Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. . Cofnodion: Dim. |
|
Panel Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Adroddiad Terfynol. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr adroddiad
terfynol ar gyfer yr Ymchwiliad Craffu i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Roedd yr
adroddiad yn cyflwyno'r casgliadau a'r argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwiliad
mewn ymgais i ateb y cwestiwn canlynol: Sut gall y cyngor sicrhau ei fod yn
gweithio gyda'i bartneriaid i fynd i'r afael yn briodol ac yn effeithiol ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe? Diolchodd y Cynullydd i'r holl gyfranogwyr a'r Swyddog Craffu am eu cymorth
wrth baratoi'r adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd ac Aelodau'r Panel Ymchwiliad Craffu am
eu hadroddiad trylwyr, llawn gwybodaeth a chyfeiriodd at gais y Panel i
ystyried ychwanegu archwiliad ar Ddarpariaeth Ieuenctid yn Abertawe at y
Rhaglen Waith Craffu, gan gynnwys darparu materion cyfredol megis gwaith
ataliol, cyllid a'r anhawster wrth recriwtio gweithwyr ieuenctid cymwys.
Dywedodd y Cadeirydd y gellid cynnwys hyn wrth drafod y Rhaglen Waith Craffu
bosibl ar gyfer 2024/25, efallai fel Gweithgor posibl neu fel eitem ar gyfer
cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. Yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor, byddai adroddiad yr ymchwiliad yn cael ei
gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Cabinet er mwyn penderfynu arno, sef 21
Rhagfyr ar hyn o bryd. Penderfynwyd: 1)
bydd
adroddiad yr ymchwiliad yn mynd ymlaen i gyfarfod y Cabinet ar 21 Rhagfyr 2023. 2)
Cynnwys
pwnc 'Darpariaeth Ieuenctid' wrth drafod Rhaglen Waith Craffu yn y dyfodol. |
|
Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Adroddiad Cynnydd 2021-2023. PDF 284 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau yr adroddiad ar gynnydd y
Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe 2021-2023 gyda chymorth
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Arweiniol), y Comisiynydd Strategol
Arweiniol a Rheolwr y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth. Manylwyd ar drosolwg o'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc newydd yn
Abertawe, crynodeb o'r
blaenoriaethau ar draws y sir a nodwyd gan Blant a Phobl Ifanc, cynnydd drwy'r
ymagwedd pum egwyddor "Y Ffordd Gywir" ac argymhellion. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Ymagwedd Cyngor Cyfan – bu llwyddiannau wrth roi ymagwedd cyngor cyfan at
Hawliau PPI ar waith ac mae defnyddio'r ymagwedd 5 egwyddor a'r matrics yn
sicrhau bod trefniadau ar waith i feincnodi a mesur/monitro perfformiad. Byddai
datblygu modiwl hyfforddi yn helpu i sicrhau bod pob agwedd o'r gwaith sy'n
cael ei wneud gan y cyngor yn cael ei ddal a'i roi ar waith. · Hyfforddiant CCUHP – roedd yr Adran Addysg wrthi'n adolygu Hyfforddiant
Llywodraethwyr Ysgolion ar hyn o bryd gyda'r bwriad o sicrhau bod hyfforddiant
CCUHP yn orfodol. · Ysgolion sy'n Parchu Hawliau CCUHP - a oedd pob ysgol bellach yn 'parchu
hawliau' a datblygiadau yn dilyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru. ·
Gwasanaeth Ieuenctid –
Roedd yr Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi tynnu sylw at
faterion sy'n ymwneud â Darpariaeth Ieuenctid yn Abertawe gan gynnwys cyllid
a'r anhawster wrth recriwtio gweithwyr ieuenctid cymwys. Nid yw hyn wedi
effeithio ar waith i roi Hawliau PPI ar waith ac mae plant wedi bod yn rhan o
sut y mae model allgymorth y cyngor wedi'i ddylunio. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb dan sylw am yr adroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd: 1)
bydd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros
Gefnogi'r Gymuned gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. 2)
Roedd
y Pwyllgor yn hapus i dderbyn diweddariadau yn y dyfodol bob dwy flynedd er mwyn
cael aliniad gwell â model Llywodraeth Cymru o adolygu'r Cynllun Hawliau Plant. |
|
Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2022/23. PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Crynhodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal raglen waith y Grŵp
Diogelu Corfforaethol yn ystod 2022-23, gyda chymorth Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau
Cymdeithasol, a thynnwyd sylw at welliannau a wnaed i gefnogi polisi diogelu
corfforaethol y cyngor a threfniadau corfforaethol ar gyfer diogelu ar draws y
cyngor cyfan, gan gynnwys saith maes gweithgarwch allweddol. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Gweithio gyda Chontractwyr a Chyflenwyr – lefel
cydymffurfio/trefniadau ar gyfer monitro. Nodwyd bod heriau'n bodoli o hyd, a
bod hyn yn 'waith ar y gweill'. · Hyfforddiant Diogelu Gorfodol – lefel yr hyrwyddiad a nifer y bobl sy'n
cymryd rhan ar draws yr Awdurdod. Roedd hyfforddiant newydd yn 'fyw' ar hyn o
bryd a bydd system Oracle newydd yn darparu gwybodaeth reoli well a
goruchwyliaeth fwy effeithiol o gydymffurfio â hyfforddiant ar draws y cyngor.
O ran Hyfforddiant Cynghorwyr, roedd arweiniad cam wrth gam yn cael ei
ddatblygu gan Bennaeth Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid a fydd yn cael ei
gyflwyno i Gynghorwyr cyn bo hir. · Gwiriadau’r GDG – wedi cael eu hail-archwilio ar draws amrywiaeth o staff a
chategorïau ac wedi newid dros amser. Mae'r cyngor yn cydymffurfio ag arweiniad
Llywodraeth Cymru. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb dan sylw am yr adroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, gan adlewyrchu'r
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y diweddaraf ar
faterion a godwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y Gweithgor Craffu ym mis
Gorffennaf 2021 a mis Mawrth 2022, a datblygiadau gyda chymorth y Cyfarwyddwr
Lleoedd, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant ac Arweinydd Tîm Cludiant Cyhoeddus a
Chludiant Ysgol. Darparwyd diweddariadau manwl mewn perthynas â bysus sy'n defnyddio tanwydd
glanach, rhwydwaith gwasanaeth bysus a chynlluniau argyfwng bysus, cysylltiadau
bysus a rheilffyrdd a llochesi bysus. Roedd Mr B Fowles, Cyfarwyddwr South Wales Transport, hefyd yn
bresennol i ddarparu persbectif allanol gan weithredwr gwasanaeth bysus BBaCh
lleol, sydd wedi bod yn gontractwr gwasanaeth bysus lleol i'r cyngor ers amser
maith. Roedd hefyd yn Is-gadeirydd Cymdeithas Bysiau Cymru, sef cymdeithas
fasnach sy'n cynrychioli diddordeb gweithredwyr bysus llai yng Nghymru ac mae'n
darparu persbectif defnyddiol ar bethau, yn enwedig o ran deddfwriaeth
arfaethedig Llywodraeth Cymru i fasnachfreinio gwasanaethau bysus lleol.
Cyfeiriodd at faterion sy'n ymwneud â'r ad-drefnu parhaus ynghyd â chyllidebau
is ac ymdrechion Llywodraeth Cymru i ail-greu masnachfraint debyg i Transport
for London. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Cyfathrebu ac Ymgysylltu - cynnydd a
wnaed ar feithrin deialog effeithiol rhwng y cyngor a First Cymru (yn ogystal â
gweithredwyr bysus eraill) ac unrhyw rwystrau. Nodwyd nad yw newidiadau cyson i
uwch reolwyr/arweinyddiaeth First Cymru yn helpu ond cynhelir cyfarfodydd
rheolaidd i godi/trafod problemau gyda gwasanaethau. · Toriadau i Wasanaethau Bysus – Nodwyd
bod darparwyr gwasanaethau yn gallu darparu chwe wythnos o rybudd ar gyfer
newid, sy'n cyflwyno her mawr. Er gwaethaf hyn, roedd y sgwrs yn parhau. · Integreiddio Trafnidiaeth a
Throsglwyddo Tocynnau - byddai trosglwyddo tocynnau'n rhan o'r fasnachfraint a
byddai'n cael ei gyflwyno mewn parthau o fis Ebrill 2026. Rhagwelwyd y byddai gwelliannau
mewn cysylltedd mewn 3-5 mlynedd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar
integreiddio er mwyn dod â bysus i mewn i orsafoedd rheilffyrdd. · Mentrau Teithio – trafodaeth ar annog y
defnydd o fysus, gan gynnwys menter teithio am ddim ar fysus y cyngor. Nodwyd y
byddai hyn ar waith ar benwythnosau rhwng nawr a'r Nadolig a'r wythnos ar ôl y
Nadolig. · Transport for London – trafodwyd llwyddiant y rhwydwaith
hwn a gwnaed cymariaethau ag ardaloedd eraill. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb a oedd yn ymwneud â'r adroddiad a'r drafodaeth addysgiadol, a
ddaeth â'r gwaith dilynol ffurfiol i ben yn ôl penderfyniad y Gweithgor Craffu
ar Wasanaethau Bysus. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n
ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, gan
adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd Chris Holley adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar
waith/gweithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Adfywio a
Chyllid. Diolchodd i holl aelodau'r Panel am eu cyfranogiad a'u 'gwaith tîm'
wrth wneud y gwaith craffu hwn. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad mewn perthynas â Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 281 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar
gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Roedd y prif
eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Rhagfyr yn cynnwys: ·
Craffu
ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet – Cefnogaeth i Fusnesau. ·
Cyflawni
Blaenoriaeth Gorfforaethol - Trechu Tlodi. Nododd yr
Aelodau fod y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu ar gyfer Cynghorwyr Craffu Abertawe
ar y gweill, a oedd yn cael ei hwyluso gan y Tîm Gwella yng Nghymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Sesiynau sydd
ar ddod: ·
Craffu ar Berfformiad – i'w chynnal ar 4 Rhagfyr/6
Rhagfyr ·
Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w chynnal ar 17
Ionawr/23 Ionawr Anogodd y
Cadeirydd bawb i fod yn bresennol. Roedd yr holl sesiynau'n cael eu cynnal
ar-lein trwy MS Teams, ac eithrio'r sesiwn olaf 'Hunanasesiad' rhan 2 a
gynhelir wyneb yn wyneb yn unig. Yn ogystal â bod o fudd i Gynghorwyr unigol,
bydd y Rhaglen yn helpu i lywio Amcanion Gwella Craffu a chamau gweithredu yn y
dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y
Pwyllgor: ·
Pwyllgor - Craffu ar Deithio Llesol – Llythyr at Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd. ·
Pwyllgor - Craffu Cyn Penderfyniad – Proses Cau Prosiect
Oracle a Throsglwyddo i Fodel Gweithredu Newydd – Llythyr at Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Gwasanaethau. ·
Ymchwiliad Craffu ar Gaffael – Dilyniant – Llythyr at
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 223 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er
mwyn cael ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2022/23 PDF 152 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu PDF 150 KB |