Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16
Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim.
|
|
Galw penderfyniad y Cabinet i mewn - Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth. PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr
adroddiad a oedd yn nodi bod gofyn i'r Pwyllgor ystyried y pryderon a godwyd mewn
perthynas ag adroddiad y Cabinet / penderfyniad a wnaed ar 18 Ionawr, ar y
'Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth' a gafodd ei 'alw i mewn'
gan Gynghorwyr (y Cynghorydd arweiniol, Sandra Joy). Manylodd y Cynghorydd Sandra
Joy – Cynghorydd Arweiniol sy'n gwneud y 'Galw i Mewn' ar y rhesymau dros y
Galw i mewn fel a ganlyn: "Y rheswm am y Galw i Mewn yw oherwydd ein
bod yn credu bod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad hwn heb iddynt gael
gwybod yn llawn am y pryderon a fynegwyd gan aelodau o'r Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau (PTG) ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol
mewn cyfarfod a gofnodwyd ar 12 Rhagfyr, pan drafodwyd drafft y polisi hwn.
Roeddent dan yr argraff fod drafft y polisi hwn wedi'i dderbyn yn ei
gyfanrwydd gan y PTG hwn, ac nid yw hynny'n wir. Nid oedd Cadeirydd y
Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol wedi rhannu'r pryderon a godwyd
ag aelodau'r Cabinet. Yn ystod y cyfarfod PTG hwn, codwyd pryderon
sylweddol ynghylch yr amserlenni ar gyfer prosesu ceisiadau am brydau ysgol am
ddim. Nodir hyn fel 28 niwrnod gwaith, bron chwe wythnos. (Codwyd amserlenni
eraill ar gyfer pobl sy'n profi caledi yn y cyfarfod hefyd, ond rydym yn
canolbwyntio ar yr effaith uniongyrchol ar blant agored i niwed.) Sylwer mai plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Nid oes
ganddynt fynediad at arian. Mynegwyd pryder y gallai plentyn o'r fath fod mewn
sefyllfa lle nad yw'n gallu cael gafael ar unrhyw fwyd yn ystod y dydd am hyd
at chwe wythnos. Dywedodd swyddog y Cyngor a oedd yn bresennol
wrth y Pwyllgor y byddai'n 'mynd â hynny'n ôl i'r Penaethiaid Gwasanaeth' ac yn
'rhoi adborth i chi'. Ni ddigwyddodd hyn tan ar ôl i'r Cabinet gyfarfod a
gwneud eu penderfyniad, felly eto ni chawsant wybod am y pryderon a godwyd.
Yn amlwg, gellir darparu tystiolaeth ategol fod
hyn wedi'i godi, trwy gofnodion y cyfarfodydd y cyfeirir atynt yma a
recordiadau o'r ddau gyfarfod: cyfarfod y PTG a chyfarfod y Cabinet, yn ogystal
â'r negeseuon e-byst dilynol a gyfnewidiwyd gyda swyddogion y Cyngor. I grynhoi, credwn fod y penderfyniad i
fabwysiadu Fframwaith y Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth heb ddiwygiad
yn anniogel, gan ein bod yn credu y byddai'r Cabinet wedi bod yn annhebygol o
dderbyn y dylid fod disgwyl i unrhyw blentyn agored i niwed fynd heb fwyd bob
dydd am bron chwe wythnos tra bod oedolion yn prosesu'r gwaith papur
gofynnol". Mewn ymateb,
dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau: Er iddi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau,
roedd yn dymuno egluro rhai o'r materion a godwyd. Rhoddodd sicrwydd ynghylch ymrwymiad a gofal y Cyngor am les plant a
mynediad at brydau ysgol am ddim. Cyfeiriodd at y rhesymeg y tu ôl i amserlen y Safon Gwasanaeth ynghylch
Prydau Ysgol am Ddim a'r cynnig i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn dilyn
trafodaeth â Swyddogion. Yn anffodus, mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib
cadarnhau cymhwysedd heb ymgynghori â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a all
gymryd hyd at 28 niwrnod i ymateb. Mae amserlenni'r DWP y tu hwnt i reolaeth y
Cyngor. Fodd bynnag, os oedd y Cyngor yn
ymwybodol o hawl teulu drwy wahanol ddulliau (e.e. Treth y Cyngor neu Fudd-dal
Tai, ac roeddent wedi darparu tystiolaeth yn flaenorol ar gyfer budd-daliadau
cymwys) gall y Cyngor gadarnhau hyn a phrosesu'r cais o fewn un neu ddau
ddiwrnod. Roedd y diwygiad arfaethedig o saith niwrnod gwaith yn adlewyrchu camau
gweithredu a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor, unwaith y byddai'r Cyngor yn
ymwybodol o fudd-dal cymwys. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i brosesu
ceisiadau cyn gynted â phosib. Eglurodd Aelod y Cabinet fod y Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau
Gwasanaeth i fod i gael ei roi ar waith ar 1 Ebrill a bwriedid iddo bob amser
fod yn 'ddogfen fyw' a fydd yn cael ei diweddaru/diwygio'n unol â hynny i wella
ein gwasanaeth cwsmeriaid, fel yr adlewyrchir ym mhenderfyniad y Cabinet ar 18
Ionawr lle rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwyr a'r Aelod(au) Cabinet
perthnasol wneud unrhyw fân newidiadau fel y bo'n briodol. I gloi, dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ei bod yn dymuno
rhoi lefel o sicrwydd y byddai'r pryderon a godwyd yn cael eu hystyried cyn
rhoi'r fframwaith ar waith ar 1 Ebrill 2024. Rhoddodd y
Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau drosolwg cynhwysfawr o'r broses ar gyfer
penderfynu ar gymhwysedd ac ailadroddodd y sylwadau a wnaed gan Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Gwasanaethau. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Newidiadau i'r Cynllun Budd-daliadau (cyflwyno Credyd Cynhwysol). · Ymatebion ysgolion i amserlenni ar gyfer prydau ysgol am ddim. · Meini prawf cymhwysedd yng Nghymru a Lloegr. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd S Joy, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a
Swyddogion am eu mewnbwn. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Gwasanaethau gan adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor i argymell
y diwygiad i'r Safon Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim a nodir yn ymateb y Prif
Weithredwr (Atodiad 4) lle caiff yr amserlen ei newid i 7 niwrnod gwaith (i
dderbyn y cadarnhad). |
|
Adroddiad Cynnydd Strategaeth y Gweithlu. PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan
Gwasanaethau Strategaeth y Gweithlu 2022-2027 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis
Hydref 2022 ar ôl cyfnod o gynllunio ac ymgynghori â rhanddeiliaid. Roedd y
strategaeth ar gael i'w gweld yn Atodiad A. Roedd y strategaeth yn
cynnwys pedair thema allweddol i ysgogi gwella diwylliant sefydliadol dros oes
y cyfnod o bum mlynedd, gan gyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor, 'Abertawe
Lwyddiannus a Chynaliadwy', a'r Cynllun Trawsnewid Corfforaethol
cysylltiedig ar gyfer 2023-2028. Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth y Gweithlu sefydlwyd
Bwrdd Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym mis Rhagfyr 2022.
