Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fuddiant ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd P Lloyd
gysylltiad personol â Chofnod 98 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y
Cyngor". 2)
Datganodd y Cynghorydd K M
Roberts gysylltiad personol â Chofnod 98 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau
Treth y Cyngor". Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd K M Roberts wedi cymryd
rhan yn y bleidlais ar yr eitem hon. 3)
Datganodd y Cynghorydd A Pugh
fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 98
"Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor" a gadawodd y cyfarfod
wrth i hyn gael ei ystyried. 4)
Datganodd y Cynghorydd V M
Evans gysylltiad personol â Chofnod 99 "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac
Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-27”. 5)
Datganodd y Cynghorydd K M
Roberts gysylltiad personol â Chofnod 99 "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat
ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-27”. Sylwer: Nid oedd y
Cynghorydd K M Roberts wedi cymryd rhan yn y bleidlais ar yr eitem hon. 6)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M
Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M
Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams,
B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J W Jones, M H Jones,
M Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, E T Kirchner, H Lawson, A S Lewis, M B
Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M
Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards,
K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, D G
Sullivan, G J Tanner, M Thomas, L G Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D
Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 6 "Polisi
Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt". 7)
Datganodd y Cynghorwyr A M
Day, E W Fitzgerald, P R Hood-Williams, E T Kirchner, C L Philpott, R C Stewart
ac L G Thomas fudd Personol a Rhagfarnol â Chofnod
104 "Enwebu'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer
2022-2023" a gadawsant y cyfarfod wrth iddo gael ei ystyried. 8)
Datganodd y Cynghorwyr P M
Black, R Francis-Davies, C A Holley ac A S Lewis gysylltiad personol â Chofnod
104 "Enwebu'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer
2022-2023". 9)
Datganodd y Cynghorydd M C
Child gysylltiad personol â Chofnod 9 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr
(Cwestiwn 6). 10)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw,
J P Curtice, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, P K Jones, E T Kirchner, W
G Lewis, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, J A Raynor, C Richards, G J Tanner, L
G Thomas, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 108
"Hysbysiad o Gynnig – Yr Argyfwng Ynni Cenedlaethol". |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: a)
Anrhydeddau'r Flwyddyn
Newydd Cyfeiriodd
yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a)
Cadlywydd Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Yr Athro Tavi Murray. Athro Rhewlifeg Prifysgol Abertawe.
Gwasanaethau i ymchwil rhewlifeg a newid yn yr hinsawdd. b)
Swyddog Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Michael John Walters.
Rheolwr Gweithrediadau'r Bad Achub. Bad Achub Glannau Llwchwr. Gwasanaethau i'r
gymuned yn Abertawe. c)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Y Parchedig Steven Bunting. Ficer Eglwys St. Thomas. Gwasanaethau elusennol
i'r gymuned yn Abertawe. ii)
Alison Williams. Pennaeth
Ysgol Craigfelen. Gwasanaethau i Addysg a'r gymuned
yn Abertawe. iii)
Dr. Edward Morgan Roberts
DL. Gwasanaethau i feddygaeth ac i'r gymuned yn Abertawe a Chastell-nedd Port
Talbot. b) CEEQUAL: CQA 670 - Parc Trefol Ffordd y
Brenin Dywedodd yr Aelod
Llywyddol mai CEEQUAL oedd y cynllun asesu, graddio a gwobrau cynaliadwyedd
pennaf ar gyfer prosiectau peirianneg sifil, isadeiledd, tirlunio a mannau cyhoeddus. Roedd Academi BRE wedi
gwirio a chadarnhau bod Parc Trefol Ffordd y Brenin wedi ennill gwobr CEEQUAL.
Dyma'r asesiad CEEQUAL cyntaf sydd wedi'i gwblhau a'r cyntaf i 'basio' gan
ragori ar hyn mewn gwirionedd wrth gael dyfarniad 'Da'. Y meysydd a aseswyd o dan y Cleient, Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y
cynllun oedd: Ø Rheoli prosiectau. Ø Pobl a Chymunedau. Ø Defnydd Tir a Thirwedd. Ø Amgylchedd Hanesyddol. Ø Ecoleg a Bioamrywiaeth. Ø Amgylchedd Dŵr. Ø Defnydd o Adnoddau Ffisegol a'r Amgylchedd. Ø Trafnidiaeth. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn. c)
Diwrnod Coffáu’r Holocost
- 27 Ionawr Dywedodd y Llywydd fod heddiw'n ddiwrnod coffa
cenedlaethol a neilltuwyd ar gyfer cofio'r chwe
miliwn o Iddewon a gollodd eu bywydau yn yr Holocost,
tranc miliynau'n fwy a ddioddefodd dan erledigaeth y Natsïaid
a'r hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. 27 Ionawr yw'r dyddiad y rhyddhawyd gwersyll crynhoi Auschwitz-Birkenau.
Gyda'n gilydd, rydym yn dyst i bawb a gafodd eu llofruddio a'u herlid ac rydym
yn anrhydeddu goroeswyr y cyfundrefnau hynny a'r holl rai y newidiwyd eu
bywydau y tu hwnt i gydnabyddiaeth. Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i sicrhau ein bod yn byw mewn byd sy'n
rhydd o wahaniaethu, gelyniaeth ac erledigaeth. Roedd yr Holocost wedi ysgwyd sylfeini gwareiddiad a'n lle ni yw sicrhau
nad yw hyn byth yn cael ei anghofio a bod cenedlaethau i ddod yn parhau i gofio
am y rheini a gollodd eu bywydau. Mae'r cyngor, ar y cyd ag ysgolion, y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg
Grefyddol (CYSAG), Fforwm Rhyng-ffydd Abertawe a Norma Glass MBE wedi recordio
seremoni ymlaen llaw sydd ar gael ar dudalen Facebook y cyngor y gallwch ei
gweld. Gwahoddodd bob aelod o'r cyngor i oedi am eiliad o fyfyrio i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac mewn
hil-laddiadau dilynol. d)
Cywiriadau / Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor i)
Eitem 11 "Rhyddid er
Anrhydedd Dinas Abertawe" Gohiriwyd yr eitem hon oherwydd y ffaith y bydd yn anodd
iawn trefnu Cyngor Seremonïol o fewn cyfnod cyfyngedig yng ngoleuni'r Cyfnod
Cyn yr Etholiad sy'n dechrau ym mis Mawrth 2022, cyfyngiadau cyfredol COVID, a
nifer o Gynghorau Seremonïol eraill yn gorfod cael blaenoriaeth h.y. Urddo'r
Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, y Llynges Fasnachol a'r Etholiad
Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn datgan y dylid rhoi pob
penderfyniad ar waith o fewn 6 mis i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad a
chredaf y byddwn yn ei chael hi'n anodd cynnal Cyngor Seremonïol o fewn 6 mis. ii)
Eitem 12 "Polisi
Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt” Atodiad A. Mae
paragraff 8.1 yn cyfeirio at Ddeddf Diogelu Data 1998. Diwygio'r flwyddyn i
ddarllen 2018. iii)
Eitem 15 "Aelodaeth
Pwyllgorau” Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau Ychwanegu Mike Lewis, Aelod Cyfetholedig
Statudol o'r Pwyllgor Safonau. Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned Phil Crayford. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: a)
Penodi Ben Smith yn
Gyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod Ben Smith wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 yn
dilyn proses gyfweld. Gwnaed ei benodiad yng Nghyfarfod Arbennig o'r Cyngor yn
gynharach y diwrnod hwnnw. Llongyfarchodd y Cynghorydd R C Stewart Ben Smith ar
ei benodiad ar ran y cyngor. Talodd Arweinydd y
Cyngor deyrnged hefyd i swyddogion y Tîm Cyllid am eu holl waith, yn enwedig o
ran sicrhau bod y grantiau busnes yn cael eu prosesu yn ystod pandemig COVID-19. Diolchodd Ben Smith i
Arweinydd y Cyngor am y gefnogaeth. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau
i wasanaethu'r cyngor. b)
Adolygiad Dysgu Mayhill Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at gyhoeddi Adolygiad Dysgu Mayhill yn
ddiweddar. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad i'r adroddiad a'i argymhellion.
