Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen
dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Cyfarwyddwr Addysg. Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond
un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer
swydd Cyfarwyddwr Addysg. Cynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor
"Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad: i)
I'r Ymgeisydd roi
cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais
ysgrifenedig I'r Prif Weithredwr, Phil Roberts, roi adborth o'r Broses Benodi sy'n
ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Addysg. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal
Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad: i)
I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei
gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais ysgrifenedig. 2)
Nodi'r diweddariad llafar ar y
broses asesu. 3)
Penodi Helen Morgan-Rees i'r
swydd Cyfarwyddwr Addysg. |