Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Election of Chair Pro Tem Cofnodion: Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd fod yr Aelod Llywyddol yn cael anhawster technegol
gyda'i seinyddion ac y byddai ychydig funudau'n hwyr yn ymuno â'r cyfarfod. Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M C Child (Yr
Arglwydd Faer) yn Gadeirydd Dros Dro. Bu'r Cynghorydd M C Child (Yr Arglwydd Faer) yn
llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd taflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr M
Durke, C A Holley ac A Pugh gysylltiad personol â Chofnod 50 "Adroddiad
Blynyddol 2019-2020 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol". 2)
Datganodd y Cynghorydd H M
Morris gysylltiad personol â Chofnod 51 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod. 3)
Datganodd y Cynghorwyr M C
Child, R Francis-Davies ac R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 55
"Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 9". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. Bu'r
Cynghorydd D W W Thomas (Aelod Llywyddol) yn llywyddu |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Yr Henadur Anrhydeddus a'r
cyn-Gynghorydd W John F Davies Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol â thristwch at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus a'r
cyn-Gynghorydd, W John F Davies. Cynrychiolodd John Ward Treforys am bron 30 o
flynyddoedd yn gwasanaethu: Ø
Cyngor Dinas Abertawe - 1983 tan 31 Mawrth
1996. Ø
Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 tan 3 Mai
2012. Bu John yn Arglwydd
Faer rhwng 1999 a 2000. Bu hefyd yn gyn-gadeirydd y Pwyllgor Tai ac yn Aelod y
Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol. Talodd pob un o
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol neu eu Cynrychiolydd Enwebedig deyrnged i'r
Henadur Anrhydeddus a'r cyn-Gynghorydd, W John F Davies. b)
Tony Mann,
Gŵr y Cynghorydd Irene Mann. Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Tony Mann. Tony oedd gŵr
y Cynghorydd Irene Mann. c)
Y cyn-Gynghorydd Dai
Howells Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd
Dai Howells. Cynrychiolodd Dai Ward
Pontarddulais am 4 blynedd yn gwasanaethu: Ø
Dinas a Sir Abertawe - 1 Mai 2008 tan 3 Mai
2012. Eisteddodd pawb yn
dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2) Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd Cyfeiriodd
yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. a)
Swyddog Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i)
Yr Athro Farah Bhatti.
Llawfeddyg cardiothorasig ymgynghorol Ysbyty Treforys. Gwasanaethau i
amrywiaeth yn GIG Cymru. b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig (MBE) i)
Alan Curtis. Gwasanaethau
i bêl-droed Cymru. ii)
Carol Cecilia Doggett Prif
fetron gofal dwys Ysbyty Treforys. Gwasanaethau i arweinyddiaeth a gofal nyrsio
i gleifion a staff gofal dwys. iii)
Catherine Julie Palmer.
Pennaeth rheoli newid DVLA Gwasanaethau i fodurwyr. b) Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Y Parchedig William Glynne
George James. Prif Gaplan Heddlu De Cymru. Gwasanaethau i gaplaniaeth yr Heddlu
a'r gymuned yng Ngorseinon. ii)
Karen Jane Kembery. Nyrs
Glinigol Arbenigol Ysbyty CNPT. Gwasanaethau i nyrsio yng Ngorllewin Morgannwg. 3)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at y cywiriad/gwelliannau sy'n ofynnol i Wŷs y Cyngor. i)
Eitem 9 "Adroddiad
Blynyddol 2019/2020 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Argymhelliad a
ddiwygiwyd "Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol 2019-2020 i'w gyhoeddi." ii)
Eitem 14 "Rhybudd o
Gynnig - Tân Gwyllt" Mae'r eitem hon wedi'i thynnu'n ôl. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Brechiadau COVID-19 Darparodd Arweinydd y Cyngor yr ystadegau
diweddaraf sy'n ymwneud â chyflwyno'r brechiadau yn lleol. Talodd deyrnged i
ymdrechion pawb. 2)
Dyfarniad Cyllid Llywodraeth Cymru – Mynd i'r Afael â
Digartrefedd yn y Ddinas Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ddyfarniad cyllid
gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r grant o £4.4 miliwn yn cynorthwyo'r awdurdod yn
ei ymdrech i fynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas. 3)
Datblygiad yr Arena a Bae Copr Darparodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth
ddiweddaraf am Ddatblygiad yr Arena a Bae Copr. Roedd paneli cyntaf y croen
wedi'u dosbarthu a bwriedir i'r bont gael ei chodi ym mis Mawrth 2021.
