Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr C A Anderson, M Jones a W G Lewis gysylltiad personol â Chofnod 100
– Craffu ar Drosedd ac Anhrefn – Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy
Diogel. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Mawrth
2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol
dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu
blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd
amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda
ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Craffu ar Droseddu ac Anrhefn - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth
cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru a'r cyngor i'r cyfarfod er mwyn darparu
adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, ac ateb cwestiynau, a
gyd-gadeirir gan y ddau sefydliad. Rhoddwyd papurau
i'r Pwyllgor a oedd yn myfyrio ar berfformiad y Bartneriaeth dros y flwyddyn
ddiwethaf i helpu i arwain y drafodaeth a'r cwestiynau, ac ystyriwyd y materion
a godwyd yn ystod y sesiwn ddiwethaf ym mis Ebrill 2023, gan gynnwys: ·
Adroddiad Adolygiad
Partneriaeth Blynyddol Abertawe Mwy Diogel 2023 (Atodiad 1); ·
adroddiad cynnydd ar
Ddysgu o'r Aflonyddwch ym Mayhill, mewn ymateb i
argymhellion yr Adolygiad Dysgu Annibynnol a chanfyddiadau Adolygiad Mewnol yr
Heddlu a chamau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd (Atodiad 2); ·
enghreifftiau o ymagwedd
y bartneriaeth at gyd-gynhyrchu (Atodiad 3); a ·
gwerthusiad o Ymgyrch Viscaria, ymateb i achosion
o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yng Nghanol y Ddinas (Atodiad 4). Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Ystadegau Trosedd ac Anhrefn
– y rhesymeg ar gyfer cymharu perfformiad yn 2023 yn erbyn blwyddyn ariannol
2019/2020. Nodwyd bod data a gafwyd yn ystod cyfyngiadau symud COVID yn
cynhyrchu data ffug ac ystyriwyd ei bod yn briodol cymharu'r data perfformiad
mewn perthynas â Blaenoriaethau Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn y flwyddyn
cyn y cyfyngiadau symud. · Treisio
a Throseddau Rhywiol Difrifol Eraill - roedd y data'n dangos cynnydd yn nifer y
troseddau. Nodwyd bod tîm ymroddedig wedi'i sefydlu i ddelio â thrais rhywiol
difrifol a throseddau rhywiol difrifol eraill. Roedd y 'Siop dan yr Unto' a oedd yn cynnwys cydweithio â sefydliadau trydydd sector wedi arwain at Heddlu De
Cymru'n cael y nifer uchaf o gyhuddiadau yn erbyn troseddwyr ac erlyniadau yng
Nghymru, a'r perfformiad ail orau yn genedlaethol. Roedd angen dilyniant a datblygiad parhaus ar y maes
gwaith hwn. ·
Gostyngiad mewn Troseddau –
roedd ystadegau'n dangos y cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y troseddau
byrgleriaeth. Darparwyd trosolwg cynhwysfawr o'r broses ar gyfer delio â
byrgleriaeth wrth iddi fynd rhagddo a byrgleriaethau hanesyddol. Datblygwyd
uned wyddonol ar y cyd ac roedd ditectifs wedi'u neilltuo i'r ddau fath o ddigwyddiadau. Roedd Heddlu
De Cymru yn y trydydd safle yn genedlaethol o ran sicrhau erlyniadau. · Troseddau Ceir – er bod troseddau ceir
wedi gostwng yn sylweddol, roedd tîm ymroddedig wedi'i sefydlu i reoli'r
cynnydd mewn dwyn beiciau modur. · Dwyn o siopau/troseddau ar-lein – Bu
cynnydd ledled
y wlad mewn troseddau
dwyn o siopau ac ar-lein. · Iechyd Meddwl – gofynnodd y Pwyllgor am
yr ymateb lleol ac unrhyw newidiadau i ymagwedd yr Heddlu. Darparwyd trosolwg
cynhwysfawr ynghylch y broses ar gyfer blaenoriaethu a rheoli galwadau sy'n
ymwneud ag iechyd meddwl. Bydd system newydd ar waith erbyn mis Chwefror 2025 a
fydd yn cysylltu pobl â'r gwasanaethau cywir i wella canlyniadau a bydd diweddariad
yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor maes o law. Cydnabuwyd bod gwasanaethau
ar gyfer iechyd meddwl yn parhau i fod yn her. · Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) – goblygiadau ar gyfer Trosedd ac Anhrefn lleol yn
dilyn y cyhoeddiad am doriadau cenedlaethol i gyllidebau/gweithlu
PCSO. Nodwyd bod dadansoddiad manwl o ddata'r ward yn cael ei
gynnal. Ni ragwelwyd y byddai diswyddiadau, fodd bynnag, cydnabuwyd ei
bod yn annhebygol y bydd unrhyw PCSOs sy'n gadael eu
swyddi yn cael eu disodli. Roedd y gwasanaeth a ddarparwyd gan PCSOs i ysgolion yn amhrisiadwy, fodd bynnag, roedd cyllid
bellach wedi dod i ben a byddai'r staff
yn parhau yn eu rolau tan ddiwedd y flwyddyn academaidd. · Perthynas rhwng Plismona yn y Gymdogaeth
101 a 999 – soniodd Heddlu De Cymru am y pryderon ynghylch y cydgysylltedd rhwng y rhain a Chynghorwyr nad ydynt yn cael
yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy'n effeithio ar eu hardaloedd /
preswylwyr. Gwnaethant sylwadau hefyd am bryder a godwyd ynghylch bylchau
adrodd rhwng pob gwasanaeth, sy'n arwain at beidio ag ymchwilio i rai materion.
Nodwyd bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud a bod 92% o alwadau'n cael eu
hateb, gydag amser aros cyfartalog o 2.5 munud. Roedd cyfleuster sgwrsio
ar-lein ar gael hefyd. Derbyniwyd 2,500 o alwadau bob dydd ac amlinellwyd
y broses pump
cam ar gyfer ymdrin â
galwadau. Estynnwyd gwahoddiad i
Gynghorwyr ymweld â'r ystafell reoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle ymdrinnir â
galwadau 101 a 999. · Dysgu o'r
Anhrefn ym Mayhill – rhoddwyd sicrwydd ynghylch
defnyddio adnoddau pe bai sefyllfa debyg yn codi yn y dyfodol. Roedd
cyfres o ddigwyddiadau prawf wedi eu treialu ac roedd profiadau wedi'u hennill
yn dilyn y sefyllfa yn Nhrelái, Caerdydd yn
2023. Er bod Heddlu De Cymru'n fodlon ar y gweithdrefnau a oedd ar waith, nid oeddent yn hunanfodlon ac roeddent yn
gweithio gyda chymunedau i reoli tensiynau. ·
Gweithio ar y cyd gydag asiantaethau i reoli
cysylltiadau iechyd meddwl â chamddefnyddio sylweddau - nododd Heddlu De Cymru
fod hon yn her barhaus a'u bod yn gweithio gyda'i gilydd. Nodwyd bod disgwyl i
Gomisiwn Cyffuriau annibynnol a sefydlwyd i archwilio'r nifer uchel o
farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn Abertawe a Chastell-nedd Port
Talbot adrodd yn ôl yn ddiweddarach eleni gydag argymhellion. ·
Y
Stryd Fawr – manylwyd ar yr heriau parhaus yn yr ardal ynghyd â'r buddsoddiad
yn yr ardal. Nodwyd bod erthygl
newyddion ddiweddar wedi adrodd am faterion hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r
ardal ac nid oedd yn adlewyrchiad o'r sefyllfa bresennol a gwelliannau parhaus. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cyd-gadeiryddion, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a
Strategaeth, Aelod y Cabinet dros
Les, Aelod y Cabinet dros y Gymuned (Cefnogaeth), Swyddogion a Chynrychiolwyr
Heddlu De Cymru am eu mewnbwn. Penderfynwyd y bydd y
Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cyd-gadeiryddion gan adlewyrchu'r drafodaeth a
rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd nodi Adroddiad
Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 127 KB Cofnodion: Nid oedd unrhyw
newidiadau i adrodd amdanynt. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 156 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24 y
mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Cadarnhaodd fod y
prif eitemau ar gyfer y Pwyllgor nesaf ar 14 Mai yn cynnwys: 1) Craffu
ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. 2) Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023/24. 3) Adolygiad Diwedd
Blwyddyn y
Pwyllgor 2023/24. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y
Pwyllgor: 1) Pwyllgor
– Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r Arweinydd – 16 Ionawr 2024 - Llythyr at / oddi
wrth Aelod y Cabinet dros yr Economi, Strategaeth a Chyllid (Arweinydd). 2) Pwyllgor
– Dilyniant – Gweithgor Diogelwch Ffyrdd – 16 Ionawr 2024 - Llythyr at / oddi
wrth Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd. 3) Pwyllgor
- Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chanmoliaeth 2022/23 – 19 Mawrth 2024 - Llythyr
at Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd). |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 121 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, ar
gyfer ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Gyd-gadeiryddion y Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel PDF 185 KB |