Dywedodd fod y cyngor yn derbyn yr argymhellion yn llawn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid
i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk
erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd tri
chwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Roedd pob un yn ymwneud â Chofnod 107
"Cwestiynau gan y Cynghorwyr". Roedd un yn ymwneud â Chwestiwn 4 a 2
yn ymwneud â Chwestiwn 11. Ymatebodd yr
Aelod perthnasol o'r Cabinet. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 356 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i ystyried yn
flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2022.
Roedd hefyd yn ceisio ailfabwysiadu'r cynllun
presennol fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer y cyfnod 2022/23. Penderfynwyd: 1)
Nodi
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig
(Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u
diwygiwyd. 2) Nodi'r
diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r
Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 i'w hystyried gan Senedd Cymru ar 18
Ionawr 2022. 3)
Nodi
canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar
feysydd dewisol y cynllun presennol. 4)
Y
bydd meysydd dewisol y cynllun presennol (2021/22) (fel y nodir yn adran 3 o'r
adroddiad hwn) yn aros yr un fath ar gyfer y cyfnod 2022/23. 5)
Y
bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn adran 3 o'r adroddiad
hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol a allai fod yn angenrheidiol o
ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion
Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael eu cymeradwyo gan
Senedd Cymru ac yn dod i rym. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr adran Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau a oedd
yn amlinellu'r diwygiad arfaethedig i Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac
Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2017-22 i'w gynnwys mewn polisi
newydd ar gyfer 2022-27 ac roeddent yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y polisi
newydd. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r polisi "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-2027" arfaethedig, gan gynnwys y bwriad i ddileu'r prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Gwastraff 2022-2025 PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan adran Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i fabwysiadu Strategaeth Gwastraff 2022-2025. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu
Strategaeth Gwastraff 2022-2025. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE. PDF 219 KB Penderfyniad: Gohiriwyd. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon oherwydd y ffaith y bydd yn anodd iawn trefnu Cyngor
Seremonïol o fewn cyfnod cyfyngedig yng ngoleuni'r Cyfnod Cyn yr Etholiad sy'n
dechrau ym mis Mawrth 2022, cyfyngiadau cyfredol COVID a nifer o Gynghorau
Seremonïol eraill yn gorfod cael blaenoriaeth h.y. Urddo'r Arglwydd Faer a'r
Dirprwy Arglwydd Faer, y Llynges Fasnachol a'r Etholiad Llywodraeth Leol ym mis
Mai 2022. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn nodi y dylid rhoi pob penderfyniad ar waith o
fewn 6 mis i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad a chredaf y byddwn yn ei chael
hi'n anodd cynnal Cyngor Seremonïol o fewn 6 mis. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. PDF 421 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid
adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am fabwysiadu Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr – Mai 2022 a Thu Hwnt. Penderfynwyd: 1)
Caiff
"Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr – Mai 2022 a
Thu Hwnt" ei fabwysiadu yn amodol ar y gwelliant a amlinellir yng Nghyhoeddiadau'r
Aelod Llywyddol. 2)
Bydd
Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn darparu arweiniad defnyddiol
"Arferion Da" i gynghorwyr, a fydd yn esbonio pynciau megis copïau
wrth gefn, cysoni, etc. 3)
Dylid
ychwanegu hyfforddiant meddalwedd modern.gov at Raglen Sefydlu'r Cynghorwyr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am fabwysiadu'r
Llawlyfr i Gynghorwyr a adolygwyd yn ddiweddar. Adolygwyd adrannau A - C yng
nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2022
ac argymhellodd y pwyllgor y diwygiadau i'r cyngor. Penderfynwyd: 1) Bydd y gwelliannau a gynigiwyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fel y'u nodir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2022-2023. PDF 401 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer yr Arglwydd Faer Etholedig a'r
Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig er mwyn caniatáu i drefniadau ar gyfer
digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaenau. Penderfynwyd: 1)
Enwebu'r Cynghorydd Mike Day yn Arglwydd Faer Etholedig
ar gyfer 2022-2023. 2)
Enwebu'r
Cynghorydd Graham Thomas yn Ddirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer
2022-2023. 3)
Derbyn enwebiadau'r Cynghorwyr Rob Stewart, Wendy Fitzgerald, Paxton
Hood-Williams, Erika Kirchner a Cheryl Philpott ar gyfer rolau'r Arglwydd
Faer/Dirprwy Arglwydd Faer i ganiatáu sefyllfa wrth gefn awtomatig pe na bai'r
rheini a enwir uchod yn ailsefyll neu'n peidio â chael eu hailethol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 112 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd
yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor. Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg Tynnu enw'r Cynghorydd L S Gibbard Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis. Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau Ychwanegu Mike Lewis, Aelod Cyfetholedig Statudol o'r Pwyllgor Safonau. Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned Phil Crayford. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu
effaith craffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 490 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y
Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Yr Argyfwng Ynni Cenedlaethol. PDF 204 KB Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd A S Lewis a'i eilio gan y Cynghorydd R C
Stewart. "Mae'r cyngor hwn yn cydnabod yr argyfwng
ynni digynsail sy'n wynebu llawer o aelwydydd ledled Abertawe, Cymru a'r DU. Yn
ystod y misoedd i ddod bydd mwy a mwy o aelwydydd yn gweld cynnydd o faint na
welwyd erioed o'r blaen wrth i'r cap ar brisiau gael ei ddileu neu wrth i
fargeinion ynni ddod i ben. Daw hyn ar ben argyfwng costau byw a
grëwyd gan effeithiau Brexit a'r Pandemig COVID sydd
eisoes wedi arwain at bwysau digynsail ar incymau pobl. Mae chwyddiant yn parhau'n uchel iawn
sy'n rhoi pwysau enfawr ar gyllidebau aelwydydd gan nad yw enillion wedi mynd
bob yn gam â phrisiau, gan olygu bod cyllidebau teuluol yn gyfyngedig a phobl
yn waeth eu byd. Mae costau ychwanegol byw o ddydd i
ddydd eisoes yn effeithio'n negyddol ar bob aelwyd ar draws Abertawe ond hyd yn
oed yn fwy felly ar deuluoedd sy'n byw'n agos at dlodi y mae angen i lawer
ohonynt ymweld â banciau bwyd o hyd, a byddant bellach yn wynebu'r dewis
ofnadwy o wresogi eu cartref neu roi bwyd ar y bwrdd. Fel cyngor, byddwn yn parhau i wneud
popeth o fewn ein gallu i helpu i liniaru costau ynni drwy gyfeirio preswylwyr
at yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael i wella effeithlonrwydd ynni
cartrefi preswylwyr fel perchnogion cartrefi yn ogystal â'n buddsoddiad
sylweddol yng nghartrefi'r cyngor i'w gwneud yn rhatach i'w gwresogi a byw
ynddynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi
£100 yr un i lawer o aelwydydd ac rydym yn croesawu'r cyfraniad hwn yn y
cyfamser gyda'r cyngor yn prosesu hyd at 30,000 o daliadau o'r fath i aelwydydd
yn Abertawe. Fodd bynnag, dim ond
drwy weithredu pendant gan Lywodraeth y DU y gellir sicrhau'r cymorth sydd ei
angen ar deuluoedd i ddelio â'r argyfwng costau byw. Felly, mae'r cyngor hwn yn
galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog a Changhellor y
Trysorlys i alw arnynt i weithredu a rhoi'r canlynol ar waith yn ddi-oed: ·
Gostyngiad mewn TAW ar gyfer Biliau Ynni i
helpu teuluoedd a deiliaid tai. ·
Cyflwyno cap prisiau is newydd ar filiau
ynni i amddiffyn aelwydydd rhag codiadau gormodol mewn prisiau. ·
Cynyddu argaeledd grantiau neu fenthyciadau
di-log i annog pobl i fanteisio ar atebion ynni adnewyddadwy fel Solar/PV
domestig ar gyfer perchnogion cartrefi preifat a busnesau lleol. ·
Treth annisgwyl ar gwmnïau ynni i ariannu
cynllun grant ledled y DU ar gyfer aelwydydd cymwys i ategu'r gwaith a
ddechreuwyd gan gynllun £100 Llywodraeth Cymru." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais",
gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a
ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |