Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd M
Jones – Personol – Cofnod 89 - Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-23. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024 a
Phwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2024 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024 a
Phwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2024 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol
dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu
blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd
amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda
ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-2023. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb ac Aelod y Cabinet dros Addysg
a Dysgu Adroddiad Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg 2022-2023. Roedd yr adroddiad
yn darparu crynodeb o'r gweithgareddau sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg o fewn
y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023; gan gynnwys
prosiectau a gweithgareddau newydd yn ystod y flwyddyn. Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb fod dyletswydd statudol ar bob
awdurdod lleol yng Nghymru ers 30 Mawrth 2016 i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg
(Cymru) (2011) a chyda Safonau'r Gymraeg a osodwyd gan y Mesur drwy is-ddeddfwriaeth
(Safonau Rheoleiddio'r Gymraeg), y cyfeirir atynt yn gyffredin fel y 'Safonau'. Nodwyd bod gofyn i Gyngor
Abertawe gydymffurfio â 163 o safonau ar draws 5 categori. Mae safonau 158,
164 a 170 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio adroddiad blynyddol sy'n
manylu ar sut y mae wedi cydymffurfio â'r safonau. Roedd cwestiynau a
thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Arwyddion - Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb mai gofynion y Gymraeg oedd, pan
fyddwn yn codi arwydd newydd neu'n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros
dro), fod yn rhaid i unrhyw destun ac sy'n cael ei arddangos ar yr arwydd gael
ei harddangos yn y Gymraeg hefyd. Felly, mae'n bosib nad yw rhai arwyddion
hŷn sy'n dal i fod yn eu lle yn ddwyieithog, ond byddai angen iddynt fod
pan fydd rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle yn y dyfodol. Codwyd ymholiad
penodol ynghylch arwyddion mewn parciau ac o'u hamgylch, a lleoliad penodol yr
ymrwymodd Aelod y Cabinet i fynd ar ei drywydd gydag un o Aelodau'r
Pwyllgor. · Y Gwasanaeth Cyfieithu – yn dilyn mater a godwyd wrth
drafod adroddiad y llynedd, manylodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu'r gymhariaeth gost rhwng y Gwasanaeth Cyfieithu
Cymraeg mewnol a gwasanaethau cyfieithu allanol. Er bod darparu cyfieithwyr
allanol, neu wasanaeth cyfieithu allanol yn llawer mwy cost-effeithiol y
flwyddyn, roedd rhesymau pam y byddai'n gwasanaeth cyfieithu mewnol yn cael ei
ffafrio. Cyfeiriodd at welliannau sy'n cael eu gwneud/eu harchwilio i
wella effeithlonrwydd a chost effeithiolrwydd y gwasanaeth. · Safonau Cyflenwi
Gwasanaethau – amlygodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a
Chydraddoldeb y camau a gymerwyd i gyflwyno prosesau awtomataidd newydd i
wella'r gwasanaeth er mwyn i ddefnyddwyr gael mynediad at wasanaethau'n
ddwyieithog. · Cyfieithu ar y
pryd – cafwyd ymholiad ynghylch cyfeiriad yn yr adroddiad at gaffael trwyddedau
Zoom i hwyluswyr er mwyn galluogi cyfieithu ar y
pryd. Gan fod y Cyngor yn defnyddio MS Teams yn
gorfforaethol, y mae ganddo nodweddion ar gyfer cyfieithu, gofynnwyd i
Aelodau'r Cabinet pam fod hyn yn angenrheidiol.
Byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. · Cwynion am y Gymraeg -
roedd rhywfaint o bryder am ymateb y Cyngor i rai o'r cwynion a dderbyniwyd,
e.e. yn datgan na chymerwyd unrhyw gamau. Dywedodd Aelodau'r Cabinet y bydden
nhw'n edrych ar hyn ar ôl y cyfarfod ac yn ymateb. · Yr Uned Gyfieithu
- dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol fod trefniant cytundebol ffurfiol
yn bodoli mewn perthynas â'r gwasanaeth ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port
Talbot, ac yr ailgodir costau ar Gastell-nedd Port Talbot yn seiliedig ar
ddefnydd. · Gwelededd yr Adroddiad Blynyddol – er ei fod
ar gael ar-lein awgrymwyd y byddai'n beth cadarnhaol pe bai copi caled o'r
Adroddiad Blynyddol ar gael mewn Llyfrgelloedd.
Byddai
Aelodau'r Cabinet yn egluro a yw hyn eisoes yn wir ac yn ymateb. · Addysg Cyfrwng
Cymraeg – Gofynnwyd i Aelodau'r Cabinet pa drefniadau ddylai fod ar waith ar
gyfer darpariaeth cyfieithu ar gyfer Cyfarfodydd Llywodraethwyr Ysgolion mewn
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg, ac a oedd ysgolion unigol yn gyfrifol am y gost.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu y byddai ymateb yn cael ei
ddarparu i'r Pwyllgor ynghylch disgwyliadau a threfniadau, gan gynnwys cyllid. Diolchodd y Cadeirydd i
Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb , Aelod y
Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Prif Swyddog Cyfreithiol am eu mewnbwn. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu
at Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb ac Aelod y
Cabinet dros Addysg a Dysgu i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor |
|
Adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol 2022-23. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yr Adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol ar
gyfer 2022. Nodwyd bod y ddau adroddiad yn atodiadau A a B yn
manylu ar berfformiad o ran gweithrediad y Polisi Cwynion Corfforaethol a
Pholisi Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth
2023. Roedd fformat newydd i'r adroddiadau cwynion mewn ymateb i gais gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyflwynwyd yr Adroddiadau Blynyddol hefyd
i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan fod ganddo gyfrifoldeb i ystyried
gallu'r Awdurdod i ymdrin â chwynion yn effeithiol, felly rhoddwyd sicrwydd
iddo ar y broses o ymdrin â chwynion. Amlygwyd i'r Pwyllgor fod nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor yn
ganran fach iawn o'r nifer helaeth o ryngweithiadau â dinasyddion bob blwyddyn.
Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad fod y Cyngor yn cydnabod bod cwynion yn
adnodd gwerthfawr sy'n helpu'r Cyngor i ddeall anghenion a phryderon aelodau'r
cyhoedd ac i wella gwasanaethau. Cymerir pob cwyn o ddifri ac maent yn darparu
mewnwelediad gwerthfawr i gwsmeriaid. Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at
y sylwadau cadarnhaol a gafodd y Cyngor. Nodwyd hefyd fod
archwiliad mewnol o Gwynion wedi dechrau ar ddiwedd 2022-23 a daeth i ben yn
2023-24 y rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol ar ei gyfer. Nododd y Pwyllgor fod Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi cael ei ystyried gan Baneli Perfformiad Craffu y Gwasanaethau
Cymdeithasol ar 12 Mawrth. Roedd cwestiynau a
thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Dadansoddiad
o Gwynion – cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau at nifer y
cwynion nad oeddent wedi'u cadarnhau, a allai fod ymhlith rhesymau eraill
oherwydd materion neu amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, e.e.
llifogydd, neu gwynion yn erbyn tocynnau parcio a oedd yn destun proses
wahanol. · Achosion yr
Ombwdsmon - dywedodd yr adroddiad fod yr Ombwdsmon wedi derbyn 94 o gwynion yn
2022-23 ond ei fod wedi cau 99 achos yn ymwneud â'r Cyngor. Eglurodd Pennaeth y
Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid fod yr anghysondeb yn y ffigurau hyn yn
ymwneud â rhai achosion yr Ombwdsmon sy'n dal i gael eu hystyried o flynyddoedd
blaenorol. · Amserlenni
Adrodd – dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid y byddai pob
ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau y byddai adroddiadau blynyddol ar Gwynion a
Chanmoliaeth ar gael yn gynharach. Fodd bynnag, mae'n cymryd sawl mis i grynhoi
gwybodaeth ond byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i lunio'r adroddiad nesaf
cyn gynted â phosib ar ôl derbyn Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ym mis Medi /
Hydref. · Proses ar gyfer
Cofrestru Cwynion a Chanmoliaeth – Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Digidol
a Chwsmeriaid y broses, gyda'r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu gwneud ar-lein,
fodd bynnag roedd dulliau eraill ac, mewn adroddiadau yn y dyfodol, gellid
manylu ar ffigurau ynghylch y ffynhonnell gofrestru, e.e. p'un ai ar-lein, drwy
e-bost, llythyr, etc. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch cofnodi canmoliaethau,
er mwyn sicrhau na chollir sylwadau cadarnhaol a dderbynnir gan y cyhoedd. Diolchodd y Cadeirydd i
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Phennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid
am eu mewnbwn. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Phennaeth y Gwasanaethau Digidol a
Chwsmeriaid i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd
Lyndon Jones adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar
waith/weithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad Addysg. Yn absenoldeb y
Cynullydd, rhannodd y Cadeirydd rai sylwadau a wnaed gan y Cynullydd mewn
perthynas â Phartneriaeth Ranbarthol Partneriaeth gan y bu cyhoeddiad
diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cynnig adolygiad o drefniadau partneriaethau
addysg. Roedd peth pryder ynghylch goblygiadau adolygiad o'r fath ar Partneriaeth
ac ar gynghorau unigol yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi Adroddiad
Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Addysg.. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 127 KB Cofnodion: Nid oedd unrhyw
newidiadau i adrodd amdanynt. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 154 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24 y
mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Cadarnhaodd fod y
brif eitem ar gyfer y Pwyllgor nesaf ar 16 Ebrill yn cynnwys: · Sesiwn Craffu ar
Drosedd ac Anhrefn - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y
Pwyllgor: · Pwyllgor – Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn – Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau
Gwasanaeth - Llythyr at / oddi wrth Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd). · Pwyllgor – Craffu ar Strategaeth y
Gweithlu - Llythyr at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad
Corfforaethol (Dirprwy Arweinydd). |
|
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, ar
gyfer ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg PDF 161 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol PDF 106 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg PDF 218 KB |