Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

145.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

146.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

147.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n presennol neu i gadeirydd y pwyllgor ynglŷn â'r Rhaglen Waith Craffu.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

148.

Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Cynnydd ar Berfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Cwestiynau i'r cyd-gadeiryddion: pdf eicon PDF 82 KB

·         Y Prif Uwch-arolygydd Joe Ruddy (Heddlu De Cymru)

·         Chris Sivers (Cyfarwyddwr – Pobl)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Uwch-arolygydd Martin Jones (Heddlu De Cymru) a Chris Sivers (Cyfarwyddwr Pobl) yn bresennol i roi adroddiad cynnydd ar Berfformiad y Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel ac ateb cwestiynau.  Yn ddiweddar roedd y Prif Uwch-arolygydd Jones wedi llenwi lle’r Prif Uwch-arolygydd Joe Ruddy fel Comander Rhanbarthol ar gyfer ardal Abertawe.

Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd a oedd yn darparu gwybodaeth am y canlynol:

 

·       Cadeirio'r Bartneriaeth ac amlder cyfarfodydd:

·       Blaenoriaethau Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel a Gweithgareddau Allweddol 2016-17;

·       Adolygu Comisiynu Diogelwch Cymunedol;

·       Cynllun Gweithredu Cam-drin Domestig a'r Hwb;

·       Economi'r Hwyr a Chyda'r Nos;

·       Cais Baner Borffor;

·       Gwaith Prosiect Diogelwch Cymunedol;

·       Ystadegau Troseddau Amrywiol:

o   Troseddau a gofnodwyd;

o   Trais yn Erbyn y Person a Gorchymyn Cyhoeddus;

o   Troseddau Rhywiol;

o   Lladrata;

o   Troseddau Casineb;

o   Ymddygiad Gwrthgymdeithasol;

·       Sectorau sy’n Cofnodi'r Newid Mwyaf;

·       Camau Nesaf Datblygu'r Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

 

Nodwyd y ddwy brif thema a blaenoriaeth ar gyfer Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel fel a ganlyn:

 

·       Yr Economi gyda'r Hwyr a Chyda'r Nos; a

·       Cham-drin Domestig.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Pobl at yr Hwb Cam-drin Domestig, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet fel rhan o'r Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd.

 

Esboniodd fod cam-drin domestig hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd y prosiect yn ceisio datblygu un llwybr atgyfeirio integredig clir rhwng trais domestig yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), camddefnyddio sylweddau ac asiantaethau iechyd meddwl sy'n arwain at gefnogaeth briodol ac ymyriadau amserol ar gyfer y rhai hynny sy'n wynebu'r materion cyfredol hyn.  Rydym yn y broses o benodi Cydlynydd Atgyfeirio Cam-drin Domestig, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.

 

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd fod y ffigurau troseddu cenedlaethol yn gostwng.  Fodd bynnag, mae'r bartneriaeth yn delio â mwy a mwy o faterion diamddiffynnedd a materion ansawdd byw.

 

Yn gyffredinol roedd y troseddau a gofnodwyd wedi gostwng 23.1% ar draws Abertawe wrth gymharu 2015-2016 â 2008-2009.

 

Cafwyd tuedd ar i fyny mewn troseddau a gofnodwyd ers 2014-2015 oherwydd y cafwyd newid yn y prosesau cofnodi rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2014, lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion cyhoeddus bellach yn cael eu cofnodi fel troseddau.

 

Cafwyd cynnydd o 36.8% mewn trais heb droseddau sy'n peri anaf a chynnydd o 35.4% mewn troseddau gorchmynion cyhoeddus. Gan fod cyfathrebu maleisus bellach yn cael ei gofnodi fel trosedd dan y pennawd Trais heb Anaf, roedd y cynnydd hwn o ganlyniad i'r ail-gategoreiddio.

 

Cafwyd 13% o Drais yn erbyn Person ac 19% o Droseddau Gorchmynion Cyhoeddus ar Stryd y Gwynt, serch hynny dywedodd fod llawer iawn o waith yn parhau gan y Bartneriaeth er mwyn gwneud y cyhoedd yn fwy diogel.

 

Roedd lladrad o geir a byrgleriaeth wedi lleihau, ond roedd y risg a'r niwed wedi amlygu’i hun mewn ffyrdd eraill.

 

Y gyfradd ganlyniadau ar gyfer trais yn erbyn y person oedd 27.6%, gostyngiad ar y llynedd ac islaw cyfradd yr heddlu sef 31.1%, gan wneud De Cymru'n un o'r prif berfformwyr yn y wlad, nid yng Nghymru'n unig.

 

Oherwydd achosion proffil uchel megis achos "Jimmy Saville" ac achosion sy'n ymwneud â phêl-droedwyr, cafwyd cynnydd o 14.6% mewn achosion o droseddau rhywiol yr adroddwyd amdanynt.  Mae'r gyfradd gollfarnu yn y llys o ran achosion o drais rhywiol wedi cynyddu eleni i 70% o'i gymharu â 44% yn y flwyddyn flaenorol.

 

O ran troseddau casineb, cafwyd y newid mwyaf mewn troseddau hiliol a oedd wedi cynyddu 22 trosedd.  Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd y gallai'r ffigur adrodd fod yn uwch gan y credai nad oedd pobl yn adrodd am droseddau a ailadroddir.

 

Roedd troseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng yn Nhreforys ond wedi cynyddu yn wardiau Cwmbwrla a'r Castell.

 

Cafwyd y newidiadau mwyaf mewn troseddau a gofnodwyd yn Nhreforys, Eastside a Townhill.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Pobl ei bod yn edrych ymlaen at ailfywiogi gwaith y bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel.  Byddai heriau'r dyfodol yn cynnwys:

 

·       Cam-drin Domestig

·       Camddefnyddio Sylweddau

·       Yr Economi gyda'r hwyr a chyda'r nos

·       Troseddau Casineb

 

Gofynnodd aelodau amrywiaeth o gwestiynau a oedd yn ymwneud â'r pynciau canlynol:

 

·       Cynnydd mewn troseddau rhywiol a thrais yn erbyn y person - a oedd y rhai a oedd yn cyflawni'r drosedd yn teimlo y byddent yn cael eu dal/cosbi;

·       Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant - angen mwy o ymwybyddiaeth a gwyliadwriaeth; a oedd hyfforddiant diogelu ar gyfer gyrwyr tacsis, fel a wneir mewn awdurdodau eraill, fel amod o roi trwydded;

·       Addysg i blant yn yr ysgol o ran camfanteisio'n rhywiol ar blant/cyfryngau cymdeithasol/seibrfwlio yn ogystal â chynnwys y gymuned gyfan wrth gynyddu ymwybyddiaeth o nodi materion yn eu hardal leol er mwyn amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn; i ba raddau y mae Heddlu'n gweithio gydag ysgolion ynghylch diogelwch ar-lein ac atal etc;

·       Pobl ifanc ddiamddiffyn a'r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael drwy'r sefydliadau partneriaeth amrywiol - ceir perygl y gall anghenion unigol y plant (sy'n aml yn gymhleth) gael eu colli yn y system sy'n gallu cynnwys yr Heddlu, Gwasanaethau i Blant ac Iechyd;

·       Sut i roi stop ar y cylch diamddiffynnedd sy'n arwain pobl i'r system cyfiawnder troseddol; astudiaethau profiad plentyndod andwyol (effaith ar ymddygiad oedolion);

·       Camddefnyddio sylweddau - effaith deddfwriaeth ddiweddar sy'n gwahardd sylweddau seicoweithredol; cysylltiadau ag iechyd meddwl; diffyg mynediad y tu allan i oriau i'r gwasanaethau iechyd meddwl;

·       Adolygiad Comisiynu Cefnogi Teuluoedd a chynigion ar gyfer un porth ar gyfer plant dan 11 oed a thros 11 oed;

·       Oedolion diamddiffyn yn cael eu targedu yn y gweithredoedd twyllodrus amrywiol gan gynnwys y rhai ar-lein; mynd i'r afael â'r her o ddiogelu'r boblogaeth sy'n heneiddio rhag cael eu twyllo i roi eu harian;

·       Ymgyrchoedd i atgoffa'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus drwy gloi ceir/drysau gartref, hyd yn oed os ydynt yn teimlo eu bod yn byw/gweithio mewn ardal "ddiogel";

·       Canfyddiadau o'r ymchwiliad craffu diweddar ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS) - gan sicrhau bod y gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a CAHMS yn cael eu cynnwys yn y porth ar gyfer cymorth i deuluoedd (fel rhan o gynigion Adolygu Comisiynu Cymorth i Deuluoedd).

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Prif Uwch-arolygydd Martin Jones a Chris Sivers am y cyflwyniad addysgiadol ac roedd yn edrych ymlaen at dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf cyn bo hir.

149.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 64 KB

(a) Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd ar ran y Cynghorydd Uta Clay, Cynullydd a'r Cynghorydd Peter Black, Cynullydd Dros Dro, at yr adroddiad a nodwyd ym mhecyn yr agenda o ran y gwaith a wnaed gan y Panel Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion.

 

CYTUNWYD i gofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

150.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad effaith chwarterol. pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd ddrafft o'r adroddiad chwarterol gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu i'r Cyngor ar effaith craffu, a oedd yn cynnwys stori ar adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi sydd wedi'i gwblhau, a bydd hwn yn cael ei adrodd i'r Cabinet ar 16 Mawrth 2017 a sut mae'r Panel Ymchwiliad Cynhwysiad Addysg a’r Panel Ymchwiliad Gofal Cymdeithasol Gartref wedi gwneud gwahaniaeth.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor ar 23 Mawrth 2017.

151.

Rhaglen Waith Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 110 KB

Trafodaeth ar y canlynol:

(a)  Cynllun gwaith y pwyllgor.

(b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu.

(c) Cynnydd â'r paneli craffu a'r gweithgorau cyfredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2016/2017.

 

Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor:

 

·       Y Rhaglen Waith Craffu bresennol;

·       Cynllun ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y dyfodol;

·       Adroddiad cynnydd a chynllun ar gyfer y paneli a'r gweithgorau presennol amrywiol.

 

Pwysleisiodd y cadeirydd fod yr agenda'n drwm ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 13 Mawrth 2017, a gofynnodd yn arbennig i aelodau'r pwyllgor adolygu adroddiadau'r cabinet sy'n destun craffu cyn penderfynu a nodi unrhyw faterion neu bryderon, ac unrhyw gwestiynau y maent am eu gofyn ynghylch yr eitem sy'n cael ei heithrio ar adeilad Oceana.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

152.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddiweddariadau i adrodd amdanynt.

153.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 80 KB

 

Gweithgaredd

Dyddiad y Cyfarfod

 Gohebiaeth

 

a

Panel Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion (Camau Dilynol i'r Ymchwiliad i Ofal Cymdeithasol yn y Cartref)

14 Rhagfyr

Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn

b

Gweithgor Cynllunio

1 Chwef.

Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y cadeirydd am gofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

PENDERFYNWYD nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu a'r wybodaeth ddiweddaraf.

154.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar.

155.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau craffu ar ddod i adrodd amdanynt.

156.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2016/2017.

157.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17.

 

 

 

 

13 Mawrth 2017

(4.00 pm)

10 Ebrill 2017

(4.30 pm)

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

158.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Craffu Cyn Penderfynu

14 Maw.

12.30 pm

Ystafell Bwyllgor 3B (NDd)

Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

Panel Perfformiad

15 Mawrth

10.00am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Ysgolion

Panel Perfformiad

16 Maw.

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 4 (NDd)

 

Pa mor barod yw plant i fynd i'r ysgol

Panel Ymchwilio

20 Maw.

4.00pm

Ystafell Gyfarfod 235 (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel Perfformiad

22 Mawrth

10.00am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

3 Ebrill

10.00am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Gwasanaethau i Oedolion

Panel Perfformiad

5 Ebrill

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 3B (NDd)

Ysgolion

Panel Perfformiad

6 Ebrill

4.00pm

Ystafell Gyfarfod 235 (NDd)

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth.