Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol
posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen
"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion
hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â
darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd
y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 40 "Adroddiad
Archwilio Cymru – Adroddiad Archwilio Cyfrifon – Dinas a Sir Abertawe. 2)
Datganodd
y Cynghorwyr C Anderson, M C Child, J P Curtice, R Francis-Davies, C Evans, F M
Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, E T Kirchner, M B Lewis, P Lloyd, H
M Morris, B J Rowlands, R V Smith, D W W Thomas a T M
White gysylltiad personol â Chofnod 41 "Datganiad o Gyfrifon
2020/21". 3)
Datganodd
M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod
43 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 3" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei thrafod. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u
llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
Cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig
i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Gwobrau APSE
"Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus" 2021 Mae Gwobrau APSE yn cydnabod y gorau mewn gwasanaethau rheng flaen
Llywodraeth Leol ledled y DU. Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghinio Gwobrau
Elusennol Blynyddol APSE, er budd Parkinson's UK, ar
9 Medi 2021. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y
rhestr fer ar gyfer gwobr Cyngor Cyffredinol y Flwyddyn a hefyd ar gyfer 3
chategori arall yng Ngwobrau APSE 2021. i)
Tîm Gwasanaeth Gorau: Tai a Menter Adeiladu. Tîm Cyflwyno
Rhagor o Gartrefi. Gwasanaethau Adeiladu a Thai. ii)
Menter Tai, Adfywio neu Adeilad Newydd Gorau. Rhagor o
Gartrefi Safon Abertawe/HAPS (Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer). Gwasanaethau
Tai ac Adeiladu. iii)
Menter Fasnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau.
Canolbwynt Datblygu Masnachol. Gwasanaethau Masnachol. b)
Gwobrau Tai Cymru 2021 Mae Gwobrau Tai Cymru yn cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector
yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillwyr ar 30 Medi 2021. Dywedodd yr Aelod Llywyddol
fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 2 gategori yng Ngwobrau Tai
Cymru 2021. i)
Categori Gweithio mewn Partneriaeth. Tŷ Tom Jones. ii)
Categori Arloesedd mewn Tai.
Cyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Enwebodd y cyngor
sefydliadau ar gyfer gwobrau ond nid oedd y cyngor yn arwain y prosiectau: i)
Categori Cefnogi Cymunedau. Prosiect Bwyd Swansea Together. ii)
Categori Rhagoriaeth mewn Iechyd a Lles. Nyrs
Digartrefedd Arbenigol Abertawe. c)
Gemau Paralympaidd – Tenis Bwrdd Para – Paul Karabardak Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Paul Karabardak
o Waunarlwydd ar ei Fedal Efydd ddiweddar yn y Gemau Paralympaidd 2021 yn
nigwyddiad Tenis Bwrdd Paralympaidd. Mae Paul eisoes wedi ennill nifer o Fedalau
Ewropeaidd yn dilyn gwaith caled a dyfalbarhad. d)
Rhestr Binc 2021 - Pobl LGBT+ fwyaf dylanwadol
Cymru Mae'r Rhestr Binc yn cydnabod Pobl LGBT+ fwyaf dylanwadol Cymru. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant, Cadeirydd Fforwm LGBT+ Abertawe ac arweinydd Pride Abertawe ar y rhestr honno. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Kabul, Affganistan a Dinas Noddfa Abertawe Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y sefyllfa ofnadwy yn Kabul, Affganistan
yn ddiweddar. Rhoddodd sicrwydd i'r cyngor fod Abertawe'n
Ddinas Noddfa a'i bod yn helpu'r ffoaduriaid hynny sy'n ffoi rhag erledigaeth i
ail ymgartrefu yn Abertawe. 2)
Y diweddaraf am COVID-19 Rhoddodd arweinydd y cyngor y diweddaraf am bandemig
COVID-19. 3)
Teithio am ddim ar fyus
yn Ninas a Sir Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi ariannu teithio am ddim ar
fysus o fewn Dinas a Sir Abertawe yn ddiweddar drwy gydol gwyliau'r haf. Nod y
cynllun hwn oedd rhoi hwb i deuluoedd, twristiaeth a busnesau. Bu'n llwyddiant
ysgubol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod yn gobeithio cynnal y cynnig eto yn ystod hanner tymor a hefyd yn ystod gwyliau'r Nadolig. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe. PDF 744 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru, "Adroddiad Archwilio Cyfrifon 2020-2021,
Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe". Ymatebodd Jason Garcia (Swyddfa Archwilio Cymru) i
gwestiynau technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i
gwestiynau'n ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol. |
|
Datganiad o Gyfrifon 2020/21. PDF 222 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog 151 a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2020-2021 ar 15 Medi 2021
neu cyn hynny. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2020-2021 a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-2021. PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a amlinellodd
Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-2021 yn nodi gwaith y tîm craffu dros y cyfnod
hwnnw. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 312 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
pedwar (4) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Rhestrir y cwestiynau atodol y mae angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod: Cwestiwn 1 Dywedodd y Cynghorydd C A Holley,
ar ôl cau safle Gwaith Felindre, fod hen Awdurdod Datblygu Cymru a chyn Gyngor
Bwrdeistref Dyffryn Lliw yn berchen ar y safle tir llwyd a thir glas, sef
cyfanswm o tua 750 erw. Clustnodwyd y tir hwn ar gyfer Parc Busnes 750 erw. Mae'r Parc Busnes bellach ond
yn cyfateb i tua 150 erw gyda’r tir sy’n weddill yn cael ei ddyrannu fel tir ar
gyfer tai o dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Pryd y gwnaed y penderfyniad i
dynnu'r tir o ddefnydd y Parc Busnes a pham? Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei
ddarparu. 2)
'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig - Siarter MND. PDF 818 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd
gan y Cynghorydd S Pritchard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd R C Stewart. Mae’r cyngor yn nodi 1.
fod Clefyd Niwronau Motor (MND) yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym sy'n
effeithio ar yr ymennydd a'r llinyn asgwrn y cefn. Gall adael pobl yn gaeth i
gorff sy'n methu, sy'n methu â symud, siarad ac anadlu yn y pen draw. 2.
Mae risg oes person o ddatblygu MND hyd at 1 o bob 300. Gall effeithio ar
bobl o bob cymuned a chefndir. 3.
Mae'r clefyd hwn yn lladd tua 30% o bobl o fewn 12 mis o ddiagnosis, mwy na
50% o fewn dwy flynedd. Mae'n effeithio ar bobl o bob cymuned 4.
Ar hyn o bryd nid oes gwellhad i Glefyd Niwronau Motor. Mae'r cyngor yn credu 1.
bod gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael diagnosis cynnar a gwybodaeth. 2.
Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael mynediad at ofal a thriniaethau o
safon. 3.
Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael eu trin fel unigolion a chydag
urddas a pharch. 4.
Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i wneud y mwyaf o ansawdd eu bywyd. 5.
Mae gan ofalwyr pobl ag MND yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu
clywed a'u cefnogi'n dda. Penderfyniadau'r cyngor Bydd y cyngor yn ymrwymo i'r siarter MND. https://www.mndassociation.org/app/uploads/2016/02/champion-the-mnd-charter-full.pdf Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a
amlinellir uchod. |