gwaith maes ym mis Chwefror, a fyddai'n cynnwys cyfweld â rhai swyddogion ac aelodau. Bydd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ddiwedd yr adolygiad yn ogystal â seminar dysgu a rennir.

 

Penderfynwyd:   -

1)            Nodi'r diweddariad; ac

2)            Ystyried gweithgor newydd ar gyfer y Gwasanaeth Archifau yn y cyfarfod nesaf.

 

78.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu. Amlinellodd y Cadeirydd y pwyntiau allweddol o ohebiaeth ag Aelodau’r Cabinet, a amlygir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cytuno i gais y Gweithgor Cydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb am gyfarfod arall i ganolbwyntio ar gydlyniant cymunedol.

 

79.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

 

80.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

a)            11 Rhagfyr am 11am - Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio (Ystafell Bwyllgor, A, Neuadd y Ddinas)

b)            12 Rhagfyr am 9.00am - Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

c)            12 Rhagfyr am 4.00pm  – Panel Perfformiad Ysgolion (Ystafell Bwyllgor 3A)

ch)      13 Rhagfyr am 10.00am –  Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau

            Cyhoeddus (Ystafell Bwyllgor 5)

d)         18 Rhagfyr am 4.00pm - Panel Perfformiad Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

dd)      19 Rhagfyr am 3.30pm - Panel Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion        (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

 

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 60 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 164 KB