Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Arweinydd y
Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth yn bresennol ar
gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ei gyfrifoldebau portffolio. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cynnydd ar Brosiectau Mawr: Bae Copr – Roedd Willmot
Dixon wedi cymryd yr awenau oddi wrth y cyn-gontractwr ac roedd cynnydd yn cael
ei wneud o ran blaenoriaethu'r gwaith sydd heb ei gyflawni. Roedd trafodaethau
ynghylch gwesty newydd arfaethedig wrth ymyl yr Arena yn parhau. ·
Digwyddiadau Arena Abertawe/Gwerthu Tocynnau – Gofynnwyd
cwestiwn ynghylch perfformiad yn erbyn y cynllun busnes, a niferoedd cymharol
sy'n ymweld ar gyfer perfformiadau masnachol yn erbyn digwyddiadau megis
cynadleddau lle gall tocynnau fod am ddim.
Nodwyd bod yr Arena yn lleoliad aml-ddefnydd ac roedd modd darparu
dadansoddiad ar gyfer cynadleddau a sioeau masnachol a digwyddiadau eraill fel
rhentu'r arena ar gyfer seremonïau graddio. ·
Parcio yng Nghanol y Ddinas – Darpariaeth Cilfach Anabl –
Mynegwyd pryder ynghylch colli cilfachau dros dro ar gyfer gwaith ac effaith
datblygu. Roedd Swyddogion Priffyrdd
wedi ymweld â chanol y ddinas i edrych ar gyfleoedd i adleoli cilfachau parcio
anabl sydd wedi'i ddadleoli. Roedd Park
Street, Pell Street a chefn y Cwadrant yn cael eu harchwilio i liniaru colli
cilfachau parcio anabl. ·
Datblygiad Adeilad Byw Arloesol yn Iard Picton - yn dilyn
ymholiad am yr enw arfaethedig ar gyfer yr adeilad hwn, nodwyd bod adroddiad
polisi enwi'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i ystyried mecanwaith ffurfiol ar
gyfer enwi ac ailenwi. ·
Prosiectau Mawr/Prosiectau Newydd ar gyfer Abertawe o
2024 ymlaen - byddant yn parhau i ganolbwyntio ar gwblhau'r prosiectau sydd heb
eu cwblhau, fodd bynnag, roedd cyfleoedd yn bodoli mewn perthynas â Neuadd
Albert, hen adeilad Burtons, Mamma Mia's ac adeilad McDonald's ar gornel Sgwâr
y Castell. Manylwyd ar ail gam Bae Copr
a'r cynnydd mewn perthynas ag Urban Splash, Oriel Genedlaethol Cymru, yr
Acwariwm a Skyline. ·
Eden Las – trafodaeth ynghylch cynnydd a datblygiadau
cydamserol mewn technoleg. Nodwyd bod y prosiect yn cynnwys prosiect ynni
integredig a bod nifer o elfennau wedi dod at ei gilydd. Roedd y Cyngor yn agos
at ddechrau'r gwaith. ·
Pwyntiau gwefru cerbydau trydan – darperir ymateb
ysgrifenedig i'r Cynghorydd yn dilyn ei gwestiwn yn ystod cyfarfod y cyngor. ·
Gwasanaeth Archifau yn symud i hen adeilad BHS - byddai'r
adeilad o'r radd flaenaf ac yn ddigon mawr i gynnwys y Gwasanaeth Archifau. ·
Gwasanaeth Draenio – gwnaed buddsoddiad helaeth mewn
perthynas â'r Gwasanaeth. ·
Rhaglen Trawsnewid – Gofynnwyd cwestiwn ynghylch ymateb i
sylwadau Archwilio Cymru a wnaed ym mis Hydref 2023. Nodwyd gwnaed y sylwadau
hyn ar 'adeg benodol' ac roedd yr adborth yn gadarnhaol i raddau helaeth.
Ystyriwyd argymhellion ac roedd y Bwrdd Cyflawni Trawsnewid yn canolbwyntio ar
ganlyniadau ac effaith. Diolchodd y
Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a
Strategaeth am ei fewnbwn. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Arweinydd y
Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth gan adlewyrchu'r
drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd. PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau ynghylch materion sy'n peri pryder o ran Diogelwch
Ffyrdd, yn dilyn Gweithgor Craffu ar Ddiogelwch Ffyrdd ym mis Rhagfyr 2022, a
nodwyd yr ymagwedd sy'n cael ei dilyn er mwyn adeiladu ar welliannau diogelwch
ffyrdd a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Aeth y Rheolwr
Diogelwch ar y Ffyrdd â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at agweddau
penodol, gan gynnwys llwyddiant y cyngor wrth leihau lefel a dwyster
gwrthdrawiadau. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Patrolau Croesfannau Ysgolion – Mynegwyd pryder ynghylch
darpariaeth yn y dyfodol. Mae'r cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i Batrolau
Croesfannau Ysgolion. Nodwyd, er nad
oedd patrolau wedi dod i ben, roedd heriau'n bodoli o ran recriwtio. ·
Arwyddion/Baneri y tu allan i ysgolion – Does dim cynnydd
wedi bod o ran cynyddu arwyddion a baneri y tu allan i ysgolion am ddiogelwch
ffyrdd. ·
Rhaglenni Addysg Kerbcraft a Diogelwch Ffyrdd - roedd
angen diweddaru Rhaglen Kerbcraft a chyflwynwyd sylwadau i Lywodraeth Cymru. ·
Rhaglenni Addysg Kerbcraft a Diogelwch Ffyrdd – mae 50
allan o'r 74 o Ysgolion Cynradd yn cymryd rhan.
Mae maint grant Llywodraeth Cymru yn effeithio ar ddarpariaeth y
rhaglen. Anogwyd rhieni i gymryd rhan
drwy'r wefan a'r llenyddiaeth a ddarparwyd i blant ar gyfer eu rhieni. ·
Grant Diogelwch Ffyrdd – roedd yn anodd mesur effeithiau
colli Grant Diogelwch Ffyrdd. Mae'r
gwerthusiad yn cymryd nifer o flynyddoedd ac mae llwyth gwaith cynyddol staff
priffyrdd o ganlyniad i'r cynllun gostwng cyflymder i 20mya wedi cywasgu'r her
hon. ·
Llwybrau Defnydd a Rennir – unrhyw broblemau gyda
diogelwch, e.e., darparu arwyddion, dylid eu cyfeirio at y Ddesg Gymorth
Priffyrdd. ·
Cydweithrediad rhwng cynllunio, dylunio a darparu
Llwybrau Teithio Llesol a'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd – er bod heriau'n bodoli
o ran cydbwyso ystyriaethau gwahanol, mae'r ddau wasanaeth wedi'u hintegreiddio
i sicrhau bod unrhyw faterion diogelwch yn cael eu codi ynghylch llwybrau
Teithio Llesol. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a'r Swyddogion am
eu mewnbwn a mynegodd ddiolch i'r Tîm Diogelwch Ffyrdd am eu gwaith. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y
Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams adroddiad cynnydd i'r
Pwyllgor ar waith/gweithgareddau Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad:
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 231 KB Cofnodion: Ni adroddwyd ar
unrhyw newidiadau. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 281 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar
gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Cyfeiriodd y Cadeirydd at sesiwn olaf y Rhaglen
Hyfforddi a Datblygu Craffu: ·
Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w gynnal ar 17 Ionawr
(ar-lein)/23 Ionawr (Ystafell Derbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas) Roedd y prif
eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Chwefror yn cynnwys: ·
Cyflawni yn erbyn Strategaeth Datblygu'r Gweithlu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y
Pwyllgor: ·
Gweithgor
Craffu – Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros yr
Amgylchedd ac Isadeiledd. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 226 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd
at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er mwyn cael
ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd. PDF 160 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd PDF 214 KB |