Disgwylir i'r Arena gael ei chwblhau yn hydref 2021. 4)
Cyllideb Amlinellol Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y gyllideb
amlinellol, gan ddweud bod Craffu wedi dechrau gweithio arni. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd. Daeth y cyntaf gan Andrew Rowley mewn perthynas â
Chofnod 55 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 3 (Cysylltiadau Teithio
Llesol Mayals Road, Clyne a Pharc Sgeti). Daeth yr ail gwestiwn gan Hannah Lawson mewn
perthynas â Chofnod 55 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 9 (Safle 9,
Marina Abertawe). Ymatebodd aelodau perthnasol y Cabinet i'r cwestiynau. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2019-2020. PDF 274 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau (Jill Burgess) adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi
gwaith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019-2020. |
|
Adroddiad Blynyddol 2019/20 - Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 344 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn nodi ei gyfrif ef o daith wella'r cyngor i 2019-2020, a pha mor
dda mae'r cyngor yn bodloni ei ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r adroddiad yn edrych yn ôl ar feysydd i’w gwella'r flwyddyn ddiwethaf a'r heriau a
wynebwyd ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer 2020-2021. Mae'n nodi'r newidiadau
a gafwyd o fewn y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn gwneud cynnydd tuag at
ganlyniadau llesiant cenedlaethol. Hefyd,
darparodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Integredig yr wybodaeth ddiweddaraf am eu
gwaith yn ystod y cyfnod. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol 2019-2020 i'w gyhoeddi. |
|
Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn
flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2021.
Argymhellodd yr adroddiad y dylid ail-fabwysiadu'r cynllun presennol fel y
nodir yn Adran 3 o'r adroddiad o 2021-2022. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a
Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion
Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar
26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd. 2)
Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion
Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 a
ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021. 3)
Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y
cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y cynllun presennol. 4)
Y bydd y cynllun presennol (2020-2021), mewn perthynas
â'r meysydd dewisol (fel y'u nodir yn Adran 3) yn aros yr un peth o 2021-2022. 5)
Y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y nodir yn
adran 3 o'r adroddiad hwn a bod unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wneir gan
Senedd Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun. |
|
Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2020/21 PDF 843 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu Adroddiad Adolygu
Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2020-2021. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black "Pam bod
gwahaniaeth o £40m rhwng y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin
weithredol ar gyfer dyled allanol?" Dywedodd y
Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 115 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Dywedodd fod yr
Arweinydd wedi gwneud y diwygiad canlynol i Gyrff Allanol: Awdurdod Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Tynnu enw'r
Cynghorydd M B Lewis. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd P Downing. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Y Pwyllgor Penodiadau -
I ddod i rym ar 2 Chwefror 2021. Dileu'r Cynghorydd R Francis-Davies. Ychwanegu'r Cynghorydd D H Hopkins. 2)
Pwyllgor Cynllunio Tynnu enw'r Cynghorydd C Richards. Ychwanegu'r Cynghorydd J E Burtonshaw. |
|
Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break" Cofnodion: Yn unol â Rheol 4
Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso
egwyl o 10 munud. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 374 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’
Rhan A Cyflwynwyd pymtheg (15) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf
atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny)
yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod: Cwestiwn 3 Gofynnodd y Cynghorydd C
L Philpott y cwestiwn canlynol: "Comisiynwyd Adroddiad Ecolegydd ar gyswllt yr
Olchfa gan Gyngor Abertawe ym mis Rhagfyr 2020 ac fe'i cynhaliwyd ym mis Ionawr
2021. Pam y cyflawnwyd hyn mor hwyr yn y broses a pha gamau a gymerir mewn
perthynas â'r adroddiad?" Gofynnodd y Cynghorydd E
W Fitzgerald gwestiwn: "Mae llwybr beicio wedi'i gynllunio ar gyfer
Gorseinon Road yn fy Ward. Mae'n ymddangos mai fi yw'r unig berson yr
ymgynghorwyd ag ef. Ni ymgynghorwyd â'r Cyngor Cymuned a thrigolion lleol. Mae
hyn yn groes i'r canllawiau Teithio Llesol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Allwch chi esbonio?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu. Cwestiwn 6 Gofynnodd y Cynghorydd C
A Holley gwestiwn: "Rwy'n deall bod proses gyfreithiol fyw ar
waith mewn perthynas â hen adeilad Oceana. Fodd bynnag, a allai Arweinydd y
Cyngor roi amlinelliad o'r amserlen?" Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb
ysgrifenedig. 2)
'Cwestiynau nad oes
angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen
cwestiynau atodol' Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig - Tân Gwyllt PDF 424 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnwyd yr eitem
hon yn ôl. |