Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y
buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion
ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gynghorwyr a
swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr J W Jones
ac M H Jones gysylltiad personol â Chofnod 19 "Diwygiad i
benodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau Y Cyn-gynghorydd T P C (Patrick Morgan) Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at
farwolaeth ddiweddar cyn-gynghorydd Dinas Abertawe, T P C Morgan (Patrick), a
gynrychiolodd Ward Sgeti rhwng 1984–1988. Cyfeiriodd hefyd gyda
thristwch at farwolaeth ddiweddar Bethan Caton,
gwraig Martin, cyn-Aelod Seneddol dros Gŵyr a Chynghorydd Dinas a fu
farw'n ddiweddar. Eisteddodd pawb yn
dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. 2)
Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd
ddyfarniadau yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar. Ryan Jones MBE - am ei wasanaethau i'r undeb rygbi ac am wasanaethau codi
arian elusennol yng Nghymru. Isobel Marie-Ann Everett MBE - am ei gwasanaeth
cyhoeddus ac ar gyfer datblygiad arweinydd y dyfodol (Cadeirydd Swyddfa
Archwilio Cymru yn ddiweddar) Mark Andrew Jones MBE - am ei wasanaethau i Wyddoniaeth, Technoleg a
Mathemateg (Gwasanaethau Hacio Moesegol y DVLA) Dr Elizabeth Alexandra Davies BEM - am ei gwasanaethau i'r GIG a chleifion
hŷn yn ystod pandemig COVID-19 (Geriatregydd
Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys) David Jones Lloyd BEM - am ei wasanaethau gwirfoddol (sylfaenydd Second Chance) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd. Daeth y cyntaf gan Jason Williams mewn
perthynas â Chofnod 21 “Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 6 (Parc Sglefrio). Roedd yr ail gwestiwn yn un
ysgrifenedig gan Andrew Crowley nad oedd yn gallu bod yn bresennol mewn
perthynas â Chofnod 21 “Cwestiynau’r Cynghorwyr’ - Cwestiwn 9 (Pont Pentre
Road). Ymatebwyd i'r cwestiynau gan Aelodau perthnasol
y Cabinet. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21. PDF 505 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Paula O’Connor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr
adroddiad a ddarparodd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020/21. Penderfynwyd nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Rheoli Asedau 2021-25. PDF 584 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2021-2025. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Rheoli Asedau ar
gyfer 2021-2025. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 116 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
yr Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i amrywiol Gyrff y
Cyngor. Dywedodd fod yr Arweinydd wedi gwneud y diwygiad canlynol
i'r Corff Allanol: Fforwm
Partneriaeth - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Wedi tynnu
enwau'r Cynghorwyr Jen A Raynor, Clive E Lloyd a Sam
Prichard Wedi ychwanegu
enwau'r Cynghorwyr Robert V Smith, Louise S Gibbard ac Alyson Pugh Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a
restrir isod fel a ganlyn: Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio Tynnu enw'r
Cynghorydd Hannah Lawson Ychwanegu enw'r
Cynghorydd Oliver G James Pwyllgor y
Rhaglen Graffu Tynnu enw'r
Cynghorydd Jen A Raynor Ychwanegu enw'r
Cynghorydd Hannah Lawson PDP yr Economi
ac Isadeiledd Tynnu enw'r
Cynghorydd Matthew Jones Ychwanegu enw'r
Cynghorydd Peter K Jones PDP Pobl Tynnu enw'r
Cynghorydd T Mike White Ychwanegu enw'r
Cynghorydd Matthew Jones PDP Lleihau Tlodi
Tynnu swyddi gwag
y Ceidwadwyr Ychwanegu enwau'r
Cynghorwyr David W Helliwell a Lyndon R Jones PDP Adferiad a
Chenedlaethau'r Dyfodol Tynnu enw'r
Cynghorydd Hannah Lawson Ychwanegu enw'r
Cynghorydd T Mike White Pwyllgor
Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion Tynnu enw'r
Cynghorydd Will G Thomas Ychwanegu Sedd Wag y Ceidwadwyr |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diwygiad i benodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer PDF 231 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu
ac yn cynghori’r cyngor am y weithdrefn ddiwygiedig a fydd yn golygu y bydd tri
chadét yr Arglwydd Faer yn cael eu penodi i gynrychioli pob un o Wasanaethau
Cadetiaid y Lluoedd Arfog ar gyfer pob blwyddyn ddinesig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a roddodd adroddiad
cynnydd i'r cyngor ar amrywiol weithgareddau craffu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 530 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd 10
'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Rhestrir
cwestiwn atodol sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: Cwestiwn 8 Gofynnodd Wendy Fitzgerald am fanylion pellach am lefel debygol y symiau
o gymorth ariannol y gellid eu darparu i grwpiau. Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd 7 'Cwestiwn nad oedd angen
cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Cardiau Adnabod i Bleidleiswyr ar gyfer Etholiadau Cyffredinol. PDF 105 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Wedi'i gynnig gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y
Cynghorydd P M Black. Nododd y Cynghorydd Holley ei fod yn hapus i dderbyn
enwau gan y grŵp sy'n rheoli ar yr Hysbysiad o Gynnig pan fydd yn cael ei
anfon i Downing Street. Mae'r cyngor yn
nodi cynigion yn araith y Frenhines i fynd i'r afael â gallu pobl i brotestio,
i gyfyngu ar adolygiad barnwrol ac i fynnu cynhyrchu cardiau adnabod er mwyn
pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol. Mae'r cyngor o'r
farn bod y cynigion hyn yn tanseilio rhyddid cyfreithiol a chyfansoddiadol ac
yn ceisio tawelu gwrthwynebiad i'r Llywodraeth hon yn y DU. Mae'r cyngor o'r
farn y bydd mynnu cardiau adnabod ar gyfer pleidleisio yn ychwanegu at gost
gweinyddu etholiadau gan y cyngor hwn, yn cynyddu biwrocratiaeth ac yn rhoi ein
clercod pleidleisio a'n swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio mewn
sefyllfaoedd cyfwynebol a allai fod yn anodd. Mae'r cyngor yn
nodi nad oes fawr o dystiolaeth, os o gwbl, o dwyll etholiadol i gyfiawnhau
cyflwyno cardiau adnabod i bleidleisiwr ac mae'n credu y bydd cyflwyno'r mesur
hwn yn cael effaith anghymesur ar leiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a'r rhai
ar incwm is, ac y bydd yn arwain at leihad yn nifer y bobl sy'n pleidleisio
mewn etholiadau. Mae'r cyngor wedi
penderfynu ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i fynegi ei bryder a'i wrthwynebiad
i'r holl gynigion hyn. Yn dilyn y ddadl ac yn unol â Rheol 30
Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais
gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar yr hysbysiad fel a ganlyn:
Penderfynwyd
mabwysiadu'r Hysbysiad
o Gynnig a amlinellir uchod. |