Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, M C
Child, J P Curtice, N J Davies, P Downing, M Durke, V M Evans, W Evans, S J
Gallagher, F M Gordon, K Griffiths, M Jones, E J King, A S Lewis, M B Lewis, C
Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, C L
Philpott, C R Richards, K M Roberts, B J
Rowlands, M Sherwood, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, M Thomas, W G Thomas,
L V Walton, G D Walker, T M White gysylltiad personol â Chofnod
69 "Diwygiad i Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA)
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Diweddaraf am Berfformiad Ariannu a
Buddsoddi a’r Diweddaraff am y Risg o Newud yn yr Hinsawdd". 2)
Datganodd Jeff Dong, Adam Hill, Tracey Meredith, Martin
Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol a rhagfarnol
â chofnod 64 “Cwestiynau gan y Cyhoedd” a thynnon yn ôl o'r cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 3)
Datganodd Jeff Dong, Adam Hill, Tracey Meredith, Martin
Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol a rhagfarnol
â chofnod 65 “Strwythur Uwch-reolwyr” a thynnon yn ôl o'r
cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Cyn-gynghorydd a'r Henadur Anrhydeddus Susan Waller Thomas Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei
dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd a'r Henadur
Anrhydeddus Susan Waller Thomas. Cynrychiolodd Susan
Ward Newton am tua 25 mlynedd, gan wasanaethu: Ø Cyngor Dinas Abertawe – 1986-1996. Ø Dinas a Sir Abertawe – 1995-2010. Susan oedd yr Arglwydd Faer rhwng 2007 a 2008 a
chyn-lywydd Dinas a Sir Abertawe. ii)
Y Cyn-gynghorydd Linda Wixey Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei
dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Linda Wixey. Cynrychiolodd Linda Ogledd Sgeti am tua 4 blynedd,
gan wasanaethu: Ø Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg 1990-1995. Eisteddodd pawb yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad
a pharch. b)
Gwobrau Buddsoddi CPALl 2021 Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol
gyhoeddi bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng
ngwobrau CPALl (Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPLlL)) eleni am 3 gwobr. Cyhoeddir yr enillwyr ar 15
Rhagfyr 2021. Y categorïau yw: ·
Cronfa Bensiwn
y Flwyddyn (asedau > £2.5bn). ·
Y Strategaeth
Newid yn yr Hinsawdd Orau. ·
Y Newyddbeth
Buddsoddi Gorau. c)
Parch at Ecwilibriwm Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Abertawe wedi dod yn un o'r awdurdodau
lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a gweithredu ei rhaglen cyflawnwyr
cam-drin domestig achrededig ei hun. Mae Ecwilibriwm
wedi ennill achrediad nodedig gan Respect -
sefydliad cenedlaethol blaenllaw ar gam-drin domestig. Er mwyn cyflawni hyn, bu'n rhaid i'r Tîm Ecwilibriwm
fynd trwy broses sicrhau ansawdd hynod fanwl, a gydnabyddir yn genedlaethol,
sy'n sicrhau bod tystiolaeth o arferion gwaith gorau drwy gydol y rhaglen. Diolchodd yr Aelod Llywyddol i bawb am eu gwaith a'u cyflawniad. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Ironman 70.3 Abertawe. Hanner Treiathlon Ironman Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod ras agoriadol Hanner Treiathlon Ironman 70.3 Abertawe wedi'i threfnu ar gyfer 7 Awst 2022. Bydd athletwyr sy'n cymryd rhan yn Ironman 70.3 Abertawe'n nofio 1.2 milltir (1.9km), yn beicio ar hyd cwrs
56 milltir (90km) o hyd ac yna'n rhedeg hanner marathon, 13.1 milltir (21.1km)
o hyd. b)
Rhagor o arian ar gyfer y
Gronfa Adfer Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y byddai £5m ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y Gronfa Adfer. Roedd yr
arian ychwanegol hwn yn cynnwys £1.9m ar gyfer Ardaloedd Chwarae a Lleoedd
Chwarae. Mae'r ymrwymiad yn golygu y codir pob ardal/lle chwarae yn Abertawe,
ar draws yr holl Wardiau Etholiadol, i'r safon chwarae gwyrdd. Mae hyn hefyd yn
cynnwys clustnodi hyd at £500,000 i gyfleusterau sglefrio ledled Abertawe. c)
Eden Las Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at y prosiect Eden Las arfaethedig, a oedd yn cynnwys morlyn llanw.
Byddai'r prosiect hefyd yn cynnwys ffatri batris, canolfan ddata a phaneli
solar arnofiol mwyaf yn y DU. Bydd y gwres o'r ganolfan ddata’n cael ei
ddefnyddio i wresogi tai lleol. d)
Parc Sglefrio. Datganiad o
Gysylltiadau Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fyddai'n cymryd
rhan yn yr eitem oedd ar ddod yn ymwneud â Pharc Sglefrio'r Mwmbwls yn y
Cabinet, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid i
gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau
Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Cyflwynwyd nifer o gwestiynau. a)
Gofynnwyd cwestiwn gan James McGettrick
mewn perthynas â Chofnod 73 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 3”. Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a
Gweithrediadau. b)
Gofynnodd Neil Jones gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 69
"Diwygiad i Gytundeb Rhyng-awdurdod (CRhA) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Diweddaraf am
Berfformiad Ariannu a Buddsoddi a'r Diweddaraf am y Risg o Newid yn yr
Hinsawdd". Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn y
byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. c)
Gofynnodd Nortridge Perrot gwestiynau mewn perthynas â: i)
Cofnod 75 "Hysbysiad o Gynnig – Argyfwng
Natur". Ymatebodd y Swyddog Adran 151. ii)
Cofnod 68 "Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys
2020/21". Ymatebodd y Swyddog Adran 151. iii)
Cofnod 65 "Strwythur Uwch-reolwyr". Ymatebodd y Prif Weithredwr. |
|
Strwythur Uwch-reolwyr. PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Weithredwr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth mewn perthynas â'r
Strwythur Uwch-reolwyr newydd ar gyfer y cyngor. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Caiff
y strwythur a nodir yn Atodiad 2 (a pharagraff 2.1.5) o'r adroddiad yn amodol ar
yr ymgynghoriad a nodir yn yr adroddiad, ei gymeradwyo. 2)
Awdurdodir
y Prif Weithredwr i ymgynghori â'r holl staff yr effeithir arnynt. 3)
Yn
amodol ar 2) uchod, nad yw'n nodi unrhyw newidiadau sylweddol, awdurdodir y
Prif Weithredwr i roi’r strwythur ar waith. 4)
Cymeradwyir
penodi Prif Weithredwr dros dro ar sail fewnol, wedi'i glustnodi i Gyfarwyddwyr
presennol. 5)
Caiff
taliad y Prif Weithredwr dros dro ei gymeradwyo fel yr un taliad cydnabyddiaeth
â'r Prif Weithredwr presennol. 6) Cymeradwyo'r gwaith o gomisiynu adolygiad cyflog a graddio ar gyfer Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. PDF 363 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo Cynllun
Hawliau Plant a Phobl Ifanc Abertawe yn dilyn ymgynghoriad a chytuno i barhau â
dull cydgynhyrchiol o ymdrin â mecanweithiau ar gyfer
gwrando ar blant a phobl ifanc. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Caiff
canlyniadau'r Ymgynghoriad yn Atodiad 2 eu nodi. 2)
Caiff
Cynllun Hawliau Plant Abertawe yn Atodiad 1 yr adroddiad ei gymeradwyo. 3)
Cytunir
i sefydlu 6 fforwm cydgynhyrchiad i weithio gyda
phlant a phobl ifanc ar themâu a nodwyd fel blaenoriaethau fel rhan o'r
ymgynghoriad. 4)
Cytunir
i barhau â'r sgyrsiau a chydgynhyrchiad gyda phlant a
phobl ifanc a rhanddeiliaid eraill i ychwanegu
manylion at weithrediad pob fforwm cydgynhyrchu. |
|
Datganiad cyllideb canol blwyddyn 2021/22. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2021-2022. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21 PDF 766 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn manylu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y cyngor yn ystod 2020-21 ac yn
cymharu perfformiad gwirioneddol yn erbyn y strategaeth a luniwyd ar ddechrau'r
flwyddyn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth i ddiwygio Cytundeb Rhyng-awdurdod (CRhA) Partneriaeth Pensiwn Cymru, a gymeradwywyd yn
flaenorol, i ymgorffori trefniadau llywodraethu diwygiedig sy'n caniatáu i
gynrychiolydd aelod o'r cynllun fod ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (CBLl), ynghyd â newidiadau gweithredol eraill a nodwyd, ac
i hysbysu'r cyngor o sefyllfa ariannu'r gronfa bensiwn a pherfformiad buddsoddi
a chynnydd diweddar yn erbyn lleihau'r risg o newid yn yr hinsawdd yn y
portffolio buddsoddi. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r Cytundeb Rhyng-awdurdod
diwygiedig (CRhA) a atodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad. 2)
Nodi'r sefyllfa ariannu a'r perfformiad buddsoddi yn
Adran 4 yr adroddiad, a'r cynnydd o ran mynd i'r afael â'r risg newid yn yr
hinsawdd a'r daith i ddod yn Sero-net o fewn ei bortffolio buddsoddi yn
adrannau 5-10 o'r adroddiad hwn. |
|
Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break Cofnodion: Yn
unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er
mwyn hwyluso egwyl o 10 munud. |
|
Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. PDF 344 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu
Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cytuno
ar y meysydd hyfforddi gorfodol a amlinellir ym Mharagraff 3 o'r adroddiad. 2)
Mabwysiadwyd
Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. 3) Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gweithio gyda'r TRhC i bennu darparwr hyfforddiant, dyddiad, lleoliad ac amser sefydlu a hyfforddi Cynghorwyr. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 191 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau
er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)
Cymru 2013 yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â
Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. O ganlyniad i'r newid
deddfwriaethol hwn, ychwanegwyd y canlynol at Gylch Gorchwyl Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd: i)
"Ar gais yr Awdurdod
Lleol, gall Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd adolygu unrhyw fater sy'n
berthnasol i’r: a)
Cymorth a'r cyngor sydd ar
gael i Aelodau'r Awdurdod b) Amodau a thelerau swydd yr Aelodau hynny." |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. PDF 384 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a
gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 2 i)
Cyfeiriodd y Cynghorydd C A
Holley at y dudalen Facebook yn honni nad oedd plant sy'n byw yn Dan-y-Coed yn
derbyn y gofal a'r addysg sydd eu hangen arnynt. Gofynnodd pa gamau a gymerwyd
o ganlyniad i hyn? Dywedodd
Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael
ei ddarparu. ii)
Cyfeiriodd y Cynghorydd M H
Jones at y Cynllun Gwella a oedd ar waith a gofynnodd a oedd yr Aelod Cabinet
yn hapus â'r cynllun, ac a oedd yn teimlo bod y cyngor yn cael gwerth am arian? Dywedodd
Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael
ei ddarparu. Cwestiwn 3 Gofynnodd y Cynghorydd A M Day pryd y byddai'r adroddiad ar gael? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 5 Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiwn mewn perthynas â'r Cynllun
Prentisiaeth. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai adroddiad yn ymwneud â'r Cynllun
Prentisiaeth yn cael ei gyflwyno i'r cyngor maes o law. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd chwe (6)
'chwestiwn nad oedd angen Cwestiynau Atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig - Siarter Undod Dros Adran. PDF 205 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Mae'r
newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol enfawr y mae'r wlad wedi'u gweld dros y
blynyddoedd diwethaf wedi arwain at ymraniad cymdeithasol mawr, yn enwedig mewn
perthynas â hil, ethnigrwydd, crefydd a chenedligrwydd. Un o ganlyniadau mwyaf
pryderus hyn yw'r cynnydd sydyn mewn troseddau casineb hiliol, sydd wedi
cynyddu bron 30% ers 2016. Mae gwahaniaethu ac anoddefgarwch hiliol yn
annerbyniol mewn cymdeithas fodern, a dylem ymrwymo i ddod at ein gilydd a'u
dileu yn eu holl ffurfiau. Byddai
mabwysiadu'r Siarter Undod dros Ymraniad yn fan cychwyn ar gyfer yr hyn a fydd,
gobeithio, yn ymagwedd fwy rhagweithiol o adeiladu gweithle cynhwysol. Ac felly, rydym
ni' r Aelodau Etholedig a enwir uchod yn gofyn i Gyngor Abertawe: 1.
Fabwysiadu'r Siarter Undod dros Ymraniad. 2.
Bydd Cyngor Abertawe'n penodi Hyrwyddwr
Cynhwysiad a fydd y person arweiniol ar gyfer agenda'r Siarter Undod dros
Ymraniad, gyda chefnogaeth Undebau Llafur a'r cyngor i gydweithio, monitro,
hwyluso a hyrwyddo cynhwysiad yn y gweithle lle bynnag y bo modd. 3.
Bydd Cyngor Abertawe'n sicrhau bod pob aelod o
staff, gan gynnwys ysgolion, yn cael hyfforddiant gorfodol ar sut i gadw at
Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y cyngor a bydd yn sicrhau bod y ddogfen hon
yn cael ei hadolygu'n flynyddol. 4.
Bydd Cyngor Abertawe'n cydweithio ag Undebau
Llafur i ddarparu deunyddiau addysgiadol a chyfredol y bwriedir iddynt helpu i
hyrwyddo cydraddoldeb a chytgord yn y gweithle. 5.
Bydd Abertawe'n sefyll ynghyd ag Undebau Llafur i
gondemnio digwyddiadau lle ceir enghreifftiau lleol a chenedlaethol o droseddau
casineb a gwahaniaethu. 6.
Bydd Cyngor Abertawe'n gweithio gyda'r holl
asiantaethau a sefydliadau priodol eraill i hyrwyddo cydlyniant
y tu mewn a'r tu allan i'r gweithle”. Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|
Rhybudd o Gynnig - Argyfwng Natur. PDF 230 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd
P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. “Mae'r cyngor
hwn yn nodi gyda braw ei fod yn fater brys i gymryd camau cryf, perthnasol ac
uniongyrchol i atal a lleihau graddfa ac effeithiau colli bioamrywiaeth a newid
yn yr hinsawdd yn fyd-eang, a achosir gan fodau dynol, ar ddynolryw a bywyd
gwyllt. Mae'r cyngor
hefyd yn nodi methiant gwledydd ar draws y byd (gan gynnwys y DU) i gyflawni
bron pob un o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys
bioamrywiaeth, a bennwyd yn 2010, sydd bellach i'w hadolygu yn COP 15 ym mis
Hydref yn Kunming, Tsieina – Llwyfan Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth ac
Ecosystemau (IPBES). Rydym yn
wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol lleol a byd-eang rhyngberthynol, gyda 17%
o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddiflannu. Ond gallwn newid hyn drwy adfer byd natur, a
fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ar 30 Mehefin
2021, Llywodraeth Cymru oedd un o'r seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng
natur. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James AS, mai
'adfer natur a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd yw prif flaenoriaethau'r
llywodraeth hon'. Datganodd
Cyngor Abertawe argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019 ac ers hynny mae wedi bod
yn datblygu Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer y cyngor ac ar
gyfer Abertawe gyfan, mewn cydweithrediad â Fforwm Amgylcheddol Abertawe a rhanddeiliaid eraill. Mae'r cyngor
hwn yn cydnabod bod colli bioamrywiaeth yr un mor ddifrifol â newid yn yr
hinsawdd i'n goroesiad yn y dyfodol – mae natur yn cyfrannu cymaint i'n byd, yn
ymarferol ac o ran gwasanaethauu ecosystemau – dal a storio carbon, rheoli
dŵr ffres, rheoli pridd, rheoli llygredd aer, cysgod, oeri ac atal
llifogydd, planhigion bwyd, meddyginiaethau – a hefyd o ran harddwch naturiol
sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles. Felly, i
gefnogi datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng natur, fod y cyngor yn datgan
argyfwng natur ac yn ymrwymo'n llawn i baratoi a chyflwyno Cynllun Gweithredu
Adfer Natur i'w weithredu ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd sy'n
datblygu. Mae llawer o
waith eisoes yn cael ei wneud: ·
Mae'r
cyngor wedi cynnwys amcan lles sy’n flaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer adfer
natur yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2020-2022. ·
Mae wedi
cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcan 'Gweithio gyda Natur' yng Nghynllun Lles
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. ·
Mae'r
cyngor wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a Natur a Grŵp Llywio i sicrhau bod y ddau fater yn cael eu
hystyried yn llawn ar draws holl gynlluniau a phrosiectau meysydd gwasanaeth. ·
Rydym
wedi penodi Swyddog Bioamrywiaeth rhan-amser, i weithio ar y cyd â holl
wasanaethau'r cyngor, i sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswydd bioamrywiaeth Deddf
yr Amgylchedd (Cymru) ac i fonitro a chofnodi cynnydd, yn ogystal â darparu
cyngor a chymorth ar gyfer paratoi a chyflawni Cynllun Gweithredu Adran 6. ·
Rydym yn
darparu rôl arweiniol o ran cydlynu a chefnogi'r Bartneriaeth Natur Leol (PNL)
sydd â thros 97 o aelodau o sefydliadau bywyd gwyllt lleol a sefydliadau
eraill, sy'n dymuno cyfrannu at adferiad natur. ·
Rydym
hefyd yn cyflogi swyddog PNL rhan-amser dros dro a fydd yn cydlynu'r gwaith o
baratoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol. Fodd bynnag, er
bod llawer o waith da'n cael ei wneud a llawer o gynnydd yn cael ei wneud, mae
angen i ni wneud mwy. Mae maint yr
her yn gofyn am fwy o flaenoriaethu, ymrwymiad ac adnoddau ychwanegol i sicrhau
ein bod yn cyrraedd ein targedau i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Gallai camau
gweithredu penodol gynnwys: ·
Cynnal a
chryfhau ein blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer adnoddau naturiol a
bioamrywiaeth gan gynnwys Newid yn yr Hinsawdd. ·
Adnewyddu
Siarter Hinsawdd Abertawe i ddod yn Siarter Hinsawdd a Natur integredig. ·
Ehangu
cylch gorchwyl ac aelodaeth y grŵp
llywio newid yn yr hinsawdd presennol i gynnwys natur a bioamrywiaeth a dod yn
Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd a Natur. ·
Parhau i
gydweithio â'r Bartneriaeth Natur Leol (PNL) a rhwydweithiau allweddol eraill ledled
Cymru i wneud mwy o le i alluogi natur i ddod yn doreithiog eto. Mae'r PNL yn cynnwys cyrff anllywodraethol cadwraeth
natur gweithredol, fel yr RSPB, yr Ymddiriedolaethau Natur, Plantlife
a Buglife yn ogystal ag asiantaethau statudol a
chyrff ymchwil, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe. ·
Cynyddu’n
gwaith gyda grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion i annog cynifer o breswylwyr â
phosib yn Abertawe i ymwneud â chynnal a gwella bywyd gwyllt lleol. ·
Ceisio
cymorth pellach gan lywodraethau'r DU a Chymru i roi'r pwerau a'r adnoddau
angenrheidiol i ni er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein grymuso i gynnal a
gwella bioamrywiaeth. ·
Chwilio
am adnoddau i ddarparu cyllid refeniw a chyfalaf craidd hirdymor cynaliadwy,
gan ein galluogi i wella'r gallu a'r adnoddau i gynllunio a chyflwyno
strategaethau a mentrau hirdymor ar gyfer adfer natur (yn hytrach na dibynnu ar
brosiectau tymor byr a ariennir gan grantiau). Penderfyniad y
cyngor hwn yw: -
Y bydd y cyngor yn datgan
argyfwng natur ac yn creu Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd a Natur. -
Bydd y cyngor yn ehangu
cylch gorchwyl ac aelodaeth y Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd presennol a
grŵp llywio’r hinsawdd i fod yn Fwrdd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a
Natur ac yn y drefn honno, y Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd a Natur. -
Bydd y cyngor yn
adnewyddu'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd i ddod yn Siarter Hinsawdd a Natur
integredig. Bydd Arweinydd
y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ac at Brif Weinidog Cymru yn gofyn
am adnoddau a phwerau ychwanegol i alluogi'r cyngor i gyflawni Cynllun
Gweithredu llawn ac integredig ar gyfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd”. Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |