Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||
---|---|---|---|---|
Derbyn Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn
unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2017 fel cofnod cywir. |
||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cyfnod 10
munud ar gyfer Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet sy'n bresennol neu i Gadeirydd y
Pwyllgor ynglŷn â Rhaglen Waith Craffu. Cofnodion: Clywodd y pwyllgor
gan Mr East a ofynnodd gwestiynau am y canlynol: - ·
Eitem
6 – Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: - A oedd y cyngor yn derbyn unrhyw rent gan y Prif Lesddeiliad ar gyfer hen uned British Home
Stores (BHS) - A oedd swyddogion mewnol neu ymgynghorwyr yn cael eu defnyddio i
brisio asedau cyn eu gwerthu ac a oedd y cyhoedd yn cael gwerth am arian ·
Eitem
8 – Craffu cyn penderfynu ar yr adroddiad am Sgwâr y Castell: - Pa ystyriaeth oedd yn cael ei rhoi i golli'r ddarpariaeth barcio
ger Eglwys y Santes Fair fel rhan o'r gwaith
arfaethedig i integreiddio Sgwâr y Castell â Sgwâr y Santes Fair,
fel a ddangosir yn yr Atodiad, ac a oedd trafodaeth wedi bod â'r eglwys am
gynlluniau datblygu ·
Eitem
9 – Penderfynu cyn craffu ar yr adroddiad am adfywio canol y ddinas: - Fel y nodwyd yn yr adroddiad, disgwylir
penderfyniad ar y Fargen Ddinesig erbyn cyfarfod y Cabinet ar 16 Mawrth - Y costau rhagamcanol o ddymchwel y
Ganolfan Ddinesig ·
Eitem
12 – Adeilad Oceana: - Argaeledd gwybodaeth i'r cyhoedd am adeilad Oceana o ystyried y costau cynyddol i gael gwared ar
asbestos Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a
Pherfformiad sicrwydd i Mr East fod rhwymedigaeth
gyfreithiol ar yr awdurdod i gael y gwerth masnachol gorau wrth werthu asedau
er mwyn creu'r derbyniad cyfalaf mwyaf posib, ac y byddai archwilwyr yn ei ddal
i gyfrif. O ran integreiddio
Sgwâr y Castell a Sgwâr y Santes Fair, nododd Aelod y
Cabinet, er nad dyma ei faes penodol ef, fod argraffiadau'r artistiaid ar gamau
cynnar a'i fod yn debygol y byddai mwy o drafodaethau am y ddarpariaeth
barcio'n cael eu cynnal. Rhoddodd Aelod y Cabinet sicrwydd fod
trafodaethau o ran y Fargen Ddinesig wedi cyrraedd y camau olaf. Y gobaith oedd
y byddai'r fargen wedi'i chyhoeddi yng nghyllideb y Canghellor ond, yn
anffodus, nid oedd hyn yn wir. Roedd cefnogaeth sylweddol gan fusnesau ac roedd
llawer wedi mynegi eu siom oherwydd y diffyg cyhoeddiad. Ychwanegodd ei fod yn
anhysbys a fyddai'r fargen bellach yn cael ei chadarnhau erbyn cyfarfod y
Cabinet yr wythnos hon, ond y gobaith oedd y byddai'n cael ei chadarnhau'n fuan
iawn. Byddai Aelod y
Cabinet yn ysgrifennu at Mr East gydag ymateb
ysgrifenedig llawn o ran hen uned BHS a byddai Aelod perthnasol y Cabinet yn
darparu ymateb ysgrifenedig o ran yr ymholiad am y gost o ddymchwel y Ganolfan
Ddinesig. Eglurodd Dirprwy Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd yr angen a'r rhesymau am Eitem 12, Adeilad Oceana – ystyriwyd bod yr eitem ar yr arolwg
asbestos/ddyfarniad y contract ar ben. Hefyd, mynegodd Mr East
ei bryderon yn gyffredinol am ddefnyddio talfyriadau a jargon yn adroddiadau'r
cyngor, gan eu gwneud yn anodd eu deall. |
||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ymatebodd y
Cynghorydd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad, ar
lafar i'r adroddiad ysgrifenedig a oedd wedi'i ddosbarthu, a thynnodd sylw at y
meysydd canlynol: ·
Abertawe
Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol -
Cyflwyno
arbedion -
Effaith
a chanlyniadau adolygiadau comisiynu gyda 12 o adolygiadau comisiynu wedi'u
cwblhau -
Myfyrio
ar broses yr adolygiad comisiynu a'r cynigion trawsbynciol newydd -
Datblygiad
a llwyddiant y rhaglen a oedd bellach yn cael yn ei gwreiddio yn niwylliant y
cyngor -
Cyfraniad
gwerthfawr y Tîm Craffu (e.e. craffu yn penderfynu ar adolygiadau comisiynu) ·
Cynnydd
y Strategaeth Ddigidol (bellach yn dechrau ei hail flwyddyn) a TGCh -
Roedd
TGCh bellach yn ôl yn fewnol -
Arbedwyd
arian -
Diweddarwyd
yr isadeiledd er mwyn gwella gwydnwch -
Datblygiad
system gyfathrebu unedig (mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd PABM ar deleffoni) -
Prosiectau
megis cyflwyno Office 365 a Skype for Business -
Diweddaru
systemau ar gyfer gwasanaethau e.e. datblygu System Gwybodaeth Gofal Cymunedol
Cymru (WCCIS) -
Cefnogaeth
gynyddol ar gyfer gweithio hyblyg -
Gwelliannau
i'r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Yr
angen i ddatblygu adolygiadau comisiynu i'w gwneud yn fwy ystyrlon gyda mwy o
fewnbwn a her gan randdeiliaid allanol ·
Gwariant
ar welliannau TGCh corfforaethol a'r arbedion a wnaed ·
Cyfrifoldeb
am y Fframwaith Rheoli Risgiau ·
Y
Strategaeth Llety a'r cynlluniau dros dro ar gyfer llety swyddfeydd dinesig
wrth i'r gwaith datblygu gael ei wneud ·
Gwella'r
diwylliant corfforaethol; gwella'r gweithlu er mwyn recriwtio a chadw staff ·
Y
berthynas rhwng y Cabinet a'r Tîm Craffu – nododd aelodau sylwadau Aelod y
Cabinet am rôl allweddol gwaith craffu, fel cyfaill beirniadol, o ran gwella,
datblygu a thrawsnewid ·
Hyfforddiant
ac ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu'r cyngor ·
Defnydd
a datblygiad parhaus system gwaith achos y cynghorwyr ·
Gwaredu
safle dinesig Penllergaer – a gafwyd digon o elw o'r
safle a theilyngdod y posibilrwydd o ddatblygu'r tir ar gyfer tai ·
Darparu
ac ariannu TGCh addas ar gyfer gweithio hyblyg PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu
barn y pwyllgor. |
||||
Abertawe Gynaliadwy - Cynigion Trawsbynciol (Martin Nicholls, Cyfarwyddwr - Lleoliad). PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad ar ‘Abertawe Gynaliadwy – Cynigion Trawsbynciol’ gan Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd, a Vicky Thomas, Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: - · Wedi'i hail-lunio – rhaglen Abertawe Gynaliadwy · Adolygiadau comisiynu – gwersi a ddysgwyd yn ystod y cam olaf · Pam dilyn ymagwedd drawsbynciol? · Cynigion trawsbynciol · Beth mae ei angen arnom heddiw? · Camau Nesaf Wrth ddatblygu
ymagwedd newydd, roedd cydnabyddiaeth bod gan rai adolygiadau comisiynu ffocws
cyfyngedig a’u bod yn cael eu llunio ar wahân, gan golli cyfleoedd trawsbynciol
a chysylltiadau â gwasanaethau eraill. Roedd cydnabyddiaeth hefyd o'r angen i
ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys
defnyddwyr gwasanaeth, a'u cynnwys cymaint â phosib. Tynnwyd sylw at hyn gan y
Tîm Craffu ar ôl ystyried nifer o adolygiadau comisiynu. Croesawyd y bwyslais
newydd ar gydgynhyrchu, a fyddai'n galluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y broses o lunio a chyflwyno
gwasanaethau yn y dyfodol. Rhoddwyd
gwybodaeth i'r pwyllgor am feysydd trawsbynciol posib a nodwyd ar gyfer
adolygiad a'r meddwl cychwynnol am y gwaith hwnnw. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - · Y cynigion trawsbynciol drafft a chwmpas pob maes · Blaenoriaethau meysydd · Ystyr cyd-gynhyrchu yng nghyd-destun adolygiadau trawsbynciol · Cyflawni busnes arferol ochr yn ochr ag adolygiadau · Camau priodol i gynnwys y Tîm Craffu · Trefniadau llywodraethu · Yr angen i sicrhau bod y cwmpas yn gywir o'r dechrau · Canlyniadau adolygiadau · Y posibilrwydd o dreialu gydag un adolygiad · Jargon a gwybodaeth dechnegol sy'n cyfyngu ar ddealltwriaeth a chyfranogiad Gwahoddwyd i aelodau'r pwyllgor ymateb i gyflwyno sylwadau am y cynigion trawsbynciol newydd a'r adborth yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr erbyn diwedd mis Mawrth. Ystyriodd aelodau gynnwys y Tîm Craffu yn y broses. Cadarnhaodd y pwyllgor y byddai'n briodol cynnwys y Tîm Craffu yn ystod y cam cwmpasu cychwynnol, ac yna yn ystod y cam adrodd olaf (ar gyfer craffu cyn penderfynu). Awgrymodd y
pwyllgor, os gwahoddir cynghorwyr i weithdai sy'n ymwneud â chwmpasu'r cynigion
trawsbynciol, y byddai'n ddefnyddiol ychwanegu trefniadau sy'n benodol i
gynghorwyr at drefniadau o'r fath. Ymrwymodd y Cyfarwyddwr i dreialu'r ymagwedd
hon ar gyfer yr adolygiad trawsbynciol cyntaf. Tynnodd aelodau sylw hefyd at yr angen i gyfleu gwybodaeth am adolygiadau trawsbynciol yn y dyfodol mewn ffordd hawdd ei deall, gan osgoi defnyddio acronymau, jargon ac iaith gymhleth sy'n cyfyngu ar ddealltwriaeth a chyfranogiad. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
||||
a Barn y pwyllgor i'r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, a Lee Richards, Prif Syrfëwr Datblygu Canol y Ddinas, yn bresennol ar gyfer ystyriaeth y pwyllgor o adroddiad y Cabinet am 'Ddatblygiad Sgwâr y Castell a Chyfleoedd ar gyfer Mannau Cyhoeddus'. Trafododd Aelod y Cabinet y canlynol: - · Hanes y safle, gan gynnwys manteision a phroblemau man gwyrdd blaenorol Gerddi'r Castell · Gwobrau pensaernïol a enillwyd ar gyfer y sgwâr presennol, ond mae bellach olwg flinedig ac wedi dyddio arno (mae bellach yn 25 oed) · Gwelliannau y gellid eu gwneud i'r ardal, e.e. goleuo adeiladau blaenllaw/hanesyddol, defnyddio'r castell yn well · Cynnydd mewn digwyddiadau a gynhelir yng nghanol y ddinas er mwyn helpu gydag adfywio a'r economi Ystyriodd y pwyllgor argymhellion arfaethedig yr adroddiad, gan leisio unrhyw faterion a phryderon y dylid eu dwyn i sylw'r Cabinet cyn ei benderfyniad ar 16 Mawrth. Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw wrthwynebiad i'r argymhelliad a chefnogaeth ar gyfer ailddatblygu a gwella Sgwâr y Castell. Fodd bynnag, gofynnodd aelodau i'w pryderon am y canlynol gael eu rhannu â'r Cabinet: · Sicrhau mynediad cyhoeddus yn y dyfodol a hyd a lled y man agored cyhoeddus · Gwrthdaro posib rhwng y cyngor a busnesau ar y safle ynghylch defnydd, e.e. materion trwyddedu · Bodloni'r rhai sy'n ystyried y sgwâr fel lle ar gyfer tawelwch a gorffwys · Yr angen am ymgynghori ag Eglwys y Santes Fair o ran integreiddio Sgwâr y Castell a Sgwâr y Santes Fair · Eglurhad y cynnig arfaethedig i gael gwared ar y lôn feicio o amgylch y safle PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet am farn y pwyllgor, ar gyfer ystyriaeth gan y Cabinet. |
||||
a. Barn y Pwyllgor ar gyfer y Cabinet ynglŷn â'r Strategaeth Llety. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, a Lee
Richards, Prif Syrfëwr Datblygu Canol y Ddinas, yn bresennol ar gyfer
ystyriaeth y pwyllgor o adroddiad y Cabinet am 'Adfywio Canol Dinas Abertawe –
Strategaeth Cyflwyno ac Ariannu'. Esboniodd y
Cadeirydd wrth Aelod y Cabinet fod yr adroddiad wedi'i alw am graffu cyn penderfynu
gan iddo gael ei nodi i'r pwyllgor y byddai'n cynnwys gwybodaeth am y
strategaeth llety, e.e. o ran adleoli staff y Ganolfan Ddinesig, ac ar gyfer y
Llyfrgell Ganolog a'r Gwasanaeth Archifau. Nododd y pwyllgor fod ychydig iawn yn yr adroddiad am y strategaeth llety,
ac eithrio cyfeiriad at yr angen i gynnal asesiad dichonoldeb a lliniaru
llifogydd o safle'r Ganolfan Ddinesig ar ôl iddi gael ei hadleoli i ganol y
ddinas (a'r gost gysylltiedig). Cadarnhaodd Aelod
y Cabinet nad oedd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ar y
materion hynny, ond byddai'n hapus petai adroddiadau perthnasol yn dod i'r
pwyllgor ar gyfer craffu cyn penderfynu yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu yn ysgrifennu at Aelod Cabinet am farn y pwyllgor, ar gyfer ystyriaeth
gan y Cabinet. |
||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).
Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. |
||||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 14 Adran 12 Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. |
||||
ADEILAD OCEANA - AROLWG ASBESTOS/DYFARNU'R CONTRACT A'R GOBLYGIADAU ARIANNOL. Cofnodion: Trafododd y
pwyllgor eitemau a oedd yn ymwneud â'r arolwg asbestos/dyfarnu'r contract a'r
goblygiadau ariannol ynghylch adeilad Oceana.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau i'r swyddogion a oedd yn bresennol, a ymatebodd yn
briodol. PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd ac Aelod perthnasol y Cabinet, gan
adlewyrchu ar y drafodaeth a barn y Pwyllgor am y mater hwn. |