Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black – personol - Cofnod Rhif 63 - deiliad tocyn tymor ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

Y Cynghorydd M C Child – personol - Cofnod Rhif 60 - aelod o'r teulu'n derbyn gofal cymdeithasol gan Gyngor Abertawe.

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 63 - deiliad tocyn tymor ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

Y Cynghorydd W G Thomas – personol - Cofnod Rhif 63 - deiliad tocyn tymor ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

 

57.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

58.

Cofnodion: pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

59.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

60.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles (Y Cynghorydd Mark Child). pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                    Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol - roedd angen mwy o integreiddio ond roedd rhai meysydd fel Gofal Cartref yn gweithio'n dda. Roeddent yn aros am fwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a fydd yn amlinellu sut gallai'r adrannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithio gyda'i gilydd.

·                     Gofal Cartref - roedd anawsterau o ran recriwtio yn ogystal â mwy o dwf na'r disgwyl mewn galw. O ganlyniad, cafwyd peth oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty. Byddai mwy o waith yn cael ei wneud i adolygu gofynion gofal cartref.

·                     Recriwtio o ran swyddi gofal cartref - yr angen i wella statws swyddi gofal cartref. Roedd Gofal Cymdeithasol Cymru'n gwneud darn o waith yn y maes hwn i gael gwell cydnabyddiaeth a chymwysterau penodol.

·                     Safonau a phroses i roi blaenoriaeth i achosion lle na chaiff cleifion eu rhyddhau mewn modd amserol.

·                     Effaith deddfwriaeth ddiweddar (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015) ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.

·                     Rôl a chyllid Cydlynwyr Ardaloedd Lleol - roedd tystiolaeth yn awgrymu bod Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio'n dda, gydag asiantaethau allanol yn ariannu rhai swyddi hefyd.

·                     Mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc.

·                     Cynlluniau paratoi ar gyfer y gaeaf.

·                     Gorwario yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion - roedd cynlluniau i geisio lleihau'r gorwariant ond rhaid cydbwyso hyn â'r ansawdd a'r angen am y gwasanaeth a ddarperir er mwyn peidio  â rhoi defnyddwyr mewn perygl. Byddai Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion yn gofyn am gynllun adfer manwl.

 

Roedd dau gwestiwn arall am Ddechrau'n Deg a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi'u llunio, ond byddent yn cael eu nodi'n ysgrifenedig ar gyfer Aelod y Cabinet.

 

Penderfynwyd: -

1)    nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    dosbarthu'r gyfres gytunedig o safonau gyda PABM ynghylch rhyddhau o'r ysbyty/cynlluniau gofal, a'r broses blaenoriaethu achos i'r Pwyllgor;

3)    darparu rhestr o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol i'r pwyllgor; ac

4)    y dylai Cadeirydd y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan gyfleu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor yn ogystal ag amlinellu'r 2 gwestiwn ychwanegol er mwyn cael ymateb.    

61.

Craffu Cyn Penderfynu: Rôl y pwyllgor. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi'r adroddiad a rôl y pwyllgor.

62.

Craffu Cyn Penderfynu: Cynllun Peilot Mwy o Gartrefi ar safleoedd Ffordd Milford a Pharc yr Helyg (Adroddiad Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau). pdf eicon PDF 146 KB

a)        Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b)         Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau a'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn bresennol pan roedd y pwyllgor yn ystyried Adroddiad y Cabinet ar y 'Cynllun Mwy o Gartrefi - Safleoedd Ffordd Milford a Pharc yr Helyg'.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet sylw at y ffaith mai cam cyntaf oedd y cynllun peilot ac mae'r peth iawn oedd rhoi sylw i'r gwersi a ddysgwyd o'r cynllun. Byddai'r rhain wedyn yn cael eu hystyried wrth benderfynu pa opsiynau y dylid mynd ati i'w datblygu ym Mharc yr Helyg. Nodwyd mai'r argymhelliad oedd y dylid llunio adroddiad ychwanegol i drafod yr opsiynau ar gyfer Parc yr Helyg fel y gellir eu hystyried yn llawn.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                    Amseru'r adroddiad.

·                    P'un a roddwyd ystyriaeth lawn i gostau draenio cyn cymeradwyo datblygiad ar y safle, oherwydd roedd yn hysbys bod gan Ddŵr Cymru broblemau gyda datblygiadau a oedd yn draenio i Foryd Burry, ac roedd hyn wedi arwain at gostau sylweddol.

·                    Cynnal mwy o ymchwiliadau ar safleoedd yn y dyfodol fel rhan o'r gwersi a ddysgwyd.

·                    Costau Cynllun Peilot - ymddengys fod y rhain yn uchel o'u cymharu â datblygwyr preifat o gofio nad oedd unrhyw gost i gael tir.

·                    Pa mor briodol oedd cymharu costau â datblygwyr preifat. 

·                    Defnyddio gweithwyr y cyngor ar gyfer y cynllun peilot a'r meysydd yr oedd rhaid dod o hyd i ffynonellau allanol ar eu cyfer.

·                    Y bwlch mewn sgiliau masnach y mae'r cyngor yn ceisio'i gau. 

·                    Posibilrwydd dod o hyd i fwy o gynnyrch lleol ar gyfer cynlluniau'r dyfodol.

·                    Y gwahaniaeth rhwng safon Abertawe a Passiv Haus.

·                    Penderfyniad gosod rheiddiaduron yn y Cynllun Peilot.