Roedd y bwrdd yn gyfrifol am nodi prosiectau trawsnewid priodol a fyddai'n
galluogi cyflawni amcanion y strategaeth, gan gytuno ar y prosiectau
blaenoriaeth i'w rhoi ar waith ar unrhyw adeg benodol yn oes y strategaeth a
monitro cynnydd bob chwarter. Rhoddodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau fanylion
ynghylch y cynnydd gyda'r pedwar prosiect trawsnewid penodol ac amcanion
Strategaeth y Gweithlu a nodwyd i'w rhoi ar waith yn ystod 2023/24. Nododd yr Aelodau, o'r 23 amcan y cytunwyd arnynt ar gyfer 2023/24, mai
dyma'r rhestr gryno o'r statws Coch Oren Gwyrdd: · Wedi'u cwblhau - 4 · Gwyrdd – 12 · Oren – 6 · Wedi'u tynnu'n ôl = 1 Mae cynnydd da wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r
amcanion a nodir yn Strategaeth y Gweithlu a disgwylir i 70% ohonynt fod wedi'u
cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gydag un amcan i fod i gael ei
dynnu'n ôl oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac un oren arall
i'w ailddrafftio i gyflawni bwriadau'r gyfarwyddiaeth, byddai'r 5 amcan oren
sy'n weddill yn cael eu cario ymlaen i flwyddyn 2024/25 ynghyd â nodau sydd
newydd gael eu dewis yn parhau yn y strategaeth. Byddai recriwtio i'r swydd Rheolwr AD a DS gwag yn galluogi mwy o allu ar
gyfer cyflawni yn erbyn amcanion Strategaeth y Gweithlu ac wrth i'r gwaith o
drawsnewid gwasanaethau AD a DS wreiddio, bydd y ffocws ar waith prosiect yn
cynyddu o ganlyniad. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Gweithlu sy'n Addas i'r Dyfodol – Cydnabod Perfformiad – manylodd y
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau ar yr ymagwedd/camau
gweithredu newydd a gymerwyd i gyflwyno diwylliant o 'berfformiad uchel', gyda
gwerthusiad ac adborth rheolaidd drwy Oracle. · Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol – Manylodd y Pennaeth AD a'r
Ganolfan Gwasanaethau'r broses sydd ynghlwm wrth gyflawni'r achrediad
'Buddsoddwyr mewn Pobl'. Oherwydd costau
achredu, ystyriwyd ei fod yn rhywbeth y gellid ei archwilio yn ddiweddarach. · Bod yn Gyflogwr Delfrydol – Recriwtio a Chadw – Manylodd y Pennaeth AD a'r
Ganolfan Gwasanaethau ar y cynnydd a'r math o ymchwil a gwybodaeth i lywio
gwelliant i Bolisi ac ymagwedd y Cyngor at Recriwtio a Dethol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth AD a'r Ganolfan Gwasanaethau am ei mewnbwn a gofynnodd
am drefnu diweddariad pellach ar y ffordd y caiff Strategaeth y Gweithlu ei
chyflwyno i'r Pwyllgor mewn blwyddyn, gan ganolbwyntio ar yr effaith. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol gan adlewyrchu'r drafodaeth a
rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Sara Keeton adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar
waith/weithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad: Newid yn yr Hinsawdd a
Natur. Penderfynwyd bod Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad: Newid yn yr Hinsawdd a
Natur yn cael ei nodi. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 236 KB Cofnodion: Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Gweithgor Craffu Tyfu
Bwyd yn y Gymuned fel yr adroddwyd, gyda'r Cynghorydd Michael Locke fel
Cynullydd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 283 KB Trafodaeth
am: a) Gynllun
Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd
Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar
gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Amlygodd fod: ·
yr Ymchwiliad Craffu newydd ar Asedau Cymunedol bellach
wedi cychwyn; ·
derbyniwyd cais cyhoeddus am Graffu ar bwnc cyflwyno 5G
a'i effaith, ond yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Cyfreithiol, ystyriwyd bod
y materion penodol a godwyd y tu allan i gwmpas Craffu, felly ni fyddai unrhyw
gamau'n cael eu cymryd; Yn dilyn cwblhau'r Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu ar gyfer Cynghorwyr
Craffu Abertawe, a hwyluswyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mae
nifer o syniadau wedi dod i'r amlwg o'r broses hon a’r hunanasesiad. Caiff y rhain eu hystyried fel rhan o
adolygiad diwedd blwyddyn ehangach i lywio Amcanion Gwella Craffu a chamau
gweithredu yn y dyfodol. Cadarnhaodd fod
prif eitemau'r Pwyllgor nesaf ar 19 Mawrth yn cynnwys: ·
Adroddiad Cwynion Blynyddol 2022-2023. ·
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022/2023. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch
craffu diweddar y Pwyllgor: ·
Pwyllgor – Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu
Tlodi a Galluogi Cymunedau – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Les. Pwyllgor – Craffu ar Gymorth i Fusnes – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 228 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd
at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, ar gyfer
ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Strategaeth Gweithlu PDF 191 KB |