Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Galw penderfyniad y Cabinet i mewn - Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gohiriedig Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a gylchredwyd am y Fframwaith
Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth, yr oedd sawl cynghorydd wedi'i alw i
mewn yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 18 Ionawr a chyfeiriodd hyn at y pwyllgor
yn unol â gweithdrefn galw i mewn y Cyngor. Cyfeiriodd at absenoldeb yr uwch-swyddog arweiniol ar gyfer yr adroddiad
oherwydd profedigaeth deuluol ddiweddar a chynigiodd
y dylid gohirio'r mater tan gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a drefnwyd ar
gyfer dydd Mawrth 13 Chwefror 2024. Penderfynwyd gohirio'r adroddiad i gyfarfod y pwyllgor
a gynhelir ar 13 Chwefror 2024. |