Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad y
Cabinet a oedd yn cynghori Aelodau ar y cynnig i wneud y terfyn cyflymder
diofyn cenedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig yn 20mya ac yn manylu ar y ffyrdd
hynny a fydd yn cael eu heithrio ac sy'n parhau ar gyflymder o 30mya. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y broses ymgynghori i’w dilyn a’r ymagwedd
a ddefnyddiwyd mewn perthynas â rhoi'r gofyniad ar waith, gyda’r gostyngiad yn
y terfyn cyflymder diofyn yn dod i rym ar 17 Medi 2023. Manylodd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd ar roi'r terfyn cyflymder 20mya
cenedlaethol a'r broses eithrio ar waith. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cyllid – Swyddogion i
ddarparu dadansoddiad manwl o'r gost o roi'r mesurau hyn ar waith, y mae'r
costau'n cael eu ceisio gan Lywodraeth Cymru. ·
Materion o ran
cydymffurfio a gorfodi. ·
Pwysigrwydd cadw arwyddion/marciau
ffordd presennol sy’n gyson â’r terfyn cyflymder newydd, yn enwedig o amgylch
ysgolion, i’n hatgoffa o'r terfyn ac i atgyfnerthu’r neges am y gostyngiad mewn
cyflymder. ·
Faint o gyfathrebu
cyhoeddus sydd ei angen a rôl y cyngor wrth sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar
waith yn llwyddiannus. ·
Ymgysylltu â
Chynghorwyr Lleol. Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,
a’r swyddogion a oedd yn bresennol, am yr wybodaeth a ddarparwyd gan gynnwys
cyngor technegol, ac am gynorthwyo’r Pwyllgor wrth drafod yr adroddiad. Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn bresennol yng nghyfarfod y
Cabinet ar 23 Mawrth 2023 i fynegi barn y Pwyllgor. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu PDF 111 KB |