Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

72.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

73.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

74.

Cofnodion: pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2016 fel cofnod cywir.

 

75.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

76.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, (Y Cynghorydd Robert Francis-Davies). pdf eicon PDF 96 KB

(a) Portffolio Holi ac Ateb.

(b) Cadw Coed - Y diweddaraf ar gamau gweithredu yn dilyn Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd R Francis-Davies anerchiad agoriadol byr am ei bortffolio cabinet cyn derbyn cwestiynau gan y pwyllgor a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Canol y Ddinas

·       Canolfan Ddinesig

·       Dinas-ranbarth/Bargen Ddinesig

·       Canolfannau Maestrefol

·       Diwylliant (Celfyddydau)

·       Cefnogi NEETS

·       Addysg Menter

·       Prifysgolion

·       Cyllid Ewropeaidd ac Allanol

·       Cadw Coed

·       Cynllunio

 

Roedd y sesiwn yn cynnwys camau dilynol ar waith y Gweithgor Craffu Cadw Coed, a oedd wedi gwneud nifer o argymhellion i Aelod y Cabinet. Cyflwynwyd adroddiad cynnydd ysgrifenedig i'r pwyllgor gan Aelod y Cabinet. Roedd y Cynghorydd D W Cole, Cynullydd y gweithgor, yn bresennol i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. Roedd y Cynghorydd yn fodlon ar y cynnydd a wnaed, gan annog hynny a chanmol ymdrechion Tîm Tirlunio'r cyngor. Roedd y pwyllgor yn croesawu datblygu polisi coed, a fyddai ymysg pethau eraill yn cynnwys ailblannu coed ar dir y cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Francis-Davies yn croesawu'r gwaith craffu hwn, gan sicrhau'r pwyllgor bod y canfyddiadau wedi'u hystyried yn llawn. Nododd y pwyllgor fod rhai argymhellion ar waith o hyd; ymysg y rhain, cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod goblygiadau gosod Gorchmynion Cadw Coed ar dir y cyngor cyn ei werthu'n cael eu trafod. Roedd pryder ymhlith cynghorwyr bod llawer o goed wedi'u colli drwy werthu tir y cyngor oherwydd y methiant i warchod coed.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet am ei sylwadau a'i arsylwadau.

 

PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan gyfleu manylion y drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

 

 

77.

Bwletin Blynyddol ar Berfformiad Llywodraeth Leol 2015-16. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad perfformiad cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, a fyddai'n ddefnyddiol wrth gefnogi a llywio gwaith craffu yn Abertawe.

 

Cyfeiriodd at berfformiad yr awdurdod o ran Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, a fyddai'n parhau i gael ei fonitro gan y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid.

78.

Cynllun Gwaith ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio (bydd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Alan Thomas, yn bresennol). pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Mr Alan Thomas, gynllun gwaith ac adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio ac roedd yn bresennol i gefnogi'r broses o ddatblygu'r berthynas rhwng y Tîm Craffu a'r Pwyllgor Archwilio a chydlynu cynlluniau gwaith.

 

Amlinellwyd mai diben y drafodaeth oedd sicrhau cydymwybyddiaeth, osgoi dyblygu a sicrhau na fydd bylchau'n ymddangos yn y cynlluniau gwaith.

 

Tynnodd sylw at y ffaith fod y Pwyllgor Archwilio'n ymdrin â chael sicrwydd o ran materion ariannol y cyngor, yn enwedig rheoli risg, rheoli mewnol, trefniadau llywodraethu corfforaethol cyffredinol a datganiadau ariannol. Yn ogystal, roedd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn monitro trefniadau archwilio mewnol ac allanol y cyngor.

 

Nododd enghreifftiau lle’r oedd gwaith y Pwyllgor Archwilio a Chraffu wedi cyd-fynd â'i gilydd, gyda llywodraethu ysgolion a materion cynllunio'n cael eu hymchwilio a'u harchwilio.  Roedd Mr Thomas yn glir am wahanol rolau gan sôn am swyddogaeth craffu i ystyried materion yn fanwl.

 

Cyfeiriodd at y gwiriad iechyd diweddar a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a chyflwyniad blaenorol a ddarparwyd ganddynt a oedd yn amlinellu rôl y Pwyllgor Archwilio. Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan Swyddfa Archwilio Cymru o ran y gwaith roedd wedi'i wneud i wella gwasanaethau, ond cydnabuwyd bod angen gwella llawer o feysydd o hyd. Roedd y pwyllgor yn cymharu'n ffafriol â phwyllgorau archwilio eraill ar draws Cymru.

