Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, J E Burtonshaw, J P Curtice, P Downing, M Durke, C A Holley, D
Helliwell, B Hopkins, D H Hopkins, S M Jones, A S Lewis, R D Lewis, A H
Stevens, G J Tanner a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 94
"Datganiad Polisi Tâl 2021-22". Swyddogion 2)
Datganodd Jeff Dong, Adam
Hill, Tracey Meredith,Phil Roberts a Ben Smith
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod Rhif 94
"Datganiad Polisi Tâl 2021/22" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael
ei drafod. 3)
Datganodd Adrian Chard, Huw
Evans a Jeremy Parkhouse gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnod 94 "Datganiad Polisi Tâl 2021-22; fodd bynnag, ni wnaethant
adael y cyfarfod gan iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, ateb cwestiynau
technegol a chofnodi penderfyniad y cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan yr Aelod Llywyddol. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Datganiad Polisi Tâl 2021/22 PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2021-2022. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2021-2022. |