Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

102.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

103.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

104.

Cofnodion. pdf eicon PDF 80 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir.

105.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol, neu i gadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â'r rhaglen waith craffu.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

106.

Sesiwn Holi ac Ateb Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn (y Cynghorydd Jane Harris). pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd J Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, anerchiad agoriadol byr ar ei Phortffolio Cabinet cyn derbyn cwestiynau gan y pwyllgor, a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Cefnogi pobl i fyw gartref ac Asesiad o Anghenion

·       System Taliadau Uniongyrchol

·       Statws cyflogwr Taliadau Uniongyrchol a'r gofyniad i ddarparu pensiynau  gweithle 

·       Sefydlogrwydd darparwyr sector preifat a'r;

·       Gallu i ymateb i fethiant yn y farchnad

·       Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac Ailasesiadau

·       Partneriaethau â'r Gwasanaeth Iechyd ac Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

·       Arferion gweithio Cyngor Sir Fynwy

·       Y model 4 haen gan gynnwys:

o   Darparu gwasanaethau cludiant digonol

o   Rôl sefydliadau cymunedol wrth ddod o hyd i ffactorau risg

o   Gweithgareddau yn ystod y dydd i helpu pobl i gysylltu

o   Cynnydd mewn gofal cartref a'r pwysau ar y gyllideb

·       Y potensial i greu incwm

·       Teleofal a datblygu Technoleg Gynorthwyol

·       Penderfyniadau allweddol dros y misoedd i ddod - Adolygiadau Comisiynu, datblygu ymagwedd 'Hwb' at wasanaethau dydd. 

 

Nododd y Cynghorydd J Harris y byddai'n darparu rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor am:

·       ofynion pensiynau gweithle o ran Taliadau Uniongyrchol e.e. cyflogi gofalwr; a

·       thaliadau ar gyfer Teleofal/Larymau Cymunedol.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cynghorydd J Harris am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

107.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu: pdf eicon PDF 64 KB

a) Gwella Gwasanaethau  a Chyllid  (y Cynghorydd Chris Holley, y Cynullydd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd C Holley, y Cynullydd, y diweddaraf ar y gwaith a wnaed o ran Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid. Aeth ati i grynhoi'r gweithgareddau allweddol dros y chwe mis diwethaf, gan dynnu sylw at gyfranogaeth y panel wrth graffu ar adolygiadau comisiynu, materion sy'n codi a'r effaith a gafwyd gan y panel.

 

Siaradodd yn arbennig am:

 

         Wariant cyfalaf

         Eglurder adroddiadau perfformiad corfforaethol i'r cyhoedd

         Y broses adolygiadau comisiynu a'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer opsiynau a ffefrir e.e. safbwyntiau allanol, gwerth am arian

         Datganiadau cyllidebol

         Arian wrth gefn

         Adrodd am gwynion corfforaethol

         Strategaeth ddigidol

         Llyfrgelloedd

         Y Gronfa Drawsnewid

 

CYTUNWYD i gofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

108.

Rhaglen Waith Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 112 KB

Trafodaeth ar:

(a) Gynllun gwaith y pwyllgor.

(b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

(c) Cynnydd paneli craffu cyfredol a gweithgorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2016/17.

 

Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor:

 

·       Y Rhaglen Waith Craffu bresennol;

·       Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu;

·       Cynnydd â'r paneli craffu a'r gweithgorau cyfredol.

 

Nodwyd y byddai'r Panel Ymchwilio Trechu Tlodi bellach yn anelu at adrodd i gyfarfod y pwyllgor ar 13 Chwefror.

 

Hysbyswyd y pwyllgor y pennwyd dyddiad posib, sef 17 Ionawr, i gynnal cyfarfod arbennig er mwyn craffu cyn penderfynu ar adroddiad nesaf y Cabinet ar ddatblygu Sgwâr y Castell.  Roedd hyn yn amodol ar gyhoeddi adroddiad y Cabinet yn ei agenda ar gyfer 19 Ionawr.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai gweithgor 'Cynhwysiad Digidol' fyddai'r un nesaf a fyddai'n cael ei sefydlu.

 

Nododd y Cadeirydd hefyd fod y tîm craffu wedi derbyn adborth cadarnhaol ar gyfer y gefnogaeth a ddarparwyd ganddynt i Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW. Cynhelir y Cyfarfod Craffu Rhanbarthol nesaf ar 27 Chwefror 2017.

 

Amlygodd y Cydlynydd Craffu y cafwyd mwy o sylw gan y cyfryngau drwy'r wasg leol eleni, a chyfeiriodd at hyn fel un o'r canlyniadau gwella ar gyfer y maes craffu. Rhoddodd enghreifftiau o straeon sydd wedi deillio o'r Adroddiadau Craffu.  

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

109.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i aelodaeth y paneli/gweithgorau craffu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r diwygiadau canlynol i'r paneli/grwpiau, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad:

 

         Panel Perfformiad Ysgolion - tynnu enw'r Cyng. Tony Colburn

         Gweithgor Tai Amlfeddiannaeth - tynnu enw'r Cyng. Wendy Fitzgerald

         Ymchwiliad Partneriaethau a Chydweithio  – tynnu enw'r Cyng. David Cole.

110.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 77 KB

a

Panel Perfformiad Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

28 Medi

Llythyr at/oddi wrth yr Arweinydd (Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y cadeirydd am gofnod llythyrau'r Tîm Craffu. Adroddwyd am yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth Panel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

111.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar.

112.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

Cofnodion:

Nid oedd dim digwyddiadau craffu ar ddod.

113.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

NODWYD cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2016/2017.

114.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).

9 Ionawr 2017

13 Mawrth 2017

12 Rhagfyr 2016

13 Chwefror 2017

10 Ebrill 2017

 

 

 

Cofnodion:

NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

115.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CC)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel

Perfformiad

12 Rhag

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Gwasanaethau i Oedolion

Panel

Perfformiad

14  Rhag

4.00 pm

Ystafell Bwyllgor 3B (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

19  Rhag

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 3A (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel

Perfformiad

20  Rhag

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Pa mor Barod yw Plant ar gyfer yr Ysgol

Panel Ymchwilio

20  Rhag 

3.00 pm

Ystafell  235 (NDd)

 

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth.