Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 256 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a 24 Mai 2022 fel cofnodion cywir.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Gofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2022.  Mewn perthynas â'r Adroddiad Cwynion Blynyddol, roedd un ymholiad a godwyd yr ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol iddo: A yw'r cyngor yn gweld cynnydd yng nghyfran y cwynion sy'n cael eu gwneud drwy gwmnïau cyfreithiol, gan weithredu ar ran preswylwyr, o ystyried y llu o gwmnïau sy'n hysbysebu 'dim llwyddiant, dim ffi'. Dywedodd fod Sarah Lackenby wedi ymateb drwy ddweud nad oes cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion a wnaed gan gwmnïau cyfreithiol ac mae'r niferoedd yn parhau i fod yn isel iawn. I roi cyd-destun pellach, pe bai achwynydd yn datgan yn glir yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yna byddai'r gŵyn yn cael ei gohirio i bob pwrpas nes yr ymdriniwyd â'r camau cyfreithiol. Unwaith y bydd yr achos cyfreithiol wedi dod i ben, gall yr achwynydd ailgyflwyno'r gŵyn o fewn chwe mis.

 

7.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

8.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu yr adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu’. Roedd yr adroddiad hefyd yn gwahodd y Pwyllgor i adnewyddu penodiad aelodau cyfetholedig y Pwyllgorau.

 

Dywedodd mai'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r holl weithgarwch craffu, drwy un cynllun gwaith.

 

Mae gwaith naill ai'n cael ei wneud gan y Pwyllgor neu caiff ei ddirprwyo yn rhywle arall. Felly, bydd gan y Pwyllgor ei hun gynllun gwaith, ond bydd yn sefydlu Paneli a Gweithgorau i archwilio pynciau neu faterion penodol i alluogi ymgysylltu â'r holl gynghorwyr anweithredol yn y broses graffu, waeth beth fo aelodaeth pwyllgor, a chyfranogiad mewn pynciau sy'n cyd-fynd â'u meysydd diddordeb.

 

Roedd aelodaeth Paneli/Gweithgorau, yn ogystal â phenodi Cynghorydd arweiniol (a elwir yn Gynullydd) yn fater i'r Pwyllgor benderfynu arno.  Esboniwyd rôl Cynullydd yn yr adroddiad hefyd.

 

Byddai'r Pwyllgor yn monitro gweithgareddau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt er mwyn sicrhau bod y rhaglen waith yn cael ei chyflwyno'n effeithiol, ac yn unol â dymuniadau'r Pwyllgor.

 

Cynhwyswyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn y papurau er gwybodaeth.

 

O ran Aelodaeth, nododd y Pwyllgor fod lle i hyd at 4 Aelod Cyfetholedig Statudol Addysg, 2 gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a 2 gynrychiolydd ffydd. Beth Allender yw'r cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr cynradd newydd, a Dr Elizabeth Lee yw'r cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr uwchradd newydd, a chroesawyd y ddau gan y Pwyllgor. Roedd seddi ar gyfer y 2 gynrychiolydd ffydd yn wag ar hyn o bryd. Mae gan yr aelodau cyfetholedig hyn hawliau pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion addysg a drafodir gan y Pwyllgor, a bydd hawl ganddynt hefyd i eistedd ar unrhyw Baneli/Weithgorau sy'n gysylltiedig ag Addysg.

 

Dywedodd fod y Pwyllgor o'r blaen hefyd wedi'i chael hi'n fuddiol cyfethol (a hynny heb bleidlais) y cynghorwyr hynny a benodwyd yn gynullyddion y Panel Perfformiad nad ydynt eisoes ar y Pwyllgor. Fel y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus aml-asiantaeth, mae hefyd wedi cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau partner wrth gynorthwyo gyda'r gwaith craffu hwnnw.

 

I gloi, tynnodd sylw at bwysigrwydd gwaith tîm i lwyddiant y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar rai ystyriaethau ymarferol a allai helpu i gyflawni hyn, a rhai enghreifftiau ynghylch gweithio'n effeithiol. Mewn cyfarfodydd, argymhellodd y dylai Aelodau, boed yn aelodau hir eu gwasanaeth neu newydd, fyfyrio ar y ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd fel grŵp, cynllunio gwaith, a chynllunio ar gyfer cyfarfodydd; a gwerthuso pa mor dda y maent wedi'i wneud ac ystyried a oes lle i wella er mwyn bod yn fwy effeithiol yn y ffordd y mae'n gweithio fel Pwyllgor.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)          Adnewyddu cyfetholiad cynullyddion y Paneli Perfformiad Craffu i'r Pwyllgor.

2)          Adnewyddu cyfetholiad sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

 

9.

Rhaglen Waith Craffu 2022/23. pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd, yn dilyn ymgynghoriad ag Aelodau, fod yr adroddiad yn cynnwys y rhaglen ddrafft sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Mae'r rhaglen waith ddrafft yn ystyried rhaglen y llynedd, gwaith yr ymrwymwyd iddo eisoes ac adborth o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith diweddar a oedd yn cynnwys mewnbwn ar flaenoriaethau, heriau strategol, a materion cyhoeddus y cyngor.

 

Tynnodd sylw at yr ystyriaethau allweddol y gallai'r Pwyllgor feddwl amdanynt cyn cytuno ar y rhaglen, ac aeth â'r Aelodau drwy'r manylion.

 

Yn gyntaf, cyflwynodd gynllun gwaith drafft y Pwyllgor ei hun a oedd yn cynnwys materion penodol sy'n peri pryder y mae angen eu trafod yn fanwl yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Soniodd y byddai'r Pwyllgor hefyd yn cydlynu unrhyw weithgaredd craffu cyn penderfynu. Cafwyd rhywfaint o drafod ynghylch gweithgarwch y Pwyllgor o ran craffu ar Drosedd ac Anhrefn/Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel (PAMD). Nodwyd awydd y Pwyllgor i wneud mwy nag un sesiwn Bwyllgor ar waith a pherfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r ymchwiliad i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cyffwrdd ar waith PAMD, a bod y Bartneriaeth hefyd yn adrodd wrth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ac felly mae'n berthnasol ar gyfer unrhyw Sesiwn Graffu BGC; er enghraifft mae amcan lles BGC Cymunedau Cryf yn cwmpasu gwaith/cyfraniad PAMD at gyflawni'r amcan hwn, ac ymdrinnir ag ef yn Adroddiad Blynyddol y BGC, a byddai hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref. Pwysleisiodd y dylai fod gan unrhyw sesiwn ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor bwrpas/ffocws clir a phenodol, er enghraifft, unrhyw agwedd y mae'r Pwyllgor am ei dadansoddi'n fanylach. Wrth edrych yn ôl ar sesiwn Chwefror 2022 (mae'r llythyr wedi'i gynnwys yn agenda'r Pwyllgor), tynnodd sylw at y ffaith bod aelodau'r Pwyllgor yn awyddus i ymwneud â datblygu Strategaeth PAMD newydd a chael gwybod y cynnydd mewn perthynas â gwelliannau yn dilyn terfysg Mayhill. Roedd y Cadeirydd hefyd wedi atgoffa'r Pwyllgor fod craffu'n ymwneud â'r bartneriaeth, a bod trefniadau eraill er mwyn dwyn yr Heddlu i gyfrif yn benodol.

 

Cyfeiriodd at y cynnig i sefydlu Panel Ymchwiliad i edrych ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Er bod rhai syniadau am y gwaith y gallai'r Panel ei archwilio, byddai'r Panel ei hun yn datblygu cylch gorchwyl ac yn nodi'r cwestiwn allweddol ar gyfer yr Ymchwiliad yn dilyn sesiwn friffio gychwynnol ar y pwnc.

 

Dywedodd mai Paneli Perfformiad sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o weithgarwch craffu, gan fod y rhain yn cynrychioli gwaith parhaus i fonitro a herio gwasanaethau allweddol, gan ddwyn aelodau'r cabinet i gyfrif, gyda sgwrs barhaus i rannu eu barn a'u hargymhellion. Cynigiwyd bod y Paneli Perfformiad a sefydlwyd yn flaenorol yn parhau ond y dylid ailenwi Panel yr Amgylchedd Naturiol yn 'Newid Hinsawdd a Natur', gan adlewyrchu newid diweddar mewn blaenoriaethau corfforaethol.

 

Er mwyn darparu parhad ar gyfer y flwyddyn gyntaf hon o dymor newydd y cyngor, cynigiwyd bod y Cynghorwyr a weithredai fel cynullyddion gynt, sy'n dymuno parhau, yn cael eu hailbenodi yn y rôl honno, sef:

 

·        Y Cynghorydd Chris Holley yn gynullydd Gwella Gwasanaethau a Chyllid

·        Y Cynghorydd Lyndon Jones yn gynullydd Addysg

·        Y Cynghorydd Sue Jones yn gynullydd y Gwasanaethau Oedolion; a'r

·        Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn gynullydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

O ran y Paneli Datblygu ac Adfywio a Newid Hinsawdd a Natur, gwahoddwyd mynegiannau o ddiddordeb, gan Gynghorwyr sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn o'r blaen yn y lle cyntaf. Yn seiliedig ar adborth, gofynnwyd i'r Pwyllgor gytuno ar y canlynol:

 

·Y Cynghorydd Chris Holley yn gynullydd Datblygu ac Adfywio; a'r

· Cynghorydd Hannah Lawson yn gynullydd Newid Hinsawdd a Natur

 

Dywedodd fod nifer bach o bynciau'r Gweithgor wedi'i nodi ar gyfer ymagwedd ysgafnach, a chanddynt ffocws ar Ddiogelwch Ffyrdd, Cyd-gynhyrchu, Abertawe fel Dinas Iach, a Chyswllt Cwsmeriaid. 

 

Nododd yr aelodau hefyd y trefniadau ar gyfer craffu rhanbarthol, fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.7 o'r adroddiad.

 

Dywedodd unwaith eto y bydd y rhaglen waith yn destun ceisiadau am graffu drwy gydol y flwyddyn. Ar ben hynny, byddai'r Pwyllgor yn adolygu'r rhaglen waith yn gyson, a bydd newidiadau'n cael eu gwneud yn ôl yr angen. Byddai'r Pwyllgor bob amser yn cadw'r hyblygrwydd i addasu ac ailflaenoriaethu gwaith craffu i sicrhau perthnasedd parhaus y rhaglen.

 

Cyfeiriodd at gyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 16 Awst.  Dywedodd y bydd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant, y Cynghorydd Elliott King, yn mynd iddo i adrodd am, a chymryd cwestiynau ar, ei gyfrifoldebau'n ymwneud â'r Gwasanaeth Archifau a datblygiadau o amgylch yr Hwb Cymunedol newydd, a fydd yn gartref i'r Gwasanaeth. Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried cwestiynau ar gyfer y sesiwn honno.

 

Penderfynwyd:

 

1)     Cytuno ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2022/23 sy'n cynnwys blaenoriaethau pynciau Ymchwiliad, pynciau Paneli Perfformiad a Gweithgor (a ddangosir yn atodiad 3)

2)     Cytuno ar benodi Cynullyddion y Panel Perfformiad (a ddangosir yn 4.5).

3)     Cytuno ar gynllun gwaith arfaethedig y Pwyllgor (a ddangosir yn atodiad 4).

 

 

10.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 167 KB

a)  Gweithgor y GweithluLlythyr at/gan Aelod y Cabinet.

b)  Gweithgor y Gwasanaethau BysusLlythyr at/gan Aelod y Cabinet.

c)  Llythyr Pwyllgor at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol  

     Abertawe Mwy Diogel.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol:

 

1)    Gweithgor y Gweithlu – Llythyr at/oddi wrth yr Aelod Cabinet.

2)    Gweithgor Gwasanaethau Bysus – Llythyr at/oddi wrth yr Aelod Cabinet.

3)    Llythyr y Pwyllgor at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel.