Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M
Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, S L Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M
Griffiths, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins,
D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, L R Jones, M H Jones, M Jones, P
K Jones, S M Jones, E T Kirchner, M A Langstone, H Lawson, A S Lewis, M B
Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N
May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, J A Raynor, C Richards,
K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G
Sullivan, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J
Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod
86 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol 2022-2023 - Ymgynghoriad". 2)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M
Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M
Griffiths, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B
Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, L R Jones, M H Jones, M
Jones, P K Jones, S M Jones, E T Kirchner, M A Langstone, H Lawson, A S Lewis,
M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P
N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, J A Raynor, C
Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C
Stewart, D G Sullivan, D W W Thomas, L G Thomas, M
Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng
Nghofnod 87 "Diogelwch Cynghorwyr a Chefnogaeth Iddynt". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Michaela Robins, Chwaer y Cynghorydd Elliott King Cyfeiriodd yr
Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Michaela Robins, chwaer
y Cynghorydd Elliott King. ii)
Y Cyn-gynghorydd Judith Irvin Cyfeiriodd yr
Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Judith Irvin (Hinds bellach). Cynrychiolodd Judith Ward y Castell
am gyfnod tan 1973 ar Gyngor Bwrdeistref Abertawe. Eisteddodd pawb a oedd yn bresennol yn dawel fel arwydd
o gydymdeimlad a pharch. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Addewid Gwely bob Amser Dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi ailadrodd yr Addewid Gwely bob Amser.
Roedd yr addewid hwn yn rhoi sicrwydd bod gwely ar gael bob amser i bobl
ddigartref yn Abertawe. Diolchodd i'r Cynghorydd A S Lewis, y Cynghorydd A Pugh
a'r Swyddogion perthnasol am eu gwaith gyda phobl ddigartref gan ddweud bod
dros 400 o bobl wedi cael cymorth i ddod oddi ar y stryd i gartrefi parhaol. Ategodd
y Cynghorydd A S Lewis eiriau Arweinydd y Cyngor a diolchodd i'r Swyddogion a'r
Asiantaethau a fu'n ymwneud â helpu'r digartref. b)
Sefydliad Adain Dde – Fideos Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr wybodaeth fideo
sy'n cael ei chylchredeg gan Sefydliad Adain Dde yn Abertawe ynglŷn â'r
defnydd o westy yng Nghanol y Ddinas ar gyfer Ffoaduriaid yn anghywir. Mae Cyngor Abertawe wedi ceisio cefnogi
ffoaduriaid h.y. y rheini sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro neu sydd mewn angen.
Nid ydym yn credu mai defnyddio gwestai yw'r ffordd briodol o ddarparu noddfa.
Dywedodd fod Abertawe'n falch o fod yn Ddinas Noddfa. Roedd Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol
Mwyaf ac Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn cefnogi sylwadau Arweinydd y
Cyngor. c)
Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig - Plannu Coed Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod coeden dderw
wedi'i phlannu ar dir Neuadd y Ddinas i nodi 80 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas
y Ffoaduriaid Iddewig. Mae Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig yn elusen sy'n
cefnogi ffoaduriaid a goroeswyr yr Holocost ledled Prydain. Diolchodd i Norma Glass am ei gwaith gyda'r
Gymdeithas. ch) Diwrnod Hawliau Dynol – 10
Rhagfyr 2021 Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y Diwrnod Hawliau Dynol
a gynhelir ar 10 Rhagfyr 2021. Dywedodd y byddai'r diwrnod hefyd yn cael ei
ddefnyddio i lansio cais Abertawe i fod yn Ddinas Hawliau Dynol. Y bwriad yw
anfon neges glir fod Abertawe'n lle diogel a
chroesawgar i fyw. d)
Parc Sglefrio'r Mwmbwls Trosglwyddo Tir Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod y Cabinet ar 18 Tachwedd 2021 wedi cymeradwyo trosglwyddo tir i
Gyngor Cymuned y Mwmbwls ar gyfer datblygu Parc Sglefrio'r Mwmbwls. Dywedodd ei
fod wrth ei fodd gyda'r penderfyniad hwn. dd)
Storm Arwen Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Cabinet a'r
Swyddogion perthnasol a oedd wedi gweithio'n ddiflino i lanhau canlyniadau
Storm Arwen. e)
Gorymdaith y Nadolig Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Cabinet a'r
Swyddogion perthnasol am gyflwyno Gorymdaith Nadolig ragorol. f)
Gohirio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 Croesawodd Arweinydd y Cyngor benderfyniad Llywodraeth
Cymru i ohirio TAN 15 am 18 mis. Dywedodd y byddai'r amser yn cael ei
ddefnyddio i weithio'n agos ar amddiffynfeydd rhag llifogydd gyda Llywodraeth
Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. ff)
Amrywiolyn Omicron
COVID-19 Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at Amrywiolyn Omicron COVID-19 ac atgoffodd bawb i ddilyn y rheolau a'r
rheoliadau a osodwyd i gadw pawb yn ddiogel er mwyn rheoli ymlediad y feirws. Diolchodd i'r Swyddogion Gorfodi a Swyddogion
eraill a oedd yn gweithio i gadw Abertawe'n ddiogel.
Mae'r cyngor yn cymryd camau priodol yn unig mewn perthynas â COVID-19. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid i
gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau
Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Safonau 2020-2021. PDF 222 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jill Burgess, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020-2021 er gwybodaeth. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Safonau yn ystod y cyfnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2022/2023 PDF 291 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo
sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref
ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2022-2023. Mae'n ofynnol i'r
cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr 2021. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer
2022-2023. 2) Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo
Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2022-2023:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o'r Polisi Gamblo PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd
yn ceisio ystyriaeth a chymeradwyaeth ar gyfer diwygiadau arfaethedig i'r
Polisi Gamblo. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Gamblo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig a atodwyd yn
Atodiad B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. PDF 457 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yr argymhellwyd
i'w fabwysiadu yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd
ar 8 Tachwedd 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Cynllun Gweithredu a oedd yn
nodi sut y gallai'r cyngor gefnogi'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Penderfynwyd: 1)
Y dylid mabwysiadu'r
Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023 ac yn amlinellu'r penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys
ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd i'r ymgynghoriad, a gyflwynwyd ar 8 Tachwedd 2021. Penderfynwyd: 1)
Y dylid nodi Adroddiad
Blynyddol drafft yr IRPW ar gyfer 2022-2023. 2)
Mabwysiadu'r sylwadau a
nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diogelwch Cynghorwyr a Chefnogaeth iddynt. PDF 409 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn
am ddarparu cymorth i bob Cynghorydd wrth iddo gyflawni'i rôl drwy gytuno mewn
egwyddor y dylai'r cyngor ariannu mesurau diogelwch priodol lle mae Cynghorwyr mewn
perygl personol o fygythiad sylweddol. Penderfynwyd: 1)
Lle bo Cynghorydd mewn
perygl personol neu fygythiad sylweddol o niwed wrth gyflawni'i rôl, y dylid
rhoi ystyriaeth i ariannu mesurau diogelwch priodol. 2)
Dirprwyo awdurdod i
Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Cyllid ystyried unrhyw
gais am gyllid o'r fath a phenderfynu arno. 3)
Y dylid cynnwys dogfen
sy'n ymwneud â Diogelwch Personol Cynghorwyr yn y Pecynnau i Ymgeiswyr ar gyfer
Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 456 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar
eu cyfer. |