 

Yn gyffredinol, nid oedd y pwyllgor yn pryderu ynghylch yr argymhelliad yn  adroddiad y cabinet, ond o ran gwaith y dyfodol, roeddent yn gofyn am: fwy o eglurder ynghylch gwaith/costau allanol o'r cychwyn cyntaf; mwy o ddefnydd o gyflenwyr lleol; ac eglurder ynghylch yr arbedion ariannol a oedd yn deillio o gartrefi ynni-effeithlon. Dangosodd y pwyllgor hefyd ei fod yn dymuno cynnal proses craffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet yn y dyfodol ar safle Parc yr Helyg.

 

Llongyfarchwyd Aelod y Cabinet, swyddogion a gweithwyr ar y safle ar y datblygiad Passiv Haus.

 

Penderfynwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu barn y Pwyllgor, er mwyn i'r Cabinet ei hystyried.

63.

Craffu Cyn Penderfynu: Stadiwm Liberty (Adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes). pdf eicon PDF 129 KB

a)        Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b)         Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Eiddo a Phennaeth Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau a Swyddog Adran 151 yn bresennol pan roedd y pwyllgor yn ystyried Adroddiad y Cabinet ar Stadiwm Liberty.

 

Crynhodd y Dirprwy Arweinydd bwyntiau allweddol yr adroddiad, gan amlygu'r cefndir i Stadiwm Liberty yn ogystal â'r cytundeb arfaethedig newydd. Roedd yr adroddiad yn crynhoi penawdau'r telerau a gynigiwyd, a'r tair prif agwedd oedd rhent, hawliau enwi a chaeau 3G.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Dirprwy Arweinydd a'r Swyddogion a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                     Gwnaed y cytundeb blaenorol dan amgylchiadau gwahanol.

·                     Os anfonir y tîm i lawr i adran is, ni chaiff rhai o'r buddion arfaethedig eu gwireddu.
 

·                     Cronfa ad-dalu i sicrhau cynnal a chadw ac atgyweirio - parhau â'r archwiliad annibynnol blynyddol.

·                     Ystyried rheolau ynghylch Cymorth Gwladol.

·                     Y buddion i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel rhan o'r cytundeb newydd.

 

Croesawodd y pwyllgor y cytundeb arfaethedig â'r Clwb Pêl-droed yn gyffredinol.

 

Penderfynwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Craffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu barn y Pwyllgor, er mwyn i'r Cabinet ei hystyried.

64.

Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am aelodaeth y panel craffu/gweithgorau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Jones, cynullydd y cyn-Weithgor Ceffylau ar Dennyn, am awdurdod i ailystyried y mater hwn.  Roedd yn deall bod materion yn codi o drafodaethau a gynhaliwyd rhwng Aelodau'r Cabinet a sefydliadau perthnasol yn dilyn y broses graffu wreiddiol. Byddai cyfarfod ychwanegol yn ddefnyddiol i gael gwybod am y sefyllfa bresennol.

 

Penderfynwyd: -

1)    Ychwanegu enw'r Cynghorydd Wendy Fitzgerald at y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

2)    Cytuno ar aelodaeth y Gweithgor Taliadau Meysydd Parcio a'r Gweithgor Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd.

3)    Trefnu un cyfarfod Gweithgor arall er mwyn ymateb i'r broblem ceffylau ar dennyn, a rhoddir blaenoriaeth i hyn dros y Gweithgor nesaf a nodwyd.

65.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 136 KB

Trafodaeth ar:

a)   Gynllun gwaith y pwyllgor.

b)   Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

c)   Cynnydd â phaneli craffu cyfredol a gweithgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y diweddaraf i'r pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/18. Tynnodd sylw at y brif eitem ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis Rhagfyr sef sesiwn holi ac ateb gyda'r Cynghorydd Will Evans, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach.

 

Penderfynwyd nodi'r Rhaglen Waith Craffu.

66.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

67.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

 

Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 9 Tachwedd 2017 i gyflwyno'r adroddiad Craffu Blynyddol ac i drafod y rhaglen waith craffu. Nododd hefyd fod Alan Thomas yn rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Roedd y pwyllgor am ddiolch i Alan Thomas am ei waith a'i gyfraniad fel cadeirydd.

 

Penderfynwyd: -

1)    Y dylid nodi'r cynllun gwaith; ac

2)    Y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Alan Thomas i ddiolch iddo am ei waith a'i gyfraniad fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio'  

68.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

a)     13 Tachwedd am 2.00pm - Panel Ymchwilio Gweithio Rhanbarthol (Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Ddinas)

b)     14 Tachwedd am 10.00am - Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

c)     14 Tachwedd am 4.00pm - Gweithgor Cydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

ch)   15 Tachwedd am 10.00am - Y Diweddaraf am Ymchwiliad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

d)     16 Tachwedd am 2.00pm - Panel Perfformiad Ysgolion (Ysgol Gyfun yr Olchfa)  

dd)   21 Tachwedd am 3.30pm - Panel Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

e)     28 Tachwedd am 4.00pm - Gweithgor Taliadau Meysydd Parcio (Ystafell Bwyllgor 6, Neuadd y Ddinas)

f)      1 Rhagfyr am 10.30am - Panel Ymchwilio Gweithio Rhanbarthol (Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Ddinas)

ff)     6 Rhagfyr am 10.30am - Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

g)     7 Rhagfyr am 10.00am - Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Cynllun Peilot Mwy o Gartrefi ar safleoedd Ffordd Milford a Pharc yr Helyg pdf eicon PDF 52 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 63 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Stadiwm Liberty pdf eicon PDF 50 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Stadiwm Liberty pdf eicon PDF 48 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 61 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 645 KB