Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

170.

DERBYN DATGELIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL A RHAGFARNOL.

Cofnodion:

Yn unol â'r cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

171.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

172.

Cofnodion. pdf eicon PDF 30 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

173.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

10 munud ar gyfer gofyn cwestiynau i Aelodau’r Cabinet sy’n bresennol neu Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch y rhaglen waith craffu.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

174.

ADRODDIAD YR YMCHWILIAD CRAFFU TERFYNOL: PA MOR BAROD YW PLANT I DDECHRAU'R YSGOL. pdf eicon PDF 11 KB

(Y Cynghorydd Hazel Morris, cynullydd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hazel Morris, y Cynullydd, yr adroddiad terfynol ynghylch y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas â'r Panel Ymchwilio Pa mor Barod yw Plant i Ddechrau'r Ysgol. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar 'Sut gellir gwella pa mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol yn Abertawe?' Amlygwyd y prif bwyntiau canlynol: - 

 

·      Nid oedd fawr o gonsensws o ran yr hyn y mae 'pa mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol' yn ei olygu.

·      Mae sawl menter ragorol mewn ardaloedd targed diffiniedig, megis Dechrau'n Deg, sydd wedi cael effaith fawr ar ba mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol.

·      Mae yna blant a theuluoedd y mae angen gwasanaethau arnynt, megis Dechrau'n Deg, ond maent yn byw y tu allan i'r ardaloedd targed diffiniedig;

·      Amlygodd ymchwil y byddai buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn arwain at yr angen i wario llai ar wasanaethau yn hwyrach mewn bywyd.

·      Yr angen i gefnogi ac ehangu mentrau blynyddoedd cynnar yn barhaus;

·      Un prif fater a amlygwyd oedd a yw ysgolion yn 'barod i dderbyn plant' a bydd angen gosod mwy o heriau mewn ysgolion fel eu bod yn 'ysgolion sy'n barod i dderbyn plant';

·      Pwysigrwydd cadw'r Blynyddoedd Cynnar yn uchel ar yr agenda.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y gallu i ddefnyddio Grantiau Amddifadedd Disgyblion ar draws y clystyrau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd, aelodau'r panel a'r Swyddog Craffu am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet am benderfyniad.

 

175.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 65 KB

(a) Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Y Cynghorydd Mary Jones, cynullydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd adroddiad cynnydd ar Banel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Amlygodd y canlynol: -

 

·         Ers y diweddariad diweddaraf i'r pwyllgor ym mis Tachwedd, cynhaliwyd pedwar cyfarfod panel

·         Trafodwyd blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Darparodd aelodau'r panel eu sylwadau ar ddrafft yr Asesiad Lles fel pwyllgor statudol. Roedd nifer o sylwadau roedd y panel am iddynt gael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.

·         Cynhaliwyd nifer o sesiynau holi ac ateb gydag aelodau Grŵp Craidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys y cyngor, Bwrdd Iechyd PABM, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu De Cymru a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe.

·         Trefnwyd cyfarfod olaf y panel, y flwyddyn ddinesig hon, ar gyfer 12 Ebrill 2017 am sesiwn holi ac ateb gyda chynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ach Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

·         Roedd y panel yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda barn, materion ac argymhellion yn dilyn y sesiynau holi ac ateb gydag aelodau Grŵp Craidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
 

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

176.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 81 KB

(a) Gweithgor Tai Aml-feddiannaeth – 12 Ionawr

(b) Pwyllgor (Sesiwn Holi Aelod y Cabinet) – 13 Chwefror

(c) Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol – 1 Mawrth

(ch) Gweithgor Cynhwysiad Digidol – 6 Mawrth

(d) Pwyllgor (craffu cyn penderfynu) – 13 Mawrth

(e) Pwyllgor (Sesiwn Holi Aelod y Cabinet) – 13 Mawrth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y cadeirydd am gofnod llythyrau'r Tîm Craffu. Amlygodd y canlynol: -

 

·         Yr amser a gymerir i dderbyn ymateb i rai llythyrau.

·         Canfyddiadau'r Gweithgor Craffu Tai Amlfeddiannaeth

·         Amlygodd lythyr a ysgrifennwyd gan Weithgor Craffu Cynhwysiad Digidol brif fater o ran yr iaith a ddefnyddir mewn cynhwysiad digidol. Cytunodd â'r Gweithgor fod angen i'r cyngor 'sicrhau bod gan bobl y gallu i gyfathrebu drwy sianeli nad ydynt yn ddigidol lle y bo angen, ac ni ddylent fod yn 'addysgu' pobl, nac yn dweud wrth bobl yr hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud, ond yn hytrach, fod angen iddynt weithio gyda phobl a chynnig opsiynau.' 

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

177.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL Y RHAGLEN WAITH CRAFFU 2016/17 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adolygiad o'r Rhaglen Waith Blynyddol ar gyfer 2016/17. Nododd hefyd ei bod wedi mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol Craffu 2015/16. Adroddodd fod y Pwyllgor Archwilio wedi cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a'r gwaith a wnaed.

 

Amlygodd y Cydlynydd Craffu fod yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r gwaith a gwblhawyd drwy gydol y flwyddyn yn ogystal ag ychydig o ddata perfformiad a chanlyniadau'r arolwg craffu blynyddol. Gan mai dyma oedd y cyfarfod craffu olaf ar gyfer y flwyddyn ddinesig, nododd ei fod yn amser delfrydol i fyfyrio ar y profiad craffu wrth ystyried y cwestiynau canlynol: -

 

·         Beth sydd wedi gweithio'n arbennig o dda?

·         Beth nad oedd wedi gweithio cystal?

·         A oedd y rhaglen waith craffu wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

·         Beth fyddai'n help i wneud craffu yn well?

 

Cafwyd trafodaeth wedi hyn a oedd yn ymwneud â'r cwestiynau a ofynnwyd a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Mae craffu ar adolygiadau comisiynu wedi bod yn gam ymlaen cadarnhaol iawn, ond gellir gwella hyn drwy gael mwy o amser i graffu ar adroddiadau pwysig y cabinet.

·         Cymeradwywyd y Tîm Craffu am eu gwaith, eu cyngor a'u cefnogaeth.

·         Yr angen i sicrhau bod gwaith craffu'r dyfodol yn canolbwyntio ar bynciau strategol i gael yr effaith fwyaf, a threulio llai o amser ar bynciau penodol iawn a llai diddorol.

·         Y berthynas â'r Cabinet ac aelodau'r Cabinet o ran adroddiadau ymchwilio ac ymatebion i'r argymhellion. Roedd peth pryder ynglŷn ag a yw'r adroddiadau a'r argymhellion, y mae llawer o amser wedi'i fuddsoddi ynddynt, wedi'u deall yn llawn ac yn cael ystyriaeth deg.

·         Yr angen am fwy o gynghorwyr i fod yn rhan o graffu.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Tîm Craffu am ei waith arbennig, yn ogystal â'r holl gynghorwyr a oedd wedi ymwneud â chraffu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'r sylwadau.