 

Byddai'r Pwyllgor Archwilio'n archwilio nifer o bartneriaethau ac achosion o gydweithredu'n lleol, yn enwedig eu llywodraethu effeithiol, eu hallbwn a'u gwerth am arian.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, a ymatebodd yn briodol. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·       Arferion llywodraethu da mewn ysgolion;

·       Archwiliadau ysgolion, cronfeydd wrth gefn a gedwir gan ysgolion yn Abertawe, gwaith ymgynghorwyr herio, yr adolygiad sydd ar ddod o faterion gyda'r Prif Swyddog Addysg;

·       Y pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran ysgolion a chanddynt gronfeydd wrth gefn sylweddol;

·       Mewnbwn Swyddfa Archwilio Cymru ar waith y Pwyllgor Archwilio a'r berthynas gadarnhaol sy'n cael ei meithrin ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Dosbarthu cyflwyniad Swyddfa Archwilio Cymru o ran rôl y Pwyllgor Archwilio i'r pwyllgor.

 

 

79.

Rhaglen Waith Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17.

 

Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor:

 

·       Y Rhaglen Waith Craffu bresennol;

·       Cynllun ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y dyfodol;

·       Adroddiad cynnydd am y paneli a'r gweithgorau presennol amrywiol; a

·       Blaengynllun y Cabinet ar gyfer cyfleoedd i graffu cyn penderfynu.

 

Cyfeiriodd at adolygiadau comisiynu Priffyrdd a Chludiant a Pharciau a Glanhau a ddisgwylir ym mis Rhagfyr 2016, a fyddai'n destun craffu cyn penderfynu.

 

Ychwanegwyd bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu ar gyfer y Gweithgor Craffu HMO newydd a byddai manylion yn cael eu dosbarthu maes o law.

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, siom nad oedd ei banel wedi trafod adroddiad y gofynnwyd amdano ar Ffïoedd a Thaliadau, a ddisgwyliwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2016. Cynigiodd y Cadeirydd anfon llythyr ymlaen at yr Arweinydd/Prif Weithredwr ar ran y panel i dynnu sylw at y mater hwn a phryder y panel.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Craffu wybod i'r pwyllgor fod Mrs Beverley Phillips, Pennaeth Ysgol Gynradd Blaenymaes, wedi'i chyfethol i'r Panel Trechu Tlodi.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Anfon llythyrau ymlaen at yr Arweinydd/Prif Weithredwr fel a amlinellir uchod. 

 

80.

Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i aelodaeth y Paneli/Gweithgor Craffu.

 

Amlinellwyd diwygiad i aelodaeth bresennol y Paneli/Gweithgor Craffu o ran:

 

·       Y Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi – dileu enw'r Cynghorydd A J Jones

 

Nodwyd aelodaeth y Gweithgor Craffu newydd i ystyried Tai Amlfeddiannaeth, ar ôl mynegiannau o ddiddordeb, fel a ganlyn:

 

Cynghorwyr Llafur: 5

 

S E Crouch

H MMorris

N Davies

T J Hennegan

T M White

 

 

Cynghorwyr Democratiaid Rhyddfrydol: 3

 

Mary Jones (cynullydd)

L G Thomas

T H Rees

 

 

Cynghorwyr Annibynnol: 3

 

D W Cole

K E Marsh

E W Fitzgerald

 

 

Cynghorydd y Ceidwadwyr: 1

 

A C S Colburn

 

 

Cynghorydd Amhleidiol: 1

 

P N May

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r uchod.

 

81.

Llythyrau'r Tîm Craffu. pdf eicon PDF 77 KB

 

Gweithgaredd

Dyddiad y Cyfarfod

 Gohebiaeth

 

a

Pwyllgor (Sesiwn Holi Aelod y Cabinet)

8 Awst

Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd gofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

82.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar.

83.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau craffu ar ddod.

84.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).

17 Hydref 2016 (arbennig)

9 Ionawr 2017

13 Mawrth 2017

14 Tachwedd 2016

13 Chwefror 2017

10 Ebrill 2017

12 Rhagfyr 2016

 

 

 

Cofnodion:

NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r pwyllgor fod y Pwyllgor Arbennig a drefnwyd ar gyfer 17 Hydref 2016 wedi'i ganslo oherwydd bod yr adroddiad am Sgwâr y Castell, a oedd i fod yn destun craffu cyn penderfynu, wedi'i dynnu yn ôl o'r Cabinet ar 20 Hydref 2016.

85.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Pa mor barod yw plant i dechrau'r ysgol

Gweithgor cyn Ymchwiliad

11 Hydref

4.00pm

Ystafell 235 (NDd)

Cynllunio

Gweithgor

12 Hydref

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Trechu tlodi

Panel Ymchwilio

13 Hydref

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel Perfformiad

17 Hydref

9.30am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Cynllunio

Gweithgor

19 Hydref

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Ysgolion

Panel Perfformiad

19 Hydref

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Gwasanaethau i Oedolion

Panel Perfformiad

25 Hydref

9.00am

Ystafell Bwyllgor 1 (CDd)

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel Perfformiad

26 Hydref

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

31 Hydref

10.00 am

 

Ystafell Bwyllgor 3A (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

9 Tachwedd

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

 

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, 'er gwybodaeth’.