Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

130.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiant canlynol:

 

Y Cynghorydd G J Tanner - personol - Cofnod Rhif.134 - Safon Ansawdd Tai Cymru - Yr wyf yn denant y cyngor.

 

131.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

132.

Cofnodion: pdf eicon PDF 84 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2017 fel cofnod cywir.

 

133.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol neu i gadeirydd y pwyllgor ynglŷn â'r Rhaglen Waith Craffu.

Cofnodion:

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

134.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf (Y Cyng. Andrea Lewis). pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddod y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf anerchiad llafar yn dilyn yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd a thynnodd sylw at y canlynol:

 

·         Prosiect Rhagor o Gartrefi Cyngor a'i gynnydd - cyfeiriodd at yr archwiliad dichonoldeb o dir ar gyfer tai sydd ar ddod a'r angen am fwy o dai fforddiadwy. Siaradodd am yr angen i sicrhau partner datblygu ar gyfer y gallu i ehangu'r cynlluniau adeiladu tai y tu hwnt i'r prosiectau peilot.

·         Cynnydd a gwelliannau o ran Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Gwasanaethau Masnachol a'u pwysigrwydd wrth gefnogi staff ac

            adrannau o ran cynhyrchu incwm ac effeithlonrwydd

·         Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol a'i chyfranogaeth yn y Rhaglen Cyfalaf Addysg.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau agr Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Prosiect Rhagor o Gartrefi Cyngor

- cynnydd â'r datblygiad cyntaf yn Ffordd Milford

- clustodi cartrefi newydd

- costau

- y gallu i adeiladu tai

- dysgu gan eraill

·         Safon Ansawdd Tai Cymru – camau gweithredu’n dilyn y Gweithgor Craffu diweddar (gan gynnwys canolbwyntio ar wella ymrwymiadau â thenantiaid ac Aelodau Wardiau Lleol)

·         Prentisiaethau hyfforddiant corfforaethol - llwyddiant trwy gyflawniadau crefftwyr cymwys a chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau lleol.

·         Tai gwag

·         Cynnydd ar leihau'r amser ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

·         Cynnydd o ran darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr 

 

PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

135.

Adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Terfynol: Trechu Tlodi (Y Cynghorydd Sybil Crouch, cynullydd). pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sybil Crouch, Cynullydd, yr adroddiad terfynol ynglŷn â'r gwaith a wnaed o ran yr Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi. Roedd yr archwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar sut gellis gwella Strategaeth Trechu Tlodi'r cyngor. Crynhodd y canfyddiadau allweddol, y casgliadau a'r argymhellion fel y'u nodir yn yr adroddiad terfynol.

 

Ymhlith yr argymhellion amlygodd yr angen i:

·         gynnwys y rhai sy'n profi tlodi yn y strategaeth a sefydlu Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi yn dilyn model Leeds  

·         datblygu Cynllun Gweithredu 'cyngor cyfan' newydd

·         cynnwys cyfrifoldebau trechi dlodi penodol o fewn pob portffolio cabinet.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ohebiaeth a dderbyniwyd ganddi gan Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Chymunedau am adroddiad terfynol yr ymchwiliad. Dilynodd trafodaeth  am gynnwys yr adroddiad ac y ddylid  ei gyflwyno i'r Cabinet am benderfyniad. Wrth wneud hynny ystyriodd y pwyllgor a gasglwyd tystiolaeth ddigonol i fynd i'r afael â'r cwestiwn yr oedd yr ymchwiliad yn ceisio’i ateb.

 

Nodwodd y pwyllgor fod meysydd niferus wedi'u nodi gan y panel i graffu arnynt yn y dyfodol. Nododd y cadeirydd y byddai'r awgrymiadau hyn yn cael eu bwydo i'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu nesaf yn y flwyddyn ddinesig newydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Cynullydd ac Aelodau'r Panel am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

1) y bydd adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet am benderfyniad a

2) y darperir dolen gyswllt i'r 'Pecyn Tystiolaeth' a gyhoeddwyd gan y panel i Aelodau’r Pwyllgor.

 

136.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu: pdf eicon PDF 63 KB

(a)      Ysgolion (Y Cynghorydd Fiona Gordon, Cynullydd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar waith y Panel Perfformiad Ysgolion.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

137.

Rhaglen Waith Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 108 KB

Trafodaeth ar y canlynol:

(a) Cynllun gwaith y pwyllgor.

(b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

(c) Cynnydd â'r paneli craffu a'r gweithgorau cyfredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2016/2017 i’w adolygu.

 

Dywedodd y byddai cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor  yn cael ei gynnal ar 9 Mawrth 2017 ar gyfer y sesiwn flynyddol ar droseddu ac anhrefn. Ychwanegodd, er mwyn rheoli llwyth gwaith y Pwyllgor, yr ymdrinnir â’r eitemau sefydlog arferol o ran y Rhaglen Waith a Busnes y Pwyllgor hefyd ar 9 Mawrth. Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgor i ganolbwyntio ar yr eitemau sydd i'w trafod yn y cyfarfod a drefnir ar gyfer 13 Mawrth. Disgwylid y byddai hyn yn cynnwys craffu cyn penderfynu o adroddiadau'r cabinet ar Sgwâr y Castell ac Adfywio Canol y Ddinas

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. 

 

138.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i aelodaeth y paneli/gweithgorau craffu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r diwygiadau canlynol i'r paneli/gweithgorau, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad:

 

Gweithgor Cynhwysiad Digidol

Tynnu enw’r Cynghorydd Tony Colburn

 

139.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 80 KB

 

Gweithgaredd

Dyddiad y Cyfarfod

Gohebiaeth

 

a

Pwyllgor (Sesiwn Holi Aelod y Cabinet)

12 Rhagfyr

Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn

b

Ymholiad Cynhwysiad Addysg (gwaith dilynol)

3 Ionawr

Llythyr at Aelod y Cabinet dros Addysg

c

Pwyllgor (Sesiwn Holi Aelod y Cabinet)

9 Ionawr

Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth

ch

Gweithgor Digwyddiadau Dinesig

dd/b

Llythyr at Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am gofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

PENDERFYNWYD nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu a'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

140.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar.

 

141.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

Cofnodion:

Nid oedd dim digwyddiadau craffu ar ddod.

 

142.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2016/2017.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio sydd ar ddod.

 

143.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

144.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth.