Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Awst 2016 fel cofnod cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cofnodion: Clywodd y pwyllgor gan Mr Rowe ynglŷn â'r
bwriad i graffu ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO). Nododd y pwyllgor bryderon Mr
Rowe am reoli a rheolaeth Tai Amlfeddiannaeth a'r effaith bresennol ac yn y
dyfodol ar gymunedau yn ardal ddwyreiniol Abertawe, megis St. Thomas, lle mae
nifer cynyddol o Dai Amlfeddiannaeth oherwydd campws newydd y brifysgol. Gofynnodd pam nad oes angen i landlordiaid dalu treth y cyngor ar eiddo
sy'n cael eu hystyried yn Dai Amlfeddiannaeth. Mynegodd hefyd bryderon am
faterion cynllunio. Cadarnhaodd y cadeirydd y byddai'r pwyllgor yn archwilio'r fath faterion petai'n cytuno i sefydlu Gweithgor Craffu ar Dai Amlfeddiannaeth, fel sy'n arfaethedig. Nododd y cadeirydd y bydd yn ysgrifennu at Mr Rowe i gydnabod ei bryderon a sut gall ymwneud â'r broses o graffu ar y pwnc hwn. Anogwyd Mr Rowe hefyd i anfon unrhyw gwestiynau/sylwadau ychwanegol ynglŷn â'r mater hwn atom, a byddai'r rhain yn cael eu trosglwyddo i'r gweithgor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd W Evans anerchiad agoriadol fer am ei bortffolio
cabinet cyn derbyn cwestiynau gan y pwyllgor a fu'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cyllideb,
canlyniadau, gweithdrefnau adrodd ac ystadegau Trechu Tlodi yn unol â gofynion
Llywodraeth Cymru ac argaeledd tablau cymhariaeth – nodwyd bod Dangosyddion
Perfformiad amrywiol ar gyfer Trechu Tlodi wedi'u cynnwys yn y Cynllun
Corfforaethol ac yr adroddir amdanynt i Lywodraeth Cymru bob tri neu chwe mis; ·
Strategaeth
Trechu Tlodi – cydnabu Aelod y Cabinet yr Ymchwiliad Craffu i hyn. Gyda
chanfyddiadau'r ymchwiliad yn cael eu hystyried, nododd mai'r bwriad oedd
llunio strategaeth ddiwygiedig ddechrau 2017, gan ystyried darnau perthnasol
eraill o waith hefyd – megis yr Asesiad Effaith Integredig sydd wedi cael ei
wneud. Gofynnwyd i Aelod y Cabinet gadarnhau statws strategaeth ddiwygiedig
ymddangosol a rhannu â'r Panel Craffu i helpu i
lywio'r ymchwiliad; ·
Roedd Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) wedi cyhoeddi papur
am ddatrys tlodi yn y DU. Mae'n ceisio ateb cwestiynau allweddol ynglŷn â'r rhesymau mae tlodi'n parhau a sut gellir
ei drechu - roedd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet yn ystyried hyn i helpu i
gyfeirio gwelliannau i’r strategaeth leol hefyd; ·
Byddai'r rhaglen newydd, Cymunedau am Waith, yn
canolbwyntio ar drechu tlodi trwy gyflogaeth gynaliadwy a helpu i ddarparu
mentora a chefnogaeth ar gyfer cyflogaeth er mwyn helpu pobl i ddychwelyd i'r
gwaith i gynorthwyo â thwf a ffyniant economaidd; ·
Pwysigrwydd addysg, ffyniant economaidd a chyflogaeth
wrth drechu tlodi – mynegodd y pwyllgor bryder ynglŷn ag adroddiadau am
golli swyddi ac anawsterau wrth ddenu swyddi i'r ardal; ·
Roedd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn cynyddu yng
Nghymru; ·
Roedd y rhaglen Esgyn wedi cael ei pheilota
ym Mhenderi trwy Raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac
roedd llawer o bobl wedi cael eu hachub o dlodi’n llwyddiannus o ganlyniad; ·
Y diffiniad o dlodi a'r meini prawf sy'n diffinio beth yw
tlodi – ym marn Aelod y Cabinet, diffyg gallu i ddiwallu anghenion sylfaenol yw
tlodi yn ei hanfod; ·
Defnyddio'r Safon Isafswm Incwm (SII) – meincnod isafswm
anghenion yn seiliedig ar ba nwyddau a gwasanaethau y mae eu hangen, ym marn y
cyhoedd, ar gyfer safon byw ddigonol; ·
Nifer y rhandiroedd a chynlluniau yn sgîl
yr adolygiad gweithrediadol; ·
Ystyried materion cydlyniant
cymunedol – awgrym y dylai Aelod y Cabinet ystyried adrodd yn rheolaidd am hyn
(gan gynnwys digwyddiadau/ystadegau) i'r cyngor neu'r Tîm Craffu er mwyn
cynyddu ymwybyddiaeth ac asesu gwaith i gefnogi cydlyniant; ·
Effaith tanwariant cyllideb NEETS; ·
Codwyd pryder am wybodaeth sy’n nodi bod nifer o bobl yn
byw mewn pebyll mewn rhai mannau diarffordd yn Abertawe – gofynnodd Aelod y
Cabinet am fwy o wybodaeth am hyn er mwyn ymchwilio ymhellach; ·
Cynhwysiad digidol - yr angen am ddarpariaeth arall ar
gyfer pobl sy'n byw mewn tlodi neu nad oes ganddynt fynediad i dechnoleg
gyfrifiadurol. Bydd hyn yn destun Gweithgor Craffu yn y dyfodol. Diolchodd y cadeirydd i'r Cyng. Evans am ddod. PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu
ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan gyfleu manylion y drafodaeth a rhannu barn y
pwyllgor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynullydd, sef y Cynghorydd Mary Jones, yr adroddiad terfynol sy'n deillio o ymchwiliad
y Panel Craffu i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno'r casgliadau a'r argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwiliad mewn
ymgais i ateb y cwestiwn canlynol: Sut gall y
cyngor weithio gyda phartneriaid iechyd ac eraill i leihau'r galw am
wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc? Canmolwyd gwaith y panel gan yr aelodau ynghyd â'r
gefnogaeth a dderbyniwyd ganddo. Trafododd y pwyllgor nifer o'r materion a
godwyd yn yr adroddiad a phwysigrwydd y gwasanaethau hyn. Nodwyd sut byddai craffu'n gallu monitro newid, gwelliant ac effaith yr
argymhellion yn effeithiol, yn seiliedig ar y lefelau perfformiad presennol, yn
dilyn camau gweithredu'r Cabinet. Nododd y cynullydd y byddai hi'n pwysleisio i'r Cabinet yr angen am gynllun gweithredu
clir a mesuradwy er mwyn helpu i asesu'r effaith a'r gwahaniaeth a wneir. Awgrymwyd ystyried a ellid dosbarthu'r argymhellion yn fwy effeithiol e.e.
gwahanu'r rhai a oedd yn canolbwyntio ar waith yr awdurdod, a'r rhai a oedd yn
pwysleisio siarad ag ymarferwyr iechyd/annog camau gweithredu y gallai pobl
eraill fod yn gyfrifol amdanynt. PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet benderfynu yn ei gylch, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wneir gan y cynullydd mewn ymateb i sylwadau'r pwyllgor uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Terry Hennegan yr adroddiad terfynol am yr ymchwiliad craffu i
Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy trwy Weithredu yn y Gymuned. Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno'r casgliadau a'r argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwiliad mewn
ymgais i ateb y cwestiwn canlynol: Sut gall y
cyngor gefnogi preswylwyr i gynnal gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain? Diolchodd i'r panel am fynd i'r afael â'r mater
hwn ac am y gwaith a wnaed. Canmolodd y gefnogaeth a dderbyniwyd gan y panel
wrth gynnal yr ymchwiliad hwn ac, yn benodol, wrth lunio'r adroddiad terfynol.
Tynnodd sylw at rai o'r prif ganfyddiadau, nid lleiaf yr hyfforddiant, y
gefnogaeth a'r cyngor sy'n hanfodol er mwyn cynnwys y gymuned a throsglwyddo
asedau'n llwyddiannus. Trafodwyd hefyd y cymorth ariannol sydd ar gael i
grwpiau cymunedol â diddordeb. PENDERFYNWYD cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet am benderfyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Fiona Gordon, Cynullydd y Panel Perfformiad
Ysgolion, y diweddaraf am weithgareddau’r panel, yr ohebiaeth rhwng y panel ac
aelodau'r Cabinet, y cynigion a wnaed a'u heffaith. Tynnodd sylw at ymagwedd y panel at archwilio materion gwella ysgolion, gan
gynnwys cynnwys ysgolion yn barhaus. Myfyriodd ar y sesiwn ddiweddar gydag
Ysgol Gyfun Cefn Hengoed a fu'n ystyried arfer da a sut caiff hwnnw ei rannu ag
eraill. Esboniodd y rhesymeg dros gynnwys ysgolion penodol, a pherthynas
gadarnhaol y panel ag ymgynghorwyr herio. Gofynnodd y pwyllgor a oedd y panel wedi trafod rôl ysgolion a'r defnydd
ohonynt gan y gymuned ehangach. Nododd y Cynghorydd Gordon y gallai'r panel gynnwys yr agwedd hon mewn sesiynau yn y
dyfodol, yn enwedig oherwydd ei bod hefyd yn rhan o gamau gweithredu i drechu
tlodi mewn cymunedau. Hefyd nododd y Cynghorydd Gordon awgrym i'r panel ystyried y berthynas
rhwng ysgolion, prifysgolion ac amgueddfeydd, er enghraifft ynglŷn â
digwyddiadau megis Gŵyl Wyddoniaeth Prydain. Nodwyd y byddai cyfarfod y panel ag Ysgol Gyfun Gellifedw'n
cael ei aildrefnu o 19 Hydref 2016 i ddyddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Waith Craffu 2016/17. PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y cadeirydd y rhaglen waith a chyfeiriodd at y cais cyhoeddus i
ystyried craffu ar Dai Amlfeddiannaeth. Nododd y cadeirydd hefyd y byddai adroddiadau'r Panel Craffu'n cael eu
cyfleu i'r cyngor ar 22 Medi 2016 gan y canslwyd cyfarfod mis Awst y cyngor. Esboniodd y Cydlynydd Craffu y disgwylid i adroddiad arall am ddatblygu
Gerddi'r Castell a chyfleoedd mannau cyhoeddus gael ei gyflwyno i'r Cabinet ar
20 Hydref 2016. Felly roedd cynghorwyr
yn cael eu hysbysu ymlaen llaw am gyfarfod Craffu Cyn Penderfynu rywbryd yn
ystod yr wythnos sy'n dechrau 17 Hydref 2016. PENDERFYNWYD: a) Y dylid derbyn y Rhaglen Waith Craffu fel yr amlinellwyd yn yr
adroddiad; b) Cymeradwyodd y pwyllgor y cynnig i sefydlu Gweithgor Craffu ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 59 KB Cofnodion: Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i
aelodaeth y Paneli/Gweithgor Craffu. Amlinellwyd diwygiad i aelodaeth bresennol y Paneli/Gweithgor Craffu o ran: ·
Panel
Ymchwiliad Craffu ar gyfer Trechu Tlodi – mae angen ychwanegu'r Cynghorydd D W
Cole PENDERFYNWYD cymeradwyo'r penodiad uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y
cadeirydd am gofnod llythyrau'r Tîm Craffu a chyfeiriodd at yr ohebiaeth
ddiweddar rhwng paneli craffu ac Aelodau’r Cabinet. Nododd y cadeirydd
fod ymateb y Cynghorydd J Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg, bellach wedi
cael ei dderbyn ac felly byddai'n cael ei gynnwys yn y pecyn agenda ar gyfer
cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu sydd wedi'i drefnu ar gyfer 10 Hydref
2016. PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar. Cofnodion: Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu'n ddiweddar. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Digwyddiadau craffu sydd ar ddod. Cofnodion: Cyfeiriodd y cadeirydd at sesiwn ymwybyddiaeth trechu tlodi arall ar gyfer
cynghorwyr craffu sydd wedi'i drefnu ar gyfer 15 Medi 2016 am 4.00pm. Trefnwyd Grŵp Cynghorwyr Rhanbarthol Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar gyfer 27 Medi 2016 am 10.30am yn Sir Benfro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). Cofnodion: Adroddodd cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu fod cadeirydd y Pwyllgor
Archwilio wedi cael ei wahodd i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu er
mwyn sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y naill at y llall o gynlluniau
gwaith a chydlynu perthnasol ac i alluogi trafod materion sy'n ymwneud â
rhaglenni gwaith perthnasol. PENDERFYNWYD y dylid NODI Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm).
Cofnodion: NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.
Cofnodion: Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth. |