Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

106.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd L R Jones a'r Cynghorydd S Pritchard – Personol – Cofnod 110 - Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

107.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

108.

Cofnodion. pdf eicon PDF 150 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2024 fel cofnod cywir.

 

109.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim.

110.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cadeirydd ac Is-gadeirydd BGC Abertawe, ynghyd â swyddogion arweiniol y BGC, yn bresennol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC).

 

Darparwyd y canlynol i'r Pwyllgor i gefnogi'r sesiwn, ar gyfer cwestiynau:

 

·       Adroddiad Blynyddol y BGC ar gyfer 2023-2024.

·       Cynllun Gweithredu'r Cynllun Lles ar gyfer 2024-2025.

·       Copi o ohebiaeth flaenorol rhwng Pwyllgor y Rhaglen Graffu a Chadeirydd y BGC ynghylch y cyfarfod ym mis Hydref 2023 – ar gyfer gwaith dilynol, yn ôl yr angen.

·       Cofnodion Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe:  Cyfarfodydd 12 Hydref ac 8 Chwefror – er ymwybyddiaeth y Pwyllgor.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y Pwyllgor a chafwyd trafodaeth ynglŷn â pherfformiad y BGC a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·      Adroddiad Blynyddol – manylwyd ar gynnydd tuag at yr Amcanion Lles Lleol mewn perthynas â’r canlynol: Y Blynyddoedd Cynnar; Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda; Newid yn yr Hinsawdd ac Adferiad Natur; Cymunedau Cryf, gan gynnwys camau i gyflawni'r rhain.  Roedd y camau nesaf ar gyfer y BGC yn cynnwys camau gweithredu i gefnogi trawsnewid Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar, adeiladu ar ddatganiad Abertawe yn 2022 o fod yn Ddinas Hawliau Dynol, gweithio tuag at darged Sero Net Abertawe ac adfer natur, gwneud Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy llewyrchus, datblygu Cynnig Diwylliannol integredig Abertawe, cysylltu â threfniadau llywodraethu eraill a dylanwadu arnynt, gwella ansawdd a hygyrchedd data a datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe.

 

·      Cynllun Gweithredu / Trefniadau Rheoli Perfformiad – roedd gan Gynllun Gweithredu BGC fesurau perfformiad effeithiol ar draws yr 8 Amcan ac fe'i monitrwyd bob chwarter.  Cyhoeddwyd manylion yn yr Adroddiad Blynyddol, sef dogfen ar gyfer y cyhoedd, ac fe'i cyhoeddwyd ar y rhyngrwyd.   Roedd fersiwn fideo o'r Adroddiad Blynyddol hefyd yn cael ei datblygu, i ymgysylltu â'r cyhoedd, a bydd yn cyd-fynd â fersiwn derfynol yr Adroddiad Blynyddol. Manylwyd ar ddigwyddiad amlasiantaeth a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2023 a oedd wedi helpu i godi proffil gwaith y BGC.

 

·       Cynllun Gweithredu – Cyflawni'r Cynllun/Amcanion Lles – O ran y materion BGC mwyaf heriol, y Blynyddoedd Cynnar a Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur yw'r rhai mwyaf cymhleth o hyd. Roedd rheoli'r blaenoriaethau a'r pwysau cyllidebol gwahanol ym mhob un o'r sefydliadau partner hefyd yn parhau i fod yn her. Fodd bynnag, roedd hwn yn faes o gynnydd a datblygiad parhaus.

 

·       Cymhariaeth â mannau eraill – Er nad oedd cymariaethau uniongyrchol â'r 22 BGCau arall yng Nghymru wedi cael eu gwneud, defnyddiwyd gwybodaeth am arfer gorau a themâu cyffredin. Cyfeiriwyd hefyd at ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru 2019, a oedd wedi adolygu BGCau ledled Cymru. Er bod diffyg cyllid wedi'i nodi, mae sefydliadau partner yn gweithio gyda'i gilydd i osod targedau realistig a phragmatig.  Roedd cynyddu ymwybyddiaeth o waith y BGC hefyd yn faes i'w ddatblygu.

 

·       Cynnwys Llywodraeth Cymru – mae cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn mynychu holl gyfarfodydd y BGC ac mae bwletin chwarterol yn cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu.  Gofynnodd y Cadeirydd i'r bwletin chwarterol gael ei ddosbarthu ymhlith Cynghorwyr Dinas a Sir Abertawe i gynyddu ymwybyddiaeth o'r BGC.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am eu mewnbwn

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.   

 

 

111.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023-24. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, gyda chymorth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Adroddiad Blynyddol Cynllun yr Iaith Gymraeg 2022-2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r gweithgareddau sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg o fewn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023;   gan gynnwys prosiectau a gweithgareddau newydd yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd yr Aeloda'r pwyntiau allweddol, a oedd yn cynnwys:

 

·         Galwadau ffôn Cymraeg.

·         Llwyth gwaith cyfieithu.

·         Staff yn hunangofnodi sgiliau Cymraeg.

·         Swyddi newydd gyda Gofyniad Sgiliau Gymraeg.

·         Cyfranogiad mewn Hyfforddiant Iaith Gymraeg ffurfiol.

·          Cwynion Iaith Gymraeg.

·          Addysg Gymraeg.

 

Roedd ymdrechion y Cyngor yn 2023-2024 ynghylch safonau'r Gymraeg wedi dangos cynnydd yn ogystal â meysydd ar gyfer sylw parhaus.  Roedd y gostyngiad mewn galwadau ffôn Cymraeg yn cyd-fynd â'r gostyngiad mewn gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r pandemig, ac roedd llwyth gwaith cynyddol yr Uned Gyfieithu yn dangos ymrwymiad parhaus i hygyrchedd ieithyddol.

 

Roedd y cynnydd yn nifer y staff sy'n hunangofnodi sgiliau Cymraeg yn adlewyrchu amrywiaeth ieithyddol cynyddol, a gefnogir gan arferion recriwtio dwyieithog.  Fodd bynnag, roedd gostyngiad bach mewn cyfranogiad ffurfiol mewn hyfforddiant iaith Gymraeg yn awgrymu bod angen ymdrechu o'r newydd mewn perthynas â datblygiad staff.

 

Gyda llai o gwynion Cymraeg yn cael eu derbyn a chofrestru sefydlog ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, roedd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg a chynwysoldeb.  Byddai ymdrechion parhaus yn sicrhau cynnydd parhaus o ran bodloni safonau'r Gymraeg a gwasanaethu dinasyddion Cymraeg eu hiaith yn effeithiol.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·         Camau Gweithredu yn y Dyfodol – Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn nodi bod angen diwygio strategaethau hyrwyddo drwy ddatblygu Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ddiwygiedig, gan integreiddio mewnwelediadau o'r adolygiad o strategaethau a chanllawiau blaenorol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Roedd y Canllawiau'n tynnu sylw at flociau adeiladu ar gyfer datblygu strategaeth effeithiol ac yn manylu ar y meysydd i'w hosgoi.  Roedd dadansoddi data yn caniatáu i'r Cyngor ddatblygu ei agenda ei hun a thargedu adnoddau tuag at wella rhuglder.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb  a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

112.

Adolygu Strategaeth Gymraeg y Cyngor 2017-2022. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb gyda chymorth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, y canfyddiadau o adolygiad o Strategaeth y Gymraeg y Cyngor.  Strategaeth 2017-22.

 

Roedd Safonau'r Gymraeg y Cyngor wedi bod yn allweddol wrth gynnal ffocws ar hyrwyddo'r Gymraeg o fewn Abertawe a'r Cyngor ei hun.  Mae'r dadansoddiad o bwyntiau data allweddol, gan gynnwys ystadegau'r cyfrifiad, tueddiadau addysg, sgiliau iaith staff a hysbysebu swyddi yn dangos llwyddiannau a meysydd i'w gwella. Er y bu cynnydd nodedig yn nifer y cofrestriadau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac ymdrechion i hyrwyddo sgiliau iaith staff, roedd heriau megis lefelau rhuglder yn dirywio ac anghysondeb o bosib o ran gofynion swyddi yn parhau.  Wrth symud ymlaen, byddai ymagwedd strategol fwy cadarn o fynd i'r afael â'r heriau hyn, ynghyd â mecanweithiau monitro a gwerthuso cadarn yn hanfodol i sicrhau effeithiolrwydd y Strategaeth newydd wrth gyflawni ei hamcanion.

 

Nodwyd bod Strategaeth 2022 wedi'i symud ymlaen oherwydd pandemig COVID a bod cynnydd yn cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth newydd ar gyfer y cyfnod 2024-2029.  Cynlluniwyd digwyddiad cyd-gynhyrchu yn y Gymraeg a'r Saesneg.   

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·      Staff Cymraeg/Gwersi Cymraeg - roedd y Cyngor yn gweithio i fynd i'r afael â'r her hon ac i ddatblygu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y Cyngor.  Mae amrywiaeth o gymhellion yn cael eu datblygu megis cyfleoedd gyrfa, cyflog, amser i ffwrdd o'r gwaith i fynychu dosbarthiadau Cymraeg sy'n cael eu cynnal yn ystod oriau gwaith, gweithio o bell i alluogi staff i reoli eu llwyth gwaith er mwyn mynychu dosbarthiadau Cymraeg, sesiynau anffurfiol gyda siaradwyr Cymraeg a datblygu amgylchedd cefnogol, calonogol.

 

·      Tueddiadau mewn Addysg Gymraeg – Cafwyd trafodaeth am dargedau Llywodraeth Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg, tueddiadau mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg a pha effaith y bydd hyn yn ei chael ar Strategaeth y Gymraeg newydd y Cyngor

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

113.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw newidiadau i adrodd amdanynt.

 

114.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y Pwyllgor:

 

1)    Gweithgor Craffu – Cyswllt Cwsmeriaid – 23 Chwefror 2024 – Llythyr at / oddi wrth Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd)

2)    Pwyllgor – Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-2023 – 19 Mawrth, 2024 – Llythyr at / oddi wrth Aelodau'r Cabinet dros Addysg a Dysgu a Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb.

115.

Adolygiad diwedd blwyddyn y Pwyllgor 2023/24. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 a gwahoddodd aelodau'r Pwyllgor i fyfyrio ar eu profiad a mynegi eu barn i Arweinydd y Tîm Craffu.

 

Anerchodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y Pwyllgor mewn perthynas ag Archwilio / Craffu a pha mor effeithiol oedd hynny o ran sicrhau ymwybyddiaeth dda o waith ei gilydd, osgoi dyblygu a bylchau mewn rhaglenni gwaith, a'r gallu i gyfeirio materion rhwng Pwyllgorau.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu, sy'n agored i bob Cynghorydd anweithredol, yn cael ei chynnal ar 18 Mehefin, gyda chyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig newydd yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf.

 

116.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 a gwahoddodd aelodau'r Pwyllgor i fyfyrio ar eu profiad a mynegi eu barn i Arweinydd y Tîm Craffu.

 

Anerchodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y Pwyllgor mewn perthynas ag Archwilio / Craffu a pha mor effeithiol oedd hynny o ran sicrhau ymwybyddiaeth dda o waith ei gilydd, osgoi dyblygu a bylchau mewn rhaglenni gwaith, a'r gallu i gyfeirio materion rhwng Pwyllgorau.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu, sy'n agored i bob Cynghorydd anweithredol, yn cael ei chynnal ar 18 Mehefin, gyda chyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig newydd yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf.

 

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 150 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 119 KB