Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

86.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

 

87.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

88.

Cofnodion. pdf eicon PDF 81 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2016 fel cofnod cywir.

 

89.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol, neu i gadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â'r rhaglen waith craffu.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

90.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth (Y Cynghorydd David Hopkins) pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd D Hopkins anerchiad agoriadol byr am ei Bortffolio Cabinet cyn derbyn cwestiynau gan y pwyllgor a fu'n canolbwyntio ar y canlynol:

·       Adolygiadau Comisiynu

·       Cyflwyno Cynllun Trwsio Tyllau yn y Ffordd mewn 48 awr

·       Glanhau safleoedd bysus

·       Monitro targedau ailgylchu a lleihau gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi oherwydd gwaharddiad ar dderbyn sachau du mewn rhai safleoedd amwynderau dinesig

·       Tipio anghyfreithlon a chasglu gwastraff a chyflwyno sachau pinc newydd

·       Aildendro am gontractau cludiant ysgol ac arbedion cysylltiedig

·       Cynllun Cludiant Cynaliadwy

·       Gwasanaethau Bysus - llofnodi'r cytundeb Partneriaeth Bysus o Safon gyda First Cymru a gobeithio y ceir manteision o ganlyniad i waith partneriaeth effeithiol

·       Materion gorfodi sy'n ymwneud â pharcio anystyriol (rhwystro priffyrdd/palmentydd) a chyfrifoldebau priodol swyddogion gorfodi'r cyngor a'r Heddlu

·       Safleoedd parcio a theithio - cau cyfleuster Fforestfach a darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer yr ardal honno

·       Materion am safleoedd bysus/mannau codi ar lwybrau penodol

·       Newid terfynau cyflymder ar Heol Caerfyrddin a Heol Tregŵyr-Llanrhidian

·       Goleuadau stryd

·       Defnyddio gweithwyr asiantaethau

·       Cynnal a chadw morglawdd Tawe

·       Baw cŵn a hysbysebu gorfodi

 

Cafwyd trafodaeth hefyd i ddeall yn well pam mae gwaith ar rai ffyrdd/gwaith amgylcheddol (er enghraifft gwaith y gofynnir amdano gan gynghorwyr) yn gorfod cael ei wneud gan yr awdurdod yn unig.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol a mynegi sylwadau i Aelod y Cabinet a ymatebodd yn briodol. Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at Brif Swyddog yr Heddlu ynghylch gorfodi parcio anghyfreithlon, a chysylltu â First Cymru ynghylch y safleoedd bysus y gwneir cais amdanynt. Byddai hefyd yn ymateb i'r aelodau ynghylch nifer y goleuadau stryd nad ydynt yn gweithio neu sydd wedi'u diffodd a'r gronfa ar gyfer gwaith cynnal a chadw morglawdd Tawe.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Aelod Cabinet am ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan gyfleu manylion y drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

91.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc - Adroddiad cydymffurfio â chynnyddn (Y Cynghorydd Christine Richards). pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, yr adroddiad blynyddol a oedd yn nodi'r cynnydd ar ôl rhoi Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe ar waith.

 

Mae'r adroddiad yn nodi sut mae'r Awdurdod yn ystyried CCUHP ar draws gwaith y cyngor a sut mae'n cael ei ymgorffori yn ei bolisïau a'i arferion gwaith amrywiol.

 

Cafodd y dulliau amrywiol a phellgyrhaeddol o gyfathrebu ac ymgynghori â phobl ifanc hefyd eu nodi, yn ogystal â'r hyfforddiant staff a wnaed, a chyfranogiad cynyddol gan ysgolion.

 

Dywedodd ei bod wedi ysgrifennu i Lywodraeth Cymru ynghylch y mater o blant sy'n cael eu haddysgu gartref a beth oedd y ffordd orau i wella cyswllt ac ymgynghori â nhw a'u rhieni. Roedd y pwyllgor yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd mewn paneli craffu eraill ynghylch diogelu'r plant hyn, ac absenoldeb deddfwriaeth sy'n sicrhau cyswllt. Rhagwelir y bydd rhyw fath o arweiniad anstatudol yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Awgrymodd y pwyllgor pan fydd yr awdurdod yn cael gwybod am fwriad rhiant i addysgu ei blentyn gartref, dylai'r awdurdod gynnwys gwybodaeth am ei gyfrifoldebau a hawliau'r plentyn mewn unrhyw gyngor a roddir. Roedd yr Aelod Cabinet yn mynd i edrych ar hyn.

 

Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys:

 

·       Ymdrechion i roi llais i blant sy'n derbyn gofal a gwella cyfranogiad.

·       Gwaith a wnaed gyda phlant a rhieni mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar

·       Cysylltiadau â'r Bwrdd Iechyd a gwaith i gefnogi Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

·       Cynrychiolaeth Abertawe yn Senedd Ieuenctid y DU

·       Yr angen i nodi effaith y Cynllun Hawliau wrth i'r gwaith hwn ddatblygu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r swyddogion am yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

92.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu: pdf eicon PDF 67 KB

(a) Gwasanaethau i Oedolion (y Cynghorydd Uta Clay, Cynullydd).

(b) Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd U C Clay yr wybodaeth ddiweddaraf am waith a wnaed yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y Panel Perfformiad Gwasanaethau Oedolion newydd, y mae'n ei gadeirio, gan nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud.

 

(SYLWER: Bu'r Cynghorydd N J Davies (Is-gadeirydd) yn llywyddu ar gyfer yr uchod)

 

Rhoddodd y Cynghorydd M H Jones yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am sefydlu a diwygio gwaith amlasiantaeth Panel Perfformiad Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

93.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad effaith chwarterol. pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad chwarterol drafft gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu i'r cyngor ar effaith craffu, a oedd yn cynnwys ymchwiliadau a gwblhawyd ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, ac Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor ar 24 Tachwedd 2016.

 

94.

Rhaglen Waith Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 117 KB

Trafodaeth ar:

(a) Gynllun gwaith y pwyllgor.

(b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

(c) Cynnydd paneli craffu cyfredol a gweithgorau.

(ch) Diweddaraf gan Gyfarwyddwr - Adnoddau ar flaenoriaethau'r cyngor, heriau strategol a phenderfyniadau allweddol.

(d) Cais am graffu ynglŷn â dymchwel adeilad Oceana.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Raglen Waith Craffu ar gyfer 2016/17.

 

Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor:

 

·       Y Rhaglen Waith Craffu bresennol;

·       Cynllun ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y dyfodol;

·       Adroddiad cynnydd a chynllun ar gyfer y paneli a'r gweithgorau presennol amrywiol; a

·       Chais am Graffu ar Benderfyniad y Cabinet gan Gynghorwyr ynghylch dymchwel adeilad Oceana.

 

Rhoddodd Mike Hawes, Cyfarwyddwr Adnoddau, yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r pwyllgor am y materion presennol sy'n wynebu’r Bwrdd Gweithredol ac yn effeithio arno, sy'n seiliedig ar y 5 prif flaenoriaeth gorfforaethol.

 

Amlinellodd y materion a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd pwnc canlynol:- dyfodol arian Cymunedau'n Gyntaf (dileu grantiau), ansicrwydd goblygiadau Prydael, ymyrryd ac atal yn gynnar, ymgorffori gwaith gwrthdlodi, prosiect rhieni a gofal plant, trefniadau diogelu (arfer da), goblygiadau ariannol a gweithredol Diogelu Rhag Colli Rhyddid, adfywio canol y ddinas (mae'r fargen ddinesig yn mynd rhagddi'n dda ac yn ennill cefnogaeth), cyflawniad disgyblion, darpariaeth EOATS yn y dyfodol, Bwrdd Gwella'r Prif Weithredwr - edrych ar NEETS, adolygiadau comisiynu sy'n parhau a rhai'r dyfodol, ehangu masnachol, agenda trawsnewid digidol, gwella gwasanaethau cwsmeriaid, agenda rhanbartholi, Bil Cymru (goblygiadau datganoli trethi cyllidol) ac amserlen y gyllideb a chynllun ariannol tymor canolig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

Yna bu'r aelodau'n trafod yn fanwl y cais am graffu yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 20 Hydref ynghylch dymchwel adeilad Oceana, yn arbennig y cylch gwaith priodol a rôl pwyllgorau craffu a chynghori'r cabinet. Cynigiodd y Cadeirydd fod Gweithgor Craffu'n cael ei greu. Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried bod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu'n mynd i edrych ar y penderfyniadau ynghylch adeilad Oceana, a'r angen i osgoi dyblygu.

 

PENDERFYNWYD PEIDIO â chytuno ar y cynnig ynghylch craffu ar Oceana.

 

95.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i aelodaeth y Panel/Gweithgor Craffu.

 

Dywedodd fod y Cynghorydd P B Smith hefyd wedi nodi yr hoffai gael ei hychwanegu i'r panel parodrwydd plant i fynd i'r ysgol.

 

PENDERFYNWYD ardystio'r newidiadau i'r paneli/grwpiau a nodwyd yn yr adroddiad ac uchod.

 

96.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 77 KB

 

Gweithgaredd

Dyddiad   y Cyfarfod

Gohebiaeth

 

a

Pwyllgor (sesiwn holi aelod y cabinet)

12 Medi

Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Chymunedau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ar y llythyrau craffu.

 

PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu

 

97.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar.

 

 

98.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau craffu ar ddod.

 

99.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2016/17.

 

100.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).

14 Tachwedd 2016

9 Ionawr 2017

13 Mawrth 2017

12 Rhagfyr 2016

13 Chwefror 2017

10 Ebrill 2017

 

 

 

Cofnodion:

NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017

 

101.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

 

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Ysgolion

Panel Perfformiad

16 Tachwedd

4.00 pm

Ystafell 235 (NDd)

Trechu Tlodi

Panel Ymchwilio

17 Tachwedd

4.00 pm

Ystafell Bwyllgor 2 (CDd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Trechu Tlodi

Panel Ymchwilio

21 Tachwedd

4.00 pm

Ystafell Bwyllgor 3 (CDd)

Y Gwasanaethau i Oedolion

Panel Perfformiad

23 Tachwedd

4.00

pm

Ystafell Bwyllgor 3B (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel Perfformiad

23 Tachwedd

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

Tai Amlfeddiannaeth

Gweithgor

25 Tachwedd

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 3A (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

28 Tachwedd

10.00 am

Ystafell Bwyllgor 3A (NDd)

Cynhwysiad Addysg

Panel Ymchwiliad (dilynol)

29 Tachwedd

4.30 pm

Ystafell 235 (NDd)

Trechu Tlodi

Panel Ymchwilio

1 Rhagfyr

4.00 pm

Ystafell Bwyllgor 2 (CDd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth.