Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1) Datganodd
y Cynghorwyr C Anderson, N J Davies, O G James, E J King, E T Kirchner a P M
Matthews gysylltiad personol â Chofnod 33 "Hysbysiad o Gynnig – Credyd
Cynhwysol". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 yn amodol ar Gofnod 13, "Cyhoeddiadau'r
Aelod Llywyddol" – 2) Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines "yn cael eu
diwygio fel a ganlyn: ·
David John Lloyd BEM –
Gwasanaethau Gwirfoddol (Sylfaenydd Second Chance). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Rheolau Gweithdrefn y Cyngor
(Cyfansoddiad y Cyngor Rhan 4.1) Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Rheolau
Gweithdrefn y Cyngor yn nodi y dylid rhoi 5 niwrnod gwaith clir i gyhoeddi'r Wŷs
ac unrhyw Adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd y cyngor. Fodd bynnag, mewn
amgylchiadau eithriadol gellir hepgor y rheol 5 niwrnod gwaith clir ar yr amod
bod cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog
Monitro, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac Arweinydd y Cyngor. Roedd yr Aelod Llywyddol yn ymwybodol bod rhai
unigolion wedi cael trafferth cael mynediad at wefan y cyngor ddoe (28
Gorffennaf 2021) ac felly roedd wedi cael y cytundeb ysgrifenedig i hepgor y
rheol 5 niwrnod. Sylwer: O dan y ddeddfwriaeth, dim ond 3 diwrnod
gwaith clir sydd eu hangen. Fodd bynnag, mae'r cyngor bob amser yn ceisio
gwella ar hynny ac mae wedi rhoi 4 diwrnod gwaith clir o rybudd. 2)
Gwobrau Cyflawniad y Municipal Journal 2021. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y cyngor wedi'i enwebu fel un a gyrhaeddodd
y rownd derfynol mewn dau gategori, y Fenter Tai Cymdeithasol Orau a Thîm
Gwasanaeth Gorau'r Cyngor. Cyhoeddir yr enillwyr ar 17 Medi 2021 yn Llundain. a)
Y Fenter Tai Cymdeithasol Orau
ar gyfer y datblygiadau yn Ffordd Parc yr Helyg a Colliers
Way Mae Cyngor Abertawe wedi cwblhau dau gynllun
adeiladu newydd yn ddiweddar. Mae'r cartrefi wedi'u hadeiladu i Safon Abertawe
ac yn cyfuno technolegau arloesol i helpu i gadw biliau ynni mor isel â phosib.
Mae gan bob un o'r cartrefi hyn Bympiau Gwres o'r Ddaear (GSHPs),
toeon solar PV, storfeydd batri a Systemau Adfer Gwres drwy Awyru Mecanyddol
(MVHR), a byddant yn gallu storio a defnyddio’u hynni eu hunain. Mae'r 34 o gartrefi newydd ar draws dau safle’n
cynnwys cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, a chartrefi 2, 3 a 4 ystafell
wely. Mae gan yr holl fflatiau eu mynedfeydd preifat eu hunain ac mae gan bob
cartref ardd gefn breifat. b)
Tîm Gwasanaeth Gorau'r Cyngor ar gyfer Darparu Rhagor o Gartrefi Mae'r enwebiad terfynol yn dangos cyflawniadau'r strategaeth Darparu Rhagor
o Gartrefi hyd heddiw, gan gynnwys Bryn House, ac fel a nodwyd yn adolygiad
comisiynu 2016, yn argymell canlyniadau cyflawniadau mewnol presennol wedi'u
trawsnewid, a gymeradwywyd gan y cyngor. Fe'i gweithredwyd ym mis Medi 2016
gydag amcan clir o feithrin sgiliau mewnol i gyflawni'r strategaeth Rhagor o
Gartrefi, cefnogi newid yn yr hinsawdd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a hybu
mesurau effeithlonrwydd ynni economaidd mewn tai cymdeithasol. Llongyfarchodd bawb a
fu'n rhan o hyn. 3)
Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs
y Cyngor Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at y cywiriad / diwygiadau y mae angen eu gwneud i Wŷs y Cyngor. i)
Eitem 11 "Cwestiynau
Cynghorwyr" – Cwestiynau 5 a 6. Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bawb fod ymatebion diwygiedig wedi'u dosbarthu
mewn perthynas â Chwestiynau Cynghorwyr 5 a 6. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Teithio am Ddim ar Fysus yn
Ninas a Sir Abertawe Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r awdurdod yn
ariannu teithio am ddim ar fysus o fewn Dinas a Sir Abertawe o 30 Gorffennaf
2021 drwy gydol gwyliau'r haf. Byddai hyn yn hwb i deuluoedd, twristiaeth a
busnes. Nodyn: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am gost
hyn. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r gost yn cael ei datgan ar ôl ei
chyfrifo. 2)
Dileu Ffïoedd Chwaraeon Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cyhoeddiad diweddar mewn perthynas â
dileu ffïoedd chwaraeon a godir gan y cyngor. Dywedodd ei fod yn ymwybodol nad
oedd y cyhoeddiad hwnnw'n mynd i'r afael â'r rheini â chytundeb prydles.
Bwriedir gwneud cyhoeddiad yn fuan gyda'r nod o fynd i'r afael â'r anghysondeb
hwnnw. 3)
Adolygiad Mayhill Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at yr Adolygiad Annibynnol o’r aflonyddwch diweddar yn Mayhill. Fel rhan
o'i gylch gwaith mae angen ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnwyd gan
y gymuned. Byddai'r adolygiad yn cael ei arwain gan yr Athro Elwyn Evans
(Prifysgol Abertawe) a'i gefnogi gan Jack Straw a Martin Jones. 4)
Phil Roberts (Prif Weithredwr) Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor at y cyhoeddiad diweddar gan Phil Roberts y byddai'n ymddeol ar ddiwedd
tymor presennol y cyngor. Dywedodd y byddai teyrnged lawn yn cael ei gwneud yn
nes at y cyfnod hwnnw; fodd bynnag, roedd am nodi'r cyfraniad aruthrol y mae
Phil Roberts wedi'i wneud i Ddinas a Sir Abertawe a'r awdurdodau blaenorol. 5)
Ymddygiad Annerbyniol ger
Cartref Prif Weinidog Cymru Condemniodd Arweinydd y
Cyngor, ynghyd â'r holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, y golygfeydd a'r
protestiadau diweddar y tu allan i gartref preifat Prif Weinidog Cymru. Dywedodd y byddai'n
ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i feirniadu’r ymddygiad annerbyniol a chynnig
cefnogaeth i Brif Weinidog Cymru. Nododd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol y
byddent hefyd yn llofnodi'r llythyr hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i
gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Amrywiaeth mewn Democratiaeth. PDF 394 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad ar y cyd
a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru (CLlLC) a'r Gweithgor Trawsbleidiol a sefydlwyd
i edrych ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Bydd
y cyngor yn ymrwymo i ddod yn Gyngor Amrywiol i: i)
Ddarparu
ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth; ii)
Dangos
diwylliant agored a chroesawgar i bawb; iii)
Ystyried
darwahanu amserau cyfarfodydd y cyngor a chytuno ar gyfnodau o doriadau i
gefnogi Cynghorwyr gydag ymrwymiadau eraill; a iv)
Nodi
cynllun gweithredu o weithgarwch cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. 2)
Y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd fydd yn gyfrifol am gynnal adolygiad o'r Rhaglen
Amrywiaeth mewn Democratiaeth. 3) Deuir ag adroddiad yn ôl i'r cyngor gyda Chynllun Gweithredu a fydd yn nodi sut y gall y cyngor gefnogi'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y Gweithgor
Cyfansoddiad. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 a Chanllaw CIPFA, "Canllawiau Ymarferol Pwyllgorau Archwilio ar gyfer
Awdurdodau Lleol a’r Heddlu (rhifyn 2018)." Penderfynwyd cymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel yr amlinellir yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Pwyllgor Cronfa Bensiwn. PDF 234 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y Gweithgor Cyfansoddiad. Argymhellodd
yr adroddiad newidiadau i Gylch Gorchwyl Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. Penderfynwyd dileu'r nodyn canlynol yng nghylch
gorchwyl presennol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn: "Bydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn cael ei Gadeirio gan yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Gyllid". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 404 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. Sylwer: Roedd ymateb diwygiedig i Gwestiynau 5 a 6 wedi'i ddosbarthu cyn y
Cyfarfod. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd tri (3)
'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Credyd Cynhwysol. PDF 690 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan
y Cynghorydd L S Gibbard. "Mae'r cyngor hwn yn condemnio'r
penderfyniad creulon a sbeitlyd gan lywodraeth Dorïaidd
y DU i dorri taliadau Credyd Cynhwysol £20 yr wythnos (neu £1040 y flwyddyn) i
filiynau o bobl ledled Cymru a'r DU. Gallai'r toriad hwn olygu fod miloedd o
breswylwyr Abertawe'n wynebu toriad sylweddol i'w
hincwm, a gall gael gwared ar gannoedd o filoedd o bunnoedd o'r economi leol.
Bydd ei effeithiau'n drychinebus ar aelwydydd incwm isel. Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor (ac
unrhyw arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol sy'n barod i lofnodi) i ysgrifennu llythyr
yn nodi’n gwrthwynebiad cryf i'r toriad credyd cynhwysol arfaethedig; i dynnu
sylw at yr effeithiau ar breswylwyr a theuluoedd Abertawe; ac annog Llywodraeth
Dorïaidd y DU yn y ffordd gryfaf
bosib i wrthdroi'r toriad a chadw'r £20 yr wythnos." Yn dilyn dadl, ac yn unol â Rheol 30
Gweithdrefn y Cyngor, gofynnwyd am "Bleidlais" gofnodedig. Cofnodwyd
y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:
Penderfynwyd cymeradwyo'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |