Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr L R Jones a S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 29 "Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe". |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim. |
|
Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Cadeirydd
ac Is-gadeirydd BGC Abertawe, ynghyd â chynrychiolwyr y BGC a'r swyddogion
arweiniol, yn bresennol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
(BGC). Darparwyd y
canlynol i'r Pwyllgor i gefnogi'r sesiwn, ar gyfer cwestiynau: ·
Adroddiad
diweddaru ar ymdrechion y BGC i adolygu datblygiad y fframwaith perfformiad i
helpu i ddangos y gwaith sy'n cael ei wneud gan y BGC, yn dilyn cytundeb
Cynllun Lles newydd y BGC 2023-28. ·
Fframwaith
Perfformiad y BGC / Cynllun Gweithredu 2023/24, gan gynnwys cynnydd / statws yn
Chwarter 2 (Atodiad A). ·
Mesurau
Poblogaeth Drafft (Atodiad B). Gofynnwyd
cwestiynau gan y Pwyllgor a chafwyd trafodaeth ynglŷn â pherfformiad y BGC
a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: · Y cynnydd cadarnhaol o ran datblygu Cynllun Gweithredu'r BGC a heriau
gyda'r fframwaith perfformiad newydd; · Cynllun Gweithredu – cynnydd · Datblygiadau mewn gweithio mewn partneriaeth / cydweithio; · Meysydd gwaith a heriau sylweddol o fewn Cynllun Gweithredu'r BGC – nodwyd
eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau'r Blynyddoedd Cynnar a Strategaeth
Newid yn yr Hinsawdd; · Cam Lles 4 – Gwneud Abertawe'n fwy diogel, yn fwy
cydlynol ac yn fwy ffyniannus – llwyddiant y Pentref Cymunedol dros dro a
gynhaliwyd ar 3 Mehefin a datblygu'r fenter hon ar draws Abertawe yn y dyfodol,
gan gynnwys defnyddio adeiladau cymunedol; · Ymdrechion i gynyddu ymgysylltu â'r gymuned. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb a oedd yn pryderu am ddatblygiadau fframwaith perfformiad y
BGC a'r Cynllun Gweithredu, y gall y Pwyllgor eu monitro wrth fesur perfformiad
y BGC a'r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Craffu Cyn Penderfynu: Proses Cau Prosiect Oracle a Newid i Fodel Gweithredu Newydd. PDF 240 KB a) Rôl y pwyllgor b) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau. c) Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Arweinydd y
Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, gyda chymorth y
Pennaeth Digidol a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, yn bresennol i graffu cyn
penderfynu ar adroddiad y Cabinet ar y broses o gau prosiect Oracle a
throsglwyddo i fodel gweithredu newydd. Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno
i'r Cabinet ar 19 Hydref am benderfyniad, gan ofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r
gyllideb wrth gefn o £500,000 ar gyfer y prosiect sy'n weddill ac sydd wedi'i
chlustnodi yn Oracle Reserve i gael ei
defnyddio ar gyfer y ceisiadau newid sydd ar ddod gan wasanaethau ac unrhyw
gostau trwydded ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn dilyn adolygiad. Adroddwyd bod
y system Oracle newydd wedi mynd yn fyw, fel y cynlluniwyd, ar 1 Ebrill
2023, gyda systemau mawr y cyngor, fel y gyflogres, yn sefydlog ac yn
gweithredu'n hwylus. Roedd y system newydd yn wydn ac yn ddiogel gan helpu i
liniaru risgiau adfer trychinebau seiber a TGCh ar y gofrestr risgiau corfforaethol. Darparwyd enghreifftiau ar gyflawni amcanion
y prosiect a'r manteision/gwelliannau a wireddwyd ac roedd adborth staff wedi
bod yn gadarnhaol. Roedd rhai problemau cychwynnol wedi dod i'r amlwg ond
roeddent wedi'u datrys, yn bennaf o ran integreiddio â systemau eraill. Fodd
bynnag, hyd yma un broblem yn unig, sy'n ymwneud ag integreiddio â'r system
bensiynau, sydd heb ei datrys, ond nid yw hyn wedi effeithio ar dalu pensiynau,
ac mae'n agos at ddatrysiad. Yna bydd y prosiect yn cau ac yn symud i'r model
gweithredu parhaol newydd, fel 'busnes fel arfer'. Byddai bwrdd
blaenorol y prosiect yn cael ei ddisodli gan Fwrdd Newid Fusion
yn y dyfodol, sy'n cynnwys arweinwyr gwasanaethau o bob rhan o'r cyngor.
Byddai'r Bwrdd newydd hwn yn goruchwylio ac yn cymeradwyo unrhyw newidiadau neu
ddatblygiadau newydd i'r system yn ogystal â'r datganiadau pats
chwarterol gan Oracle. Byddai
Oracle yn datblygu ac yn esblygu'r system, rhai datblygiadau'n seiliedig ar
argymhellion yn uniongyrchol gan grŵp defnyddwyr y sector cyhoeddus. Yn
ogystal, byddai'r cyngor yn gweithio i wneud ym fawr o'r swyddogaethau newydd o
fewn Fusion i wella prosesau busnes ac
effeithlonrwydd gweithredol. Roedd system
newydd Oracle Fusion Cloud
yn cynrychioli uwchraddio sylweddol a byddai’n cael diweddariadau rheolaidd
gyda'r potensial i wasanaethu'r cyngor am yr 20 mlynedd nesaf a mwy. Roedd cwestiynau'r
Pwyllgor yn canolbwyntio ar: ·
gynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect; ·
y gyllideb wrth gefn ac ystyriaeth yn y dyfodol o gostau
ychwanegol ac opsiynau cyllido sydd eu hangen i ffurfio rhan o bennu'r gyllideb
ar gyfer 2024-2025 ymlaen; ·
costau rheolaidd y byddai angen eu cynnwys yn gyllidebau
refeniw sylfaenol; a ·
monitro'r risg barhaus sy'n gysylltiedig â'r model
gweithredu newydd o reoli adnoddau ar draws y cyngor i ymdrin â thrawsnewid a
gwella prosesau busnes ac effeithlonrwydd gweithredol wrth ymdrin â 'busnes fel
arfer'. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn
ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor cyn cyfarfod y
Cabinet ar 19 Hydref 2023. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Lyndon Jones adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar
waith/gweithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad Addysg. Cyfeiriodd at faterion
amrywiol a drafodwyd mewn cyfarfodydd diweddar, gan gynnwys yr arfer o ymweld â
nifer o ysgolion yn ystod cynllun gwaith blynyddol cynhwysfawr y Panel i
helpu'r Panel i brofi pethau 'ar lawr gwlad', gan ymgysylltu â Chadeiryddion
Cyrff Llywodraethu Ysgolion, athrawon a disgyblion, er enghraifft ynghylch
datblygiad ysgolion a'r cwricwlwm newydd. Diolchodd i holl aelodau'r Panel am
eu cyfranogiad a'u 'gwaith tîm' wrth wneud y gwaith craffu hwn. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad mewn perthynas ag Addysg. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 241 KB Cofnodion: Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 283 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24
y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Roedd prif
eitemau'r Pwyllgor ar 14 Tachwedd yn cynnwys: ·
Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol. ·
Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Adroddiad Blynyddol) ·
Camau Dilynol Gweithgor Craffu'r Gwasanaethau Bysus. ·
Adroddiad Terfynol - Ymchwiliad Craffu Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol Nododd yr
Aelodau fod y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu ar gyfer Cynghorwyr Craffu
Abertawe ar y gweill, a oedd yn cael ei hwyluso gan y Tîm Gwella yng
Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Cynhaliwyd y sesiynau canlynol yn
ddiweddar: ·
Cyflwyniad i Graffu ·
Sgiliau Cadeirio Craffu Sesiynau sydd
ar ddod: ·
Sgiliau Cwestiynu ar gyfer Craffu – i'w chynnal ar 31
Hydref / ·
1 Tachwedd ·
Craffu ar Berfformiad – i'w chynnal ar 4 Rhagfyr / 6
Rhagfyr ·
Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w chynnal ar 17
Ionawr / 23 Ionawr Anogodd y
Cadeirydd bawb i fod yn bresennol. Roedd yr holl sesiynau'n cael eu cynnal
ar-lein trwy MS Teams, ac eithrio'r sesiwn olaf 'Hunanasesiad' rhan 2 a
gynhelir wyneb yn wyneb yn unig. Yn ogystal â bod o fudd i Gynghorwyr unigol,
bydd y Rhaglen yn helpu i lywio Amcanion Gwella Craffu a chamau gweithredu yn y
dyfodol. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 227 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er
mwyn cael ymwybyddiaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu PDF 112 KB |