Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog
Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i
gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Cyn-gynghorydd Keith Marsh Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd
Keith E Marsh. Cynrychiolodd y Cyn-gynghorydd Marsh Ward Llandeilo Ferwallt yn
Ninas a Sir Abertawe am oddeutu 19 mlynedd rhwng 4 Mehefin 1998 a 4 Mai 2017. Eisteddodd
pawb yn dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Nick Williams –
Cyfarwyddwr Addysg Nododd yr Aelod
Llywyddol fod Nick Williams wedi ymddeol fel Cyfarwyddwr Addysg ar unwaith
oherwydd afiechyd. Helpodd Nick i wella gwasanaeth addysg yr awdurdod dros
nifer o flynyddoedd ac mewn rolau gwahanol. Nododd yr Aelod Llywyddol ei fod yn
gobeithio y bydd iechyd Nick yn gwella dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a
dymunodd pob dymuniad gorau iddo ar gyfer y dyfodol. 3)
Gwobrau Cymdeithas
Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod gan Abertawe gynrychiolaeth dda yng Ngwobrau Gwasanaeth
Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, gyda phum maes gwasanaeth
wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae'r gwobrau hyn wedi bod yn hynod gystadleuol,
gyda thros 100 o sefydliadau'n cymryd rhan o bob rhan o'r DU. Y cyflwyniadau
gorau yn unig oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori. Roedd yr
awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol: Ø Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Menter y Gweithlu ar gyfer Datblygu'r Fenter
Taenellu Mewnol. Ø Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Tîm Gorau'r flwyddyn. Ø Craig-cefn-parc ar gyfer y Fenter Tai ac Adfywio Gorau. Ø Tîm Safonau Masnach y flwyddyn. Ø Tîm Diwylliant Chwaraeon a Hamdden y flwyddyn. Cyhoeddir yr enillwyr
ar 16 Rhagfyr 2020. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan. 4)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor a)
Eitem 13 "Ymateb i'r
Ymgynghoriad - Cyd-bwyllgorau Corfforaethol Dosbarthwyd fersiwn
ddiwygiedig o ymateb Ymgynghoriad y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Mae'r
paragraff mewn llythrennau italig isod wedi'i ychwanegu at ymateb 1b. 1b)
Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol gael yr un
fframwaith llywodraethu a gweinyddol yn fras â phrif gyngor ar yr amod bod hyn
yn gymesur? Rhowch eich rhesymau. Mewn egwyddor, ydw -
mae'n ymddangos bod hyn yn briodol ar yr amod ei fod yn gymesur ac nad yw'n
datblygu'n 'anghenfil' gweinyddol ar wahân dros amser. Bydd angen sicrhau bod
gan y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol adnoddau digonol a bydd angen Swyddog Monitro/Swyddog
A151 unigol a staff gweinyddol ar bob Cyd-bwyllgor Corfforaethol, y mae angen i
Lywodraeth Cymru eu cydnabod a'u cefnogi'n ariannol. "Mae'n bwysig bod y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn destun yr un
oruchwyliaeth graffu ac archwilio ag awdurdodau cyfansoddol. Er y dylai
trefniadau craffu o'r fath fod yn ôl disgresiwn y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol,
mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cost y ddarpariaeth graffu
ychwanegol hon (gan gynnwys costau swyddogion craffu sy'n gweithio gyda'r Cyd-bwyllgorau
Corfforaethol) er mwyn peidio ag effeithio ar allu ac adnoddau swyddogion i
gyflawni dyletswyddau craffu o ddydd i ddydd ym mhob awdurdod
cyfansoddol." Bydd Cyd-bwyllgorau
Corfforaethol hefyd yn caniatáu cyfuno adnoddau neu rannu sgiliau ac arbenigedd
penodol a gallai helpu i fynd i'r afael â rhai materion sy'n ymwneud â gallu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cymdeithas Rhagoriaeth
mewn Gwasanaethau Cyhoeddus - Enwebiad ar gyfer Cyngor y Flwyddyn Cyhoeddodd Arweinydd y
Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cael ei enwebu fel Cyngor y Flwyddyn yng
Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. 2)
Technoleg Llanw - Ynys
Ynni'r Ddraig Rhoddodd Arweinydd y
Cyngor ddiweddariad mewn perthynas â photensial Technoleg Llanw ym Mae Abertawe
fel rhan o gynllun Ynys Ynni'r Ddraig. 3)
Diogelu Swyddi yn Abertawe Mynegodd Arweinydd y
Cyngor ei bryder ynghylch tranc rhai o brif siopau'r DU. Dywedodd fod y cyngor
yn gwneud popeth posib i ddiogelu swyddi yn Abertawe. 4)
Brechlyn COVID-19 Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y byddai'r brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei
gyflwyno yn y diwrnodau nesaf. 5)
Abertawe – Dinas â digon o
ddiffibrilwyr Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod y cyngor yn cydweithio â'r elusen leol, Heartbeat
Trust UK, er mwyn gosod hyd at 200 o ddiffibrilwyr a all achub bywydau. Y nod yw achub bywydau a
bod Abertawe'n ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o
ddiffibrilwyr yn y DU. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd. Roedd un gan
John Childs mewn perthynas â Chofnod 33 "Y
Diweddaraf gan y Gronfa Bensiwn ar Newid yn yr Hinsawdd" a'r llall gan
Rebecca Evans (Aelod o'r Senedd) mewn perthynas â Chofnod 41 "Cwestiynau'r
Cynghorwyr - Cwestiwn "Ffyrdd Ariannol o ddiogelu masnachu y tu allan yn
ddiogel". Ymatebwyd i'r cwestiynau gan Aelodau perthnasol y Cabinet. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2021/2022 PDF 283 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo
sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref
ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2021-2022. Mae'n ofynnol i'r
cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr 2020. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2021-2022; 2) Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth
y Cyngor) (Cymru), fel y'u diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyfrifo'r
canlynol ar gyfer y flwyddyn 2021-2022:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad ar y Gronfa Bensiwn a Newid yn yr Hinsawdd. PDF 735 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn adroddiad ar sut mae'r gronfa bensiwn yn
mynd rhagddi ar ei hymrwymiad i leihau ôl-troed carbon ei phortffolio ecwiti rhestredig
50% erbyn 2022 a mentrau eraill i fynd i'r afael â risg newid yn yr hinsawdd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Nodi a chymeradwyo'r camau gweithredu a'r cynnydd a nodwyd ym Mharagraff 12 yr adroddiad y mae'r Gronfa Bensiwn wedi'u gwneud o ran bodloni ei hymrwymiad i leihau ei hamlygiad carbon yn ei buddsoddiadau ecwiti rhestredig 50% erbyn 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Argyfwng Hinsawdd - Adolygiad Polisi a'r Cynllun Gweithredu Arfaethedig. PDF 832 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad er
gwybodaeth a gyflwynodd adolygiad polisi a'r camau gweithredu arfaethedig yn
dilyn yr Hysbysiad o Gynnig ar Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd a gyflwynwyd i'r
cyngor ar 27 Mehefin 2019. Sylwer: Gofynnodd y
Cynghorydd E W Fitzgerald gwestiwn mewn perthynas â Pharagraff 2.1.21 (Cynllun
Teithio Llesol) yr adroddiad. Gofynnodd a oedd ffigurau'n ymwneud â beicio,
wedi'u dadansoddi rhwng defnyddwyr hamdden a chymudwyr?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod Lleyg Ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. PDF 231 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer argymhelliad y
Pwyllgor Penodiadau ar 17 Tachwedd 2020 i benodi aelod lleyg ychwanegol i'r
Pwyllgor Archwilio. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Penodi Julie Davies yn aelod lleyg o'r Pwyllgor Archwilio
gan ddechrau ar 4 Rhagfyr 2020. 2) Bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 3 Rhagfyr 2025. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiad Parhaol ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Addysg Statudol PDF 295 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y trefniadau sy'n
ymwneud â'r Cyfarwyddwr Addysg. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi cymeradwyaeth ymddeoliad afiechyd Nick Williams. 2)
Nodi
dechrau'r broses o recriwtio Cyfarwyddwr Addysg Statudol. 3)
Estyn penodiad Helen Morgan-Rees yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol
Dros Dro hyd nes y bydd y swydd wedi'i llenwi'n barhaol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymateb i Ymgynghoriad - Cyd-bwyllgorau Corfforaethol PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ymateb y
cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gydbwyllgorau Corfforaethol fel y
darperir gan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cyflwyno'r ymateb i'r ymgynghoriad, fel yr amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad, i Lywodraeth Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 246 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r meysydd canlynol o
Gyfansoddiad y Cyngor: a)
Rhan 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau - Cylch Gorchwyl -
Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP). Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ailenwi Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd
yn Bwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac
Isadeiledd. 2)
Ailenwi'r PDP Cydraddoldebau a
Chenedlaethau'r Dyfodol yn, PDP Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol. 3)
Bod Cylch Gorchwyl y PDP Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol fel yr amlinellir
yn Atodiad A "Cylch Gorchwyl y
Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP) - Newidiadau wedi'u
hamlygu" yr adroddiad. 4)
Gwneud unrhyw ddiwygiadau cyfansoddiadol canlyniadol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 292 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog
Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a
oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor
yn dilyn y newidiadau rheoli a staffio mewn perthynas â Chyfarwyddiaeth y
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 361 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf
atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny)
yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod: Cwestiwn 5 Gofynnodd y Cynghorydd A M Day gwestiwn: "Mae paragraff 2 o'r ymateb ysgrifenedig yn
cyfeirio at adolygiad sydd ar ddod. Pryd fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ac
a ellir rhannu canlyniad yr adolygiad â chynghorwyr?" Nododd y Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu. 2)
'Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen
cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Incwm Sylfaenol. PDF 110 KB Cofnodion: Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr M Sherwood, R C Stewart, A S Lewis, D
H Hopkins, J P Curtice, M B Lewis, M C Child, D W W Thomas, S Pritchard, W G
Lewis, L V Walton, R Francis-Davies, L S Gibbard, A Pugh a C R Evans Cynigiwyd
gan y Cynghorydd M Sherwood a'i eilio gan y Cynghorydd L Gibbard. "Mae'r
cyngor hwn: a)
yn credu bod y system fudd-daliadau bresennol yn siomi
dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yn Abertawe; b)
Yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol
(UBI) lle telir swm nad yw'n destun prawf modd i ddinasyddion o'r wladwriaeth i
dalu am gostau byw sylfaenol, a delir i bob dinesydd yn unigol, waeth beth fo'u
statws cyflogaeth, cyfoeth neu statws priodasol; c) Yn credu
bod angen profi Incwm Sylfaenol Cyffredinol, gan fod gan Incwm Sylfaenol
Cyffredinol y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis
anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli cymuned drwy: i)
Roi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr a rhoi mwy o
ryddid i weithwyr newid eu swydd; ii)
Gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am
aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol; iii)
Dileu effeithiau negyddol cosbau budd-daliadau ac
amodoldeb; iv)
Rhoi rhagor o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu,
y gweithle a chymdeithas. ch) Nodi gwaith
UBI Lab Network wrth ddatblygu cynigion ar gyfer cynlluniau peilot i brofi
Incwm Sylfaenol Cyffredinol; d) Yn credu
na ddylid mesur llwyddiant cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ôl yr
effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith cyflogedig, ond yr effaith ar
gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut mae nhw’n teimlo, a sut
maen nhw’n cysylltu ag eraill a'r amgylchedd o'u cwmpas; dd) Yn credu, o
ystyried ei hanes o arloesi cymdeithasol, llu o arbenigedd, a rhwydweithiau
gweithredol ar draws gwasanaethau cymunedol, busnes a gwasanaethau cyhoeddus,
fod Abertawe yn ddelfrydol i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol; e) Yn
penderfynu gweithio gyda UBI Lab Network Abertawe a Chymru i ysgogi
trafodaethau yn y ddinas a thu hwnt iddi ynghylch incwm sylfaenol; f) Yn
penderfynu anfon copi o'r cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau,
y Canghellor, arweinydd y blaid mewn Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob un o'r
gwrthbleidiau yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl Aelodau Seneddol
Abertawe". Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |