Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
To approve and sign the
Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until
noon on the working day prior to the meeting. Written questions take
precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows. Questions must relate to items on the open
part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod dau gwestiwn wedi eu derbyn gan y cyhoedd. Nid oedd yr un o
aelodau'r cyhoedd yn bresennol ac roeddynt wedi gofyn i'r Cadeirydd godi'r
cwestiynau ar eu rhan. Gan fod y cwestiynau'n ymwneud â chofnod rhif 15,
byddent yn ymdrin â nhw yn ystod y trafodaethau hynny. Cyfeiriwyd
gohebiaeth bellach gan aelod o'r cyhoedd ynglŷn â chau'r ffyrdd yn
ddiweddar o ganlyniad i'r treiathlon a digwyddiadau
eraill at Aelod perthnasol y Cabinet am ymateb. |
|
Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Y Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros
Gydraddoldeb a Diwylliant a) Archifau b) Canolfannau Cymunedol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant ei adroddiad a oedd yn ymdrin â'r
cynnydd mewn perthynas â datblygu Hwb Cymunedol yng nghanol y ddinas, a fydd yn
gartref, ymysg pethau eraill, i'r Gwasanaeth Archifau, gwybodaeth am
berfformiad y Gwasanaeth Archifau a'r sefyllfa bresennol wrth symud i gartref
newydd. Roedd yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth hefyd yn bresennol i gyfrannu ac ateb cwestiynau perthnasol. Roedd Geoff Bacon,
Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, a Kim Collis, yr Archifydd Sirol, yn bresennol i
gefnogi trafodaeth y Pwyllgor. Gwahoddwyd y ddau i roi trosolwg o gynnydd mewn
perthynas â'r prosiect Hwb Cymunedol a'r goblygiadau i'r Gwasanaeth Archifau.
Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad a gyflwynwyd i
ddeall cefndir yr Hwb Cymunedol a'r amcanion, a'r gwaith a wnaed hyd yma. Achubodd y
Pwyllgor ar y cyfle i holi Aelodau'r Cabinet a chlywed gan y prif Swyddogion. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cwestiwn gan aelod o’r cyhoedd, Susan Thomas, ynglŷn â'r
Gwasanaeth Archifau/Hwb Cymunedol, oedd â phryderon am unrhyw ostyngiad mewn
mynediad i'r cyhoedd i'r Gwasanaeth Archif/lle sydd ar gael i ddefnyddwyr. Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod defnyddwyr wedi cael y cyfle i
fanylu ar eu prif ofynion fel rhan o'r broses ymgynghori. Er y byddai'r lle yn
gyfyngedig, byddai'r cyhoedd yn cael eu cyfeirio at ardaloedd eraill lle
gallent gyrchu'r wybodaeth (llyfrgelloedd, er enghraifft) a byddai'r gwasanaeth
yn parhau i ddarparu gwasanaeth da yn y lleoliad newydd. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at yr ail gwestiwn gan aelod o’r cyhoedd, Elisabeth Bennett,
ynglŷn â'r Gwasanaethau Archif/Hwb Cymunedol a lleihad ym maint yr
ystafell chwilio, ac yn arbennig yr effaith y gall hyn ei gael ar y
gwasanaethau addysgol y gallai'r Gwasanaeth Archifau eu darparu. Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant at ei ymateb blaenorol yn yr ystyr y
byddai'r lle fydd ar gael yn gyffredinol yn gwella'r cynnig sydd ar gael i
ysgolion o ran lle sydd ar gael i'w ddefnyddio. Nodwyd y gallai dosbarthiadau
mawr o blant gadw ardaloedd o faint priodol ymlaen llaw er mwyn darparu ar
gyfer eu hanghenion. Cyfeiriodd
Arweinydd y Cyngor at ddatblygiad y siopau dan yr unto/hybiau
cymunedol. Byddai'r hybiau cymunedol hyn yn gwella'r gwasanaeth i'r cyhoedd
drwy gyfuno gwasanaethau allweddol fel tai/llyfrgelloedd mewn un ardal hygyrch. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch pa wasanaethau’r cyngor a rhanddeiliaid
fyddai'n cael eu lleoli yn yr Hwb Cymunedol newydd yn nghanol y ddinas,
dywedodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant y byddai'r rhanddeiliaid sy'n gweithio o hybiau cymunedol yn cynnwys
gwasanaethau mewnol y cyngor (archifau, opsiynau tai, dysgu gydol oes, y
ganolfan gyswllt etc.) a bod trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid allanol,
er nid oedd yn gallu datgelu manylion y partneriaid allanol ar hyn o bryd
oherwydd sensitifrwydd masnachol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynghylch lefel yr ymrwymiad gan bartneriaid allanol mewn perthynas â
darparu gwasanaethau o'r Hwb Cymunedol, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r
arweiniad a roddwyd gan y sector cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn magu hyder
yn y sector preifat i wneud yr un peth. Rhoddodd fanylion cynhwysfawr ynghylch
cynigion gan sefydliad adfywio mawr oedd wrthi'n buddsoddi mewn safleoedd yng
nghanol y ddinas. Mewn ymateb i
gwestiwn ynghylch a oedd unrhyw ddewisiadau amgen wedi cael eu hystyried
ynghylch adleoli pe bai problem gyda chyflawni achrediad/ardystiad
angenrheidiol ar gyfer y Gwasanaeth Archifau, dywedodd yr Archifydd Sirol y
byddai angen i'r Gwasanaeth Archifau newid y ffordd y mae'n darparu
gwasanaethau i ysgolion ac addasu i'r amgylchedd newydd. Cyfeiriodd at y system
bresennol lle mae ysgolion yn profi dogfennau gwreiddiol. Fodd bynnag, o
ystyried cyfyngiadau ystafell chwilio'r archifau, byddai angen iddynt ddatblygu
ffordd wahanol o wneud hyn gan nad oedd modd dod â dogfennau gwreiddiol i
ardaloedd cyhoeddus. Byddai angen i'r Gwasanaeth Archifau weithio o gwmpas
cyfyngiadau adeilad aml-ddefnydd ac ni fyddai'r gwasanaeth presennol yn cael ei
atgynhyrchu yn yr adeilad newydd. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch a oedd Hwb Cymunedol canol y ddinas yn caniatáu
cyfle i ehangu'r Gwasanaeth Archifau, dywedodd Aelod y Cabinet dros
Gydraddoldeb a Diwylliant ei fod yn darparu cyfleoedd i newid y gwasanaeth ac i
ysgolion gael mynediad at gyfleusterau gwell. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch y lle archif yn bodloni meini prawf penodol ac a
oedd cynlluniau amgen pe na bai hyn yn wir, cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros
Gydraddoldeb a Diwylliant at yr ymgynghoriad a oedd wedi'i gynnal gyda rhanddeiliaid mawr a oedd, yn ei dro, wedi llywio'r broses
ddylunio. Nid oedd trefniadau amgen ar hyn o bryd a rhagwelwyd na fyddai angen
unrhyw rai. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch nifer yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus a
dderbyniwyd ynghylch yr Hwb Cymunedol ac a oedd y rhain i gyd yn gadarnhaol,
dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo fod y mwyafrif o'r 500 o ymatebion a
dderbyniwyd yn gadarnhaol. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch parcio a mynediad i'r anabl, dywedodd Aelod y
Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod yr ymgynghoriad wedi llywio'r
dyluniad. Byddai cyfleusterau parcio i'r anabl ar gael y tu ôl i Marks and Spencer ac yn yr ardal gyfagos. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch unrhyw amrywiad yng nghostau'r prosiect o'r
amcangyfrif blaenorol a adroddwyd i'r Pwyllgor a'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2021,
dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo fod y cynllun a'r costau sy'n
gysylltiedig ag ef wedi cynyddu o’u cymharu â'r cynllun gwreiddiol. Dywedodd
fod costau cynyddol i'w disgwyl o gofio pwysau chwyddiant presennol ond ategodd
y nod o gyflawni cynllun a oedd yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol. O ran costau'r
prosiect, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cwmpas y cynllun wedi newid yn
sylweddol ond bod cyllid ychwanegol wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, a oedd
yn gefnogol i'r prosiect. Roedd y cyngor yn gobeithio llofnodi cytundeb pris
penodol a gwneud gwaith peirianneg gwerth ar gyfer y costau i sicrhau'r
cytundeb gorau i'r trethdalwr. Dywedodd fod y tîm wedi gwneud gwaith da wrth
ddatblygu'r cynllun a oedd bellach yn darparu llawer mwy o werth am arian o'i
gymharu â phan oedd y cynllun yn ei gamau cyntaf. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynglŷn â'r angen i gyhoeddi costau'r cynllun, o
ystyried yr argyfwng costau byw, dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn
ymwybodol o'r angen i gyhoeddi'r costau terfynol ac y byddai'n gwneud hynny
maes o law, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau ar adrodd oherwydd sensitifrwydd
masnachol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo y byddai penodiad contractwr
yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Byddai'r pris penodol yn cael ei gyhoeddi tua
diwedd y flwyddyn a'r Hwb Cymunedol yn cael ei gwblhau cyn diwedd 2023/dechrau
2024. Nodwyd bod ystyriaethau eraill, fel dadansoddiad o brosesau busnes (a
oedd yn cynnwys penderfynu ar dderbynfeydd, dyddiau ac amseroedd agor a lefelau
staffio etc.) yn dal i gael eu datblygu gyda'r cyngor gan ei fod yn amlwg bod y
cyhoedd yn dal i fod angen gwasanaeth 'wyneb yn wyneb'. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch cynlluniau hybiau cymunedol peilot yng Ngorseinon a Chlydach, dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod pandemig COVID-19 wedi tarfu
ar ddatblygiad y cynlluniau, fodd bynnag, mae cynlluniau hybiau cymunedol
peilot yng Ngorseinon a Chlydach
wedi cyflawni lefelau amrywiol o lwyddiant. Ailddatganodd ei awydd i ddatblygu
hybiau, gan ddefnyddio adeiladau cymunedol yn ehangach ar draws Abertawe, gan
adeiladu ar Hwb Cymunedol canol y ddinas. Mewn ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynglŷn â'r lle sydd ar gael i'r Gwasanaeth Archifau yn
yr Hwb Cymunedol newydd, dywedodd yr Archifydd Sirol y byddai'r archif
bresennol yn ffitio i’r ardal archifau. Cyfeiriodd at yr adeilad sy'n cael ei
rannu â llyfrgell Glowyr De Cymru gydag ardal storio ar y cyd. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a
gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022, ynglŷn â symud i'r Hwb yng nghanol y ddinas,
sef y cam cyntaf i brosiect tymor hwy i adleoli'r gwasanaeth i gyfleuster
newydd ger Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cyfeiriodd y cofnodion at is-grŵp o
archifwyr a Swyddogion Cyngor Abertawe yn cydweithio i ddatblygu'r syniad
ymhellach. Nid yw'r cynnig wedi'i drafod eto gan y Cabinet yn Abertawe.
Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod yr is-grŵp
yn dal i weithio ar ddatblygu'r syniad a phe bai hyn yn ymarferol byddai rhoi’r
Gwasanaeth Archifau yn Hwb Cymunedol canol y ddinas yn gam dros dro i bob
pwrpas. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhwymedigaeth ar y cyngor i nodi
cyfleuster o'r radd flaenaf a bod cyfleoedd ehangach i brifysgolion fod yn rhan
o hynny. Fodd bynnag, doedd dim cynlluniau ar waith ar hyn o bryd, ac roedd
angen i waith fynd rhagddo i adleoli'r Gwasanaeth Archifau o'r Ganolfan
Ddinesig. Dywedodd yr
Archifydd Sirol fod gwaith yn cael ei wneud (ar ffurf gwahoddiad i dendro) ar
gyfer cynllun mwy uchelgeisiol i'r Gwasanaeth Archifau, yn dibynnu ar gyllid.
Dywedodd ei fod yn ystyried y cynnig presennol fel un sy'n ateb dros dro.
Dywedodd y byddai'n cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg
erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Arweinydd, i Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant a
Swyddogion am eu mewnbwn. Byddai llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet
dros Gydraddoldeb a Diwylliant yn myfyrio ar y sesiwn a barn y Pwyllgor. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad a dywedodd, ar ôl gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan
bob cynghorydd anweithredol, fod aelodaeth arfaethedig yn cael ei hadrodd i'r
Pwyllgor am gymeradwyaeth. Roedd hyn yn cynnwys cynghorwyr a nodwyd i weithredu
fel cynullydd i'r Panel Ymchwiliad a'r Gweithgorau, fel a ganlyn: ·
Y
Cynghorydd Terry Hennegan – Panel Ymchwiliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ·
Y
Cynghorydd Hazel Morris – Gweithgor Diogelwch ar y Ffyrdd ·
Y
Cynghorydd Lyndon Jones – Y Gweithgor Cydgynhyrchu ·
Y Cynghorydd
Mary Jones – Y Gweithgor Dinas Iach ·
Y
Cynghorydd Rebecca Fogarty – Gweithgor Cyswllt Cwsmeriaid Mewn diweddariad i'r adroddiad printiedig byddai'r Cynghorydd Allan Jeffery'n cael ei ychwanegu at y Panel Perfformiad y
Gwasanaethau i Oedolion. Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn
gyfrifol am ei monitro. Yn unol â
chynllun gwaith y Pwyllgor, trefnwyd i'r cyfarfod nesaf ar 13 Medi gynnwys
sesiwn ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet gydag Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau'r Gymuned, y Cynghorydd Cyril Anderson, yn canolbwyntio ar dipio
anghyfreithlon. Dywedodd y Cadeirydd y gall cwestiynau i Aelod y Cabinet ymdrin
â materion cysylltiedig ar sbwriel a glanhau cymunedol. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22. Trafodaeth am: a) Gynllun
Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd
Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd
gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22. Penderfynwyd cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu i'r
cyngor ar 1 Medi, 2022. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd
at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er
gwybodaeth. |
|