Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd unrhyw bleidleisiau chwip na
chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau. PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Aelod y
Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn nodi cynnydd dros y 12 mis diwethaf o ran
cyflawni'r Flaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau. Yn
fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Corfforaethol, diwygiwyd yr Amcan i ychwanegu
'Galluogi Cymunedau' i gydnabod dull sy'n seiliedig ar gryfderau lle gellir
manteisio ar gryfderau unigolion, cymunedau a rhwydweithiau i helpu i fynd i'r
afael â thlodi. Roedd yn cyflwyno tystiolaeth, mewnwelediadau a deallusrwydd i
ddangos y cyfraniadau a wnaed wrth gyflawni'r flaenoriaeth hon ar gyfer y
cyngor, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Roedd yn ymdrin â'r heriau
presennol, gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw, ac ymateb y cyngor. Gwnaeth Pennaeth
y Gwasanaethau Oedolion a Threchu Tlodi, gyda chymorth Rheolwr y Gwasanaeth
Trechu Tlodi a'r Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal, drafod yr
adroddiad gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys 9 Cam y Cynllun
Corfforaethol a'r Ffordd Ymlaen. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Fframwaith Perfformiad - manylwyd ar y cynnydd a wnaed o
ran datblygu Fframwaith Perfformiad Trechu Tlodi strategol i ddiffinio sut mae'r amcanion, y
dangosyddion, y mesurau a'r allbynnau mewn perthynas â threchu tlodi yn
cyd-fynd â chanlyniadau. Nodwyd bod rhywfaint o ddata'n bodoli, fodd bynnag mae
angen gwneud gwaith pellach i gasglu'r data 'profiad byw' mwy cymhleth. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael mwy o
eglurder ynghylch yr hyn y mae dangosyddion yn ei olygu o ran effaith ar bobl a
sut mae hyn yn cyfateb i lai o dlodi, a chanlyniadau o dargedau a nodwyd.
Nodwyd y cymhlethdodau trechu tlodi, gyda heriau o ran adnewyddu data,
canlyniadau fframwaith perfformiad, darparu profiadau bywyd go iawn a datblygu
ffyrdd gwahanol o gyflwyno tlodi. ·
Diffiniad o dlodi – er taw'r Safon Isafswm Incwm i berson
sengl gael safon byw derbyniol yn 2023 oedd £29,500 yn ôl Sefydliad Joseph
Rowntree, nid oedd unrhyw ffynhonnell unigol o dystiolaeth a oedd yn diffinio
tlodi. Nid oedd y diffiniad o dlodi yn
gysylltiedig ag incwm yn unig ac roedd ehangu'r diffiniad yn rhan o waith
parhaus. ·
Data Tlodi - cafwyd trafodaeth ynghylch y gwahanol
ffynonellau data, gan gynnwys sut y defnyddir Mynegai Amddifadedd Cymru ac a fu
llawer o newid dros amser; ac ynghylch yr hyn y gellir ei ddysgu gan offeryn
ar-lein cenedlaethol Dangosfwrdd Data Archwilio Cymru
sydd wedi'i gynllunio i gefnogi'r broses benderfynu mewn cynghorau ac i wella
sut maent yn targedu eu gwaith. ·
Costau Byw – roedd y cyngor wedi bod yn monitro
effeithiolrwydd a manteision grantiau 'Costau Byw' i unigolion a sefydliadau,
er mwyn sicrhau ei fod wedi helpu'r rheini yr oedd angen help arnynt. ·
Adeiladu Asedau Cymunedol – Cyfleoedd gyda Phrofiad
Gwaith a Gwirfoddoli. Trafodwyd enghreifftiau. Ar hyn o bryd mae ysgolion yn
gwneud atgyfeiriadau i Amgueddfa Abertawe am gyfleoedd Profiad Gwaith a
Gwirfoddoli. Fodd bynnag, mae gwaith ar
y gweill i symleiddio'r broses ar draws y cyngor, gyda datblygiad Strategaeth
Gwirfoddoli Gorfforaethol. ·
Argymhellion Adroddiad 'Amser am Newid - Tlodi yng
Nghymru' Archwilio Cymru - roedd cynllun gweithredu wedi ei ddatblygu ac ystyriwyd
bod Abertawe'n gwneud yn dda. Cafodd Trechu Tlodi ei
gynnwys yn y Fframwaith Perfformiad ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda
Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid aml-flwyddyn.
Roedd y rhan fwyaf o'r argymhellion yn cael eu cyflawni. ·
Datblygu Sgiliau - y ffocws ar wella'r ffordd rydym yn
helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, eu cymwysterau a'u rhagolygon cyflogaeth fel
y gallant ddod o hyd i swyddi ystyrlon sy'n talu'n
dda a gwella'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol
y sgiliau cywir ar gyfer y gweithle - nodwyd hyn fel y flaenoriaeth uchaf ac
mae sawl prosiect ar y gweill ar draws Abertawe gyda swyddogion dynodedig. Fodd bynnag, nodwyd bod Abertawe'n
gwneud yn dda wrth gael pobl i mewn i waith. ·
Targedau 2023/24 – Pryder ynghylch Statws Coch Melyn
Gwyrdd mewn perthynas â Digartrefedd – er gwaethaf cydweithio gyda chydweithwyr
yr Adran Tai, roedd digartrefedd wedi cynyddu ac roedd hyn yn parhau i fod yn
her. ·
Strategaeth Trechu Tlodi adnewyddedig – nodwyd ei bod ar
y trywydd iawn i'w chyhoeddi erbyn mis Mawrth 2024 yn amodol ar ymgynghoriad
cyhoeddus. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael cyfle i wneud sylwadau ar y
Strategaeth ddrafft. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sylwadau a
wnaed gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mewn
perthynas â Thlodi Plant lle dywedodd ei fod yn siom nad yw mwy yn cael ei
wneud i fynd i'r afael â thlodi plant ers datganoli, dywedodd Aelod y Cabinet
dros Les fod mynd i'r afael â Thlodi Plant yn ddewis gwleidyddol ac, yn ei barn
hi, nid oedd rhai materion mor bwysig â Thlodi Plant. Teimlai y byddai
Gweinidog ymroddedig â chyfrifoldeb dros Dlodi Plant yn newid cadarnhaol ar
gyfer y dyfodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Cabinet dros Les a'r swyddogion am eu mewnbwn. Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod
Cabinet dros Les gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a
Thwristiaeth adroddiad a oedd yn tynnu sylw at waith 'Busnes Abertawe', a
lansiwyd ym mis Ebrill 2021, sef gwasanaeth cymorth pwrpasol gyda'r nod o wella
ansawdd y cymorth i fusnesau yn Abertawe a nifer y bobl sy'n ei ddefnyddio.
Cyflawnwyd y gwaith hwn gan Dîm Adfywio Economaidd y cyngor. Esboniodd yr Aelod Cabinet, gyda chymorth swyddogion perthnasol, yr
adroddiad i'r Pwyllgor gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys meysydd
gwaith allweddol (cyfathrebu, digwyddiadau, cymorth grant, ymgysylltu â
phartneriaid), Rheolaeth ac Adnoddau, gwelliannau/effaith a'r rhaglen ar gyfer
y dyfodol. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Grantiau Busnes – trafodwyd effaith a llwyddiant grantiau busnes a'u
heffaith, er enghraifft, ar Farchnad Abertawe.
Nodwyd bod lefel uchel o ddeiliadaeth (94%) ym Marchnad Abertawe ar hyn
o bryd, a bod nifer o fusnesau wedi cael mynediad at gyngor a chymorth gan
'Busnes Abertawe'. Amlygwyd manylion y mentrau presennol (prosiect Gardd y
Farchnad) a llwyddiant Marchnad Abertawe wrth ennill y teitl Marchnad Dan Do
Orau Prydain. · Busnes Abertawe – trafodaeth am yr effaith y mae'r gwasanaeth newydd hwn
wedi'i chael. Nodwyd bod y gwasanaeth cymorth newydd wedi llwyddo i greu un
pwynt cyswllt symlach i fusnesau ac roedd cyfathrebu ac ymgysylltu wedi
gwella. Er bod gwaith yn parhau, mae'r
effaith yn amlwg. · Parc Felindre – er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith 'Busnes
Abertawe', dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo i
farchnata'r safle'n rhagweithiol.
Cynhelir cyfarfodydd dyddiol a misol i fonitro ymholiadau. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw
rwystrau i unrhyw ddarpar ddatblygwr (e.e. ynghylch gwasanaethau ar y safle) a
bod y safle'n cael ei farchnata'n ddwys. Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio,
Digwyddiadau a Thwristiaeth a swyddogion am eu mewnbwn. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth i adlewyrchu ar y
drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd Sue Jones adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ynghylch
gwaith / gweithgareddau Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad:
Gwasanaethau Oedolion. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad: Gwasanaethau Oedolion. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 282 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad rheolaidd ar y Rhaglen Waith Craffu ar
gyfer 2023/24, y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei fonitro. Roedd y prif
eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Ionawr yn cynnwys: ·
Craffu
ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Sesiwn Holi ac Ateb gydag
Arweinydd y Cyngor / Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth. ·
Camau dilynol - Gweithgor
Craffu Diogelwch Ffyrdd Cyfeiriodd y
Cadeirydd at sesiwn olaf y Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Craffu: ·
Hunanasesiad o Graffu (dwy
ran) – i'w chynnal ar 17 Ionawr (ar-lein)/23 Ionawr (Ystafell Dderbyn yr
Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas) |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch
craffu diweddar y Pwyllgor: · Pwyllgor – Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe - Llythyr at Gadeirydd
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau) · Pwyllgor – Craffu ar Adroddiad Cynnydd Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc
2021-23 - Llythyr at Aelod y Cabinet dros y Gymuned (Cymorth) · Pwyllgor – Craffu ar Adroddiad Blynyddol – Diogelu Corfforaethol 2022/23 -
Llythyr at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal · Pwyllgor – Camau Dilynol y Gweithgor Craffu Gwasanaethau Bysus - Llythyr at
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 217 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gyfarfodydd nesaf y Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol fel eu bod
yn ymwybodol ohonynt. |
|